Cyfrifiadura, Dylunio'r We a Gemau Gyda chyflogaeth yn y diwydiant TG a thelegyfathrebu yn tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf, mae TG a thechnoleg ddigidol yn prysur ddod yn un o'r gyrfaoedd sy'n denu'r tâl uchaf yn y DU. Yn 2018, tyfodd y diwydiannau 32% yn gyflymach na gweddill economi'r DU, gan greu cyfleoedd swyddi sy'n talu'n dda gyda 1.58 miliwn o swyddi ledled y DU. Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae ein holl gyrsiau amser llawn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn cyfrifiadura a TG. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau cyfrifiadura. Mae cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio fel: datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr y we ac e-fasnach, dadansoddwyr warws data, a dadansoddwyr systemau.
Mae'r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd gyfoes, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio NET, Java NetBeans, Brackets, BFXR, Audacity a Game Maker. Darperir pob un o’r cyrsiau mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer adeiladu PC a datblygu rhwydweithiau. Ar hyn o bryd, mae cyflawniad ar ein rhaglenni yn 99%, ac mae 100% o fyfyrwyr BSc yn cael gwaith mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis i raddio.
Byddwch yn archwilio sut mae TGCh yn cael ei defnyddio mewn diwydiant drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymarferol sy'n benodol i'r sector, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd cysylltiedig â gwaith.
Rhagolygon gyrfa
Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr ar gyrsiau Cyfrifiadura a TG yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ac o fewn Grŵp Colegau NPTC, gallwn gynnig graddau i'n myfyrwyr ar garreg eu drws. Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu raglen safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r HND mewn Cyfrifiadura (2 flynedd) ac yna'r BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura Cymhwysol (blwyddyn 3). I symud ymlaen i Addysg Uwch neu i gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau TGCh mae llawer o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau cyfrifiadurol. Ymhlith y sefydliadau sy'n cyflogi cyn-fyfyrwyr mae Fujitsu, CBSCNPT, The Good IT Company, DVLA, 15 Below, CGI, ALTech UK a Virgin Media. Sylwer os gwelwch yn dda os ydych yn ysytyried addysgu fel gyrfa, mae prifysgolion yn gofyn am TGAU gradd B neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth ac yn achos rhai cyrsiau Cyfrifiadureg, mae rhai prifysgolion yn gofyn am o leiaf gradd B mewn Mathemateg TGAU. Rhagolygon Gyrfa Posib: Dylunio a Datblygu Medalwedd/ Apiau, Dylunio a Datblygu Gemau, Dylunio a Datblygu'r We/ Dadansoddi Systemau, Datblygu/Gweinyddu Cronfeydd Data, Cymorth Technegol, Rhwydweithiau a Diogelwch.
Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa ym maes cyfrifiadura, dylunio ar y we ac apiau Chwilio NPTC Group
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Mae gan ein darlithwyr ymroddedig brofiad o'r sector ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae'r gwersi'n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Gall y myfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn diwydiant.
Beth fyddaf yn ei wneud?
26