Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 19

Celf, Dylunio a'r Cyfryngau Creadigol Byddwn yn eich helpu, eich cefnogi a'ch arwain ar eich ffordd i fod yn rhan o'r sector deinamig hwn sy'n symud yn gyflym iawn. Mae nifer y swyddi yn niwydiannau creadigol y DU nawr yn fwy na dwy filiwn am y tro cyntaf o dan y system bresennol o gyfrif ar ôl ehangu'n gyflymach na gweddill yr economi. Pan ychwanegir swyddi creadigol sydd y tu allan i'r diwydiannau creadigol hefyd - i gyfrif cyfanswm swyddi yr hyn a elwir yn economi greadigol y DU - mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 3.12 miliwn sy'n golygu bod 1 o bob 11 swydd yn rhan o'r diwydiant hwn. Mae ein darlithwyr yn artistiaid gweithredol felly byddwch yn dysgu gan y rhai sy'n dal i chwarae rhan hanfodol yn sector y diwydiannau creadigol. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn rhoi cyfle i chi archwilio eich talent greadigol bersonol yng nghyd-destun maes diwylliannol ehangach ac i'w llywio, ei newid, a gwneud gwahaniaeth.

https://cvp.nptcgroup.ac.uk

Dysgir gwersi mewn amgylchedd creadigol, gan ddefnyddio'r cyfarpar diweddaraf at safon y diwydiant o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol. Darperir nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth ac Amlgyfrwng i arddangos gwaith o fewn y Coleg ac mewn digwyddiadau cyhoeddus allanol. Mae myfyrwyr y cyfryngau yn gweithio ar brosiectau 'byw', gan gysylltu â chleientiaid a sgrinio eu darn olaf o waith.

Rhagolygon gyrfa

b Penseiri b Celfyddydau treftadaeth b Crefftwyr b Dylunydd b Cyfarwyddwr b Cynhyrchydd ffilmiau b Artistiaid cain b Dylunwyr graffeg b Ffotograffydd b Gwneuthurwr printiadau b Dylunwyr cynnyrch b Dylunio propiau a setiau b Dylunio gofodol, mewnol a thirlun b Tatŵydd b Addysgu ac addysg b Fideograffydd b Dylunydd y we.

Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa mewn celf, dylunio a'r cyfryngau Chwilio NPTC Group

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Rydym yn ganolfan ddysgu greadigol lle mae myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, yn dod yn gyflogadwy iawn – rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!

Beth fyddaf yn ei wneud?

18


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd by NPTC Group of Colleges - Issuu