OEDOLION, IECHYD A LLESIANT



Gobeithio eich bod i gyd wedi cael cyfle i fwynhau’r tywydd braf diweddar. Efallai y bydd y glaw wedi cyrraedd erbyn i’r newyddlen yma eich cyrraedd ond gobeithio wir y cawn haf go iawn eleni
Yn y newyddlen ddiwethaf roeddwn yn cyfeirio at newyddion da mewn perthynas â phenderfyniad y Cyngor i glustnodi dros £1.5 miliwn ar gyfer adolygu ac ail-arfarnu swyddi darparu gwasanaethau llinell flaen yn y maes gofal Erbyn hyn, mae ’ r addasiadau i gyflogau’r mwyafrif o swyddi sy ’ n cael eu heffeithio wedi
eu gweithredu gyda chynnydd yn y cyflog ac ôl-daliad yn ôl i 1af Ebrill wedi ei gynnwys gyda chyflogau mis Mai. Mae llond dwrn o swyddi yn
dal yn destun trafodaeth gyda staff oherwydd y newidiadau yn y disgrifiadau swyddi ond rwy ’ n obeithiol y gallwn ddod i gytundeb ar hyn yn fuan fel y gallwn gwblhau’r newidiadau i bawb. Rwy’n credu bod y Cyngor wedi cymryd
cam pwysig ymlaen gyda’r cynnydd yma ac wedi gwneud beth oedd yn bosib o fewn eu gallu Ond hefyd dwi’n ymwybodol iawn bod angen parhau gyda’r ymdrechion ar lefel genedlaethol i geisio sicrhau bod cyflogau yn y maes gofal yn gystadleuol ac yn deg. Yn ychwanegol i’r ochr Darparu, mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i edrych ar swyddi proffesiynol o fewn y Cyngor yn cynnwys swyddi gweithwyr cymdeithasol, therapyddion
a.y.y.b. Dyddiau cynnar ond gobeithiwn y gallwn ddatblygu opsiynau yn fuan. Unwaith y bydd y darlun yn fwy eglur, mi wnaf rannu
gwybodaeth bellach gyda chi trwy’r
newyddlen
O ran ein gwaith dydd i ddydd, mae ’ r pwysau o gyfeiriad y Bwrdd Iechyd i ryddhau gwlâu wedi
lleihau rhywfaint ac mae ein rhestrau aros am ofal cartref yn lleihau Mae nifer o resymau dros hyn gan gynnwys y ffaith bod y drefn newydd ar gyfer gofal cartref yn sefydlogi Fodd bynnag, nid ydynt wedi diflannu ac mae gennym dipyn o waith i’w wneud i gyrraedd lle hoffem fod yn enwedig mewn rhai ardaloedd. Diolch i chi gyd am eich cyfraniad i gyflawni hyn. Mae angen i ni barhau gydag ac ehangu’r ymdrechion ataliol a defnyddio adnoddau a gwasanaethau cymunedol ynghyd a thechnoleg (teleofal) i gefnogi pobl fel ein bod yn lleihau’r nifer sydd mewn gwir angen ond yn parhau i aros am ofal cartref
Yn olaf, hoffwn gyfleu diolch penodol i staff TAC De Meirionnydd am eich gwaith diweddar yn dilyn cau ward ysbyty Tywyn. Cafwyd diolchiadau a gwerthfawrogiad o sawl cyfeiriad gydag aelodau lleol yn codi’r mater a rhannu eu cymeradwyaeth yn y Cyngor llawn. Ar fy rhan
i, Dylan fel Cyfarwyddwr, y Cynghorydd Dilwyn Morgan fel aelod cabinet a’i holl gyd-aelodau a phawb arall yn ymwneud â’r mater hoffwn gyfleu ein diolch i Llinos a ’ r tîm i gyd am eu gwaith mewn amgylchiadau anodd iawn.
Yn y chwe mis diwethaf mae tair wedi eu penodi i swyddi o fewn y Gwasanaeth
Darparu. Mae'r dair wedi symud o rôl gofalydd cartref i fod yn Oruchwyliwr / cynllunydd mewn ardaloedd gwahanol. Dewch i ni ddod i adnabod Nicola Curtin, Allison Thomas ac Emma Jones yn well.
Dweud ychydig amdanat ti dy hun:
Nicola Curtin ydi fy enw i, dwi’n 30 oed ac yn byw yng Nghaernarfon. Yn fy amser sbâr dwi’n licio gwario amser hefo teulu a ffrindiau ac yn enjoio mynd i gerdded hefyd pam mai’n braf. Ar y dde gwelwch lun Llyn Gwynant, un lle dwi’n mwynhau mynd i gerdded.
Dy swydd:
Rydw i wedi dechrau swydd newydd yn ôl ym mis Chwefror fel goruchwyliwr cymunedol yn ardal Criccieth.
Beth yw dy gefndir proffesiynol:
Cyn cael y swydd yma mi oni yn gweithio fel carer yn ardal Gaernarfon am 7 mlynedd.
Roeddwn i wrth fy modd hefo’r gwaith yn cael gweld pobl bob dydd ac yn cael helpu nhw i allu byw mor annibynnol a oeddent yn gallu adref yng nghartref ei hunan a lot o hwyl wedi bod dros yr amser. Wedi dysgu lot yn yr amser byr rydw i wedi bod yn gwneud y swydd ac yn magu hyder yn slo bach. Rydw i yn derbyn cefnogaeth dda gan y staff i gyd, ddiolchgar
iawn mod i wedi cael y cyfle i wneud rhywbeth
gwahanol, a gweld yr ochor arall i’r swydd Er mod i wedi enjoio bod yn carer dros y blynyddoedd mai’n neis cael y cyfle i drio gweithio’n hun i fyny
Nicola Curtin Llyn GwynantDwi’n gweithio i Gyngor Gwynedd ers digon agos i ddeng mlynedd ar hugain o flynyddoedd, a hynny fel gofalwraig Yn y cyfnod yna roeddwn yn gweithio ar draws Eryri cyn symud i Gaernarfon Dros y pedair blynedd diwethaf rwyf wedi bod yn mynd i’r swyddfa i ennill profiad o ddefnyddio'r systemau, cynllunio rotas ac ati. Yn dilyn hyn daeth cyfle i mi geisio am swydd Goruchwyliwr dros dro, ar gyfnod secondiad Gwelais fod y plant wedi tyfu ac wedi gadael y nyth, felly roedd yr amseru ’ n berffaith i mi ehangu fy ngorwelion
Rwyf wedi gweithio i batrymau shifft drwy gydol fy mywyd gwaith, felly dyma’r tro cyntaf erioed i mi brofi penwythnosau a gŵyl y banc i ffw
Mae’r rhyddid yma wedi galluogi mi i ail afael ar fy niddordebau megis garddio, cerdded gyda’r teulu a Mali’r ci. Yr wythnos diwethaf fe wnaethom gwblhau Moel Cynghorion, a ninnau’n byw ar droed yr Wyddfa mae digon o lefydd i ni fynd.
Heb os mae ’ r swydd fel Goruchwyliwr yn sialens newydd i mi, ond gan fy mod wedi gweithio fel gofalwraig am yr holl flynyddoedd teimlaf fod hyn yn bwynt positif gan fod gennyf berthynas wych gyda’r gofalwyr ac yn barod i weithio fel tîm
Edrychaf ymlaen at y dyfodol a gobeithiaf gyflawni llawer mwy.
Dweud ychydig amdanat ti dy hun:
Emma ydi fy enw i rwyf yn 29 mlwydd oed ac yn byw yn Gellilydan, rwyf yn berson sydd yn hyderus ac awyddus i helpu pwy bynnag sydd
angen, yn fy amser sbâr rwyf yn hoff iawn o wario amser hefo teulu a ffrindiau, mynd i gerdded ac ymweld ag ardaloedd newydd
Beth yw dy swydd a’i phwrpas:
Fy swydd i ydi goruchwylio a chynllunio gwaith
Gofalwyr yn ardal Pwllheli rwyf wedi bod yn y swydd ers mis Tachwedd 2022 ac yn mwynhau'r gwaith yn fawr iawn
Beth yw dy gefndir proffesiynol:
Cyn dechrau'r swydd goruchwyliwr ym mis Tachwedd mi oeddwn yn ofalwr yn ardal
Ffestiniog am 8 mlynedd felly wedi cael profiad wrth weithio yn y gymuned.
Beth wyt ti’n edrych ymlaen at gyflawni neu wneud yn dy swydd:
Rwyf yn gobeithio gallu cadw gymaint o bobol a bosib adra yn eu cartref ei hunain i dderbyn gofal maent ei angen ac iddynt allu fod mor annibynnol â phosib, Rwyf hefyd yn gobeithio denu mwy o ofalwyr mewn i'r maes gofal.
Yn ogystal â'r uchod, mae Manon newydd ymuno â’r Tîm Cefnogi Iechyd a Llesiant fel Rheolwr
Cefnogi Iechyd a Llesiant, a bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar drawsffurfio’r gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar.
Cawn glywed mwy am Manon yma:
Dweud ychydig amdanat ti dy hun:
Dw i’n dod o Fethel yn wreiddiol, ond wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ers chwe blynedd bellach. Yn fy amser rhydd, dw i wrth fy modd yn mynd â’r ci am dro, teithio, a mynd i ddosbarthiadau CrossFit. Dw i hefyd yn chwarae tri offeryn, sef piano, corn tenor a chorn Ffrengig. Dw i’n cyfeilio i gôr lleol yn wythnosol, ac yn aelod o Fand Pres hefyd.
Beth ydi dy gefndir proffesiynol?
Ar ôl ennill gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, ymunais â Chyngor Gwynedd fel Cyfieithydd yn
Llyn Celyn, un o hoff leoliadau Emma2016 Rhoddodd y swydd hon gyfle i mi fynd i gyfieithu ar y pryd i nifer o gyfarfodydd o bob math o fewn y Cyngor a thu hwnt, gan roi cefndir a chyd-destun hynod werthfawr i mi allu deall y gwahanol adrannau a meysydd o fewn y sefydliad
Yn dilyn pedair blynedd yn y tîm cyfieithu, cefais fy mhenodi’n Uwch Swyddog Gweithredol yn gweithio yn y Tîm Arweinyddiaeth.
Yn wreiddiol, roeddwn yn gweithio â’r Prif Weithredwr a ’ r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd (Dilwyn Williams a Morwena Edwards). Erbyn fy ail flwyddyn yn y swydd, cefais y cyfle i weithio â’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig, gan ddatblygu ac ehangu fy ngwybodaeth a ’ m dealltwriaeth o ’ r maes Yn ystod fy misoedd olaf yn y swydd, cefais y fraint o gydweithio â’n Cyfarwyddwr newydd, Dylan Owen
Hoff wlad iti deithio iddi?
Dw i wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle i fynd i bob cwr o ’ r byd Mi es i Batagonia efo’r Urdd pan oeddwn yn 17, ac mi oedd yn brofiad bythgofiadwy Dw i hefyd wedi bod yn teithio ar fy mhen fy hun i wledydd fel yr Unol
Daleithiau, Cambodia a Fietnam. Mae’n anodd iawn dewis yr hoff wlad i mi deithio iddi gan bod bob un mor wahanol, ac â’i rhinweddau ei hun Pe byddai’n rhaid dewis, mi fuaswn yn dueddol o ddewis yr Eidal, am y bwyd, y gwin a ’ r bobl glên!
Disgrifia dy hun mewn tri gair: Trefnus, brwdfrydig, optimistig
Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf yn dy swydd newydd?
Dw i’n edrych ymlaen dysgu mwy am y maes
Blynyddoedd Cynnar, ynghyd ag ymchwilio i
yn Cambodia.
ffyrdd newydd o weithio er mwyn rhoi trigolion
Gwynedd yn ganolog i’r gwasanaeth. Mae llawer o wahanol agweddau i’r prosiect, gyda’r prif nod o drawsffurfio’r gwasanaeth Os oes unrhyw un yn
dymuno dysgu mwy am y gwaith neu gynnig barn, mae
croeso i chi gysylltu â fi dros e-bost neu Teams
Manon ManonMae Llwybrau Llesiant wedi trefnu Diwrnod Llesiant (gweler poster atodedig) yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog ar ddydd Llun, Gorffennaf y 10fed.
Mae’r digwyddiad o fewn cyrraedd bellach ac mae ’ r rhestr o weithgareddau - a fydd ar gael yn rhad ac am ddim ar y diwrnod - yn tyfu!
Gofynnwn yn garedig i chi hyrwyddo'r digwyddiad hwn ac os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch â LlwybrauLlesiant@Gwynedd Llyw Cymru
Cawn hanes y digwyddiad yn ein Newyddlen nesaf!
Mae Fran Lowden wedi ei phenodi fel Catalydd
Cymunedol newydd i Wynedd Mae'n darparu gwasanaeth rhad ac am ddim i helpu unigolion sefydlu menter gofal bychan yn eu cymuned leol.
Os yda chi’n dda am helpu eraill ac efallai awydd newid gyrfa, beth am ystyried cychwyn menter gofal gymunedol?
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Fran:
Ffôn: 07435 943 887
E-bost: fran.lowden@communitycatalysts.co.uk
Gwefan: www.communitycatalysts.co.uk/project/gwynedd Twitter: @CommCats
Fran LowdenA gawsoch chi’r cyfle i ddarllen hanes Côr Lleisiau Llawen yn Golwg360? Os na yw ’ r ateb, cliciwch yma.
Gwych yw cyhoeddi fod Côr Arwyddo Lleisiau
Llawen yn mynd o nerth i nerth eleni. Gweler llun uchod ohonynt yn perfformio unwaith eto yn yr Ŵyl Fwyd yng Nghaernarfon yn ôl ym mis Mai, a dros yr wythnosau nesaf bydd y côr yn ffilmio Noson Lawen, ffilmio Iaith ar Daith yn ogystal â nifer o berfformiadau dros yr Haf
Heb os, mae dyfodol cyffroes i'r Côr ond nawr
Côr Lleisiau Llawen yn yr ŵyl fwyd
maent yn cyd-weithio gyda Galeri Caernarfon. Bydd dosbarthiadau Côr Makaton cyn cychwyn ym mis Medi i blant oed cynradd, uwchradd ac wrth gwrs oedolion fydd yn cynnwys aelodau Côr Arwyddo Lleisiau Llawen
A wyddoch chi fod nifer fawr o ’ n Cartrefi ni ar Facebook?
Mae modd dod i wybod am eu holl weithgareddau ac adloniant, er enghraifft Plas
Fel rhan o ’ r ymgyrch barhaus i recriwtio i’r maes Gofal cafodd fideo ei lawnsio yn ddiweddar er mwyn uwch oleuo rolau
gwahanol yn y sector Gofal Cymdeithasol, i helpu i ddiddymu canfyddiadau am y sector ac i arddangos bod gwaith ar gael i bobl yma yng Ngwynedd.
Mae’r fideo wedi galluogi ni greu deunydd newydd er mwyn hyrwyddo’r maes a hynny drwy ddelweddau unigolion sydd yn byw a gweithio yng Ngwynedd, a ’ r maes yn barod
Dau o ’ r deunydd ‘da ni wedi creu ydi cefndir Teams newydd a hefyd ‘footers’ i ddiwedd ebyst
Os medrwch ac os ddim yn defnyddio footer i hyrwyddo ymgyrch arall e.e. Maethu Cymru eisoes oes modd i chi ddefnyddio un o ’ r footers yn y casgliad amgaeedig. Ddylai uwch lwytho footers fod yn syml...
Safiwch y llun o ’ch dewis ar eich cyfrifiadur
Ewch i mewn i’ch llofnod parod Cliciwch ar yr eicon mewnosod llun.
Rydym wedi cysylltu efo TG i roi’r cefndir Teams fel opsiwn corfforaethol i bawb o dan Plant ac Oedolion Rydym yn ymwybodol bod o wedi gweithio i rai ond nid i bawb. Os nad ydi’r cefndir Teams yn dod i fyny fel opsiwn cefndir i chi, dilynwch y cyfarwyddiadau yma..
Safiwch y llun ‘Cefndir Teams Gofal’ ar eich cyfrifiadur
Ewch i’r darn cefndir ar Teams drwy glicio more
Ewch i video effects, add new/uwch
lwytho’r llun
Daeth i sylw’r adran yn ddiweddar fod nifer o aelodau staff yn teimlo pryder am leisio eu barn neu adrodd ar gŵyn yn eu lleoliad gwaith. Hoffwn feddwl bod ein staff yn hapus ac eiddgar yn eu swyddi ac mae clywed i’r gwrthwyneb yn siom Gwyddom fod un aelod o staff wedi gadael ei gwaith oherwydd yr ymdeimlad yma, ac mewn amser o gymhlethdodau recriwtio, mae ’ n sefyllfa anodd ei dderbyn
Mae dyletswydd arnom ni fel arweinwyr, uwch reolwyr a rheolwyr i warchod a chynnal ein staff, felly gofynnaf yn garedig am eich cymorth ar y mater Credaf fod hwn yn gyfle euraidd i godi ymwybyddiaeth unwaith yn rhagor ar ein Polisi Canu’r Gloch Cewch hyd i’r linc yn y Ganolfan Bolisi ar ein mewnrwyd neu drwy glicio yma.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl staff a chontractwyr Cyngor Gwynedd ac mae ’ n
● annog gweithwyr pryderus i deimlo’n hyderus i gamu ymlaen a rhannu eu pryderon
● dysgu ni am ein cyfrifoldeb o ran adrodd ar gamymarfer
● hyrwyddo ffyrdd dibynadwy i staff adrodd ar bryderon
Mae’n bwysig ein bod ni’n hyrwyddo’r polisi ond
hefyd yn hyrwyddo’r egwyddorion y polisi yn y gweithle, gan
● sicrhau fod cwyn yn cael ei thrin yn ddifrifol a sensitif
● sicrhau fod ymchwiliad yn digwydd i mewn
i’r gŵyn
● sicrhau fod camau mewn lle i amddiffyn yr
unigolyn sy ’ n pryderu.
Gofynnaf yn garedig i chi rhannu’r polisi hwn gyda’ch staff cyn gynted ag sydd phosib. Gan gofio nodi hefyd, fod modd i unigolion gysylltu’n uniongyrchol gyda’r adran adnoddau dynol os yn anghyffyrddus codi un rhywbeth yn y gweithle ei hun Eu cyfeiriad e-bost yw
desgadnoddaudynol@gwynedd.llyw.cymru. Yn yr un modd, gellir cysylltu â ni’n ganolog ar gcgc@gwynedd.llyw.cymru.
Gobeithiwn, gyda’n gilydd, y gallwn addasu’r meddylfryd hwn
Diolch, Aled
Dyma enw a rhif y polisi ar ein hunanwasanaeth.
Canu'r GlochFel rhan o ymgyrch recriwtio barhaus gwasanaethau Gofal y Cyngor mae nifer o adnoddau newydd wedi’u creu i geisio denu mwy o bobl i weithio yn y maes Bellach mae hysbysebion yn cael eu harddangos ar gerbydau fflyd yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Ceir ar gyfer Gofalwyr yn benodol ydi’r ceir fflyd yma Y gobaith wrth i’r ceir deithio o amgylch y sir yw y bydd mwy o bobl yn cael eu gwneud yn ymwybodol o ’ r sector, a maes o law yn cysylltu i wybod mwy am gyfleon gwaith ar gael yn y sir.
Mae’r ceir fflyd yma hefyd yn geir trydan ac yn cyfrannu at amcanion yr adran a ’ r Cyngor i fod yn fwy gwyrdd. Y gobaith ydi bydd mwy o geir trydan o ’ r fath yn cael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf ac yn cyfrannu at leihau ein hôl troed carbon fel adran.
A ydych chi'n cofio am fodolaeth Budd i Bawb?
Ceir nifer helaeth o Fuddiannau wrth glicio ar y linc i Budd i Bawb, ac mae wedi ei greu er mwyn diolch i chi am eich holl waith caled yr ydych yn wneud i Gyngor Gwynedd
Mae amrediad eang o gynigion ar gael, o ein cynllun pensiwn cystadleuol, arbedion ar brynu ceir gwyrdd a beiciau i ddisgownt mewn siopau lleol led led Gwynedd a thu hwnt…
Cofiwch hefyd fod modd lawrlwytho'r buddion fel app i'ch ffôn neu ddyfais clyfar.
Bu staff a defnyddwyr gwasanaeth y Frondeg yn brysur yn paratoi ac addurno yn ystod wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl a oedd yn digwydd ym mis Mai.
Bu Frondeg yn hyrwyddo iechyd a lles meddwl, gan eu bod yn credu ei fod yn bwnc hynod bwysig i gefnogi. Mi wnaeth y staff a defnyddwyr gwasanaeth wisgo gwyrdd fel arwydd o gefnogaeth, ac fe roddwyd bocs yn y swyddfa er mwyn i staff rhoi cyfraniad dienw ar gyfer yr elusen
Mi wnaeth y defnyddwyr fwynhau helpu i baratoi ac addurno ar gyfer yr wythnos gan beintio'r ffenestri a chymryd rhan mewn sesiynau crefft i greu ' r addurniadau gwyrdd
Yn ogystal, maent wedi creu bwrdd gwybodaeth a ‘self-help’ ar gyfer iechyd a lles meddwl mewn darn distaw o ’ r adeilad, yn y gobaith y gall staff dderbyn gwybodaeth.
Hyfryd oedd gweld lluniau o Gwyneth, Joyce ac Aileen, defnyddwyr gwasanaeth Plas Hafan yn mynd i fwynhau gwasanaeth Sul y Pasg yn yr
Eglwys leol
Diolch i Donna am fynychu'r gwasanaeth gyda hwy. Gobeithio i chi oll cael Pasg hapus ac iach.
Dros y misoedd diwethaf, mae Llwybrau
Lleisiant wedi bod yn brysur yn cyflwyno gwaith y gwasanaethau brys, wrth i gang o 45 gael y cyfle i ymweld â Chanolfan Bad Achub yr RNLI ym Mhwllheli yn ogystal â Chanolfan
Ambiwlans Awyr Cymru ym Maes Awyr
Caernarfon
Yn y ddau leoliad hyn, cafodd y rhai oedd yn bresennol gyflwyniad diddorol am waith y gwasanaethau brys yn ogystal â chael y cyfle i ddod yn agos iawn at y bad achub ym
Mhwllheli a ’ r hofrennydd yng Nghaernarfon. Dwy sesiwn hynod ddiddorol!
Cafodd ein criw o chwech ddiwrnod i’w gofio pan drefnodd Llwybrau Llesiant daith i Dwrnament
Snwcer Agored Cymru Cynhaliwyd y digwyddiad yn Venue Cymru yn Llandudno nôl ym mis Chwefror.
Yn ogystal â gwylio snwcer o ’ r radd flaenaf - a oedd yn cynnwys bod yn dyst i ddwy egwyl canrif,roedd Llwybrau Llesiant hefyd wedi trefnu i’r grŵp dderbyn rhywfaint o hyfforddiant snwcer gan
hyfforddwr proffesiynol Ond hefyd, trefnwyd iddynt
fynd ‘cefn llwyfan’, lle cawsant gyfle i gwrdd â sêr
snwcer Shaun Murphy a Ken Doherty ymhlith eraill Profiad gwych i'n chwech a fwynhaodd ddiwrnod bendigedig yn y snwcer!
Mae'r Prosiect Cyfleodd Gwaith wedi ei sefydlu gyda’r bwriad i hwyluso, hyfforddi ac i helpu oedolion gydag Anableddau Dysgu gwrdd â’u dyheadau ym myd gwaith.
Felly, fel un fraich o ’ r prosiect, fe wnaethom ymgeisio am swydd Cynnal a Chadw gyda Chyngor Tref Caernarfon. Roedd y Gwasanaeth eisoes wedi bod yn cydweithio yn llwyddiannus gyda'r Cyngor Tref ar ddarparu blodau ac edrych ar eu holau ar y Maes ers dwy flynedd Roedd hyn i weld yn adeiladu ar y berthynas lwyddiannus yma ymhellach.
Fe fuodd y cais yn llwyddiannus , ac rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor Tref am eu cydweithrediad a ’ u parodrwydd i’n cefnogi gyda'r Prosiect yma.
Rydym yn y broses o lunio cytundeb weithredol ar hyn o bryd, â'r gobaith ydi lleoli hyd at 3 unigolyn i mewn i swyddi er mwyn darparu'r gwaith yma
Rydym yn hynod lwcus o gydweithrediad y Cyngor Tref , a hefyd phawb o fewn Cyngor Gwynedd sydd yn gweithio i ffurfioli ac i gael y Cynllun yn weithredol
Rwyf yn obeithiol iawn y bydd yna unigolion wedi eu sefydlu yn y swyddi yn y dyfodol agos, ac o bosib byddant yn cael cefnogaeth gan
Hyfforddwyr Swyddi sydd wedi derbyn
hyfforddiant drwy'r Bwrdd Partneriaeth
Ranbarthol am gyfnod
gan Trefor Richard ParryAr Ddydd Sul, 21ain o Fai eleni, trefnodd Dementia Actif Gwynedd, Eryri Cyd-weithredol a chysylltwr cymunedol ardal Bangor daith cerdded ar hyd Pier Bangor.
Bu’n llwyddiant mawr gyda dros ddeugain o bobl yn cymryd rhan ar y daith; gan gynnwys pobl sy ’ n byw gyda dementia. Bwriad y daith oedd casglu arian tuag at Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd, a gwych yw cyhoeddi - hyd yma, mae dros £600 wedi ei gasglu.
Hoffai Dementia Actif Gwynedd gymryd y cyfle yma i ddiolch i bawb am gefnogi’r diwrnod a llongyfarch pawb a gymerodd rhan am gwblhau’r daith. Braf oedd cael cwmni pobl sy ’ n byw â Dementia, eu gofalwyr, eu ffrindiau a theuluoedd, ein cyd-weithwyr o dîm Cefnogi
Iechyd a Llesiant a rhai o drigolion Bangor
Edrychwn ymlaen at drefnu taith cerdded arall mewn rhan wahanol o Wynedd yn fuan
Cewch weld mwy o luniau’r dydd ar dudalen Facebook Dementia Actif Gwynedd.
Rhai a gymrodd rhan yn y daith gerdded i'w gweld uchod. Yn cyrraedd y Pier Lia a ffrind yn haeddiannol yn cael hoi fach Rhai o dîm Cefnogi Iechyd a LlesiantDiwedd mis Mawrth fe wnaethom fel adran
ffarwelio gyda Carys Archer wrth iddi ymddeol o'i rôl Swyddog Sicrwydd Ansawdd.
Bu Carys yn weithiwr ffyddlon i'r Cyngor a hynny ers 1994 Cyn iddi adael fe anfonodd
neges:
Nodyn bach sydyn i ffarwelio â phawb sydd yn fy adnabod i. Heddiw yw fy niwrnod gwaith
olaf i Cyngor Gwynedd yn Adran
Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl gweithio
mewn amryw o swyddogaethau ers mis Awst
1994. Hoffwn ddiolch i bawb heb enwi neb.
Hwyl am y tro, Carys Archer
Mwynhewch bob eiliad o 'ch ymddeoliad Carys
Mae Rhannu Cartref yn helpu pobl i gefnogi ei gilydd dan yr un to. Y nòd yw canfod person hŷn all gynnig ystafell sbâr a pherson iau (fel arfer), sydd angen cartref o ansawdd da am bris rhesymol Bydd y person iau yn cynnig cwmnïaeth a chefnogaeth ymarferol o amgylch y cartref, wrth dderbyn cartref cysurus a chyfeillgarwch. Felly mae ’ n helpu i daclo amryw o ’ r heriau sy ’ n ein hwynebu ni:
Helpu pobl hŷn i fyw bywyd da, annibynnol yn eu
cartrefi eu hunain
Helpu i daclo unigrwydd, a thrwy hynny afiechyd
Cartrefi fforddiadwy yn enwedig yn sgil costau byw
Lleihau’r galw am wasanaethau statudol
Tawelwch meddwl i’r unigolyn a ’ u teuluoedd
Gwynedd ac Abertawe yw ’ r unig ddwy sir yng Nghymru sy ’ n cynnig cyfleon Rhannu Cartref ar hyn o bryd. Drwy broses o baru gofalus a thrylwyr rydym yn gobeithio rhoi cyfle i gymaint o bobl leol ag sy ’ n bosib elwa o ’ r cynllun cyffrous yma mewn ffordd ddiogel. Mae cynlluniau o ’ r fath wedi hen ennill eu tir yn Lloegr ble mae Homeshare UK yn helpu trigolion a chymunedau mewn 21 ardal awdurdod lleol, gyda buddion amlwg.
Richard Williams dwi, neu yn llai o lond ceg, jest Rich! Ers dechrau efo’r Cyngor yn 2015 dwi wedi bod yn gweithio yn yr Adran Oedolion gyda’r tîm Datblygu Gweithlu ac yn fwy diweddar yn sgil COVID yn cydlynu PPE i’r maes gofal Cyn hynny roeddwn yn gweithio i Agored Cymru am 14 mlynedd.
Dwi 'di bod yn gweithio i sefydlu’r cynllun ers canol mis Ionawr eleni ac yn joio yn fawr iawn. Fel pob cynllun newydd, mae ’ n lot o waith i’w sefydlu a pethau dwi heb feddwl amdanynt yn gallu codi Diolchgar iawn o gefnogaeth y tîm Llesiant ag yn bennaf Siân a Mirain sydd bob amser ar gael i fownsio syniadau oddi arnynt ac i helpu cael bob dim yn ei le Erbyn hyn dwi'n teimlo bod pethau wedi dod at ei gilydd yn dda a dwi'n barod i’r gwaith go iawn ddechrau, sef i baru pobl sydd angen ymgymryd â’r cynllun mewn ffordd drylwyr a diogel ac i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl er gwell. Unwaith fydd pobl yn cyd-fyw, byddaf yn parhau i gefnogi a chyfarfod yn rheolaidd
Eisiau gwybod mwy? Ewch i wefan y Cyngor: bit.ly/rhannucartref neu ar safle Homeshare UK ble mae nifer o fideos a straeon am lwyddiannau’r cynllun: homeshare.org. Neu os hoffwch sgwrs neu yn adnabod pobl a all elwa o Rhannu Cartref, plîs cysylltwch!
Ffôn: 07388 859015
e-bost: richardwynwilliams@gwynedd.llyw.cymru.
Helo bawb! Rydw i bellach yn fy rôl fel Arweinydd Tîm
Cefnogi’r Gweithlu ers mis Medi 2022 ac mae nifer o ddatblygiadau wedi bod yn ein tîm bychan yn y misoedd diwethaf felly’n teimlo yn amserol i’ch diweddaru!
Rolau’r tîm
Mae swyddi a dyletswyddau’r tîm wedi eu diweddaru erbyn hyn, ac mae Sian Iolen Pritchard bellach yn arwain ar faterion cyfathrebu ar draws yr adran. Ei theitl swyddogol yw Rheolwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus a hi yw ’ch pwynt cyswllt chi ar unrhyw fater cyfathrebu ac ymgysylltu; boed hynny’n ymwneud â’r cyhoedd, staff neu aelodau etholedig. Mae Sian wedi gweithio ym maes cyfathrebu ers rhai blynyddoedd ac mae ' n fwy na pharod i gynghori ar unrhyw faterion cyfathrebu neu i'ch cefnogi i lunio deunydd hyrwyddo neu ddogfennau gwybodaeth - pob croeso i chi gysylltu â hi!
Mae Rhian Wyn Powell hefyd wedi newid rôl Mae Rhian bellach yn gwneud sawl rôl mewn un, gan weithredu fel Swyddog Gwybodaeth y tîm a hefyd fel Swyddog Gweinyddol i wasanaethau pobl hŷn ac anableddau corff Fel rhan o ’ r rôl Swyddog
Gwybodaeth, mae Rhian yn delio â holl geisiadau gwybodaeth yr adran gan gynnwys FOIs a SARs Mae wedi dod i’n sylw rhai misoedd yn ôl bod ' na rai ceisiadau am wybodaeth am unigolion yn cyrraedd
gweithwyr cymdeithasol neu eraill yn uniongyrchol
gan yr heddlu yn hytrach na dod drwy’r sianeli cywir
Plîs a gawn ni eich atgoffa bod unrhyw geisiadau
gwybodaeth i’w hanfon at gcgc@gwynedd llyw cymru
- mae cyfreithiau penodol iawn ynghylch rhyddhau
gwybodaeth sensitif am unigolion felly mae ’ n bwysig nad ydych yn ymateb i’r ceisiadau hyn eich hunain
ogydda. Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, plîs cysylltwch efo Rhian ac fe fydd hi’n hapus iawn i’ch rhoi chi ar ben ffordd.
Roedd un aelod arall ar ein tîm bychan ni y tro diwethaf i ni rannu newyddlen! Mae Lyndsey Marie
Owen ar hyn o bryd yn cymryd brêc ar ôl 19 o flynyddoedd gyda’r gwasanaeth gweinyddol ac ar gyfnod o secondiad gyda TAC Bangor fel Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol ers ychydig fisoedd. Dymunwn fel tîm ei llongyfarch ar ei llwyddiant wrth baratoi ac ymgeisio am y rôl a dymuno’n dda iddi ar ei chyfnod efo tîm Bangor. Gobeithiwn rannu stori Lyndsey efo chi yn y newyddlen nesaf!
Dyma gyfle hefyd i ddiolch i’r sawl un wedi bod yn barod i gamu i’r adwy i gynorthwyo â thasgau yr oedd Lynd ’ d â h t
Gwefan yr adran - Mae Sian wrthi yn rhoi sylw i’n tudalennau gwefan ac felly plîs cysylltwch â hi os oes gennych unrhyw syniadau ar wella cywirdeb yr wybodaeth a pha mor hawdd ydi hi o safbwynt aelod o ’ r cyhoedd i ddod o hyd iddo.
Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu - Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 erbyn hyn ac un o ’ r blaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod o dan y pennawd Gwynedd Ofalgar yw ’ r angen i ddatblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer y maes er mwyn gwella’r modd rydan ni’n sicrhau mewnbwn trigolion Gwynedd i ddatblygiad ein gwasanaethau ni. Bydd Sian yn arwain ar y darn yma o waith ac felly plîs cysylltwch â hi os oes gennych unrhyw syniadau a ddylai dderbyn sylw fel rhan o ’ r gwaith yma
Rhestrau Cyfnodau Cadw Gwybodaeth – rydym wedi diweddaru'r rhestrau sy ' n rhoi arweiniad i ni o ba mor hir y dylem fod yn cadw ffeiliau, gyda diolch i bawb a fu'n rhan o ' r gweithdai Byddwn yn gweithio ar ganllaw i chi dros y cyfnod nesaf ond yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu am gyngor ar gyfnodau cadw.
Mae cymhorthydd gweinyddol newydd wedi ymuno â ni bellach a byddwn yn croesawu prentis hefyd mis Gorffennaf Dw i’n gobeithio y bydd eu cyfnod efo’r tîm yn rhoi cyfleon iddyn nhw ddod i adnabod yr adran a ’ r gwasanaethau, i ddarganfod lle mae eu diddordebau i’r dyfodol ac i ennill profiadau o wneud bob mathau o waith gwahanol Cawn glywed mwy am Iwan a Cadi yn ein newyddlen nesaf.
Iechyd a Diogelwch - mae nifer o faterion yn dod i'n sylw ar hyn o bryd e.e. pryderon am weithio'n unig, trefniadau tân, asesiadau risg, swyddogion yn gweithio heb offer addas ayb. Plis rhowch sylw i'r materion hyn mewn cyfarfodydd tîm neu debyg i sicrhau'ch bod yn cyflawni'ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch. Fel eich cydlynydd iechyd a diogelwch adrannol, cysylltwch â mi os alla i fod o gymorthsophieannhughes@gwynedd llyw cymru
Swyddfeydd - Diolch i bawb a gyfrannodd at yr holiaduron diweddaraf ar drefniadau gwaith, a gobeithiwn dderbyn arweiniad corfforaethol yn fuan iawn ar beth fydd y model gweithio i’r dyfodol.
LyndseyYdach chi yn sylweddoli bod darparu ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gofal rydan ni’n ei roi i unigolion? Ei fod yn gallu gwneud iddynt deimlo’n gartrefol, yn ddiogel ac wedi’u parchu? Gall hefyd ei gwneud yn llawer haws i unigolion esbonio eu hemosiynau a ’ u dymuniadau a rhoi hyder i ni ein bod wir yn deall beth sy ’ n bwysig iddynt.
Mae cynllun 5 mlynedd diweddaraf y Llywodraeth ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg yn pwysleisio unwaith eto yr angen am y ‘cynnig rhagweithiol’ Wrth gwrs, byddwch yn gyfarwydd gyda’r term yma – mae o ar eich ffurflenni WCCIS, ar eich polisi goruchwyliaeth ac mewn sawl lle arall. Ond, be’n union mae o ’ n ei olygu?
Rhoi gwasanaeth yn Gymraeg heb i neb orfod gofyn na dewis.
Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni:
ddechrau sgyrsiau’n Gymraeg bob amser er mwyn gwahodd unigolion i ddefnyddio eu Cymraeg efo ni
adnabod os ydi unigolyn yn siarad
Cymraeg, a gwneud yn siŵr fod y gweithiwr sy ’ n mynd i’w gweld yn siarad
Cymraeg
defnyddio’r Gymraeg sydd gennym. Hyd yn oed os nad ydych yn rhugl neu ’ n hyderus yn
defnyddio’r Gymraeg, gall defnyddio hyd yn oed geiriau bach yma ac acw wneud byd o wahaniaeth i ofal unigolyn.
Cofiwch nad yw gofyn i unigolion beth yw eu ‘dewis iaith’ neu ‘preferred language’ yn cyfrif fel cynnig rhagweithiol ac mae ’ n bwysig i gydnabod ein cyfrifoldeb i gwrdd ag angen iaith yr unigolyn; hynny ydi, siarad Cymraeg os ydi’r unigolyn yn siarad Cymraeg
Er mwyn i ni allu deall gallu ein gweithlu i ddarparu gwasanaethau’n Gymraeg, mae ’ n bwysig bod gennym ddata am allu iaith bob aelod o staff. Mae’n ddyletswydd ar bob aelod o staff i lenwi’r hunanasesiad iaith sydd i’w gael ar y system hunanwasanaeth. Os gwelwch yn dda, os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod, rhowch ddeng munud o ’ch amser i’w lenwi. Bydd y tîm cefnogi gweithlu yn cysylltu gyda rheolwyr llinell dros yr wythnosau nesaf hefyd i’w hannog i wirio bod staff wedi’i gwblhau.
Cofiwch bod help ar gael i ddatblygu’ch sgiliau Cymraeg lle bynnag ydych chi ar eich taith; boed hynny’n ddechrau dysgu am y tro cyntaf neu ’ n rhugl ond ddim mor hyderus wrth ysgrifennu. Dos i DYSGU CYMRAEG (sharepoint com) am fwy o wybodaeth, neu mae croeso i chi gysylltu gyda’r Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg, Bet Huws, os hoffech sgwrs – bethuws@gwynedd llyw cymru
Wythnos Gofalwyr 5ed - 10fed Mehefin 2023
-Lester Bath
Penderfynwyd cynnal Gŵyl Gofalwyr Di-dâl arall eleni, ond gyda digwyddiadau wyneb yn wyneb – roedd yr ŵyl gyntaf yn 2020 ar-lein a chytunwyd y byddai’n syniad da i’w chyfuno efo Wythnos Gofalwyr. Sefydlwyd is-grŵp Gŵyl Gofalwyr Di-dâl ar ôl cyfarfod Rhwydwaith Gofalwyr Gwynedd ddiwedd mis Ionawr.
Roeddwn yn awyddus i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled y sir i geisio cyrraedd cymaint o ofalwyr â phosib, a chawsom dipyn o
adborth gan ofalwyr am beth yr hoffent ei wneud, sef sesiynau maldod (pamper sessions) a theithiau cerdded ymwybyddiaeth (mindfulness).
Gyda chefnogaeth Coleg Llandrillo Menai ym Mangor a Dolgellau, roedd modd i ni gynnig sesiynau maldod i ofalwyr yn y ddau goleg, a chynhigiodd Tomos Lloyd (Byw’n Iach/Partneriaeth Awyr Agored) ac Anna Williams (Byw’n Iach/Partneriaeth Awyr Agored) ac Anna Williams (Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru) arwain teithiau cerdded yn Arfon, Dwyfor a Meirionnydd
Trefnodd Llwybrau Llesiant nifer o ddigwyddiadau yng Nghaernarfon, a oedd ar
"Dwi’nwirwerthfawrogicyfarfodefopawbsyddar yrunsiwrnefelfifyhunoherwydd,uwchben popeth,mae’ngwneudichideimloynllaiunig,wrth fodyndystioni’ranawsterauymaerhaidieraill ymrwymoiddynnhwyneurôlgofalu.Mae’nwir ryfeddolgweldynygrŵpyngymharolfachynasut moranoddydibywydaupoblondeto,diolchichi, medrantgaeldiwrnodaupleserushefyd.
“Diolch am redeg y gweithdy ffeltio. Roedd yn braf cael y cyfle i gyfarfod efo pobl newydd mewn amgylchedd ymlacio, ac i ddysgu crefft newydd ar yr un pryd.”, gofalydd am y gweithdy yng Nghaernarfon.
agor i bob gofalydd, a wnaeth Celfyddydau Cymunedol gynnal sesiynau ffeltio wyneb yn wyneb yng Nghaernarfon ar y dydd Gwener. Cyfrannodd pob Cysylltydd Cymunedol at yr Ŵyl, gyda nifer o ddigwyddiadau yn Ne Meirionnydd wedi trefnu gan Bethan Wyn Roberts, TAC De Meirionnydd; Nia Jones, TAC Caernarfon, yn cydweithio efo Age Cymru Gwynedd a Môn ar ddigwyddiad ym Mhontnewydd; a Siôn Llywelyn, TAC Bangor, yn trefnu paned a sgwrs yn Hwb Ogwen, Bethesda Hefyd roedd cyfle crwydro a the prynhawn i ofalwyr pobl sydd yn byw gyda dementia, a diwrnod gwybodaeth i rieni ofalwyr oedolion a phlant gydag anabledd dysgu/anghenion ychwanegol
Gan gydnabod bod rhai o ofalwyr yn methu cyrraedd digwyddiadau wyneb yn wyneb oherwydd natur eu rôl gofalu neu weithio, roedd cynnig o gwrs cyflwyno Dru Yoga ar-lein ac ar gael 5ed - 30ain Mehefin Hefyd rhoddodd Llyfrgelloedd Gwynedd nifer o becynnau ffeltio i ofalwyr eu gwneud yn eu cartrefi
I orffen yr Ŵyl, ac Wythnos Gofalwyr yng Ngwynedd, trefnodd Ffion Edwards, Swyddog Gofalwyr Ifanc, Diwrnod Hwyl ar gyfer gofalwyr o bob oed, ond yn anelu’n arbennig rhieni- gofalwyr a gofalwyr ifanc. Roedd yn ddiweddglo gwych i’r wythnos dda; a diolch mawr i bawb a oedd yn cyfrannu at yr Ŵyl/Wythnos.
“Fysa yn neis just cael pamper bach.”, gofalydd, wrth gofrestru am sesiwn maldod ym Mangor.
Dechrau’r mis bu Carnifal Tywyn ac fe ymunodd Llys
Cadfan yn yr hwyl a dathlu! Fel y gwelwch o ’ r lluniau fe wnaethant wisgo fyny fel y teulu Brenhinol a ’ r Royal Family o ’ r rhaglen deledu Roedd wyth defnyddiwr gwasanaeth a nifer o ’ r staff yn rhan o ’ r fflôt
Mair Thomas oedd y Frenhines, Robert Roberts oedd y Brenin, Richard Lewis – aelod o staff - oedd Jim Royal, Clare Crowley a Katey McMullen – eto aelodau o staff - oedd y gwarchodwyr Ymunodd staff eraill gyda’i plant wedi gwisgo fel y plant brenhinol hefyd!
Cafodd y criw hwyl a sbri ac roedd yn neis cael codi llaw ar bawb wrth basio. Derbyniwyd nifer o sylwadau positif o ’ r digwyddiad, a dymunai staff Llys Cadfan ddiolch yn fawr i Chris Lewis am ei gymorth i drefnu’r fflôt ac am yrru ’ r criw mor ddiogel
I goroni (sori!) y cwbl, cafodd Llys Cadfan ail am y fflôt gyda’r wisg orau! Llongyfarchiadau mawr i chi!
Diolch am ddarllen y rhifyn diweddaraf o Newyddlen Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Os oes gennych chi newyddion y dymunwch
rannu gyda ni, cofiwch gysylltu
Yn yr un modd, carwn glywed gennych am unrhyw adborth, gwyn neu awgrymiad am y Newyddlen. Mae’r Newyddlen wedi ei chreu gennych chi ar eich cyfer chi, felly croesawn unrhyw sylwad.
Manylion Cyswllt
Rhif Ffôn: 01286 679 223
E-bost:
sianip@gwynedd llyw cymru
Mair Thomas a Robert Robert. Criw Llys Cadfan