3 minute read

Busnes a Rheolaeth

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

Mae busnes a phynciau cysylltiedig megis cyllid, cyfrifeg, rheolaeth ac economeg ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Y rheswm am hyn yw bod galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd, bod busnes yn cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern bron iawn, a bod gyrfaoedd â gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn denu cyfl og uchel.

Mae'r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu'r sector llwyddiannus a deinamig hwn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd y diwydiant i sicrhau profi adau dysgu ysgogol a chadarnhaol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Mae'r myfyrwyr ar yr holl gyrsiau yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant gyrfaol.

Mae'r adran yn cynnig gweithdai wedi'u cynnal gan bobl fusnes brofi adol, ac mae cysylltiadau o'r radd fl aenaf gyda busnesau lleol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o sut y caiff cwmnïau eu rheoli a'u rhedeg.

Rhagolygon gyrfa

b Cyfrifeg b Gweinyddu Busnes b Rheoli digwyddiadau b Cyfrifeg fforensig b Rheoli gwestai b Adnoddau dynol b Marchnata

b Twristiaeth wledig b Brocer.

Cewch eich cyme ... gyda gyrfa mewn busnes, cyfrifeg a rheolae

“Mae'r cwrs busnes wedi fy helpu i edrych ar fusnesau o wahanol safbwyntiau. Mae ymchwilio i fusnesau yn fanwl wedi helpu i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth gref. Mae cwblhau amrywiaeth eang o unedau wedi rhoi cipolwg i mi ar wahanol opsiynau gyrfa”. Chloe Preece.

Llwyddiant Myfyrwyr

Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr Busnes Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd, sydd wedi ennill Cystadleuaeth Syniadau Busnes Llwybrau Positif Powys. Roedd y grŵp o fyfyrwyr Busnes ymhlith 50 o ymgeiswyr a gyfl wynodd syniad busnes newydd i ateb y cwestiwn, "Pa fusnes fyddech chi'n ei sefydlu ym Mhowys a pham?"

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i ymgeiswyr ystyried cynnig busnes oedd yn cynnwys rhoi manylion y cwsmeriaid targed, y mathau o waith hyrwyddo i'w gwneud, staffi o a'r materion y gallai fod angen eu goresgyn. O'r cystadleuwyr, cyrhaeddodd tri grŵp y rhestr fer a chael eu gwahodd i gyfl wyno i banel o feirniaid ym mhencadlys Cyngor Sir Powys yn Llandrindod. Yna gwnaeth cyfanswm o naw beirniad, a oedd yn cynnwys Cynghorwyr Sir a rheolwyr busnes lleol herio'r grwpiau gyda chwestiynau ar eu cysyniadau busnes. "Rwyf wedi cael nifer o gyfl eoedd tra'n astudio yng Ngholeg Y Drenewydd, nid yw'n bosibl nodi un yn unig. Yn ystod semester cyntaf fy mlwyddyn agoriadol yn y Coleg, fe'm derbyniwyd i fynd i farchnad yn Ffrainc fel rhan o gydweithrediad rhwng y Coleg a Chymdeithas Gefeillio'r Drenewydd lle gwerthais nwyddau Cymreig i ddefnyddwyr Ffrengig. Yn ystod ail semester y fl wyddyn gyntaf, ynghyd â thri myfyriwr arall, enillais Gystadleuaeth Busnes Llwybrau Positif Powys lle bu dros 50 yn cystadlu, ac roedd y profi ad penodol hwn o gymorth i mi wrth wella sgiliau niferus megis fy ngwaith tîm, cynllunio a chyfl wyno, y mae pob un ohonynt yn ofynnol ar gyfer cyfl ogaeth".

“Rwy'n gobeithio mynd i'r brifysgol ym Manceinion i astudio 'Busnes a Chyllid'. Yn y dyfodol rwyf am weithio yn y diwydiant ariannol, yn bennaf fel cyfrifydd, felly rwy'n edrych ar theori AAT sydd hefyd yn cael ei addysgu yng Ngholeg Y Drenewydd". Ethan Smith

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Busnes gyda Chyfraith Gymhwysol BTEC Diploma Cenedlaethol Estynedig mewn Busnes BTEC Diploma Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth 3

3

3 6 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith

6 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg Iaith

6 TGAU Gradd C neu perthnasol uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith

Hyd Lleoliad

2 Flynedd Bannau

2 Flynedd Y Drenewydd

2 Flynedd Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyfrifydd £62k Rheolwr Marchnata £50k Gweithredwr Teithiau £24k Cynllunydd Digwyddiadau £29k

*https://www.accountancyage.com/2018/04/18/salary-survey-2018-uk-accountants-earning-right-now/

This article is from: