Skip to main content

Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 1

gau NP Cole TC

hlu at

M lynedd

NP

Chi Yw’ch Dyfodol Coleg Bannau Brycheiniog Coleg Y Drenewydd Chwilio

NPTC Group

D

2022/23

1-2021 193

ŵp

CYRSIAU AMSER LLAWN

Yea rs Gr

oup of Colle ge Gr C s T

rating leb e C


Cynnwys Dathlu 90 Mlynedd ............................................3

Coleg Bannau Brycheiniog

Y CWTCH

Coleg Y Drenewydd

Fferm Fronlas

Popeth yn dda gan Estyn ..................................4 Pam dewis Grŵp Colegau NPTC?.....................5 Cyfleusterau Arobryn .........................................7 Addysgu Arobryn ................................................9 Coleg Arobryn .................................................. 10 Eich Cais ........................................................... 11 Career Coach ................................................... 12 Prentisiaethau ................................................. 13

Coleg Bannau Brycheiniog

Partneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd ....................................................... 15

Y CWTCH

Amaethyddiaeth a Ffermio ............................ 16 Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Creadigol ........... 18 Peirianneg Cerbydau Modur .......................... 20 Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch ........................................... 22 Busnes a Rheolaeth........................................ 24 Cyfrifiadura, Dylunio'r We a Gemau ............. 26 Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig....... 28 Peirianneg ........................................................ 30 Astudiaethau Sylfaen ..................................... 32

Penlan, Aberhonddu, LD3 9SR

(Yr hen Ganolfan Groeso) Maes Parcio'r Farchnad Gwartheg Heol Gouesnou, Aberhonddu LD3 7BA

Coleg Y Drenewydd

Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, SY16 4HU

Fferm Fronlas

Lôn Mochdre, Y Drenewydd, SY16 4JA

Ymholiadau Cyffredinol Ffôn: 01639 614200 Ebost: enquiries@nptcgroup.ac.uk

Garddio a Garddwriaeth ................................. 34

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Trin Gwallt ........................................................ 36 Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant ... 38 Celfyddydau Perfformio .................................. 40 Coginio Proffesiynol, Celfyddydau Coginio, Lletygarwch a Bwyty ....................................... 43 Gwasanaethau Cyhoeddus ............................ 45

Undeb y Myfyrwyr ............................................ 50

Mae’r prosbectws hwn yn rhoi manylion am bob rhaglen academaidd a galwedigaethol amser llawn. Am fanylion am unrhyw gyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC, ewch i’n gwefan:

O Ddifri am Chwaraeon .................................. 51

www.nptcgroup.ac.uk

Chwaraeon ....................................................... 47 Bywyd yn y Coleg............................................ 50

Centerprise....................................................... 53 Cymraeg yn y Coleg ........................................ 53 1

Argraffwyd y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio inciau sy'n seiliedig ar olew mwynol llysiau ecogyfeillgar ar bapur wedi'i ardystio gan FSC o ffynonellau cynaliadwy.

Plymio a Gosodwaith Trydanol ...................... 41

Ennill Gradd ar Garreg eich Drws.................. 54

Roedd yr wybodaeth a geir yn y ddogfen hon yn gywir ar adeg ei chynhyrchu. Mae Grŵp Colegau NPTC yn cadw'r hawl i newid neu ganslo cyrsiau yng ngoleuni amgylchiadau penodol. Rydym yn gwarantu y bydd pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal a mynediad i raglenni sy'n briodol i'w hanghenion.


Croeso i'n Coleg Arobryn

Rydym yn gwybod mai dewis yr hyn yr ydych am ei astudio ar ôl gadael yr ysgol yw un o’r penderfyniadau pwysicaf y byddwch byth yn ei wneud, ac mae’r dewis rhwng aros ymlaen yn y chweched dosbarth, mynd i’r gweithle neu fynd i’r coleg yn anodd. Yng Ngrŵp Colegau NPTC gallwn addo profiad dysgu ardderchog i chi o fewn coleg deinamig a chefnogol, gyda chyfleusterau ac adnoddau rhagorol o safon diwydiant. Rydym yn dda iawn yn yr hyn a wnawn, ac mae hynny’n swyddogol yn ôl Estyn. Amlygodd ein hadroddiad diweddaraf ymgysylltiad rhagorol y coleg â chyflogwyr sy’n llunio ein darpariaeth i ddiwallu anghenion lleol. Mae ein dysgwyr yn datblygu ymddygiadau sy’n cefnogi eu dyheadau gyrfa ac rydym yn eu paratoi ar gyfer dilyniant i ddysgu ar lefel uwch ac ar gyfer cyflogaeth. Mae ein myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi, ac yn bwysicaf oll mae Estyn yn credu bod ein hathrawon yn gymwys ac yn brofiadol, gyda phrofiad diwydiannol, masnachol a busnes defnyddiol. Ansawdd yr addysgu a’r ymroddiad hwn i ddarparu cyfleusterau rhagorol sydd wedi cael eu cydnabod yn barhaus dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn 2019, cawsom ein henwi fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru gan y Gwobrau Ymadawyr Ysgol. Daeth y Coleg hefyd yn yr ail safle yn y DU gyfan ar gyfer ansawdd yr addysgu, yn bedwerydd am y profiad dysgu, yn bumed wrth ddarparu cymorth personol ac yn 10fed ar gyfer asesiadau ac adborth. Yn 2020, fe wnaeth y Coleg yn arbennig o dda yn y gwobrau unwaith eto, gan gael ei enwi fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru, un o’r deg Darparwr Hyfforddiant Gorau yn y DU a chyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori; y Darparwr Prentisiaethau Gorau yn y DU; y Coleg Addysg Bellach Gorau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaethau yn y DU a’r Profiad Dysgu Gorau. Mae'r Gwobrau Ymadawyr Ysgol yn dathlu'r cyflogwyr a'r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma'r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy'n cynnig y prentisiaethau gorau a'r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae'n helpu pobl ifanc a'r rhai sy'n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa. Rydym eisiau eich paratoi ar gyfer eich camau nesaf i gyflogaeth neu i'r Brifysgol. Byddwn yn eich annog i gael dyheadau uchel ac yn eich cefnogi i fod yn unigolion amryddawn. Felly p'un a ydych yn dewis cwrs galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar yrfa neu brentisiaeth, chi yw'ch dyfodol gyda Grŵp Colegau NPTC.

Chi Yw’ch Dyfodol

Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC

Nosweithiau Agored b

Gweld y Coleg

b

Cwrdd â'r staff

b

Trafod eich anghenion

b Coleg Bannau Brycheiniog 24 Tachwedd 2021 12 Ionawr 2022 21 Mawrth 2022 22 Mehefin 2022

b Coleg Y Drenewydd

25 Tachwedd 2021 13 Ionawr 2022 22 Mawrth 2022 12 Mehefin 2022 (Dydd Sul Fferm Agored) 23 Mehefin 2022

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mark Dacey

2


ŵp

1-2021 3 9 1

Gr ga u N P Cole T C

hlu at

M lynedd

oup of Colle r ge G C s T

Yea rs

D

C

rating b e el

NP

^ Mae Grwp Colegau NPTC yn dathlu 90 mlynedd o ragoriaeth mewn addysg a hyfforddiant eleni, 2021-22.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Daeth Grŵp Colegau NPTC i fodolaeth ar 1 Awst 2013. Fe'i ffurfiwyd o ganlyniad i uno Coleg Castell-nedd Port Talbot, a oedd yn wreiddiol yn ddau goleg ar wahân tan 1999, sef Coleg Afan a Choleg Castell-nedd: a Choleg Powys, a oedd yn wreiddiol yn dri choleg tan 1989, sef Coleg Trefaldwyn, Coleg Sir Faesyfed a Choleg Howell Harris. Mae Grŵp Colegau NPTC bellach yn un o'r grwpiau mwyaf o golegau a darparwyr addysg yng Nghymru ac erbyn hyn mae ganddo drosiant blynyddol o fwy na £65 miliwn.

3

Yr agoriad ym 1931


Popeth Yn Dda gan Estyn Mae Grŵp Colegau NPTC yn cyflawni ei waith yn dda iawn, ac mae hyn yn swyddogol yn ôl Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Dyma’r arolygiad cyntaf ers yr uno, ac yn ôl Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth, ‘roedd cyflawni’r radd yn deyrnged wirioneddol i waith caled, ymroddiad a thalent staff a myfyrwyr.’ Nododd yr adroddiad fod ‘tîm arweinyddiaeth y coleg yn sefydledig a chydlynol’ a bod ‘cyfeiriad clir ac uchelgeisiol i waith y coleg.’ Dywedodd yr adroddiad fod arweinwyr yn gweithio’n fedrus i nodi a manteisio ar gyfleoedd i integreiddio gwaith y coleg â gweithgareddau cymunedol a chefnogi cyfleusterau lleol.

Beth ddywedodd yr arolygwyr… Mae dysgwyr yn datblygu ymddygiadau sy’n cefnogi eu dyheadau gyrfa ac yn teimlo bod y coleg yn eu paratoi’n dda ar gyfer dilyniant i ddysgu ar lefel uwch ac ar gyfer cyflogaeth.

Mae fforymau cyflogwyr y coleg a dargedwyd yn dod â rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd i fynd i’r afael ag anghenion datblygu economaidd a chymdeithasol.

Mae athrawon yn meddu ar gymwysterau a phrofiad da, gyda phrofiad defnyddiol ym maes diwydiant, masnach a busnes y maent yn ei gymhwyso’n dda i’w rolau.

Mae mwy na 7,250 o fyfyrwyr yn teimlo’n ddiogel yn y coleg ac yn gwybod ble i droi am ystod eang o gymorth.

Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr ac maent yn eu herio i ddatblygu gwybodaeth, cynhyrchu gwaith ymarferol a chwblhau tasgau theori i safon uchel.

Gwrandewir ar anghenion a phryderon.

Mae myfyrwyr yn teimlo bod eu rhaglen ddysgu yn eu helpu i wella eu medrau bywyd, eu rhagolygon cyflogaeth.

Mae dysgwyr yn cynhyrchu gwaith o safon gref yn eu gwersi a’u sesiynau ymarferol. Maent yn meithrin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ac yn datblygu eu medrau academaidd, galwedigaethol ac ymarferol yn dda.

Mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi gwerth chweil i wella eu hiechyd a’u lles cyffredinol. Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol sy’n ‘cyfrannu’n werthfawr at weithgareddau â ffocws cymunedol’, fel codi arian ar gyfer elusennau iechyd meddwl a helpu ysgolion lleol gyda phrosiectau amrywiol.

Ar raglenni galwedigaethol, mae dysgwyr yn datblygu ac yn cymhwyso cymwyseddau ymarferol a galwedigaethol defnyddiol ac yn datblygu medrau galwedigaethol ar lefel uwch ac yn gwella eu hyder personol trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Ymgysylltiad rhagorol â chyflogwyr ar draws ei hardal ddaearyddol sy’n helpu i ffurfio darpariaeth y coleg i ddiwallu’r angen lleol.

4


T

Pam dewis Grŵp Colegau NPTC?

LO M

A ESTYNE

THOL

DLAE

DIG

Rhagoriaeth

ESTYNE

NED

71

MA

CE

LO

LAETH

OL

Driphlyg

IP FYRWYR D

Astudiodd Courtney Ashworth y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) sy'n cyfateb i 3 A* ar Safon Uwch. Mae Courtney wrth ei bodd gyda'i chanlyniadau ac mae'n mynd i astudio Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr.

NE

CE

32

DIP

MY

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

R

Y

Astudiodd Elis Tudor y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru. Mae Elis wedi derbyn ysgoloriaeth o ganlyniad i'w graddau ac mae'n mynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud Addysg Gynradd gan arwain at SAC.

RW

5

Cyflawnodd Layla Jones (Coleg Y Drenewydd) Ragoriaeth arbennig yn y Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio. Yn ystod ei hamser ar y cwrs roedd Layla yn fyfyriwr ymroddedig a llawn ffocws a aeth o nerth i nerth. Roedd ganddi angerdd dros theatr gerddorol ac roedd yn berfformiwr bygythiad triphlyg cryf. Roedd Layla Layla Jones ar fin ymgymryd â'r brif rôl yn ein cynhyrchiad theatr gerddorol fawr cyn y cyfnod o gyfyngiadau clo, ac er bod gorfod canslo'r cynhyrchiad yn siom fawr, parhaodd Layla i weithio'n galed a dangos yr un lefel o ymrwymiad tuag at y dysgu ar-lein ag a wnaeth yn y coleg. Roedd gwaith Layla bob amser o safon uchel, a rhoddodd yr un sylw i'w gwaith ysgrifenedig ag y gwnaeth i'w gwaith ymarferol. Y tu allan i'r Coleg roedd Layla hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o grwpiau lleol. Bu'n gweithio gyda'r grŵp theatr plant yn Yr Hafren, Rising Stars, ac yn creu coreograffi ar eu cyfer. Mae'n helpu gyda grwpiau eraill fel hyfforddwr llais ac mae hefyd yn perfformio'n lleol. Mae Layla yn gobeithio ennill lle mewn ysgol ddrama er mwyn dilyn gyrfa mewn theatr gerddorol.

ILIAU UWCH

Rhagoriaeth g Serennog Driphly

MYFY

"Rwy'n hynod falch o'r canlyniadau rydyn ni wedi'u cyflawni, yn enwedig yn yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol mewn mwy nag un ffordd. Mae staff wedi addasu eu harferion addysgu er mwyn ymgysylltu â myfyrwyr mewn ffordd gwbl newydd. Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad staff a myfyrwyr mewn amgylchiadau digynsail. ”

Cyfradd o Lwydd

SG

At hynny, enillodd 71 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 32 o fyfyrwyr yn cyflawni'r proffil graddau uchaf posibl sef rhagoriaeth serennog driphlyg (D* D* D*) sy'n cyfateb i dair A* ar Safon Uwch.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC:

TYSGRIF HE R

99%

Llongyfarchodd Grŵp Colegau NPTC yr holl fyfyrwyr a dderbyniodd eu canlyniadau heddiw ar ôl blwyddyn na allai unrhyw un fod wedi'i rhagweld. Yn wyneb pandemig byd-eang, cyflawnodd y Coleg gyfradd lwyddo gyffredinol anhygoel o 100 y cant ac enillodd y nifer uchaf o ganlyniadau A* yn hanes y Coleg.

Hefyd, cyflawnodd nifer eithriadol o uchel o ddysgwyr, sef 427, y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gyda chyfradd lwyddo arbennig o 99.3%. Fe wnaeth myfyrwyr Safon Uwch a BTEC addasu i ddysgu ar-lein, gan ganolbwyntio ar eu hastudiaethau i ennill canlyniadau sy'n wirioneddol ryfeddol. Mae llawer o ddosbarth 2020 wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau neu wedi cael y cymwysterau i ennill eu swyddi delfrydol.

YS

DI

G

Courtney Ashworth

Astudiodd Conor Drain hefyd y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ac roedd yn falch o ennill Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Astudiodd Prys Eckley (Coleg Bannau Brycheiniog) Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Mae Prys yn mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Addysg Chwaraeon ac Iechyd.

Prys Eckley


Teleri Ottaway

Owen Brunt

Astudiodd Teleri Ottaway y Diploma Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru. Dywedodd Teleri:

"Rwy'n falch iawn o'm canlyniadau, a hoffwn ddiolch i staff Coleg y Drenewydd am eu holl help a'u harweiniad. Mae'r cwrs wedi dysgu cymaint i mi, ac rwy'n teimlo ei fod wedi agor drysau i mi ac wedi caniatáu i mi sylweddoli i ble rwyf am fynd yn y dyfodol. Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un sy'n ystyried ei ddilyn gan ei fod yn creu cynifer o gyfleoedd ac rwyf i'n bersonol wedi dysgu cymaint ohono. Fy mhennod nesaf yw dechrau gradd mewn Addysgu Ysgol Gynradd ym Mhrifysgol Caer." Cwblhaodd Ethan Smith y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Busnes gyda CBC. Cyflawnodd Ethan Ragoriaeth Ddwbl, Teilyngdod a gradd A ym Magloriaeth Cymru. Mae Ethan wedi ffynnu wrth astudio gartref ac wedi penderfynu cwblhau BA Anrhydedd mewn Rheoli Busnes (Cyfrifeg) yn y Brifysgol Agored, tra'n cwblhau AAT Lefel 2&3. Drwy gydol y pandemig mae Ethan wedi bod yn gweithio tuag at gael tystysgrif gan y CFA (Awdurdod Ariannol Siartredig) drwy gwrs ar-lein y mae'n dweud sydd wedi datblygu ei ddealltwriaeth o'r sector ariannol ymhellach, yn ogystal â pharhau i weithio'n rhan-amser mewn cwmni cyfrifeg i gael profiad.

Derbyniodd Sion Jones Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) yn y BTEC Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'n gobeithio dechrau Gradd Prentisiaeth yr Heddlu ym mis Ionawr neu'n ystyried ymuno â Phrifysgol Caerdydd i astudio Troseddeg fis Medi nesaf. Astudiodd Ellie Bray hefyd y Diploma Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru. Dywedodd Ellie, "Rwy'n falch iawn o'm graddau! Dwi

nawr yn mynd i brifysgol Swydd Stafford, ond ar gampws yr Amwythig, i astudio Nyrsio Plant! Ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb y tiwtoriaid anhygoel!!"

Astudiodd Owen Brunt hefyd y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Dywedodd Owen, "Gweithiais yn galed iawn am y graddau

a enillais ac rwy'n falch o gael lle yn Met Caerdydd i wneud Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon."

Astudiodd Will Bengall Wasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC. Cyflawnodd radd Rhagoriaeth, Rhagoriaeth Teilyngdod a bydd yn symud ymlaen i Brifysgol Glyndŵr i astudio Plismona Proffesiynol yn gysylltiedig â Heddlu Gogledd Cymru. Astudiodd Billy Morgan hefyd Wasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC a chyflawnodd radd Llwyddiant Triphlyg. Ymunodd Billy â Byddin Prydain ym mis Mehefin 2020.

DYSGWR COLEG IFANC Y FLWYDDYN DAN 26 CYMRU LANTRA

Llongyfarchiadau i Elin Orrells, Coleg Y Drenewydd, a gafodd ei henwi'n Ddysgwr Coleg Ifanc Y Flwyddyn Dan 26 Cymru Lantra mewn seremoni ddisglair yng Ngwesty'r Metropole. Yn ogystal â hyn, derbyniodd Elin fwrsariaeth alwedigaethol adrannol yr Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth. Mynychodd Elin y seremoni wobrwyo fawreddog gydag aelodau o'i theulu a'i staff dysgu o adran amaeth y coleg. Dywedodd Elin: "Rwy'n falch iawn o

fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon ac mae'n ddiolch i'r holl gymorth rydw i wedi ei dderbyn gan y tiwtoriaid wrth astudio ar gyfer fy Niploma L3 Estynedig mewn Amaethyddiaeth. Mae'r darlithwyr yn y Coleg wedi fy ysbrydoli i achub ar bob cyfle sydd ar gael ac wedi fy annog i gymryd rhan mewn cryn nifer o gystadlaethau cenedlaethol.”

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Derbyniodd Steph Andrews Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC. Mae'n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd yn y Gyfraith a Throseddeg.

Billy Morgan

6


Cyfleusterau Arobryn

Y Drenewydd: Cyfleusterau arlwyo o'r radd flaenaf

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog: Labordai gwyddoniaeth o ansawdd uchel

7

Y Drenewydd: Estyniad cerbydau modur newydd sbon

Y Drenewydd: Stiwdios celfyddydau perfformio eithriadol a rhagor

Y Drenewydd: Offer peirianneg o'r radd flaenaf

Y Drenewydd: Bwyty hyfforddi o safon uchel – Themâu

Bannau Brycheiniog a’r Drenewydd: Academi Trin Gwallt Lee Stafford gyffrous

Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog: Adran adeiladwaith arobryn


Y Drenewydd: Fferm unigryw sy'n eiddo i'r Coleg.

Y Drenewydd: Cyfleusterau peirianneg o safon y diwydiant.

Y Drenewydd: Theatr a Mannau Cynadledda o'r Radd Flaenaf

Bannau Brycheiniog: Cyfarpar Chwaraeon.

Y CWTCH

Yn ogystal â darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr y Coleg, bydd croeso i'r gymuned ddefnyddio'r cyfleusterau TG yn ogystal ag ymuno â rhai o'r cyrsiau rhan-amser newydd a fydd yn cael eu cynnig o'r adeilad y mae'n ei lesio gan yr awdurdod lleol. Hefyd ar gael fydd cyngor ar chwilio am swyddi, sefydlu eich busnes eich hun, technegau cyfweld ac ysgrifennu CV.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae cynlluniau ychwanegol i ail-leoli Coleg Bannau Brycheiniog i dref Aberhonddu. Cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd ynghylch prynu dau adeilad yn y dref. Bydd y dref a’r cyfleusterau a ddarparir gan fusnesau lleol wrth law wedyn i’w myfyrwyr eu defnyddio bob dydd.

8

Y CWTCH – Hyb y Coleg o Fewn y Gymuned Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – 'Y CWTCH' – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol. Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o'r gymuned gyda mynediad agored i bawb. Dadorchuddiwyd plac gan yr cyn Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i nodi'r achlysur. Dywedodd Ms Williams: "Mae'r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog. Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy'n gweld yr adeilad hwn a'r hyn sy'n digwydd yn ysbrydoledig.”

Mae'r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae'n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfleusterau cynadledda fideo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd hynod gyflym 1GB, ynghyd â chyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf at ddefnydd myfyrwyr a'r cyhoedd.


Addysgu Arobryn Yma yng Ngrŵp Colegau NPTC, cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth sy'n benodol i'r diwydiant ynghyd â chysylltiadau cadarn â'r cyflogwyr gorau, gan roi'r ansawdd addysgu a dysgu uchaf i chi. Mewn gwirionedd, mae ein haddysgu mor dda fel ein bod wedi cael ein henwi fel y Coleg gorau yng Nghymru ar gyfer addysgu ac yn ddegfed yn y DU gyfan*. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi'r cymorth unigol sydd ei hangen ar bob myfyriwr i lwyddo, boed hynny'n symud ymlaen i'r prifysgolion gorau, prentisiaethau neu i'ch gyrfa ddelfrydol gyda'r cyflogwyr gorau.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Ar ba lefel bynnag y byddwch yn ymuno â ni, byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd i gefnogi eich taith addysgol, ac yn addo, pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ein gadael, byddwch yn gadael gyda'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i ffynnu.

9

O fewn pob maes pwnc ceir rhaglen asesu a chymorth rheolaidd. Byddwch yn ymwneud â chynllunio eich dysgu unigol a gosod targedau ar gyfer gwella sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'ch tiwtoriaid. Rydym yn darparu cymorth tiwtorial yn ogystal â gwersi wedi'u hamserlennu i gynorthwyo'r gwaith o baratoi ar gyfer arholiadau, ceisiadau UCAS a chymorth bugeiliol. Mae gan ein llyfrgell adnoddau da ac mae'n darparu mynediad i'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â chasgliadau helaeth o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a DVDs, mae ein canolfannau hefyd yn cynnig mynediad i wybodaeth ar-lein, cyngor ar ddulliau ymchwil a gallant helpu gyda chyfeirnodi.


Coleg Arobryn yn cyrraedd y Deg Darparwr Hyfforddiant Gorau yn y DU Mae’n swyddogol, pleidleisiwyd dros Grŵp Colegau NPTC unwaith eto fel y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru ac yn y deg uchaf yn y DU gyfan yn y Gwobrau Ymadawyr Ysgol 2020 yn ddiweddar. Roedd y gwobrau ychydig yn wahanol eleni o ganlyniad i’r pandemig cyfredol - cawsant eu cynnal yn rhithwir a’u cyflwyno gan y canwr, cyflwynydd teledu, adroddwr a model Rylan Clark-Neal a’u cynnal gan Paul Harris a Jack Denton, cyd-sylfaenwyr All About School Leavers. Mae’r Gwobrau Ymadawyr Ysgol yn unigryw, yn yr ystyr bod mwyafrif yr enillwyr wedi’u henwebu oherwydd adborth a roddwyd yn uniongyrchol gan brentisiaid sydd wedi’u hymrestru ar eu rhaglenni, yn hytrach na dibynnu ar banel beirniaid annibynnol. Mae’r gwobrau’n dathlu’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma’r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy’n cynnig y prentisiaethau gorau a’r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae’n helpu pobl ifanc a’r rhai sy’n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa.

Cafodd Grŵp Colegau NPTC hefyd ei roi yn yr ail safle o ran Coleg Addysg Bellach Gorau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaethau yn y DU a’r degfed yn y DU am y Profiad Dysgu Gorau. Roedd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC wrth ei fodd i glywed y newyddion bod y Coleg wedi cyrraedd y brig yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol a dywedodd: “Mae cael eich enwi fel y prif ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru ac yn un o’r goreuon yn y DU am yr ail flwyddyn yn olynol yn drawiadol iawn, ond pan fydd yn rhywbeth y mae ein myfyrwyr wedi pleidleisio drosto’n annibynnol, mae hynny’n ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Ni chawsom unrhyw fewnbwn ac nid ydym wedi treulio amser yn gwneud cais am hyn, felly mae hyn yn newyddion da iawn i ni ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad y staff yng Ngrwp Colegau NPTC.” Mae’r 150 Cyflogwr Gorau a’r 100 Darparwr Hyfforddiant Gorau yn seiliedig yn gyfan gwbl ar farn prentisiaid a hyfforddeion sy’n ymadawyr ysgol o 100 o sefydliadau yn y DU. Cwblhaodd prentisiaid arolygon yn dadansoddi popeth am eu cyflogwyr a’u rhaglenni hyfforddiant, o ddatblygu sgiliau a dilyniant gyrfa i hyfforddiant a diwylliant y cwmni.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

10


Eich Cais

Gwneud Cais am gwrs 1

Gwneud cais ar-lein yn: www.nptcgroup.ac.uk

Eich Taith Eich Coleg Croeso i'r system ymgeisio arlein yma yng Ngrŵp Colegau NPTC. O drefnu dyddiadau ar gyfer cyfweliadau i ymchwilio i'r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a chwblhau'r ffurflen gais mae gennych y gallu i reoli pob cam o'ch taith. Gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif unrhyw bryd i weld lle'r ydych yn y broses. Cwrs Iawn, Dewis Iawn! Gyda chynifer o ddewisiadau ar gael, deallwn y gall ddod at benderfyniad fod yn anodd. Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r broses p'un a yw'n gyrsiau galwedigaethol neu brentisiaeth!

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Felly sut ydych yn dewis? Gallwch ddarllen ein prosbectws cyrsiau amser llawn i ymchwilio i’ch opsiynau, pori ein gwefan ar gyfer syniadau, dod i ddiwrnod agored, neu fanteisio ar ein ap gyrfa anhygoel o'r enw 'Career Coach'.

11

CADW MEWN CYSYLLTIAD Drosodd atoch chi nawr i gael y graddau sydd eu hangen arnoch – os byddwch ar unrhyw gam yn newid eich meddwl am y cwrs yr ydych wedi dewis ei astudio, neu os nad ydych yn cael y graddau angenrheidiol, peidiwch â chynhyrfu! Cofiwch ein bod yn wastad yma i'ch helpu. Peidiwch ag anghofio bod modd i chi newid eich dewis gwrs ar unrhyw gam yn y broses, hyd at ymrestru. Pob lwc yn eich arholiadau TGAU, welwn ni chi ym mis Medi!

Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau yr ydych am wneud cais amdano e.e. Gwaith brics, Dawns, Chwaraeon neu Drin Gwallt. Cliciwch ar y botwm 'Dod o Hyd i Gwrs a Gwneud Cais' gwyn ar yr ochr dde i ddechrau eich cais. Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r Coleg, bydd angen i chi greu cyfrif Prospect felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod. Defnyddir eich enw defnyddiwr i ffurfio rhan gyntaf eich cyfeiriad e-bost (cyn y @). Rhaid i’r cyfrinair gynnwys o leiaf naw nod a chynnwys o leiaf un briflythyren, un llythyren fechan ac un rhif. Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurflen ac wedi clicio cofrestru, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arni - ond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol! E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.

2

Trefnu eich cyfweliad

Rydym wrthi'n cynllunio ein cyfweliadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ar hyn o bryd, gweler y wefan os gwelwch yn dda. Mae cyfweliad yn gyfle i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio.

3

Cynnig amodol

Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Prospect, y gallwch ei dderbyn ar unwaith.

4

Dod o hyd i’ch cais

Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen hafan. Bydd modd i chi weld pa gam yn y broses ymgeisio yr ydych wedi ei gyrraedd wrth edrych ar eich hafan!

Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Bydd Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar Safon Uwch yn galluogi myfyrwyr Lefel 3 i gyfnerthu a datblygu eu sgiliau hanfodol, eu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a hyrwyddo a meithrin sgiliau ymchwil ar lefel uchel. Gan adeiladu ar gyflawniadau ar lefel 2, bydd y cymhwyster yn helpu i ddatblygu sgiliau, priodoleddau ac ymddygiadau mwy cymhleth. Bydd yn darparu profiadau a fydd yn eich arfogi ar gyfer y brifysgol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth. "Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) yn anarferol fel cymhwyster y mae ei gynnwys yn cael ei arwain i raddau helaeth gan y myfyrwyr eu hunain. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr hunangymhelliant, chwilfrydedd a'r meddwl annibynnol y mae'r dull hwn o ddysgu yn datblygu. Y nodweddion hyn, ynghyd â thair Safon Uwch ardderchog, yw'r hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn prifysgolion cystadleuol fel Rhydychen." Dr Matthew Williams, Cymrawd Mynediad a Datblygu Gyrfa yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.


Career Coach - cyngor gyrfaol wedi’i deilwra gan ddefnyddio gwybodaeth leol am y farchnad swyddi Pan fydd gan fyfyrwyr weledigaeth glir o’r dyfodol, maen nhw’n fwy tebygol o ragori yn eu hastudiaethau a mynd ymlaen i greu gyrfaoedd llwyddiannus. Mae Career Coach yn offeryn ar-lein am ddim sydd ar gael gan Grŵp Colegau NPTC a all helpu i lunio’r weledigaeth honno. Gan ddefnyddio data cynhwysfawr am y farchnad swyddi, gall Career Coach eich helpu i ddod o hyd i’ch swydd berffaith a’r cyrsiau a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno! Mae asesiad ar-lein manwl Career Coach yn awgrymu gyrfaoedd sy’n seiliedig ar eich diddordebau a’ch sgiliau. Gyda gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur, enillion disgwyliedig a nifer y swyddi yn yr ardal, mae Career Coach yn tynnu sylw at y cyrsiau gorau i’ch helpu i symud ymlaen i’r yrfa o’ch dewis.

Sganiwch yma i ddechrau defnyddio Career Coach neu ewch i’n gwefan www.nptcgroup.ac.uk

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Career Coach hefyd yn cysylltu â menter Barod am Yrfa y Coleg sydd wedi’i chynllunio’n benodol er mwyn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae Barod am Yrfa yn cynnig gweithdai ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau ac ymarfer, lleoliadau profiad gwaith a chymorth gyda phob agwedd ar y broses ymgeisio.

12


MAE'N TALU I DDYSGU

Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyflawni cymwysterau swydd-benodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen. Dyma'r llwybrau: b Cyfrifeg b Mecaneg Amaethyddol b Gweinyddiaeth Busnes b Adeiladwaith b Gwasanaethau Cwsmeriaid b Lletygarwch ac Arlwyo b Manwerthu b Atgyweirio Cyrff Cerbydau

b Amaethyddiaeth b Gofal b Gofal Plant a b b b b

Gwaith Chwarae Peirianneg Cerbydau Modur Arwain Tîm Rheolaeth.

Hyfforddeiaethau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen hyfforddi i fyfyrwyr 16 i 18 oed sy'n canolbwyntio ar ddarparu: b Sgiliau cyflogadwyedd b Cyfle i roi cynnig ar wahanol swyddi b Mynediad i brofiad gwaith o ansawdd uchel.

13

Beth yw manteision ymgymryd â hyfforddeiaeth? b Lwfans hyfforddi wythnosol b Teithio â chymhorthdal b Meithrin profiad hanfodol gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol b Cyfle i wella sgiliau Saesneg a Mathemateg b Adeiladu hyder b Gwella eich rhagolygon hirdymor a'ch potensial i ennill cyflog. Ar ddiwedd yr hyfforddeiaeth bydd modd i chi: b Symud ymlaen i hyfforddeiaeth neu brentisiaeth lefel 1 b Camu ymlaen i gwrs academaidd b Cyflawni gwaith gwirfoddol b Dilyn dewis gyrfa amgen.

Pam dod yn Brentis?

b Ennill cyflog wrth ddysgu - cael eich talu b Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu

heriau newydd b Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol b Cyfleoedd rhagorol o ran dilyniant.

Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael? b Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol: b Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2 b Prentisiaeth - Lefel 3 b Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.

Prentisiaethau

Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio. Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am brentisiaeth.

Prentisiaethau Gradd

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Grŵp Colegau NPTC wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen Beilot Prentisiaethau Gradd newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y fframwaith prentisiaethau gradd digidol newydd.

A oes gennych ddiddordeb? Cysylltwch â'r tîm anfonwch e-bost:

pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk


Y Prentis Ollie yn Rhan o Gwmni Arobryn Compact Orbital Gears. Roedd Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o glywed bod Compact Orbital Gears (COG) yn Rhaeadr wedi eu cyhoeddi fel enillwyr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

"Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori trwy raglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail a heriol iawn hwn."

Mae gan y cwmni hanes hir o weithio gyda Choleg Y Drenewydd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) i gefnogi a hyfforddi prentisiaid newydd. Maent yn arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu a datblygu datrysiadau geriau pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid awyrofod, modurol ac ynni glân. Roedd y Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yn rhithiol yn arddangos 35 o gystadleuwyr yn y rownd derfynol sydd wedi rhagori, llawer yn mynd y tu hwnt i'r disgwyliadau i sicrhau llwyddiant yn ystod cyfnod digynsail.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau adfer uchelgeisiol i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth inni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru sy’n dod yn beiriant ar gyfer twf cynaliadwy, cynhwysol. Rwy'n credu y bydd prentisiaethau'n hanfodol wrth i ni ddod allan o'r pandemig."

Mae hwn yn llwybr cadarnhaol iawn i lawer sydd dros 16 oed, ac eisiau ennill cyflog wrth dderbyn buddion eraill gweithwyr mewn gyrfa o'u dewis. Mae datblygu gweithlu aml-sgil a hyblyg wedi helpu Compact Orbital Gears i ddod yn enw blaenllaw mewn trawsyriant geriau arbenigol ers mwy na 50 mlynedd. Cafodd y cwmni, sydd â gweithlu o 43 ei sefydlu yn y 1960au ac mae'n falch o'i weithlu medrus iawn, ethos teuluol a hanes hir o recriwtio prentisiaid o ganolbarth Cymru.

Mae ffocws ar dyfu ei gronfa ei hun o beirianwyr medrus yn talu ar ei ganfed i Compact Orbital Gears ar adeg pan mae prinder yn y DU. Mae ei Raglen Prentisiaethau yn darparu hyfforddiant technegol, wedi'i gefnogi gan gyfarwyddyd arbenigol mewnol gyda gweithwyr profiadol yn rhannu eu sgiliau a'u gwybodaeth â phrentisiaid. Dywedodd Tricia Evans, rheolwr ariannol Compact Orbital Gears: “Mae'n hanfodol i lwyddiant ein cwmni yn y dyfodol ein bod ni'n datblygu ac yn annog recriwtiaid newydd, wrth iddyn nhw ddod â dysgu newydd a syniadau ffres gyda nhw.” “Rydym yn hynod falch ein bod wedi cael ein cydnabod fel Cyflogwr Busnes Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Mae rhaglen brentisiaeth yn hanfodol i sicrhau bod gweithlu medrus yn cael ei ddarparu yn Compact Orbital Gears. Rydym yn ddiolchgar am y ^ gefnogaeth a ddarperir gan Grwp Colegau NPTC, Coleg Y Drenewydd a hyfforddiant Myrick i sicrhau bod ein rhaglen prentisiaethau yn diwallu anghenion y dysgwr a'r cyflogwr.” Rheolwr Cynhyrchu COG Rob Price.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Y Prentis Hyfforddiant Pathways diweddaraf i ddilyn cyfres o leoliadau llwyddiannus yn Compact Orbital Gears (COG) yw Ollie Leadbetter. Mae Ollie, sy'n 16 oed ac o Y Fan Llanidloes, yn astudio Diploma Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2. Mae'n mynychu'r coleg dri diwrnod yr wythnos ac yn gweithio yn COG fel Gweithredwr Peiriant Turnio dau ddiwrnod yr wythnos yn ystod y tymor a phum diwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau'r coleg. Bydd yn symud ymlaen i Beirianneg Fecanyddol Lefel 3 ym mis Medi eleni. Mae ein hadran Hyfforddiant Pathways yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a chymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith sy'n cael eu cydnabod gan y diwydiant mewn ystod eang o sectorau. Mae gan lwybrau prentisiaeth mewn Peirianneg opsiwn dilyniant i wneud y Diploma Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2, Peirianneg Fecanyddol Lefel 3, HNC Lefel 4 mewn Peirianneg ac yna ymlaen i Lefel Gradd.

“Dyna pam mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o leoedd prentisiaeth pellach dros y pum mlynedd nesaf. Rydym yn wlad fach, ond mae gennym uchelgeisiau mawr, a'n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm i gyflogwyr.”

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: 14


Croeso i Bartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd

Partneriaeth Academi’r 6ed Dosbarth Y Drenewydd Newtown 6th Form Academy Partnership

Croeso i'r gorau o ddau fyd! Mae Partneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn bartneriaeth gyffrous, arloesol rhwng Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn gallu cynnig y profiadau dysgu ac addysgu gorau posibl i fyfyrwyr ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau; gan gynnig y rhyddid iddynt ddilyn y llwybr o'u dewis ac ymgymryd â'u harddull dysgu personol.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Bydd ein partneriaeth yn cynnig cwricwlwm cyffrous, eang ac amrywiol y gellir ei deilwra i anghenion pob myfyriwr. Yn ogystal, bydd cyfle i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y Coleg a'r staff ymroddedig a phrofiadol yn yr Ysgol a'r Coleg.

15

Mae pynciau yn cynnwys: b Celf a Dylunio b Bioleg b Busnes a'r Gyfraith b Cemeg b Drama a Theatr b Saesneg Iaith b Daearyddiaeth b Cyfathrebu Graffeg b Iechyd a Gofal Cymdeithasol b Hanes

b b b b b b b b b

Technoleg Ddigidol Y Gyfraith [E-sgol] Mathemateg Cerddoriaeth Ffotograffiaeth Ffiseg Seicoleg Addysg Gorfforol Cymdeithaseg [E-sgol]

I ymgeisio

Gwneir ceisiadau ar-lein yn: www.powyslearningpathways.wales Am ragor o fanylion: Rhian Morgan: Rheolwr Partneriaeth Cyswllt Ysgolion 14-19

Bydd ymuno â Phartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn cynnig y cymysgedd perffaith o annibyniaeth a chefnogaeth wrth symud i'r Brifysgol, ymlaen i brentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith. Rydym yn cynnig darpariaeth lawn ac amrywiol o bynciau UG, Safon Uwch a BTEC yn Academi'r 6ed Dosbarth ar draws Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, ac rydym yn argymell y dylai pob disgybl astudio ystod o dri phwnc o leiaf, yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC). Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl astudio pum pwnc, ar yr amod bod Pennaeth Academi'r 6ed Dosbarth wedi cytuno ar hyn.


Amaethyddiaeth a Ffermio Mae amaethyddiaeth yn fwy na ffermio yn unig; mae'n un o fusnesau mwyaf y byd. Mae dros 200 o feysydd gyrfa amrywiol ar gael mewn amaethyddiaeth ac ar hyn o bryd, mae galw uchel iawn ar draws y diwydiant am bobl ifanc hyfforddedig, addysgedig a llawn cymhelliant. Mae tua 450,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn y DU y mae bron i 300,000 ohonynt mewn rolau rheoli neu bartneriaeth mewn menter ffermio. Yn ogystal â chynnig dewis gyrfa diddorol a boddhaus, mae astudio amaethyddiaeth hefyd yn agor y drysau i lawer o ddiwydiannau eraill, o ganlyniad i'r addysg, sgiliau, hyfforddiant a phrofiad eang y byddwch yn eu cael.

Mae ein cyrsiau yn rhai ymarferol dros ben, ac yn gyfle hefyd i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn fferm. Yn y Coleg byddwch yn astudio meysydd fel cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau. Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth am y diwydiant ac yn cadw ar y blaen o ran y datblygiadau diweddaraf mewn systemau cynhyrchu a thechnolegau TG, gan gynnwys technoleg dronau a GPS. Mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch, naill ai yn y Coleg ar y cwrs HND mewn Amaethyddiaeth neu mewn sefydliadau eraill i astudio gradd yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Rhagolygon gyrfa

Ar ôl cwblhau cwrs amaethyddiaeth, gall myfyrwyr ddewis o blith ystod eang o gyfleoedd ymarferol o fewn y sector amaethyddiaeth yn y DU yn cynnwys rheolwr fferm, rheolwr da byw, maethegydd, agronomegydd, cynghorydd ffermio, arolygydd fferm ac arwerthwr.

Mae'r fferm yn gartref i amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth pwrpasol yn ogystal â gweithdai, llety i wartheg a defaid a chyfleusterau trin o'r radd flaenaf. Rydym yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer sgiliau ystâd a chyfleoedd cadwraeth ac arallgyfeirio hefyd. Mae gan y fferm tua 150 o wartheg cig eidion, yn cynnwys buches sugno a menter pesgi bustach, a 750 o ddefaid bridio yn magu tua 1200 o ŵyn. Mae Bwyty Themâu, Coleg Y Drenewydd yn derbyn cig eidion a chig oen gan y fferm. Mae'r fferm hefyd yn cyflenwi Morrisons a Sainsbury's gyda chig oen yn ystod y flwyddyn.

Chwilio NPTC Group

12

Dydd Sul Mehefin Fferm Agored 2022

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Fferm Fronlas yng Ngholeg Y Drenewydd yn gweithredu fferm defaid a chig eidion ucheldir 140 hectar sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael profiad ymarferol cyfoes sy'n adlewyrchu diwydiant amaethyddiaeth y Canolbarth a'r mentrau bach a chanolig lle mae mwyafrif y myfyrwyr amaethyddol a pheirianneg amaethyddol yn dod o hyd i gyflogaeth.

Beth fyddaf yn ei wneud?

16


DYSGWR COLEG IFANC Y FLWYDDYN DAN 26 CYMRU LANTRA Llongyfarchiadau i Elin Orrells, Coleg Y Drenewydd, a gafodd ei henwi'n Ddysgwr Coleg Ifanc Y Flwyddyn Dan 26 Cymru Lantra mewn seremoni ddisglair yng Ngwesty'r Metropole. Yn ogystal â hyn, derbyniodd Elin fwrsariaeth alwedigaethol adrannol yr Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth. Mynychodd Elin y seremoni wobrwyo fawreddog gydag aelodau o'i theulu a'i staff dysgu o adran amaeth y coleg. Dywedodd Elin: "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon ac mae'n ddiolch i'r holl gymorth rydw i wedi ei dderbyn gan y tiwtoriaid wrth astudio ar gyfer fy Niploma L3 Estynedig mewn Amaethyddiaeth.

“Mae'r darlithwyr yn y Coleg wedi fy ysbrydoli i achub ar bob cyfle sydd ar gael ac wedi fy annog i gymryd rhan mewn cryn nifer o gystadlaethau cenedlaethol.” Dywedodd Martin Watkin, Rheolwr Ystadau ar y Tir y Coleg: “Mae Elin yn fyfyriwr rhagorol sy'n benderfynol o greu gyrfa yn y diwydiant amaeth. Mae wedi profi ei bod yn fyfyrwraig frwdfrydig a gweithgar sy'n cymryd rhan lawn yn holl weithgareddau'r fferm yn y Coleg ac yn cynhyrchu aseiniadau o safon uchel”.

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

17

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

C&G Peirianneg Amaethyddiaeth

2

Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofiad perthnasol

2 Flynedd

Y Drenewydd

C&G Diploma mewn Amaethyddiaeth

2

Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofiad perthnasol

2 Flynedd

Y Drenewydd

C&G Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth

3

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg

2 Flynedd

Y Drenewydd

C&G Diploma Estynedig mewn Rheolaeth Cefn Gwlad

3

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg

2 Flynedd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyflog Gweithiwr Fferm £27k Rheolwr Fferm £34K

“Rydw i ar fin gorffen y cymhwyster Lefel 3 mewn Amaeth ac mae wedi bod yn brofiad mor ffantastig wrth weithio ar y fferm weithredol yma. Des i yn ail yng Ngwobrau Lantra Cymru ac rydw i nawr yn gwneud cais i fynd i'r Brifysgol.” Emma Morgan-Page

*Seilir hyn ar ddata cenedlaethol

Traed ar y ddaear....gyda gyrfa mewn ffermio ac amaeth


Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Creadigol Byddwn yn eich helpu, eich cefnogi a'ch arwain ar eich ffordd i fod yn rhan o'r sector deinamig hwn sy'n symud yn gyflym iawn. Mae nifer y swyddi yn niwydiannau creadigol y DU nawr yn fwy na dwy filiwn am y tro cyntaf o dan y system bresennol o gyfrif ar ôl ehangu'n gyflymach na gweddill yr economi. Pan ychwanegir swyddi creadigol sydd y tu allan i'r diwydiannau creadigol hefyd - i gyfrif cyfanswm swyddi yr hyn a elwir yn economi greadigol y DU - mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 3.12 miliwn sy'n golygu bod 1 o bob 11 swydd yn rhan o'r diwydiant hwn. Mae ein darlithwyr yn artistiaid gweithredol felly byddwch yn dysgu gan y rhai sy'n dal i chwarae rhan hanfodol yn sector y diwydiannau creadigol. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn rhoi cyfle i chi archwilio eich talent greadigol bersonol yng nghyd-destun maes diwylliannol ehangach ac i'w llywio, ei newid, a gwneud gwahaniaeth.

https://cvp.nptcgroup.ac.uk

Dysgir gwersi mewn amgylchedd creadigol, gan ddefnyddio'r cyfarpar diweddaraf at safon y diwydiant o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol. Darperir nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth ac Amlgyfrwng i arddangos gwaith o fewn y Coleg ac mewn digwyddiadau cyhoeddus allanol. Mae myfyrwyr y cyfryngau yn gweithio ar brosiectau 'byw', gan gysylltu â chleientiaid a sgrinio eu darn olaf o waith.

Rhagolygon gyrfa

b Penseiri b Celfyddydau treftadaeth b Crefftwyr b Dylunydd b Cyfarwyddwr b Cynhyrchydd ffilmiau b Artistiaid cain b Dylunwyr graffeg b Ffotograffydd b Gwneuthurwr printiadau b Dylunwyr cynnyrch b Dylunio propiau a setiau b Dylunio gofodol, mewnol a thirlun b Tatŵydd b Addysgu ac addysg b Fideograffydd b Dylunydd y we.

Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa mewn celf, dylunio a'r cyfryngau Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Rydym yn ganolfan ddysgu greadigol lle mae myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, yn dod yn gyflogadwy iawn – rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!

Beth fyddaf yn ei wneud?

18


Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn

y pry cop, a fydd bellach wedi'i leoli yn Oriel Davies yng Ngerddi Neuadd y Dref yn Y Drenewydd. Bu'r myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda Spike i greu'r pry cop, gan gymryd rhan mewn gweithdy gwaith gof ymarferol yn stiwdio Spike wrth iddynt ehangu eu gwybodaeth am grefftau a thechnegau i ddod â natur yn fyw.

Mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, helpodd myfyrwyr i ddylunio'r cerflun wyth coes gyda Brandon Cadwallader, yn dilyn eu cyflwyniad buddugol ar gyfer prosiect 'Oasis Celf' yr Ymddiriedolaeth.

Nod y prosiect, a ariannwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r fenter "Arwain" a gefnogwyd gan yr UE yw dod â phobl a bywyd gwyllt ynghyd drwy'r celfyddydau ac mae wedi cyflwyno gweithgareddau creadigol seiliedig ar gelf a phrosiectau allgymorth gyda nifer o sefydliadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae myfyrwyr celf Coleg Y Drenewydd wedi dadorchuddio cerflun pry cop newydd i'w arddangos yn y dref, fel rhan o brosiect ymddiriedolaeth bywyd gwyllt.

Yna, bu'r arlunydd a'r gof lleol Spike Blackhurst yn bwrw ymlaen â'r cynllun a ddewiswyd er mwyn cwblhau a gosod

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau

19

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel

Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Diploma UAL mewn Celf a Dylunio

2

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma UAL mewn Celf a Dylunio

3

2 Flynedd

Y Drenewydd

Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg a Chyfryngau Creadigol

2

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg a Chyfryngau Creadigol

3

5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg. 2 Flynedd Cymhwyster Lefel 2 perthnasol.

Y Drenewydd

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol neu 5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys TGAU Saesneg.

“Fe wnaeth fy mlwyddyn yn y Coleg roi profiad unigryw i mi a chwrs hamddenol gyda thiwtoriaid eithriadol a arhosodd mewn cyswllt ac yn ysgogol er gwaethaf cyfnod clo Covid. Rydw i’n hapus iawn ac yn ddiolchgar am eleni.” Tobias Williams, Myfyriwr FAD.

“Mae'r tiwtoriaid yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer y dyfodol ac mae'r cyrsiau'n cynnig ystod eang o gyfleusterau i'w harchwilio ac rydych chi'n dysgu gwybodaeth ddefnyddiol.” Kate Poole, myfyriwr Lefel 3 yn yr ail flwyddyn.

Cyfarwyddwr Creadigol

Llawrydd £500 i £700+ y dydd

Cyflogedig £100k i £160k+

Uwch Ddylunydd Graffeg

Llawrydd

Cyflogedig

£200 i £400 y dydd

£35 i £55k


Peirianneg Cerbydau Modur Mae gyrfa fel mecanydd neu mewn atgyweirio cerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gyda cherbydau yn aros amdanoch chi. Mae gan yr adrannau cerbydau modur yn Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â'r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfleusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU. Hefyd, mae gan Gampws Y Drenewydd fae profi ATL ar ffurf MOT ac ardal offer diagnosteg pwrpasol cwbl weithredol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i'r cerbyd ei hun a'i gorff yn gywir yn barod i'w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleusterau rhagorol.

Rhagolygon gyrfa

Fel arfer ceir cyflogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda fflyd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyflawni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifiadur. Mae'r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafiad i swyddi goruchwylio a rheoli.

Mecanydd £13k - £30k (Emsi - economicmodeling.com) Peiriannydd Modurol £60k+ mewn rolau uwch (Prospects.ac.uk) Technegwyr Paent Cerbydau £18k - £40k (Emsi - economicmodeling.com)

Byddwch yn fecanyddol... gyda gyrfa mewn peirianneg, ceir neu atgyweirio cyrff cerbydau Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Enillion blynyddol cyfartalog

20


Cerbydau Modur

Cafodd myfyrwyr Cerbydau Modur Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd gyfle prin i ddysgu mwy am dechnolegau a weithredir gan fatri trydan yn y dyfodol, pan gawsant gyfle i weld trawsnewidiad trydan o Fiat 500 clasurol diolch i Electric Classic Cars yng Nghanolbarth Cymru. Mae gan y Fiat 500 holl gymeriad clasur gyda thro modern. Mae'r modur wedi'i osod yn y cefn (gan roi mwy o le i fagiau yn y tu blaen), ac mae'n cynnwys tri phecyn batri gyda phwynt gwefru cudd o dan y bathodyn Fiat. Cymerodd y myfyrwyr ddiddordeb mawr yn y sefydlu, gyda manteision cyflymder a phŵer trydan yn cael eu gwerthfawrogi'n gyflym. Fel un o selogion clasurol, cymerodd Tom Watkins, technegydd yn y coleg ddiddordeb arbennig.

Dywedodd Dan Pritchard, darlithydd Cerbydau Modur fod hyfforddiant mewn hybrid a thrydan yn 'faes yr oedd y coleg yn edrych arno ar hyn o bryd. Mae'r dechnoleg gerbydau newydd hon yn mynd i chwarae rhan bwysig yn nyfodol y diwydiant ac mae'n wych gweld enghreifftiau o glasuron fel y Fiat yn cael eu trosi, a gwybod bod hwn ac eraill ar gael i'w gweld ar garreg ein drws.' Mae Electric Classic Cars wedi'i leoli yng Nghanolbarth Cymru ac mae wedi cynhyrchu nifer o drawsnewidiadau clasurol sy'n cynnwys Porsche 911, Range Rover o 1972 a BMW E9. Mae'r busnes sy'n eiddo i Richard Morgan wedi tyfu'n gyfl ym a dywedodd Richard 'pa mor bwysig oedd hi bod myfyrwyr bellach yn dysgu am gerbydau trydan i gefnogi adeiladau cyfredol ac addasiadau. Bydd mwy o alw yn y blynyddoedd i ddod am y wybodaeth hon ac mae'n syndod faint o gamdybiaethau sydd eisoes yn bodoli am geir sy'n cael eu pweru gan fatri. '

Cyrsiau Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

21

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Peirianneg Cerbydau Modur

1

Mae TGAU gradd D/E neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Peirianneg Cerbydau Modur

2

Mae 4 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Peirianneg Cerbydau Modur

3

Mae 5 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd

Blwyddyn

Bannau

“Roeddem yn falch iawn o fod y coleg cyntaf yng Nghymru ar ddechrau 2020 i gynnig hyfforddiant gyda’r offer hyfforddi cerbydau trydan a hybrid modurol Block . Rydym wedi cael y pleser o hyfforddi myfyrwyr galwedigaethol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y dyfarniadau Lefel 1-4 mewn atgyweirio ac ailosod system Cerbydau Trydan/Hybrid.” Darlithydd, Dan Pritchard


Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch Mae'r diwydiant harddwch a therapïau cymhwysol heddiw yn sector hynod ddiddorol, sy'n ehangu ac yn newid yn barhaus. Os ydych yn arloesol ac yn uchelgeisiol, nid oes unrhyw gyfyngiad ar eich potensial, boed mewn cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, coluro, perchennog salon, therapydd harddwch neu sefydlu eich cwmni harddwch eich hun! Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant harddwch/therapïau cymhwysol yn cynnig cyfleoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn fel artist coluro neu steilydd. Yr annibyniaeth i ddechrau eich salon neu'ch sba eich hun neu hyd yn oed ddod yn hyfforddwr yn y coleg ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r busnes.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel rhan o Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, byddwch yn cael eich addysgu mewn salonau blaenllaw y diwydiant gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant harddwch. Bydd cyrsiau'n ymdrin â choluro, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol megis siapio aeliau, lliwio amrannau ac aeliau, cwyro, trin dwylo, trin traed yn ogystal ag anatomeg a ffisioleg, y croen a thwf gwallt.

Rhagolygon gyrfa

Dermatolegydd, technegydd amrannau, technegydd ewinedd, perchennog sba, therapydd harddwch llawrydd, ysgrifennwr harddwch, flogiwr harddwch.

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

VTCT NVQ Diploma mewn Therapi Harddwch

2

5 TGAU gradd C neu uwch

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

VTCT VRQ mewn Triniaethau Therapi Harddwch

3

Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol

Blwyddyn

Bannau

VTCT mewn Therapïau Cymhwysol

3

Cymwysterau lefel 2 mewn therapi harddwch neu therapïau Cyflenwol

Blwyddyn

Y Drenewydd

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau

22


Mae Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford wedi bod yn dathlu llwyddiant eu myfyrwyr Therapi Harddwch yn seremoni wobrwyo rithwir cystadlaethau Sgiliau Cymru yn ddiweddar. Yn ystod y ddwy rownd o Therapydd Harddwch (Dwylo ac Wyneb) ac ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) cymerodd dwy fyfyrwraig o Goleg Y Drenewydd fedalau adref gyda hwy. Diolchodd enillydd medal efydd, Ariyarnna Tidbury ei thiwtor cwrs Charlotte Smith am am ei chefnogaeth. "Diolch i'm tiwtor Charlotte a wnaeth fy annog yn fawr a rhoi hyder imi gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cymryd rhan gan ei fod yn gyfle anhygoel."

Ymatebodd Charlotte, "Rwy'n falch iawn bod Ariyarnna wedi derbyn medal Efydd, mae'n gyflawniad gwych iddi yn ystod blwyddyn heriol iawn." Arweiniodd ail ragras y gystadleuaeth ymarferydd Therapi Harddwch (Corff) at Lucy Lewis, myfyrwraig Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cymhwysol o Goleg Y Drenewydd yn ennill medal efydd. Dywedodd Lucy, "Rydw i ar ben fy nigon fy mod i wedi ennill medal am yr ail flwyddyn yn olynol yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru. Diolch enfawr i'm tiwtor, Lisa Brandon, sydd nid yn unig wedi dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i mi ond sydd hefyd wedi rhoi hyder i mi gystadlu mewn cystadlaethau fel hyn. Rwy'n edrych ymlaen at gystadlu mewn cystadlaethau yn y dyfodol."

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Byddwch yn llawn steil... gyda gyrfa mewn harddwch a therapi cymhwysol

23

Enillion blynyddol cyfartalog

Therapydd Harddwch £21k mewn salon Artist Coluro £40 yr awr (Llawrydd)

Perchennog Salon hyd at £100k Uwch Steilydd £30k - emsi

“Roeddem yn falch iawn o gael myfyrwyr Ariyarnna Tidbury a Lucy Lewis yn ennill medalau Efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni". Darlithydd, Lisa Brandon


Busnes a Rheolaeth Mae busnes a phynciau cysylltiedig megis cyllid, cyfrifeg, rheolaeth ac economeg ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Y rheswm am hyn yw bod galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd, bod busnes yn cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern bron iawn, a bod gyrfaoedd â gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn denu cyflog uchel. Mae'r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu'r sector llwyddiannus a deinamig hwn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd y diwydiant i sicrhau profiadau dysgu ysgogol a chadarnhaol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Rhagolygon gyrfa b Cyfrifeg

b Gweinyddu Busnes b Rheoli digwyddiadau b Cyfrifeg fforensig b Rheoli gwestai b Adnoddau dynol b Marchnata b Twristiaeth wledig b Brocer.

Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Mae'r myfyrwyr ar yr holl gyrsiau yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant gyrfaol.

Cewch eich cymell... gyda gyrfa mewn busnes, cyfrifeg a rheolaeth “Mae'r cwrs busnes wedi fy helpu i edrych ar fusnesau o wahanol safbwyntiau. Mae ymchwilio i fusnesau yn fanwl wedi helpu i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth gref. Mae cwblhau amrywiaeth eang o unedau wedi rhoi cipolwg i mi ar wahanol opsiynau gyrfa”. Chloe Preece.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r adran yn cynnig gweithdai wedi'u cynnal gan bobl fusnes brofiadol, ac mae cysylltiadau o'r radd flaenaf gyda busnesau lleol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o sut y caiff cwmnïau eu rheoli a'u rhedeg.

24


Llwyddiant Myfyrwyr

Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr Busnes Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd, sydd wedi ennill Cystadleuaeth Syniadau Busnes Llwybrau Positif Powys. Roedd y grŵp o fyfyrwyr Busnes ymhlith 50 o ymgeiswyr a gyflwynodd syniad busnes newydd i ateb y cwestiwn, "Pa fusnes fyddech chi'n ei sefydlu ym Mhowys a pham?" Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i ymgeiswyr ystyried cynnig busnes oedd yn cynnwys rhoi manylion y cwsmeriaid targed, y mathau o waith hyrwyddo i'w gwneud, staffio a'r materion y gallai fod angen eu goresgyn. O'r cystadleuwyr, cyrhaeddodd tri grŵp y rhestr fer a chael eu gwahodd i gyflwyno i banel o feirniaid ym mhencadlys Cyngor Sir Powys yn Llandrindod. Yna gwnaeth cyfanswm o naw beirniad, a oedd yn cynnwys Cynghorwyr Sir a rheolwyr busnes lleol herio'r grwpiau gyda chwestiynau ar eu cysyniadau busnes.

"Rwyf wedi cael nifer o gyfleoedd tra'n astudio yng Ngholeg Y Drenewydd, nid yw'n bosibl nodi un yn unig. Yn ystod semester cyntaf fy mlwyddyn agoriadol yn y Coleg, fe'm derbyniwyd i fynd i farchnad yn Ffrainc fel rhan o gydweithrediad rhwng y Coleg a Chymdeithas Gefeillio'r Drenewydd lle gwerthais nwyddau Cymreig i ddefnyddwyr Ffrengig. Yn ystod ail semester y flwyddyn gyntaf, ynghyd â thri myfyriwr arall, enillais Gystadleuaeth Busnes Llwybrau Positif Powys lle bu dros 50 yn cystadlu, ac roedd y profiad penodol hwn o gymorth i mi wrth wella sgiliau niferus megis fy ngwaith tîm, cynllunio a chyflwyno, y mae pob un ohonynt yn ofynnol ar gyfer cyflogaeth". “Rwy'n gobeithio mynd i'r brifysgol ym Manceinion i astudio 'Busnes a Chyllid'. Yn y dyfodol rwyf am weithio yn y diwydiant ariannol, yn bennaf fel cyfrifydd, felly rwy'n edrych ar theori AAT sydd hefyd yn cael ei addysgu yng Ngholeg Y Drenewydd". Ethan Smith

Cyrsiau Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Busnes gyda Chyfraith Gymhwysol

3

6 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith

2 Flynedd

Bannau

BTEC Diploma Cenedlaethol Estynedig mewn Busnes

3

6 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith

2 Flynedd

Y Drenewydd

BTEC Diploma Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth

3

6 TGAU Gradd C neu perthnasol uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith

2 Flynedd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyfrifydd £62k Rheolwr Marchnata £50k

Gweithredwr Teithiau £24k Cynllunydd Digwyddiadau £29k

*https://www.accountancyage.com/2018/04/18/salary-survey-2018-uk-accountants-earning-right-now/

25


Cyfrifiadura, Dylunio'r We a Gemau Gyda chyflogaeth yn y diwydiant TG a thelegyfathrebu yn tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf, mae TG a thechnoleg ddigidol yn prysur ddod yn un o'r gyrfaoedd sy'n denu'r tâl uchaf yn y DU. Yn 2018, tyfodd y diwydiannau 32% yn gyflymach na gweddill economi'r DU, gan greu cyfleoedd swyddi sy'n talu'n dda gyda 1.58 miliwn o swyddi ledled y DU. Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae ein holl gyrsiau amser llawn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn cyfrifiadura a TG. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau cyfrifiadura. Mae cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio fel: datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr y we ac e-fasnach, dadansoddwyr warws data, a dadansoddwyr systemau.

Mae'r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd gyfoes, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio NET, Java NetBeans, Brackets, BFXR, Audacity a Game Maker. Darperir pob un o’r cyrsiau mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer adeiladu PC a datblygu rhwydweithiau. Ar hyn o bryd, mae cyflawniad ar ein rhaglenni yn 99%, ac mae 100% o fyfyrwyr BSc yn cael gwaith mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis i raddio.

Byddwch yn archwilio sut mae TGCh yn cael ei defnyddio mewn diwydiant drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymarferol sy'n benodol i'r sector, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd cysylltiedig â gwaith.

Rhagolygon gyrfa

Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr ar gyrsiau Cyfrifiadura a TG yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ac o fewn Grŵp Colegau NPTC, gallwn gynnig graddau i'n myfyrwyr ar garreg eu drws. Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu raglen safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r HND mewn Cyfrifiadura (2 flynedd) ac yna'r BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura Cymhwysol (blwyddyn 3). I symud ymlaen i Addysg Uwch neu i gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau TGCh mae llawer o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau cyfrifiadurol. Ymhlith y sefydliadau sy'n cyflogi cyn-fyfyrwyr mae Fujitsu, CBSCNPT, The Good IT Company, DVLA, 15 Below, CGI, ALTech UK a Virgin Media. Sylwer os gwelwch yn dda os ydych yn ysytyried addysgu fel gyrfa, mae prifysgolion yn gofyn am TGAU gradd B neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth ac yn achos rhai cyrsiau Cyfrifiadureg, mae rhai prifysgolion yn gofyn am o leiaf gradd B mewn Mathemateg TGAU. Rhagolygon Gyrfa Posib: Dylunio a Datblygu Medalwedd/ Apiau, Dylunio a Datblygu Gemau, Dylunio a Datblygu'r We/ Dadansoddi Systemau, Datblygu/Gweinyddu Cronfeydd Data, Cymorth Technegol, Rhwydweithiau a Diogelwch.

Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa ym maes cyfrifiadura, dylunio ar y we ac apiau Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae gan ein darlithwyr ymroddedig brofiad o'r sector ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae'r gwersi'n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Gall y myfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn diwydiant.

Beth fyddaf yn ei wneud?

26


Llwyddiant Myfyrwyr

Cymerodd saith o fyfyrwyr Cyfrifiadura a TG hynod o dalentog ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar, gan ennill bron hanner y prif safleoedd yn y categorïau Seiberddiogelwch, Sgiliau Codio a Dylunio'r We. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy'n cael ei chyflwyno gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth mewn Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau, wedi'i chynllunio i godi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae'r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu'r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi'i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills UK.

 Arian, Seiberddiogelwch: Joshua Roberts  Arian, Seiberddiogelwch: Mitchell Wilkes  Efydd, Seiberddiogelwch: Alex Griffiths  Efydd, Seiberddiogelwch: Dylan Rogers  Arian, Sgiliau Codio: Dewi James  Arian, Dylunio'r We: Luke Wooley  Efydd, Dylunio'r We: Jamie Mellin

"Rwy'n hynod o falch o'r holl fyfyrwyr a fu'n cystadlu. Mae'n gyflawniad arbennig sy'n dangos y dalent sydd yma yng Ngrŵp Colegau NPTC ac mae hefyd yn tystio i'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan ein staff addysgu." Eira Williams Pennaeth Ysgol

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Diploma mewn TG

27

Lefel Gofynion Mynediad

1

Tystysgrif Estynedig mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol

2

Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn TG

3

2 TGAU (Gradd E neu F) 3 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith, neu Ddiploma Lefel 1 mewn pwnc perthnasol (Teilyngdod neu Ragoriaeth) 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith. Ymgeiswyr drwy gyfrwng Tystysgrif Estynedig Lefel 2 neu Ddiploma mewn pwnc perthnasol (Teilyngdod neu Ragoriaeth)

Hyd

Lleoliad

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Rhaglennydd Cyfrifiaduron 30k Technegydd TG £30k

Dadansoddwr Busnes £49k

Peiriannydd Meddalwedd £32k Pensaer Systemau £50k

Technegydd Cymorth Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £19k

Gweithredydd Cyfrifiaduron £23k

Gweinyddwr Systemau, Cyfrifiaduron / Rhwydwaith £26k Arbenigwr Cymorth Technegol £24k Peiriannydd Diogelwch Rhwydwaith £36k

(https://www.payscale.com & https://www.findCyrsiau.co.uk/inspiration/average-salaries-uk/average-uk-salary-2019-15395 )


Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Adeiladu'r Dyfodol

Bydd cyfres newydd o gymwysterau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well. Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi’ch paratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o'r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen at waith o addysg.

Sgiliau Adeiladwaith (Aml-Grefft - Cyn Sylfaen)

Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig Mae Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig yn gymhwyster newydd sbon lle rydych yn astudio dau brofiad crefft o'r canlynol:  Gweithio gyda brics, blociau a cherrig  Galwedigaethau pren  Paentio ac Addurno  Plastro a systemau mewnol  Teilsio waliau a lloriau

Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr y coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol ac yn ddifyr ac yn gallu cael y gorau allan o'r myfyrwyr. Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch yn eich dewis lwybr. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesu

I gyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau:  Un prawf amlddewis sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn allanol  Un prosiect yn cwmpasu dau faes crefft, sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol  Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi'i gosod yn allanol, a'i marcio yn fewnol  Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi'i osod yn allanol, a'i farcio yn fewnol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Sgiliau Adeiladwaith Lefel 1 yn gwrs amser llawn, addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith. Mae'r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a diogelwch, a sesiynau ymarferol a theori o rai o'r canlynol yn dibynnu ar y Coleg o'ch dewis Gosod Brics, Plastro, Gwaith Saer, Peintio neu Deilsio.

Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.

28


Llwyddiant Myfyrwyr

Mae'r Ysgol Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig ar ben ei digon, gan i'w chasgliad o fedalau gyrraedd ffigyrau dwbl yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar. Enillwyd medalau aur ym mhob un o'r pedair crefft a gynigir yn y Coleg gan gynnwys y myfyriwr Peintio ac Addurno Paul Mason, Kellan Marney o Waith Brics, y Plastrwr Johnny Donaldson a'r saer benywaidd Sammy Young.

Dilyniant

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladu neu'r amgylchedd adeiledig ynghyd â gwybodaeth a sgiliau rhagarweiniol mewn dau lwybr o’ch dewis. Mae'r cymhwyster yn darparu'r wybodaeth i symud ymlaen i astudiaeth bellach:  Dilyniant mewn Adeiladwaith Lefel 2 (Amser llawn) - City & Guilds  Adeiladwaith Lefel 3 Dwy flynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds  Adeiladwaith Lefel 3 Tair blynedd (Prentisiaeth Ran-amser) - City & Guilds

Yna daeth medalau arian i Thomas Morgan, Gwaith Saer, Kian Brown, Plastro a Craydon Rive o Waith Brics ac yna Efydd gan Mai Ball mewn Peintio ac Addurno, Thomas Johns o blastro a'r saer Dafydd Jenkins. Enillwyd deg medal anhygoel i gyd, gan wneud y canlyniadau hyn y gorau y mae'r ysgol wedi'u cyflawni erioed. Mae Cystadlaethau Sgiliau yn ffordd wych o ymestyn a herio myfyrwyr y tu hwnt i'w gwaith cwrs. Mae'r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth yn y sector yn eu dewis grefft.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster? Mae'n addas ar gyfer:  Dysgwyr 16+ oed sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig neu'n bwriadu gwneud hynny. Gweithwyr safleoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol.  Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyflawni, neu fod yn gweithio tuag at eu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol eraill ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

29

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Tystysgrif mewn Adeiladwaith (Aml-Grefft / Cyn-sylfaen)

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Bannau Y Drenewydd

Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig

2

TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch.

Blwyddyn

Bannau Y Drenewydd

DEWISWCH O DDAU BROFIAD CREFFT ISOD:

Gwaith Brics / Adeiladwaith Sifil

Bannau Y Drenewydd Bannau Y Drenewydd

Peintio ac Addurno / Teilsio Waliau a Lloriau

Y Drenewydd

Gwaith Coed a Gwaith Saer/Toeon

Enillion blynyddol cyfartalog

Briciwr £52k Saera Gweithiwr Coed £50k Plastrwr £48k Teilswr Waliau a Lloriau £48k

Rheolwr Safle £60k Rheolwr Prosiect £70k Peiriannydd Sifil £70k


Peirianneg Bydd gyrfa mewn peirianneg yn cynnig cyflog ardderchog, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad yn y swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich roi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant.

a reolir gan gyfrifiadur mewn melino a thurnio, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D. Mae ein gweithdy hydroleg a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau prawf hanfodol sy'n hanfodol ar gyfer profi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau at ddefnydd diwydiannol.

Byddwch yn ennill sgiliau eraill ehangach ar gyfer cyflogadwyedd, sef Saesneg, Mathemateg a TG, sgiliau dysgu personol a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Mae'r rhain yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr a byddant yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol mwy cyflawn a chyflogadwy. Mae ein perthynas agos gyda'r diwydiant yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi'r hyfforddiant gorau posibl i chi.

SAERNÏO A WELDIO Mae ar y diwydiant weldio a saernïo angen pobl fedrus iawn, a cheir llawer o gyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, cynnal a chadw peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Rhagolygon gyrfa

b Cysylltiadau cryf gyda dros 100 o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol b Cyfleoedd dilyniant gwych i'r brifysgol a rhaglenni prentisiaeth ardderchog b Cyfleusterau peirianneg gwych o'r radd flaenaf b Cyrsiau yn cyfateb i safonau'r diwydiant i fodloni'r sgiliau sydd eu hangen b Sector diwydiant sy'n tyfu, y mae galw mawr amdano.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

PEIRIANNEG FECANYDDOL/CYNNAL A CHADW Mae Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw yn cynnwys nifer o wahanol lwybrau gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae Peirianwyr Mecanyddol/ Cynnal a Chadw yn defnyddio'r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi cydrannau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau. Mae ein gweithdai a'n hystafelloedd dosbarth at y diben i safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar a chyfrifiaduron o'r radd flaenaf. Mae'r gweithdai yn cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar wahân yn cynnwys Peiriannau Rhifiadol Haas (CNC) soffistigedig

Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a'ch tywys drwy sgiliau sylfaenol y diwydiant hwn a byddwch yn dysgu sut mae weldio yn integreiddio i mewn i system beirianneg. Mae ein gweithdai saernïo a weldio a adeiladwyd yn bwrpasol at safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar o ansawdd uchel, sy'n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio yn cynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA) a Pheiriannau Plasma a reolir gan gyfrifiadur (CNC) Profi Dinistriol/Annistrywiol (DT/NDT).

30


Curtis Rees

Sam Cottrell

Llwyddiant Myfyrwyr

Sam Cotrell – Y Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol Sam Cottrell yw’r ‘Gorau yng Nghymru’ yn erbyn 40+ o Fyfyrwyr/Cystadleuwyr o’r 12 Coleg AB yng Nghymru a darparwyr dysgu eraill fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae Sam wedi sicrhau lle yn Sgwad Cymru a bydd bellach yn cystadlu yn erbyn enillwyr medalau eraill y Deyrnas Unedig yn uniongyrchol ar gyfer y safle #1 i gynrychioli’r DU yn erbyn gweddill y byd. Curtis Rees Prentis Weldio - Afon Engineering Roedd Curtis Rees, prentis weldio o Goleg Castell-nedd ymhlith y bobl ifanc â’r sgiliau gorau yn y wlad a gafodd eu cydnabod yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills y llynedd (2019). Curtis, sydd o Resolfen, yw’r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur bwysig wrth iddo ddod i’r brig

yn ei ddisgyblaeth yn yr NEC yn Birmingham. Roedd y gystadleuaeth fawreddog yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau i gael eu coroni’n oreuon y DU mewn llwybr galwedigaethol. Cyflawnodd Curtis sgôr gyffredinol o 92.25% allan o 100 i hawlio ei fedal aur, y gyntaf i Grŵp Colegau NPTC mewn unrhyw gystadleuaeth genedlaethol. Roedd Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith Hyfforddiant Pathways, Alec Thomas wrth ei fodd â llwyddiant Curtis a dywedodd: “Mae brwdfrydedd Curtis dros weldio ac am WorldSkills UK yn heintus ac mae eisoes yn annog prentisiaid newydd i gymryd rhan. Mae hyn yn wych i’r diwydiant a busnesau lleol, a bydd yn helpu i gefnogi datblygiad cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn yr ardal.” Mae gan Curtis gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol. Mae ennill y fedal aur wedi agor drysau iddo, ond mae ganddo ddyheadau i redeg ei fusnes ei hun ym maes weldio strwythurol, lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad.

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Peirianneg (Mecanyddol/Weldio)

2

BTEC Uwch mewn Peirianneg

3

4 TGAU gradd A*-D yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. 5 TGAU gradd A*-C gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, Diploma 90 Credyd mewn Gwyddoniaeth a 2 o'r canlynol: Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Peirianneg â MM yn gyffredinol, teilyngdod mewn Mathemateg Peirianneg a TGAU Mathemateg gradd C/4 neu uwch.

Lleoliad

Blwyddyn

Y Drenewydd

2 Flynedd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Peiriannydd Iau/Graddedig £30k Uwch Beiriannydd/Rheolwr £47k Cyfarwyddwr neu uwch £72k Weldiwr £16k - £31k

Cemegolion a Fferyllol/ Meddygol £50k

Sectorau Peirianneg y DU

Bwyd a Diod/Nwyddau Defnyddwyr £48k

Modurol £48k

Amddiffyn a Diogelwch/Morol £47k Ynni/Adnewyddadwy/Niwclear £52k

Olew a Nwy £53k 31

Hyd


Astudiaethau Sylfaen Mae ein rhaglenni sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau allweddol o ran byw'n annibynnol, iechyd a llesiant, y gymuned a chyflogadwyedd drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r cyrsiau a gynigir yn amser llawn neu'n rhanamser ac mae gan y staff sy'n eu darparu ystod eang o arbenigedd galwedigaethol yn ogystal â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pob cwrs yn cynnwys amserlen strwythuredig, cymorth astudio, ystafelloedd ymlacio/ tawel, gweithgareddau cyfoethogi a chyflwyniad i fywyd yn y Coleg ac Addysg Bellach. Mae'r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, ac o'r safbwynt hwn daw mwy o hyder a sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar gyfer dysgu a bywyd.

Mae ein myfyrwyr yn creu siopau sydyn a mentrau symudol ac yn sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin cysylltiadau â sefydliadau cyflogaeth â chymorth. Mae myfyrwyr yn cynnal asesiad cychwynnol o anghenion addysgol a sgiliau bywyd yn ystod y broses bontio a sefydlu. Mae tiwtoriaid wedyn yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu nodau tymor hir a thymor byr - ac wedyn cytunir ar dargedau a llwybrau addas ar gyfer dilyniant a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Mae ein cyrsiau'n cynnig cyflwyniad i'r Coleg i ddysgwyr a chyfleoedd i flasu gwahanol feysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, garddwriaeth ac arlwyo a bydd dysgwyr wedyn yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am lwybrau dilyniant yn y dyfodol. Aeth dros 95% o fyfyrwyr ymlaen i gyrsiau astudiaethau sylfaen ar lefelau uwch, cyrsiau prif ffrwd yn y Coleg, cyflogaeth â chymorth neu wasanaethau gwirfoddol.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a gynigiwn. Mae'n bosibl rhoi cynnig ar lawer o wahanol bynciau yn dibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi'n ei fwynhau, beth ydych chi'n dda yn ei wneud a'ch helpu gyda'ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a'ch cyflymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o'r cwrs a, thrwy gymorth dysgu a thiwtorialau, rydym yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o anghenion. Mae'r staff yn athrawon cymwysedig, profiadol sydd â sgiliau arbenigol i gyflwyno'r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar. Rydym yn cynnal digwyddiadau cyflogadwyedd a

dilyniant gyda chyflogwyr ac asiantaethau cymorth. Mae'r ysgol yn cynnal nifer o weithgareddau menter a gwirfoddoli ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys cystadleuaeth sgiliau Cymru, twrnameintiau chwaraeon ILS ac, yn ddiweddar, Shed of the Year, Channel 4.

32


Cyrsiau Cyrsiau Amser Llawn

Gofynion Mynediad

Lleoliad

Sgiliau Bywyd

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Bannau/Y Drenewydd

Sgiliau Gwaith

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Bannau/Y Drenewydd

Samplo Galwedigaethol

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond rhaid dangos awydd i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd dysgu yn y cyfweliad.

Bannau/Y Drenewydd

Paratoi Galwedigaethol a Phorth i Addysg Bellach

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn drwy gyfrwng proses ymgeisio a chyfweld y Coleg. Mae angen i ddysgwyr allu dangos eu bod yn gallu gweithio ar lefel Mynediad 3 o leiaf cyn y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr etheg gwaith cadarnhaol a diddordeb mewn datblygu sgiliau. Mae'r cwrs yn cynnwys crefftau ymarferol, y celfyddydau perfformio, arlwyo, TG a chwaraeon.

Bannau/Y Drenewydd

Porth Lefel 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Graddau TGAU E/F neu gwblhau cymwysterau Mynediad 3 yn llwyddiannus.

Y Drenewydd

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

a Pharatoi Galwedigaethol

33

Byddwch yn ysbrydoledig... gyda gyrfa mewn astudiaethau sylfaen


Garddio a Garddwriaeth Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy'n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir. Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyflogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi'u hyfforddi ym Mhrydain.

Mae gwersi'n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio'r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profiad gwaith, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y flwyddyn!

Rhagolygon gyrfa b Gwaith planhigfa

b Canolfannau garddio manwerthu

b Dylunio gerddi

b Lluosogi planhigion

b Gofal tir

b Cynhyrchu planhigion

b Tirlunio

b Cynnyrch organig

b Gwyddoniaeth

b Addysg

b Meddyg coed

b Hunangyflogaeth.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Bannau / Y Drenewydd

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn garddwriaeth

Blwyddyn

Bannau / Y Drenewydd

Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith

3

Cymhwyster lefel 2 mewn Garddwriaeth neu brofiad priodol.

Blwyddyn

Bannau / Y Drenewydd

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda'n cyfleusterau gwych sy'n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi'u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau'r profiad awyr agored go iawn. Mae'r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd Fedal Aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.

Beth fyddaf yn ei wneud?

34


Arloesi newydd - Wal Letys yng Ngholeg y Drenewydd Mae Coleg Y Drenewydd yn dangos eu bysedd gwyrdd wrth iddo gyflwyno cwrs Garddwriaeth newydd. Mae'r ychwanegiad newydd cyffrous hwn wedi dod â chydweithrediad newydd gyda Cultivate, a menter newydd wrth gyflwyno wal letys i Gyntedd Coleg Y Drenewydd.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae ychwanegiad trawiadol y twr letys yng nghyntedd Coleg Y Drenewydd yn rhan o'r prosiect Cylch Cnydau, system Farm Urban i drin letys a llysiau gwyrdd eraill gan ddefnyddio system o dyrau fertigol heb bridd. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno CEA tyfu dan do o gnydau bwyd i mewn i gymunedau. Er ein bod yn byw mewn amgylchedd gwledig, mae ffyrdd

35

Enillion blynyddol cyfartalog

newydd o feithrin planhigion, gan ddefnyddio'r hyn a elwir yn hydroponeg, yn chwyldroadol ac yn tyfu mewn poblogrwydd. Mae bwyd lleol, wedi'i dyfu'n gynaliadwy, yn gwbl allweddol wrth fynd i'r afael â materion pwysig sy'n ymwneud â'n system fwyd, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Dywedodd Richard Edwards, rheolwr prosiect Cylch Cnydau Cultivate: "Maen nhw'n blasu'n wych, yn faethlon iawn ac yn hynod ffres, ymwelwch â'n Deli yn Y Drenewydd i roi cynnig arnyn nhw eich hun!"

Diwydiant garddio a garddwriaethol £30k - £60k 2,384 o swyddi yng Nghymru erbyn 2024 (Gyrfa Cymru)


Trin Gwallt Croeso i Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, y cyntaf a o'i math a'r unig un yng Nghymru. Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae'r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profiadol ein hunain. Byddwch yn dysgu 'ryseitiau' sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ac sy'n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o'r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae'r rhain yn hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol na allwch eu cael yn unrhyw le arall. Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn hyd at 22 o sgiliau a thechnegau sylfaenol y byddwch yn eu dysgu i'r hyn y mae Lee yn ei alw'n 'safon Michelin'. Unwaith y byddwch wedi meistroli'r technegau hyn, cewch eich annog i ddefnyddio eich creadigrwydd yn rhydd.

Rydyn ni'n anelu at sicrhau bod ein myfyrwyr trin gwallt a gwaith barbwr gyda'r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad, felly os ydych chi o ddifri am wallt, Grŵp Colegau NPTC yw'r lle i chi!

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu. Wedi cyrraedd lefel 3, byddwch yn cyflawni sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae'n rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf un diwrnod yr wythnos neu bythefnos gyfan ynghyd â sesiwn fasnachol gyfnos/gyda'r hwyr yn y Coleg.

Rhagolygon gyrfa

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant gwallt yn cynnig cyfleoedd gwych gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn a gweithio y tu ôl i'r llenni mewn ffilm, theatr a theledu. Mae hefyd yn cynnig yr annibyniaeth i ddechrau eich salon eich hun. b Gwaith barbwr b Technegwyr lliw b Perchennog salon b Uwch steilydd b Triniwr gwallt priodas b Gweithio ar fordeithiau.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Gellir profi'r sgiliau hyn mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda myfyrwyr Academi Lee Stafford eraill mewn colegau AB ledled y DU yn ystod y flwyddyn academaidd.

Beth fyddaf yn ei wneud?

36


"Yr hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan Academi Lee Stafford yw ryseitiau o ansawdd da sy'n hawdd ac yn arbennig o effeithiol, y gallwch eu defnyddio i fynd allan i'r byd mawr a chael swydd wych."

Lee Stafford

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

37

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Cyflwyniad i Wasanaethau Gwallt a Harddwch

1

2 TGAU gradd D neu uwch

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

VTCT Diploma mewn Trin Gwallt Menywod

2

Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt, a 2 TGAU gradd D neu uwch

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

VTCT VRQ Diploma mewn Trin Gwallt

3

18 oed neu drosodd ac wedi cyflawni'r Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Atebion creadigol Trin Gwallt Carlam

1/2

2 TGAU neu gyfweliad llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr aeddfed.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Perchennog Salon hyd at £100k Uwch Steilydd £30k - emsi Triniwr Gwallt Priodasau £34 - £50 y person (heb gynnwys treialon) Barbwr Gall barbwr proffesiynol ennill cymaint â £1,000 yr wythnos https://www.londonschoolofbarbering.com/much-can-barber-make/


Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o'r diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr ym maes gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant.

Rhagolygon gyrfa

Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo.

Mae'r holl fyfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith perthnasol gyda ffocws ar sgiliau cyflogadwyedd a gwella rhifedd a llythrennedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gwblhau cwrs cyfathrebu iaith Gymraeg a gwella eu sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian. Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith elusennol a chodi arian drwy gydol y flwyddyn ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.

Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol. Mae llawer yn camu ymlaen i'r nifer fawr o raglenni gradd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau gweithio.

Enillion blynyddol cyfartalog

Nyrsio Plant, Oedolion, Iechyd Meddwl £25k - £48k Gwaith Cymdeithasol £23k - £47k

Therapydd Iaith a Lleferydd £24k - £49k Therapi Galwedigaethol £21k - £41k

“Gwnaeth y Coleg fy nghyflwyno i lawer o bynciau oedd o ddiddordeb mawr i mi, gan hybu fy nhyder a helpu gyda fy ngwaith tîm’’ Ffion Jones.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

O fewn y cyrsiau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd unedau dwyieithog ar gael i fyfyrwyr.

38


Llwyddiant Myfyrwyr

Mae'r myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffion Jones wedi ennill y Categori Galwedigaethol yn y Gwobrau Addysg Prydain (BEA) clodfawr. Hi oedd y fyfyrwraig gyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill yn y gwobrau. Mae'r BEA yn nodi ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn system addysg Prydain. Wrth wneud hynny, mae'r gwobrau hyn yn cydnabod mai ymdrech a phenderfyniad personol sy'n arwain at lwyddiant.

Enillodd Ffion y wobr o ganlyniad i'w chanlyniadau academaidd gwych a'i llwyddiant allgyrsiol. Cyfunodd astudio gyda dwy swydd ran-amser yn ogystal â bod yn Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia, codi arian i'r Gymdeithas Alzheimer, a bod yn Arweinydd Cadetiaid yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys. Yn ystod ei hamser fel cadet yng Nghanolfan Sant Ioan, Y Drenewydd, mae hi wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith yng Nghartref Nyrsio Bethshan ac Ysbyty'r Drenewydd. Yn ogystal â hyn, mae hi rywsut wedi dod o hyd i'r amser i gwblhau gwobrau efydd ac arian Dug Caeredin ac ennill Rhagoriaeth Serennog Driphlyg gyda phresenoldeb o 100% yn ei BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cyrsiau

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

39

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

2

2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg/Mathemateg a Gwyddoniaeth

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

3

5 TGAU gradd C mewn Mathemateg, Saesneg Iaith neu Wyddoniaeth

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Egwyddorion a Chyd-destunau

2

2 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth

Blwyddyn

Y Drenewydd

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

3

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Saesneg Iaith.

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

3

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg amser llawn am o leiaf 3 mlynedd, Bydd angen i fyfyrwyr gyflawni cyfweliad llwyddiannus.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Mynediad i AU - Gofal Iechyd

Byddwch yn feithringar... gyda gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant


Celfyddydau Perfformio Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu'r Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio wedi'u lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd.

Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Theatr Hafren. Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a'r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicaf oll, maent yn gyflogadwy iawn – rydym yn anelu at helpu nhw i fod yn barod am yrfa!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae ein cyrsiau yn darparu cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn dawns, drama, canu a theatr gerddorol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Theatr Hafren sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol.

Rhagolygon gyrfa

b Actor b Gweinyddwr y celfyddydau b Coreograffydd b Dawnsiwr b Perfformiwr theatr gerddorol b Hyfforddwr Pilates/Ioga b Sgriptiwr b Athro b Cyfarwyddwr theatr.

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyfarwyddwr Celf £23k - £59k Dylunydd Cynnyrch £19k - £46k Actor, Cyflwynydd, Diddanwr £24k - £66k Er yn ôl cylchgrawn Forbes enillodd George Clooney $239 miliwn yn 2018 - Emsi

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

2

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol. Blwyddyn Y Drenewydd

Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio

3

5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.

Llwyddiant Myfyrwyr

Datblygodd y myfyriwr Celfyddydau Perfformio o Goleg y Drenewydd Joe Jones ei ddoniau cerddorol yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi lansio ei albwm ei hun. Cyflwynwyd Joe i gerddoriaeth yn ifanc gan ei dad sydd hefyd yn gerddor. Fodd bynnag, roedd wedi cyrraedd ei arddegau cyn iddo ddechrau cymryd mwy o ddiddordeb mewn chwarae. Dechreuodd fwynhau cerddoriaeth yn fwy a chyda chyngor a thiwtorialau o'r rhyngrwyd cafodd y rhyddid i fod yn greadigol a datblygu ei arddull ei hun.

2 Flynedd Y Drenewydd

Yn ystod y cyfnod clo, daeth Joe o hyd i fwy o amser i fod yn fyfyriol o safbwynt ei gerddoriaeth a'r hyn oedd yn digwydd yn y byd o'i gwmpas. Recordiwyd yr albwm "We Were Just There" gartref gan ddefnyddio ei gyfrifiadur personol yn unig - gweithfan sain ddigidol, gitâr a phiano. Dywedodd y darlithydd Elizabeth Hebden: "Mae talentau Joe wedi creu cymaint o argraff arnom i gyd ac rydym yn falch o'i ymroddiad i archwilio'r cyfrwng hwn, gan ychwanegu elfen arall at ei allu fel artist."

“Rwyf wedi sicrhau lle ar y cwrs Tystysgrif Sylfaen yn LIPA, Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl. Rwy'n teimlo bod Coleg Y Drenewydd wedi fy nysgu sut i sianelu fy nghreadigrwydd. Rydw i wedi bod yng nghwmni unigolion eiddgar, creadigol a chefnogol. Dros y 2 flynedd ddiwethaf rwyf wedi cael y tiwtoriaid GORAU sydd wedi bod mor ymroddedig a gweithgar, hebddyn nhw ni fyddwn yn cymryd y cam nesaf hwn yn fy mywyd”. Josh Owen.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

UAL Celfyddydau Perfformio

40


Plymio a Gosodwaith Trydanol Adeiladu'r Dyfodol

YM Medi 2021, cafodd cyfres newydd o gymwysterau eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well. Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi ymbaratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o'r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r Cymhwyster Sylfaen ar gyfer Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn gymhwyster newydd sbon lle rydych chi'n astudio dau brofiad crefft: b Plymio a Gwresogi Domestig b Systemau ac offer electro-dechnegol (Gosodwaith Trydanol)

41

Mae gan y diwydiant Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.

Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Er y byddwch yn astudio crefft drydanol a chrefft blymio yn y lle cyntaf, byddwch yn dewis un llwybr nes ymlaen. Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch mewn plymio a gosodwaith trydanol. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesu

I gyflawni'r cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn cyflawni ystod o brosiectau a osodir yn fewnol ac yn allanol, trafodaethau a arweinir a phrofion amlddewis.

''Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o'n gorau ar gyfer canlyniadau uchel mewn arholiadau." Darlithydd, James Seddon “Mae gan y coleg staff anhygoel, pobl anhygoel, rydw i wrth fy modd yno, Nid yw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa neu ddysgu rhywbeth newydd.” Monika Dent

Chwilio NPTC Group


Dilyniant

Gallwch symud ymlaen i raglen amser llawn ail flwyddyn yn y ddau faes crefft neu sicrhau prentisiaeth fel plymwr neu drydanwr a datblygu'ch astudiaethau gyda ni ar hyd un llwybr penodol.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Mae'n addas ar gyfer: Dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio yn y sectorau gwasanaethau peirianneg adeiladu ac adeiladwaith neu'n bwriadu gweithio ynddynt.

Gweithwyr safleoedd sydd am ehangu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol. Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyflawni, neu fod yn gweithio tuag at eu Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol eraill ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

2

TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch.

1-2 flynedd

Y Drenewydd

Diploma mewn Astudiaethau Plymio (Plymio a Gwresogi)

2

TGAU mewn Saesneg / Cymraeg, Mathemateg / Rhifedd A*-C.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Diploma mewn Gosodwaith Trydanol

2

TGAU mewn Saesneg / Cymraeg, Mathemateg / Rhifedd a Gwyddoniaeth A*-D.

Blwyddyn

Y Drenewydd

Peirianneg Gwasanaethau Trydanol (Gosodwaith a Chynnal a Chadw Trydanol)

3

5 TGAU ar radd C neu uwch

Blwyddyn

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog (Emsi - economicmodeling.com)

Plymiwr £19k - £37k Trydanwr £16k - £38k Gosodwr Paneli Solar £25k - £30k

Byddwch yn ymarferol ... gyda gyrfa mewn plymio, ynni trydanol a solar

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cymhwyster Sylfaen mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu

42


Coginio Proffesiynol, Celfyddydau Coginio, Lletygarwch a Bwyty A oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar longau mordeithio, cychod hwylio moethus, gwestai rhyngwladol neu mewn bwytai seren Michelin? Neu efallai y byddwch am sefydlu eich busnes lletygarwch eich hun. Dim ond rhai o'r cyfleoedd a gynigir i chi yn y diwydiant lletygarwch yw'r rhain.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Y diwydiant lletygarwch a'r celfyddydau coginio yw un o'r diwydiannau mwyaf yn y DU, gyda chyfoeth o gyfleoedd swyddi ar gael gartref a thramor. Mae llwybrau gyrfaol yn cynnwys cogyddion, gweini bwyd a diod, rheoli gwestai, rheoli digwyddiadau, rheoli bwytai, pobyddion a chogyddion patisserie, arlwyo contract, datblygu cynnyrch a gweithgynhyrchu bwyd.

43

Mae'r Coleg yn cynnal bwyty hyfforddi prysur sy'n cynnig y lefel uchaf o wasanaeth i'r cyhoedd: Themâu. Mae'n darparu theatr fwrdd, gwasanaeth arian a rhost y dydd, wedi'i gerfio wrth y bwrdd ar ein troli arian. Mae pob un o'n safleoedd yn darparu amrywiaeth o gynnyrch lleol gan gynnwys cig eidion ac oen a fagwyd ar fferm y Coleg a llysiau a pherlysiau a dyfir gan yr adran garddwriaeth.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol o weithio yn y ceginau proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith bywyd go iawn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Byddwch yn dysgu oddi wrth staff sefydledig a phrofiadol sy'n gymwysedig ym mhob agwedd ar y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.

Rhagolygon gyrfa

Os ydych yn chwilio am yrfa 'ymarferol' gyda chyfleoedd cyflogaeth rhagorol, yna mae lletygarwch yn sicr yn yrfa i chi. Mae gennym gysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol a rhyngwladol, ac mae llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â chyflogaeth ran-amser ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Mae gan y Coleg enw da am gynhyrchu myfyrwyr hynod brofiadol a chymwysedig sy'n cael cydnabyddiaeth dro ar ôl tro mewn cystadlaethau coginio ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd i swyddi ledled y byd yn ogystal â rhai yn cael uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.

“Rwyf wedi gweld cyfleusterau ac ymroddiad y staff yn anhygoel.” Harry Reeves.

Chwilio NPTC Group


Llwyddiant Myfyrwyr

Y fyfyrwraig Paratoi Galwedigaethol a Phorth i Addysg Bellach Emma Bennett, enillydd medal Efydd yng nghystadleuaeth 'Paratoi Bwyd' Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd

1

Yn amodol ar gyfweliad

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G NVQ Tystysgrif mewn Sgiliau Becws a Lletygarwch

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd

2

Cymhwyster arlwyo Lefel 1 neu TGAU priodol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G VRQ Diploma Lefel 2 mewn Pobi Proffesiynol (Patisserie a Melysion)

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G NVQ Diploma mewn Sgiliau Lletygarwch

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn pwnc perthnasol neu brofiad perthnasol

Blwyddyn

Y Drenewydd

C&G NVQ Coginio Proffesiynol Uwch

3

Cymhwyster Lefel 2 neu brofiad perthnasol

Blwyddyn

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog (Prospects.ac.uk)

Cogydd Commis £12k - £16k Cogydd Sous hyd at £30k Prif Gogydd £25k - £55k Pobydd £14k - £23k (£37k yn Llundain)

Rheolwr Digwyddiadau £33k - £40k+ Rheolwr Bwyty Bwyd Cain £22k - £40k

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Cyflwyniad i Letygarwch Agored

44


Gwasanaethau Cyhoeddus Mae'r Sector Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cynnwys llawer o broffesiynau sy'n amddiffyn ac yn gwasanaethu'r boblogaeth ledled y byd. O achub dringwyr fel rhan o'r tîm Achub Mynydd, cael eu defnyddio yn y fyddin fel meddyg neu fynd i safle damwain fel parafeddyg, heddwas neu ddyn tân, mae'r gweithwyr proffesiynol hyfforddedig hyn yn barod ar gyfer gwasanaeth gweithredol mewn unrhyw argyfwng. Mae llawer o'r darlithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod ar ddyletswydd weithredol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol, eu teithiau a'u gweithgareddau i'ch ymgysylltu a sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'r nifer fawr o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Mae'r adran yn cynnal ymweliadau addysgol ar draws y wlad i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd posibl sydd ar gael yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, gan roi i fyfyrwyr ein hethos o 'fwy nag addysg yn unig'.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Beth fyddaf yn ei wneud?

45

Astudiwch yn amser llawn ar y gwahanol gampysau, gan gwblhau eich prif gwrs gan gynnwys llawer o asesiadau rhyngweithiol ac ymarferol, ynghyd ag ymgysylltu â'r llu o weithgareddau sydd ar gael ar draws y campysau.

mae mawr eu hangen er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gellir addysgu rhai modiwlau o'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

Coleg Y Drenewydd

Ar gampws y Drenewydd gall y myfyrwyr astudio o'r cwrs cyfun L1 hyd at gwrs L3 UPS sy'n cynnwys y Lefel Uwch ym Magloriaeth Cymru. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cael eu hysgogi gan amrywiaeth o ddulliau addysgu ac yn yr un modd â Bannau Brycheiniog gallant ddefnyddio'r cefn gwlad o'u hamgylch ar gyfer eu halldeithiau niferus ac ymweliadau a phrofiadau â'r gwasanaethau brys lleol. Mae staff yn meithrin eu datblygiad ac mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch neu yrfaoedd addas yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.

Cyfleoedd Gyrfa b Byddin b Gwasanaethau brys b Llynges b Yr Awyrlu Brenhinol

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae Coleg Bannau Brycheiniog wedi'i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, amgylchedd anhygoel i fyfyrwyr ymwneud ag ystod eang o weithgareddau gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â'u cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhelir ymweliadau addysgol a theithiau er mwyn defnyddio harddwch naturiol yr ardal, o sesiynau arwain i adeiladu tîm a thasgau addysg awyr agored. Trefnir ymweliadau â gwasanaethau brys lleol er mwyn cryfhau gwybodaeth y dysgwyr a datblygu'r sgiliau y

b Gwylwyr y Glannau b Gwasanaeth tân b Swyddog yr Heddlu

Enillion blynyddol cyfartalog

Swyddog y Fyddin £20k Diffoddwr Tân £21k - £36k Parafeddyg £36k Swyddog Heddlu £25k (Cyflog cychwynnol)

Chwilio NPTC Group


Ymuno â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Yn ddiweddar croesawodd Coleg y Drenewydd Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn. Ymunodd y Comisiynydd Troseddu â chydweithwyr o'r Uned Plismona Ffyrdd gan ddarparu sesiwn holi ac ateb gyda myfyrwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Yna, aeth i ymweld â myfyrwyr o'r adran Porth i Addysg bellach a gwelodd y gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar ar y cyd â Chwnstabl Jennings, heddwas lleol. Gwnaethon nhw greu arddangosiad trawiadol iawn i ymgyrchu yn erbyn troseddau casineb. Bu'r grŵp hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn adran cyfryngau'r Coleg i greu ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o

faterion yn ymwneud â throseddau casineb. Siaradodd y Comisiynydd yn gadarnhaol iawn am eu gwaith da, gan atgyfnerthu'r negeseuon a gwerth yr ymgyrch. Yna, aeth y Comisiynydd i ymweld â Theatr Hafren sydd wedi'i lleoli yng Ngholeg y Drenewydd. Gwelodd drosto'i hun y defnydd a wneir o'r cyfleusterau a oedd yn cael eu defnyddio ar y pryd gan Wasanaeth Gwaed Cymru, ffaith a oedd yn tynnu sylw at y rôl amlbwrpas y mae'r theatr yn ei chyflawni. Aeth Sara Clutton, Rheolwr y Theatr hefyd â'r Comisiynydd ar daith o amgylch y lleoliad gan ddangos ardal y llwyfan iddo a thaith nid i'r rhai gwan eu calon i ben y tŵr hefan.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa BTEC Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

BTEC Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai a CBC

Hyd

Lleoliad

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol.

Blwyddyn

Y Drenewydd

2

Amrediad priodol o gymwysterau TGAU A*-E neu Gymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

Blwyddyn

Bannau/ Y Drenewydd

3

Cymwysterau TGAU mewn pynciau penodol yn ôl y gofyn a/neu Gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.

2 Flynedd

Bannau / Y Drenewydd

Gellir dysgu rhai modiwlau trwy gyfrwng Cymraeg a bydd myfyrwyr yn gallu cwblhau asesiadau yn ddwyieithog pan fo hynny'n bosibl.

Byddwch yn ddewr ... gyda gyrfa yn yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r lluoedd arfog

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

BTEC Tystysgrif Gyfun mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Lefel Gofynion Mynediad

46


Chwaraeon

Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol. Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydedd rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o gampau yn cynnwys Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis. Rydym yn falch o'n canlyniadau rhagorol, a hynny ar y cae chwaraeon ac oddi arno a'r addysgu o ansawdd uchel sy'n sylfaen i’n llwyddiant. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae adran chwaraeon y Coleg yn ymgorffori’n harwyddair 'mwy nag addysg yn unig'. Mae gan lawer o'r staff chwaraeon brofiad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy'n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon myfyrwyr.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Beth fyddaf yn ei wneud?

47

Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.

Coleg Bannau Brycheiniog

Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astro turf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi ei hun a chanolfan cryfder a chyflyru o'r radd flaenaf, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad llawer o athletwyr dros y blynyddoedd, er enghraifft Dan Lydiate. Mae cefn gwlad o amgylch Bannau Brycheiniog hefyd yn cynnig llawer o weithgareddau anturus awyr agored fel cerdded mynyddoedd, canŵio a beicio mynydd; gall

pob myfyriwr gymryd rhan ar y cyd mewn gweithgareddau amrywiol naill ai fel rhan o'u cwrs, drwy'r rhaglen gyfoethogi neu'r cymhwyster Dug Caeredin sydd newydd ei sefydlu. Mae darlithwyr yn hyfforddwyr cymunedol sy'n cynnig hoci a gymnasteg, gyda Rhian Davies yn chwarae hoci dros Feistri Cymru. Gellir addysgu rhai modiwlau o'r BTEC Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon a CBC trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd modd i fyfyrwyr gwblhau eu haseiniadau yn ddwyieithog lle y bo'n bosibl.

Coleg Y Drenewydd

Mae Academi Pêl-droed Coleg y Drenewydd yn hyfforddi ac yn chwarae gemau cartref ar y cae 3G newydd ym Mharc Latham. Rydym hefyd yn defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn sy'n cynnwys y neuadd chwaraeon, y cae astroturf, stiwdio ffitrwydd ac ystafell ffitrwydd. b Byddwch yn elwa o staff sy'n ymroddedig i'r proffesiwn chwaraeon. Mae Gareth Watkins yn hyfforddwr pêl-droed gweithredol yn y gymuned ac mae Andrew Davies yn athletwr presennol tîm Prydain Fawr yn cynrychioli Cymru. b Mae ein partneriaethau â chlybiau busnes a chwaraeon lleol yn darparu cyfleoedd sy'n cyfateb eich cwrs â gyrfaoedd yn y dyfodol yn lleol neu ymhellach i ffwrdd.

Cyfleoedd Gyrfa

Gallai'r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegwr chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon. Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elît ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.

Chwilio NPTC Group


Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Tystysgrif Gyfun BTEC mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

BTEC Cyfun Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

2

Y detholiad priodol o TGAU Graddau A*-E. Cymhwyster Lefel 1 mewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus.

Blwyddyn

Bannau/Y Drenewydd

Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon gyda CBC

3

4 TGAU (neu gyfwerth) ar radd C neu'n uwch i gynnwys Saesneg neu Fathemateg.

2 Flynedd

Bannau/Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Gwyddor Chwaraeon £20k - £30k

Os ydych yn gweithio mewn gwyddor chwaraeon proffil uchel, gall eich cyflog fod yn fwy na £60,000 a gall gyrraedd hyd at £100,000*

Swyddog 5x30 £20k Ffisiotherapydd £24-43k Dadansoddwr Chwaraeon £24-43k

“Os ydych chi am dorri i ffwrdd a gwneud rhywbeth gwahanol mae'r coleg yn wych. Gadewais yr ysgol a dod i wneud chwaraeon yma yng Ngholeg Y Drenewydd ac mae wedi bod yn wych. Mae'r gefnogaeth a gefais gan y darlithwyr wedi bod yn amhrisiadwy fel Andy Davies sy'n athletwr Prydain Fawr a Gareth sydd hefyd yn hyfforddi. Maent wedi rhoi llwyth o arweiniad imi ar ddod yn hyfforddwr”. Jennifer Jarvie.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru £17k - £45k Athro Addysg Gorfforol Ysgol Uwchradd £25k+ Swyddog Datblygu Chwaraeon £18-£23k Hyfforddi Chwaraeon £15-25k

48


Llwyddiant Myfyrwyr Cyflawnodd Courtney Ashworth Rhagoriaeth Serennog Driphlyg (D* D* D*) ac mae'n mynd i astudio Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr. Cyflawnodd Owen Brunt Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Dywedodd Owen, 'Gweithiais yn galed iawn am y graddau a enillais ac rwy'n falch o gael lle yn Met Caerdydd i wneud Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon'. Cyflawnodd Elis Tudor Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Mae Elis wedi derbyn ysgoloriaeth o ganlyniad i'w graddau ac mae'n mynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud Addysg Gynradd gan arwain at SAC.

Iwan Evans yn gadael tîm Cymru i ymuno â thîm beicio yr Iseldiroedd.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Prys Eckley a Conor Drain yn derbyn grantiau.

49

Iwan Evans a Caine Ballentine Price yn cwblhau CBC yn Ysgol Y Bannau.

Jack Jones yn gorffen gyda Rhagoriaethau yn y

mwyafrif o unedau ond hefyd yn ennill dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Karate Cymru yn ddiweddar. Un mewn kumite ieuenctid unigol a'r llall yn kumite tîm y dynion. Bu hefyd yn cystadlu dros Gymru eleni yn Serbia. Mae Jack yn llysgennad chwaraeon rhagorol i'r Coleg, ar ôl derbyn ysgoloriaeth yn ei flwyddyn gyntaf am ei ragoriaeth ac mae wedi mynd ymlaen i arwain gweithgareddau yn y diwydiant chwaraeon a gwasanaeth cyhoeddus. Model rôl go iawn o fewn y gymuned! Da iawn i dîm traws gwlad Grŵp Colegau NPTC, Finley

Hines, Sam Lennox, Tom Callard, James Fishlock ac Evan Price-Davies

am ennill digwyddiad Tîm Rhyng-ysgolion Cymru yn Aberhonddu.

Yn Her y Barcud Coch ym Mhontarfynyach, gorffennodd Evan Price-Davies yn y pedwerydd safle ar ôl bod 10 eiliad ar y blaen a dal i lwyddo i fachu Aur dan 20 ym Mhencampwriaethau Cymru. Da iawn.

Byddwch yn egnïol... gyda gyrfa mewn chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd.


Bywyd yn y Coleg:

Creu eich Profiad eich Hun Cymorth i Fyfyrwyr

Mae pob myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bwysig i ni ac rydym yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod yr amser yr ydych yn ei dreulio yn y Coleg yn cefnogi eich anghenion unigol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys: b Derbyniadau b Gyrfaoedd b Cydraddoldeb ac amrywiaeth b Cyllid myfyrwyr b Cwnsela proffesiynol a llesiant b Diogelu b Cymorth arbenigol i blant sy'n derbyn gofal b Cymorth astudio i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac/neu anableddau Os ydych yn teimlo y gallech elwa o gael cymorth ychwanegol pan fyddwch yn dod i'r coleg dywedwch wrthym am hyn ar eich ffurflen gais. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'n tîm Cymorth Myfyrwyr ar: studentsupport@nptcgroup.ac.uk

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei rhedeg gan y myfyrwyr, ar gyfer y myfyrwyr. Eu rôl yw sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar lefel uwch reolwyr, gwrando ar fyfyrwyr o bob rhan o'r Colegau, cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd drwy'r flwyddyn, eich helpu i gwrdd â phobl newydd, a chreu cymuned o fyfyrwyr cynhwysol a chyfeillgar. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â student-union@nptcgroup.ac.uk

Costau addysgu

Nid yw'r Coleg yn codi ffioedd addysgu am gyrsiau amser llawn ond mae'n ofynnol i bob myfyriwr dalu ffi weinyddol na ellir ei had-dalu wrth ymrestru.

Costau ychwanegol

Efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd disgwyl i'r myfyrwyr hynny dalu'r costau hyn.

Cymorth ariannol

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i wneud bywyd myfyrwyr ychydig yn haws ar eich poced. Mae'r rhain yn cynnwys: b Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) b Grant Dysgu Llywodraeth Cymru b Cronfa Ariannol Wrth Gefn Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: studentsupport@nptcgroup.ac.uk

TOTUM, cerdyn disgownt

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Undeb Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC

Ffioedd Coleg, Costau a Chyllid

myfyrwyr #1 y DU. Mae'r holl fyfyrwyr dros 16 sy'n astudio mwy na 10 awr yr wythnos yn gallu prynu cerdyn TOTUM. Lawrlwythwch yr ap TOTUM heddiw yn rhad ac am ddim ac yna gallwch ddatgloi gwerth blwyddyn lawn o ostyngiadau am £12. Mae TOTUM yn rhoi bargeinion i chi drwy gydol y flwyddyn fel 10% oddi ar ASOS, 12% oddi ar cardiau rheilffordd 16-25, llwythi o ddisgowntiau Apple, gostyngiadau bwyd a diod, a 2 am 1 ar eich dwy wers yrru gyntaf gyda RED Driving School. Lawrlwythwch yr ap heddiw a 50 gweld beth sydd ar gael! www.totum.com


O Ddifri am Chwaraeon

Mae gan fyfyrwyr hefyd fynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel ym myd pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a rygbi. Cyflwynir sesiynau hyfforddi fel rhan o raglen y Coleg ac maent yn ymwneud â datblygu technegau, sgiliau a thactegau ar lefel unigolyn, uned a thîm. Lle na ddarperir disgyblaeth chwaraeon benodol, mae cysylltiadau â chlybiau a sefydliadau lleol yn darparu'r arbenigedd hyfforddi. Mae gan y Coleg record o lwyddiant chwaraeon wrth ennill pencampwriaethau cenedlaethol mewn amrywiaeth o chwaraeon a gall hefyd frolio 50+ o gapiau rhyngwladol ar draws ystod o chwaraeon: jiwdo, tenis bwrdd, hoci, rygbi, pêl-rwyd, pêl-droed, hwylio, beicio mynydd a badminton. Os ydych o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi Chwaraeon byddwch yn elwa o'r canlynol: b rhaglen hyfforddi strwythuredig sy'n cael ei goruchwylio gan hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm b cynllunnir sesiynau hyfforddi a darlithoedd i osgoi gwrthdaro diangen b y cyfle i gystadlu yn nhimau chwaraeon llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC b bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich dewis chwaraeon.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn camp ar gyfer timau clwb, sir neu genedlaethol ac â diddordeb mewn ymuno â'n Hacademïau Chwaraeon, cysylltwch â: www.nptcgroup.ac.uk

51

Llwyddiant Chwaraeon RYGBI b b b b b

Enillwyr Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) Enillwyr Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) Enillwyr Cwpan Colegau Prydain Enillwyr Rosslyn Park 7s Enillwyr Coleg Super 15s

Myfyrwyr Rhyngwladol b b b b b b b

Ashley Beck Adam Beard James King Dafydd Howells Darren Morris Leigh Davies Craig Mitchell

b b b b b b

Justin Tipuric James Hook Eli Walker Adam Jones Spencer John Arwel Thomas

b b b b b b

Dan Lydiate Lloyd Peers Dan Baker Duncan Jones Paul James Gwyn Jones

PÊL-RWYD

b Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru b Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out

Myfyrwyr Rhyngwladol b Helen Jones (Case) b Chelsea Lewis

b Amanda Cooper b Nicola James

PÊL-DROED

b Pencampwyr Cynghrair Cymru 2010-2011 a 2012-2013 b Pencampwyr Cymru 5 bob ochr 2013-2014 b Ail yn y Bencampwriaeth Gymreig 5 bob ochr 2011-2012

a 2012-2013

Myfyrwyr Rhyngwladol b Daniel James b Connor Roberts

b Ben Davies b Joe Rodon

GEMAU PARALYMPAIDD b Rob Davies (Tenis Bwrdd)

b Joe Allen b Jazz Richards


Daniel Jervis

Daniel Jervis

O Grŵp Colegau NPTC i’r Gemau Olympaidd Cyrhaeddodd cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Daniel Jervis, rownd derfynol Olympaidd yn ei Gemau cyntaf yr haf hwn yn Tokyo. Daeth y nofiwr 25 oed o Resolfen yn 5ed yn rownd derfynol y dull rhydd 1500 metr yng ngemau gohiriedig yr haf hwn yn Japan. Gwnaeth Jervis, a adawodd Grŵp Colegau NPTC yn 2014 ar ôl cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Peintio ac Addurno, ddechrau nofio i gadw cwmni i’w dad-cu ar ôl iddo ddioddef trawiad ar y galon. Ymunodd Daniel ag ef yn y pwll ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Nid yw Jervis yn anghyfarwydd â chystadlu ar y lefel uchaf mewn Nofio. Cystadlodd yn ei Gemau’r Gymanwlad cyntaf yn 2014 o fewn wythnos i raddio o Grŵp Colegau NPTC.

Ar ôl colli allan ar gystadlu yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, cafodd Daniel gyfle o’r diwedd i wireddu ei freuddwyd o gystadlu yn y Gemau Olympaidd yr haf hwn. Dywedodd Jervis wrth gael ei gyfweld gan y BBC ar ôl ei rownd derfynol: “Ydw, rydw i’n rhan o Dîm Prydain Fawr ac rwy’n Brydeiniwr ond rwy’n Gymro, ac rwy’n falch iawn o gynrychioli Cymru yno,” gan gyfeirio at y pwll y tu ôl iddo. Yna aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi gobeithio torri record Prydain yn rownd derfynol y 1500 metr, ond ni wnaeth hynny ddigwydd ar y noson. Ychwanegodd Jervis ei fod yn anelu at dorri’r record Brydeinig sydd ar hyn o bryd yn eiddo i’w gyd-Gymro David Davies.

Dan Lydiate

Y Gweilch, Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon Roedd y cyn-fyfyriwr Chwaraeon Dan Lydiate yn fyfyriwr BTEC Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Lefel 3 yng Ngholeg Powys. Yn fab i ffermwr lleol o Abaty Cwm Hir, Llandrindod, aeth ymlaen i astudio Gradd Sylfaen mewn Cryfder a Chyflyru yng Ngholeg Bannau Brycheiniog. Yn flaenasgellwr talentog, symudodd ymlaen i yrfa rygbi broffesiynol gan ymuno â Dreigiau Casnewydd lle, yn ei flwyddyn gyntaf, cafodd ei gapio gyda Chymru dan 20 oed. Enwyd Dan yng ngharfan Genedlaethol Cymru ar gyfer cyfres ryngwladol Tachwedd 2009, gan ymddangos am y tro cyntaf fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn yr Ariannin ar 21 Tachwedd 2009. Chwaraeodd bob gêm yn ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad Cymru 2011 yn ogystal â phob un o'r pedair gêm gynhesu. Ym mis Awst 2011, cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd. Roedd hefyd yn ddiweddarach yn aelod o garfan Cwpan y Byd 2015 yn Lloegr. Chwaraeodd yn nwy gêm agoriadol Cymru yn erbyn De Affrica a Samoa, ynghyd â chwarae rhan allweddol ym muddugoliaeth Cymru dros Iwerddon yn y rownd gogynderfynol. Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012, derbyniodd wobr Chwaraewr y Twrnamaint ar ôl chwarae ym mhob gêm ar wahân i'r un agoriadol yn erbyn Iwerddon a derbyn gwobrau Chwaraewr y Gêm. Yn yr union flwyddyn hon y cafodd ei enwebu hefyd ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru. Ym mis Ebrill 2013, fe'i enwyd yn y garfan ar gyfer taith Llewod Prydain ac Iwerddon 2013 i Awstralia. Gadawodd Dreigiau Casnewydd Gwent ar ddiwedd tymor 2012/13 i ymuno â’r clwb Racing Métro 92 cyn dod yn aelod o'r Gweilch yn 2014, y mae eu maes hyfforddi, mewn gwirionedd, yw Academi Chwaraeon Llandarcy y Coleg. Wrth siarad am ei amser yn y Coleg dywedodd Dan Lydiate: "Heb raglen cryfder a chyflyru’r coleg ni fyddwn wedi gallu cyflawni’r lefelau hyn, dyna wnaeth y gwahaniaeth, ac mae cystal ag unrhyw system yn y byd rygbi proffesiynol."

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Daeth Daniel yn 3ydd yn y dull rhydd 1500 metr yng ngemau Glasgow yn 2014. Yna fe wellodd ar hynny yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia gan ennill medal arian eto yn y dull rhydd 1500 metr. Yn yr un gemau, fe fethodd o drwch blewyn i ennill ail fedal, gan orffen yn 4ydd agos yn y dull rhydd 400 metr. Mae Daniel hefyd wedi cael profiad o gystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd ac Ewrop ar sawl achlysur ers gadael y coleg.

Dan Lydiate

52


ru #Ca raeg Cym

ve #Lo h s Wel

Cymraeg yn y Coleg Rydym am roi cyfle i bob darpar entrepreneur wireddu ei freuddwydion busnes. Mae'r tîm Menter a Chyflogadwyedd yn darparu cymorth proffesiynol i fyfyrwyr sy'n sefydlu eu busnes eu hunain, gan gynnwys cymorth gyda: b Cymorth ac arweiniad busnes b Mynediad i weithdai hyfforddi arbenigol.

Mae'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o ethos Grŵp Colegau NPTC. Mae'r Coleg yn ymwybodol o sut y gall bod yn ddwyieithog fod o fudd i fyfyrwyr mewn addysg, y gweithle ac mewn bywyd bob dydd. Mae'r ddarpariaeth yn ehangu ar draws llawer o'n meysydd pwnc, gan roi'r cyfle a'r dewis i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth neu ar eich lleoliad gwaith.

Rydym yma i'ch cefnogi os ydych yn dymuno cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg, astudio yn Gymraeg, cwblhau eich aseiniadau yn Gymraeg, sefyll eich arholiadau yn Gymraeg neu dderbyn deunyddiau ac adnoddau eich cwrs yn Gymraeg yn ystod eich astudiaethau yn ein Coleg... chi piau'r dewis. Byddwn hefyd yn eich annog fel myfyriwr di-Gymraeg neu ddysgwr Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg, gan roi gwell cyfleoedd cyflogaeth i chi yn y dyfodol. Os nad ydych yn dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ond eisiau cynnal eich sgiliau iaith Gymraeg, peidiwch â phoeni; rydym yn trefnu llawer o weithgareddau hwyliog drwy gydol y flwyddyn a fydd yn rhoi'r cyfle i chi ddefnyddio eich Cymraeg beth bynnag yw eich lefel iaith... Peidiwch â bod yn swil – Siaradwch Gymraeg!

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

BAROD AM YRFA

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: cymraeg@nptcgroup.ac.uk Mae CENTERPRISE yn falch o gynnig menter newydd i helpu eich myfyrwyr i baratoi ar gyfer byd gwaith. Mae Barod am Yrfa yn cyflwyno Sesiynau Cyflogadwyedd i fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Bydd myfyrwyr y Coleg hefyd yn cael cymorth gyda: b Lleoliadau profiad gwaith b Ysgrifennu CV b Ffurflenni cais b Cyfweliadau b Dod o hyd i swydd ran-amser i gyd-fynd â'ch astudiaethau. Am ragor o fanylion cysylltwch â ni ar:

53

Mae'r symbol hwn ar dudalennau cwrs yn nodi y gellir cynnal rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

centerprise@nptcgroup.ac.uk


Ymunwch â ni i astudio graddau a chyrsiau prifysgol ar garreg eich drws yng Ngrŵp Colegau NPTC  Lleol  Hyblyg

Rydym yn:

 Fforddiadwy  Cefnogol

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu natur mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch o fri. Mae pob un o'n cyrsiau addysg uwch wedi eu cynllunio gyda'ch cyflogaeth a'ch gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi'r profiad a'r wybodaeth orau i'n myfyrwyr i'w paratoi ar gyfer byd gwaith.

Mae gennym gyrsiau sy'n cwmpasu llawer o bynciau, cyrsiau amser llawn a rhai rhanamser.

           

Amaethyddiaeth Celf a Dylunio Busnes a Rheolaeth Cyfrifiadura Adeiladwaith Peirianneg Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lletygarwch Cerddoriaeth Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Addysgu Teithio a Thwristiaeth

Am wybodaeth fanylach am ein cyrsiau, ewch i'n gwefan.

www.nptcgroup.ac.uk

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Rydym yn falch iawn o ansawdd ein cyrsiau a'r staff sy'n eu haddysgu. Mae gennym rai o'r arbenigwyr blaenllaw yn eu maes, sydd wedi dewis gweithio yng Ngrŵp Colegau NPTC er lles ein myfyrwyr - felly manteisiwch ar y cyfle hwn!

Rydym yn cynnig cyrsiau, ar bob lefel, ar draws amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

54


Nosweithiau Agored b Coleg Bannau Brycheiniog 24 Tachwedd 2021 12 Ionawr 2022 21 Mawrth 2022 22 Mehefin 2022

b Coleg Y Drenewydd

25 Tachwedd 2021 13 Ionawr 2022 22 Mawrth 2022 12 Mehefin 2022 (Dydd Sul Fferm Agored) 23 Mehefin 2022

Chi Yw’ch Dyfodol gau NP Cole TC

D

hlu at

M lynedd

NP

NPTC Group

1-2021 193

ŵp

Chwilio

Yea rs Gr

oup of Colle ge Gr s TC

rating leb e C


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd by NPTC Group of Colleges - Issuu