
1 minute read
Dod i Adnabod Ein Gilydd
Yn y chwe mis diwethaf mae tair wedi eu penodi i swyddi o fewn y Gwasanaeth
Darparu. Mae'r dair wedi symud o rôl gofalydd cartref i fod yn Oruchwyliwr / cynllunydd mewn ardaloedd gwahanol. Dewch i ni ddod i adnabod Nicola Curtin, Allison Thomas ac Emma Jones yn well.
Advertisement
Dweud ychydig amdanat ti dy hun:
Nicola Curtin ydi fy enw i, dwi’n 30 oed ac yn byw yng Nghaernarfon. Yn fy amser sbâr dwi’n licio gwario amser hefo teulu a ffrindiau ac yn enjoio mynd i gerdded hefyd pam mai’n braf. Ar y dde gwelwch lun Llyn Gwynant, un lle dwi’n mwynhau mynd i gerdded.

Dy swydd:
Rydw i wedi dechrau swydd newydd yn ôl ym mis Chwefror fel goruchwyliwr cymunedol yn ardal Criccieth.
Beth yw dy gefndir proffesiynol:
Cyn cael y swydd yma mi oni yn gweithio fel carer yn ardal Gaernarfon am 7 mlynedd.
Roeddwn i wrth fy modd hefo’r gwaith yn cael gweld pobl bob dydd ac yn cael helpu nhw i allu byw mor annibynnol a oeddent yn gallu adref yng nghartref ei hunan a lot o hwyl wedi bod dros yr amser. Wedi dysgu lot yn yr amser byr rydw i wedi bod yn gwneud y swydd ac yn magu hyder yn slo bach. Rydw i yn derbyn cefnogaeth dda gan y staff i gyd, ddiolchgar iawn mod i wedi cael y cyfle i wneud rhywbeth gwahanol, a gweld yr ochor arall i’r swydd Er mod i wedi enjoio bod yn carer dros y blynyddoedd mai’n neis cael y cyfle i drio gweithio’n hun i fyny