
3 minute read
Peirianneg Cerbydau Modur


Mae gyrfa fel mecanydd neu mewn atgyweirio cerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gyda cherbydau yn aros amdanoch chi.
Mae gan yr adrannau cerbydau modur yn Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â'r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfl eusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU. Hefyd, mae gan Gampws Y Drenewydd fae profi ATL ar ffurf MOT ac ardal offer diagnosteg pwrpasol cwbl weithredol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i'r cerbyd ei hun a'i gorff yn gywir yn barod i'w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyfl awnir yn ein cyfl eusterau rhagorol.
Rhagolygon gyrfa
Fel arfer ceir cyfl ogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda ffl yd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyfl awni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifi adur. Mae'r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafi ad i swyddi goruchwylio a rheoli.
Enillion blynyddol cyfartalog
Mecanydd £13k - £30k (Emsi - economicmodeling.com) Peiriannydd Modurol £60k+ mewn rolau uwch (Prospects.ac.uk) Technegwyr Paent Cerbydau £18k - £40k (Emsi - economicmodeling.com)
Byddwch yn fecanyddol... gyda gyrfa mewn peirianneg, ceir neu atgyweirio cyrff cerbydau


Cerbydau Modur
Cafodd myfyrwyr Cerbydau Modur Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd gyfl e prin i ddysgu mwy am dechnolegau a weithredir gan fatri trydan yn y dyfodol, pan gawsant gyfl e i weld trawsnewidiad trydan o Fiat 500 clasurol diolch i Electric Classic Cars yng Nghanolbarth Cymru.
Mae gan y Fiat 500 holl gymeriad clasur gyda thro modern. Mae'r modur wedi'i osod yn y cefn (gan roi mwy o le i fagiau yn y tu blaen), ac mae'n cynnwys tri phecyn batri gyda phwynt gwefru cudd o dan y bathodyn Fiat. Cymerodd y myfyrwyr ddiddordeb mawr yn y sefydlu, gyda manteision cyfl ymder a phŵer trydan yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfl ym. Fel un o selogion clasurol, cymerodd Tom Watkins, technegydd yn y coleg ddiddordeb arbennig. Dywedodd Dan Pritchard, darlithydd Cerbydau Modur fod hyfforddiant mewn hybrid a thrydan yn 'faes yr oedd y coleg yn edrych arno ar hyn o bryd. Mae'r dechnoleg gerbydau newydd hon yn mynd i chwarae rhan bwysig yn nyfodol y diwydiant ac mae'n wych gweld enghreifftiau o glasuron fel y Fiat yn cael eu trosi, a gwybod bod hwn ac eraill ar gael i'w gweld ar garreg ein drws.'
Mae Electric Classic Cars wedi'i leoli yng Nghanolbarth Cymru ac mae wedi cynhyrchu nifer o drawsnewidiadau clasurol sy'n cynnwys Porsche 911, Range Rover o 1972 a BMW E9. Mae'r busnes sy'n eiddo i Richard Morgan wedi tyfu'n gyfl ym a dywedodd Richard 'pa mor bwysig oedd hi bod myfyrwyr bellach yn dysgu am gerbydau trydan i gefnogi adeiladau cyfredol ac addasiadau. Bydd mwy o alw yn y blynyddoedd i ddod am y wybodaeth hon ac mae'n syndod faint o gamdybiaethau sydd eisoes yn bodoli am geir sy'n cael eu pweru gan fatri. '
Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad
Peirianneg Cerbydau Modur 1 Mae TGAU gradd D/E neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profi ad ymarferol hefyd
Peirianneg Cerbydau Modur 2 Mae 4 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profi ad ymarferol hefyd
Peirianneg Cerbydau Modur 3 Mae 5 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profi ad ymarferol hefyd
Hyd Lleoliad
Blwyddyn
Bannau/Y Drenewydd
Blwyddyn
Bannau/Y Drenewydd
Blwyddyn Bannau
“Roeddem yn falch iawn o fod y coleg cyntaf yng Nghymru ar ddechrau 2020 i gynnig hy orddiant gyda’r o er hy orddi cerbydau trydan a hybrid modurol Block. Rydym wedi cael y pleser o hy orddi myfyrwyr galwedigaethol a gweithwyr pro esiynol y diwydiant yn y dyfarniadau Lefel 1-4 mewn atgyweirio ac ailosod system Cerbydau Trydan/Hybrid.” Darlithydd, Dan Pritchard