Busnes a Rheolaeth Mae busnes a phynciau cysylltiedig megis cyllid, cyfrifeg, rheolaeth ac economeg ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Y rheswm am hyn yw bod galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd, bod busnes yn cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern bron iawn, a bod gyrfaoedd â gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn denu cyflog uchel. Mae'r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu'r sector llwyddiannus a deinamig hwn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd y diwydiant i sicrhau profiadau dysgu ysgogol a chadarnhaol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Rhagolygon gyrfa b Cyfrifeg
b Gweinyddu Busnes b Rheoli digwyddiadau b Cyfrifeg fforensig b Rheoli gwestai b Adnoddau dynol b Marchnata b Twristiaeth wledig b Brocer.
Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Mae'r myfyrwyr ar yr holl gyrsiau yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant gyrfaol.
Cewch eich cymell... gyda gyrfa mewn busnes, cyfrifeg a rheolaeth “Mae'r cwrs busnes wedi fy helpu i edrych ar fusnesau o wahanol safbwyntiau. Mae ymchwilio i fusnesau yn fanwl wedi helpu i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth gref. Mae cwblhau amrywiaeth eang o unedau wedi rhoi cipolwg i mi ar wahanol opsiynau gyrfa”. Chloe Preece.
Chwilio NPTC Group
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Mae'r adran yn cynnig gweithdai wedi'u cynnal gan bobl fusnes brofiadol, ac mae cysylltiadau o'r radd flaenaf gyda busnesau lleol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o sut y caiff cwmnïau eu rheoli a'u rhedeg.
24