Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 37

Trin Gwallt Croeso i Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, y cyntaf a o'i math a'r unig un yng Nghymru. Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae'r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profiadol ein hunain. Byddwch yn dysgu 'ryseitiau' sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ac sy'n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o'r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae'r rhain yn hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol na allwch eu cael yn unrhyw le arall. Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn hyd at 22 o sgiliau a thechnegau sylfaenol y byddwch yn eu dysgu i'r hyn y mae Lee yn ei alw'n 'safon Michelin'. Unwaith y byddwch wedi meistroli'r technegau hyn, cewch eich annog i ddefnyddio eich creadigrwydd yn rhydd.

Rydyn ni'n anelu at sicrhau bod ein myfyrwyr trin gwallt a gwaith barbwr gyda'r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad, felly os ydych chi o ddifri am wallt, Grŵp Colegau NPTC yw'r lle i chi!

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu. Wedi cyrraedd lefel 3, byddwch yn cyflawni sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae'n rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf un diwrnod yr wythnos neu bythefnos gyfan ynghyd â sesiwn fasnachol gyfnos/gyda'r hwyr yn y Coleg.

Rhagolygon gyrfa

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant gwallt yn cynnig cyfleoedd gwych gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn a gweithio y tu ôl i'r llenni mewn ffilm, theatr a theledu. Mae hefyd yn cynnig yr annibyniaeth i ddechrau eich salon eich hun. b Gwaith barbwr b Technegwyr lliw b Perchennog salon b Uwch steilydd b Triniwr gwallt priodas b Gweithio ar fordeithiau.

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Gellir profi'r sgiliau hyn mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda myfyrwyr Academi Lee Stafford eraill mewn colegau AB ledled y DU yn ystod y flwyddyn academaidd.

Beth fyddaf yn ei wneud?

36


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd by NPTC Group of Colleges - Issuu