2 minute read

Cyfleusterau Arobryn

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog: Labordai gwyddoniaeth o ansawdd uchel Y Drenewydd: Offer peirianneg o'r radd flaenaf

Y Drenewydd: Cyfl eusterau arlwyo o'r radd fl aenaf

Y Drenewydd: Estyniad cerbydau modur newydd sbon Y Drenewydd: Bwyty hyfforddi o safon uchel – Themâu Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog: Adran adeiladwaith arobryn

Y Drenewydd: Fferm unigryw sy'n eiddo i'r Coleg.

Y Drenewydd: Theatr a Mannau Cynadledda o'r Radd Flaenaf Y Drenewydd: Cyfl eusterau peirianneg o safon y diwydiant.

Bannau Brycheiniog: Cyfarpar Chwaraeon.

Y CWTCH

Y CWTCH – Hyb y Coleg o Fewn y Gymuned

Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – 'Y CWTCH' – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol.

Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o'r gymuned gyda mynediad agored i bawb.

Dadorchuddiwyd plac gan yr cyn Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i nodi'r achlysur.

Dywedodd Ms Williams: "Mae'r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog.

Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy'n gweld yr adeilad hwn a'r hyn sy'n digwydd yn ysbrydoledig.” Mae'r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae'n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfl eusterau cynadledda fi deo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd hynod gyfl ym 1GB, ynghyd â chyfl eusterau cyfrifi adura o'r radd fl aenaf at ddefnydd myfyrwyr a'r cyhoedd.

Yn ogystal â darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr y Coleg, bydd croeso i'r gymuned ddefnyddio'r cyfl eusterau TG yn ogystal ag ymuno â rhai o'r cyrsiau rhan-amser newydd a fydd yn cael eu cynnig o'r adeilad y mae'n ei lesio gan yr awdurdod lleol. Hefyd ar gael fydd cyngor ar chwilio am swyddi, sefydlu eich busnes eich hun, technegau cyfweld ac ysgrifennu CV.

Mae cynlluniau ychwanegol i ail-leoli Coleg Bannau Brycheiniog i dref Aberhonddu. Cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd ynghylch prynu dau adeilad yn y dref. Bydd y dref a’r cyfl eusterau a ddarparir gan fusnesau lleol wrth law wedyn i’w myfyrwyr eu defnyddio bob dydd.

This article is from: