Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 17

Amaethyddiaeth a Ffermio Mae amaethyddiaeth yn fwy na ffermio yn unig; mae'n un o fusnesau mwyaf y byd. Mae dros 200 o feysydd gyrfa amrywiol ar gael mewn amaethyddiaeth ac ar hyn o bryd, mae galw uchel iawn ar draws y diwydiant am bobl ifanc hyfforddedig, addysgedig a llawn cymhelliant. Mae tua 450,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn y DU y mae bron i 300,000 ohonynt mewn rolau rheoli neu bartneriaeth mewn menter ffermio. Yn ogystal â chynnig dewis gyrfa diddorol a boddhaus, mae astudio amaethyddiaeth hefyd yn agor y drysau i lawer o ddiwydiannau eraill, o ganlyniad i'r addysg, sgiliau, hyfforddiant a phrofiad eang y byddwch yn eu cael.

Mae ein cyrsiau yn rhai ymarferol dros ben, ac yn gyfle hefyd i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn fferm. Yn y Coleg byddwch yn astudio meysydd fel cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau. Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth am y diwydiant ac yn cadw ar y blaen o ran y datblygiadau diweddaraf mewn systemau cynhyrchu a thechnolegau TG, gan gynnwys technoleg dronau a GPS. Mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch, naill ai yn y Coleg ar y cwrs HND mewn Amaethyddiaeth neu mewn sefydliadau eraill i astudio gradd yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Rhagolygon gyrfa

Ar ôl cwblhau cwrs amaethyddiaeth, gall myfyrwyr ddewis o blith ystod eang o gyfleoedd ymarferol o fewn y sector amaethyddiaeth yn y DU yn cynnwys rheolwr fferm, rheolwr da byw, maethegydd, agronomegydd, cynghorydd ffermio, arolygydd fferm ac arwerthwr.

Mae'r fferm yn gartref i amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth pwrpasol yn ogystal â gweithdai, llety i wartheg a defaid a chyfleusterau trin o'r radd flaenaf. Rydym yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer sgiliau ystâd a chyfleoedd cadwraeth ac arallgyfeirio hefyd. Mae gan y fferm tua 150 o wartheg cig eidion, yn cynnwys buches sugno a menter pesgi bustach, a 750 o ddefaid bridio yn magu tua 1200 o ŵyn. Mae Bwyty Themâu, Coleg Y Drenewydd yn derbyn cig eidion a chig oen gan y fferm. Mae'r fferm hefyd yn cyflenwi Morrisons a Sainsbury's gyda chig oen yn ystod y flwyddyn.

Chwilio NPTC Group

12

Dydd Sul Mehefin Fferm Agored 2022

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Fferm Fronlas yng Ngholeg Y Drenewydd yn gweithredu fferm defaid a chig eidion ucheldir 140 hectar sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael profiad ymarferol cyfoes sy'n adlewyrchu diwydiant amaethyddiaeth y Canolbarth a'r mentrau bach a chanolig lle mae mwyafrif y myfyrwyr amaethyddol a pheirianneg amaethyddol yn dod o hyd i gyflogaeth.

Beth fyddaf yn ei wneud?

16


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd by NPTC Group of Colleges - Issuu