
2 minute read
Celfyddydau Perfformio


Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu'r Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio wedi'u lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd.
Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar fl aen y gad o fewn cyfl eusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Theatr Hafren.
Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a'r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicaf oll, maent yn gyfl ogadwy iawn – rydym yn anelu at helpu nhw i fod yn barod am yrfa!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau yn darparu cyfl eoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn dawns, drama, canu a theatr gerddorol. Byddwch yn cael y cyfl e i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Theatr Hafren sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol.
Rhagolygon gyrfa
b Actor b Gweinyddwr y celfyddydau b Coreograffydd b Dawnsiwr b Perfformiwr theatr gerddorol b Hyfforddwr Pilates/Ioga b Sgriptiwr b Athro b Cyfarwyddwr theatr.
Enillion blynyddol cyfartalog Cyfarwyddwr Celf £23k - £59k Dylunydd Cynnyrch £19k - £46k Actor, Cyflwynydd, Diddanwr £24k - £66k
Er yn ôl cylchgrawn Forbes enillodd George Clooney $239 miliwn yn 2018 - Emsi Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
UAL Celfyddydau Perfformio
Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio 2 2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol. Blwyddyn Y Drenewydd
3 5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Mae profi ad blaenorol o berfformio yn ddymunol. 2 Flynedd Y Drenewydd
Llwyddiant Myfyrwyr
Datblygodd y myfyriwr Celfyddydau Perfformio o Goleg y Drenewydd Joe Jones ei ddoniau cerddorol yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi lansio ei albwm ei hun. Cyfl wynwyd Joe i gerddoriaeth yn ifanc gan ei dad sydd hefyd yn gerddor. Fodd bynnag, roedd wedi cyrraedd ei arddegau cyn iddo ddechrau cymryd mwy o ddiddordeb mewn chwarae. Dechreuodd fwynhau cerddoriaeth yn fwy a chyda chyngor a thiwtorialau o'r rhyngrwyd cafodd y rhyddid i fod yn greadigol a datblygu ei arddull ei hun. Yn ystod y cyfnod clo, daeth Joe o hyd i fwy o amser i fod yn fyfyriol o safbwynt ei gerddoriaeth a'r hyn oedd yn digwydd yn y byd o'i gwmpas. Recordiwyd yr albwm "We Were Just There" gartref gan ddefnyddio ei gyfrifi adur personol yn unig - gweithfan sain ddigidol, gitâr a phiano.
Dywedodd y darlithydd Elizabeth Hebden: "Mae talentau Joe wedi creu cymaint o argra arnom i gyd ac rydym yn falch o'i ymroddiad i archwilio'r cyfrwng hwn, gan ychwanegu elfen arall at ei allu fel artist."
“Rwyf wedi sicrhau lle ar y cwrs Tystysgrif Sylfaen yn LIPA, Sefydliad y Celfyddydau Per ormio Lerpwl. Rwy'n teimlo bod Coleg Y Drenewydd wedi fy nysgu sut i sianelu fy nghreadigrwydd. Rydw i wedi bod yng nghwmni unigolion eiddgar, creadigol a chefnogol. Dros y 2 ynedd ddiwethaf rwyf wedi cael y tiwtoriaid GORAU sydd wedi bod mor ymroddedig a gweithgar, hebddyn nhw ni fyddwn yn cymryd y cam nesaf hwn yn fy mywyd”. Josh Owen.