4 minute read

Amaethyddiaeth a Ffermio

Next Article
Chwaraeon

Chwaraeon

Mae amaethyddiaeth yn fwy na ffermio yn unig; mae'n un o fusnesau mwyaf y byd. Mae dros 200 o feysydd gyrfa amrywiol ar gael mewn amaethyddiaeth ac ar hyn o bryd, mae galw uchel iawn ar draws y diwydiant am bobl ifanc hyfforddedig, addysgedig a llawn cymhelliant.

Mae tua 450,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn y DU y mae bron i 300,000 ohonynt mewn rolau rheoli neu bartneriaeth mewn menter ffermio. Yn ogystal â chynnig dewis gyrfa diddorol a boddhaus, mae astudio amaethyddiaeth hefyd yn agor y drysau i lawer o ddiwydiannau eraill, o ganlyniad i'r addysg, sgiliau, hyfforddiant a phrofi ad eang y byddwch yn eu cael.

Mae Fferm Fronlas yng Ngholeg Y Drenewydd yn gweithredu fferm defaid a chig eidion ucheldir 140 hectar sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael profi ad ymarferol cyfoes sy'n adlewyrchu diwydiant amaethyddiaeth y Canolbarth a'r mentrau bach a chanolig lle mae mwyafrif y myfyrwyr amaethyddol a pheirianneg amaethyddol yn dod o hyd i gyfl ogaeth.

Mae'r fferm yn gartref i amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth pwrpasol yn ogystal â gweithdai, llety i wartheg a defaid a chyfl eusterau trin o'r radd fl aenaf.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae ein cyrsiau yn rhai ymarferol dros ben, ac yn gyfl e hefyd i chi ennill profi ad gwaith gwerthfawr o fewn fferm. Yn y Coleg byddwch yn astudio meysydd fel cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau. Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth am y diwydiant ac yn cadw ar y blaen o ran y datblygiadau diweddaraf mewn systemau cynhyrchu a thechnolegau TG, gan gynnwys technoleg dronau a GPS.

Mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch, naill ai yn y Coleg ar y cwrs HND mewn Amaethyddiaeth neu mewn sefydliadau eraill i astudio gradd yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Rhagolygon gyrfa

Ar ôl cwblhau cwrs amaethyddiaeth, gall myfyrwyr ddewis o blith ystod eang o gyfl eoedd ymarferol o fewn y sector amaethyddiaeth yn y DU yn cynnwys rheolwr fferm, rheolwr da byw, maethegydd, agronomegydd, cynghorydd ffermio, arolygydd fferm ac arwerthwr.

Rydym yn cynnig cyfl eoedd helaeth ar gyfer sgiliau ystâd a chyfl eoedd cadwraeth ac arallgyfeirio hefyd. Mae gan y fferm tua 150 o wartheg cig eidion, yn cynnwys buches sugno a menter pesgi bustach, a 750 o ddefaid bridio yn magu tua 1200 o ŵyn.

Mae Bwyty Themâu, Coleg Y Drenewydd yn derbyn cig eidion a chig oen gan y fferm. Mae'r fferm hefyd yn cyfl enwi Morrisons a Sainsbury's gyda chig oen yn ystod y fl wyddyn.

12

Dydd SulMehefin Fferm Agored 2022

DYSGWR COLEG IFANC Y FLWYDDYN DAN 26 CYMRU LANTRA

Llongyfarchiadau i Elin Orrells, Coleg Y Drenewydd, a gafodd ei henwi'n Ddysgwr Coleg Ifanc Y Flwyddyn Dan 26 Cymru Lantra mewn seremoni ddisglair yng Ngwesty'r Metropole. Yn ogystal â hyn, derbyniodd Elin fwrsariaeth alwedigaethol adrannol yr Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth.

Mynychodd Elin y seremoni wobrwyo fawreddog gydag aelodau o'i theulu a'i staff dysgu o adran amaeth y coleg. Dywedodd Elin: "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon ac mae'n ddiolch i'r holl gymorth rydw i wedi ei dderbyn gan y tiwtoriaid wrth astudio ar gyfer fy Niploma L3 Estynedig mewn Amaethyddiaeth. “Mae'r darlithwyr yn y Coleg wedi fy ysbrydoli i achub ar bob cyfl e sydd ar gael ac wedi fy annog i gymryd rhan mewn cryn nifer o gystadlaethau cenedlaethol.”

Dywedodd Martin Watkin, Rheolwr Ystadau ar y Tir y Coleg: “Mae Elin yn fyfyriwr rhagorol sy'n benderfynol o greu gyrfa yn y diwydiant amaeth. Mae wedi profi ei bod yn fyfyrwraig frwdfrydig a gweithgar sy'n cymryd rhan lawn yn holl weithgareddau'r fferm yn y Coleg ac yn cynhyrchu aseiniadau o safon uchel”.

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad

C&G Peirianneg Amaethyddiaeth 2 Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofi ad perthnasol

C&G Diploma mewn Amaethyddiaeth C&G Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth C&G Diploma Estynedig mewn Rheolaeth Cefn Gwlad 2

3

3 Cymhwyster Lefel 1 neu TGAU Amaethyddiaeth neu brofi ad perthnasol

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg

5 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg

Hyd Lleoliad

2 Flynedd

Y Drenewydd

2 Flynedd

Y Drenewydd

2 Flynedd

2 Flynedd

Y Drenewydd

Y Drenewydd

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyflog Gweithiwr Fferm £27k Rheolwr Fferm £34K

*Seilir hyn ar ddata cenedlaethol “Rydw i ar n gor en y cymhwyster Lefel 3 mewn Amaeth ac mae wedi bod yn bro ad mor antastig wrth weithio ar y erm weithredol yma. Des i yn ail yng Ngwobrau Lantra Cymru ac rydw i nawr yn gwneud cais i fynd i'r Brifysgol.” Emma Morgan-Page

This article is from: