Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 41

Celfyddydau Perfformio Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu'r Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio wedi'u lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd.

Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Theatr Hafren. Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a'r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicaf oll, maent yn gyflogadwy iawn – rydym yn anelu at helpu nhw i fod yn barod am yrfa!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae ein cyrsiau yn darparu cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn dawns, drama, canu a theatr gerddorol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Theatr Hafren sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol.

Rhagolygon gyrfa

b Actor b Gweinyddwr y celfyddydau b Coreograffydd b Dawnsiwr b Perfformiwr theatr gerddorol b Hyfforddwr Pilates/Ioga b Sgriptiwr b Athro b Cyfarwyddwr theatr.

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyfarwyddwr Celf £23k - £59k Dylunydd Cynnyrch £19k - £46k Actor, Cyflwynydd, Diddanwr £24k - £66k Er yn ôl cylchgrawn Forbes enillodd George Clooney $239 miliwn yn 2018 - Emsi

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

2

2 TGAU A*-C neu gymhwyster Lefel 1 priodol. Blwyddyn Y Drenewydd

Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio

3

5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.

Llwyddiant Myfyrwyr

Datblygodd y myfyriwr Celfyddydau Perfformio o Goleg y Drenewydd Joe Jones ei ddoniau cerddorol yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi lansio ei albwm ei hun. Cyflwynwyd Joe i gerddoriaeth yn ifanc gan ei dad sydd hefyd yn gerddor. Fodd bynnag, roedd wedi cyrraedd ei arddegau cyn iddo ddechrau cymryd mwy o ddiddordeb mewn chwarae. Dechreuodd fwynhau cerddoriaeth yn fwy a chyda chyngor a thiwtorialau o'r rhyngrwyd cafodd y rhyddid i fod yn greadigol a datblygu ei arddull ei hun.

2 Flynedd Y Drenewydd

Yn ystod y cyfnod clo, daeth Joe o hyd i fwy o amser i fod yn fyfyriol o safbwynt ei gerddoriaeth a'r hyn oedd yn digwydd yn y byd o'i gwmpas. Recordiwyd yr albwm "We Were Just There" gartref gan ddefnyddio ei gyfrifiadur personol yn unig - gweithfan sain ddigidol, gitâr a phiano. Dywedodd y darlithydd Elizabeth Hebden: "Mae talentau Joe wedi creu cymaint o argraff arnom i gyd ac rydym yn falch o'i ymroddiad i archwilio'r cyfrwng hwn, gan ychwanegu elfen arall at ei allu fel artist."

“Rwyf wedi sicrhau lle ar y cwrs Tystysgrif Sylfaen yn LIPA, Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl. Rwy'n teimlo bod Coleg Y Drenewydd wedi fy nysgu sut i sianelu fy nghreadigrwydd. Rydw i wedi bod yng nghwmni unigolion eiddgar, creadigol a chefnogol. Dros y 2 flynedd ddiwethaf rwyf wedi cael y tiwtoriaid GORAU sydd wedi bod mor ymroddedig a gweithgar, hebddyn nhw ni fyddwn yn cymryd y cam nesaf hwn yn fy mywyd”. Josh Owen.

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

UAL Celfyddydau Perfformio

40


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.