Therapïau Cymhwysol yn cynnwys Therapi Harddwch Mae'r diwydiant harddwch a therapïau cymhwysol heddiw yn sector hynod ddiddorol, sy'n ehangu ac yn newid yn barhaus. Os ydych yn arloesol ac yn uchelgeisiol, nid oes unrhyw gyfyngiad ar eich potensial, boed mewn cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, coluro, perchennog salon, therapydd harddwch neu sefydlu eich cwmni harddwch eich hun! Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant harddwch/therapïau cymhwysol yn cynnig cyfleoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn fel artist coluro neu steilydd. Yr annibyniaeth i ddechrau eich salon neu'ch sba eich hun neu hyd yn oed ddod yn hyfforddwr yn y coleg ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r busnes.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Fel rhan o Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, byddwch yn cael eich addysgu mewn salonau blaenllaw y diwydiant gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant harddwch. Bydd cyrsiau'n ymdrin â choluro, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol megis siapio aeliau, lliwio amrannau ac aeliau, cwyro, trin dwylo, trin traed yn ogystal ag anatomeg a ffisioleg, y croen a thwf gwallt.
Rhagolygon gyrfa
Dermatolegydd, technegydd amrannau, technegydd ewinedd, perchennog sba, therapydd harddwch llawrydd, ysgrifennwr harddwch, flogiwr harddwch.
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa
Lefel Gofynion Mynediad
Hyd
Lleoliad
VTCT NVQ Diploma mewn Therapi Harddwch
2
5 TGAU gradd C neu uwch
Blwyddyn
Bannau/Y Drenewydd
VTCT VRQ mewn Triniaethau Therapi Harddwch
3
Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol
Blwyddyn
Bannau
VTCT mewn Therapïau Cymhwysol
3
Cymwysterau lefel 2 mewn therapi harddwch neu therapïau Cyflenwol
Blwyddyn
Y Drenewydd
Chwilio NPTC Group
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Cyrsiau
22