Peirianneg Cerbydau Modur Mae gyrfa fel mecanydd neu mewn atgyweirio cerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gyda cherbydau yn aros amdanoch chi. Mae gan yr adrannau cerbydau modur yn Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â'r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfleusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU. Hefyd, mae gan Gampws Y Drenewydd fae profi ATL ar ffurf MOT ac ardal offer diagnosteg pwrpasol cwbl weithredol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i'r cerbyd ei hun a'i gorff yn gywir yn barod i'w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleusterau rhagorol.
Rhagolygon gyrfa
Fel arfer ceir cyflogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda fflyd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyflawni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifiadur. Mae'r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafiad i swyddi goruchwylio a rheoli.
Mecanydd £13k - £30k (Emsi - economicmodeling.com) Peiriannydd Modurol £60k+ mewn rolau uwch (Prospects.ac.uk) Technegwyr Paent Cerbydau £18k - £40k (Emsi - economicmodeling.com)
Byddwch yn fecanyddol... gyda gyrfa mewn peirianneg, ceir neu atgyweirio cyrff cerbydau Chwilio NPTC Group
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Enillion blynyddol cyfartalog
20