Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 35

Garddio a Garddwriaeth Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy'n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a thirweddau a reolir. Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyflogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi'u hyfforddi ym Mhrydain.

Mae gwersi'n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio'r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profiad gwaith, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y flwyddyn!

Rhagolygon gyrfa b Gwaith planhigfa

b Canolfannau garddio manwerthu

b Dylunio gerddi

b Lluosogi planhigion

b Gofal tir

b Cynhyrchu planhigion

b Tirlunio

b Cynnyrch organig

b Gwyddoniaeth

b Addysg

b Meddyg coed

b Hunangyflogaeth.

Cyrsiau Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa

Lefel Gofynion Mynediad

Hyd

Lleoliad

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

1

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Blwyddyn

Bannau / Y Drenewydd

Diploma mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol

2

Cymhwyster Lefel 1 mewn garddwriaeth

Blwyddyn

Bannau / Y Drenewydd

Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith

3

Cymhwyster lefel 2 mewn Garddwriaeth neu brofiad priodol.

Blwyddyn

Bannau / Y Drenewydd

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed

Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda'n cyfleusterau gwych sy'n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi'u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau'r profiad awyr agored go iawn. Mae'r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd Fedal Aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.

Beth fyddaf yn ei wneud?

34


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.