Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 42

Plymio a Gosodwaith Trydanol Adeiladu'r Dyfodol

YM Medi 2021, cafodd cyfres newydd o gymwysterau eu cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well. Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn adeiladwaith a gwasanaethau adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod wedi ymbaratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth o'r diwydiant cyfan ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae'r Cymhwyster Sylfaen ar gyfer Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu yn gymhwyster newydd sbon lle rydych chi'n astudio dau brofiad crefft: b Plymio a Gwresogi Domestig b Systemau ac offer electro-dechnegol (Gosodwaith Trydanol)

41

Mae gan y diwydiant Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae ar y diwydiant angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes a chyda chyflogau yn cynyddu ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.

Cynhelir yr hyfforddiant mewn gweithdai eang â'r cyfarpar priodol lle mae gan y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynhelir yr hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r myfyriwr. Er y byddwch yn astudio crefft drydanol a chrefft blymio yn y lle cyntaf, byddwch yn dewis un llwybr nes ymlaen. Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y gwaith a thechnegau crefft uwch mewn plymio a gosodwaith trydanol. Byddwch hefyd yn dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesu

I gyflawni'r cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn cyflawni ystod o brosiectau a osodir yn fewnol ac yn allanol, trafodaethau a arweinir a phrofion amlddewis.

''Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o'n gorau ar gyfer canlyniadau uchel mewn arholiadau." Darlithydd, James Seddon “Mae gan y coleg staff anhygoel, pobl anhygoel, rydw i wrth fy modd yno, Nid yw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa neu ddysgu rhywbeth newydd.” Monika Dent

Chwilio NPTC Group


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.