Croeso i Bartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd
Partneriaeth Academi’r 6ed Dosbarth Y Drenewydd Newtown 6th Form Academy Partnership
Croeso i'r gorau o ddau fyd! Mae Partneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn bartneriaeth gyffrous, arloesol rhwng Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn gallu cynnig y profiadau dysgu ac addysgu gorau posibl i fyfyrwyr ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau; gan gynnig y rhyddid iddynt ddilyn y llwybr o'u dewis ac ymgymryd â'u harddull dysgu personol.
Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk
Bydd ein partneriaeth yn cynnig cwricwlwm cyffrous, eang ac amrywiol y gellir ei deilwra i anghenion pob myfyriwr. Yn ogystal, bydd cyfle i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y Coleg a'r staff ymroddedig a phrofiadol yn yr Ysgol a'r Coleg.
15
Mae pynciau yn cynnwys: b Celf a Dylunio b Bioleg b Busnes a'r Gyfraith b Cemeg b Drama a Theatr b Saesneg Iaith b Daearyddiaeth b Cyfathrebu Graffeg b Iechyd a Gofal Cymdeithasol b Hanes
b b b b b b b b b
Technoleg Ddigidol Y Gyfraith [E-sgol] Mathemateg Cerddoriaeth Ffotograffiaeth Ffiseg Seicoleg Addysg Gorfforol Cymdeithaseg [E-sgol]
I ymgeisio
Gwneir ceisiadau ar-lein yn: www.powyslearningpathways.wales Am ragor o fanylion: Rhian Morgan: Rheolwr Partneriaeth Cyswllt Ysgolion 14-19
Bydd ymuno â Phartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn cynnig y cymysgedd perffaith o annibyniaeth a chefnogaeth wrth symud i'r Brifysgol, ymlaen i brentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith. Rydym yn cynnig darpariaeth lawn ac amrywiol o bynciau UG, Safon Uwch a BTEC yn Academi'r 6ed Dosbarth ar draws Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, ac rydym yn argymell y dylai pob disgybl astudio ystod o dri phwnc o leiaf, yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC). Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl astudio pum pwnc, ar yr amod bod Pennaeth Academi'r 6ed Dosbarth wedi cytuno ar hyn.