Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd

Page 13

Career Coach - cyngor gyrfaol wedi’i deilwra gan ddefnyddio gwybodaeth leol am y farchnad swyddi Pan fydd gan fyfyrwyr weledigaeth glir o’r dyfodol, maen nhw’n fwy tebygol o ragori yn eu hastudiaethau a mynd ymlaen i greu gyrfaoedd llwyddiannus. Mae Career Coach yn offeryn ar-lein am ddim sydd ar gael gan Grŵp Colegau NPTC a all helpu i lunio’r weledigaeth honno. Gan ddefnyddio data cynhwysfawr am y farchnad swyddi, gall Career Coach eich helpu i ddod o hyd i’ch swydd berffaith a’r cyrsiau a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno! Mae asesiad ar-lein manwl Career Coach yn awgrymu gyrfaoedd sy’n seiliedig ar eich diddordebau a’ch sgiliau. Gyda gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur, enillion disgwyliedig a nifer y swyddi yn yr ardal, mae Career Coach yn tynnu sylw at y cyrsiau gorau i’ch helpu i symud ymlaen i’r yrfa o’ch dewis.

Sganiwch yma i ddechrau defnyddio Career Coach neu ewch i’n gwefan www.nptcgroup.ac.uk

Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae Career Coach hefyd yn cysylltu â menter Barod am Yrfa y Coleg sydd wedi’i chynllunio’n benodol er mwyn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae Barod am Yrfa yn cynnig gweithdai ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau ac ymarfer, lleoliadau profiad gwaith a chymorth gyda phob agwedd ar y broses ymgeisio.

12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyrsiau Amser Llawn Grŵp Colegau NPTC 22/23 - Goggledd by NPTC Group of Colleges - Issuu