
1 minute read
Allison Thomas
Dwi’n gweithio i Gyngor Gwynedd ers digon agos i ddeng mlynedd ar hugain o flynyddoedd, a hynny fel gofalwraig Yn y cyfnod yna roeddwn yn gweithio ar draws Eryri cyn symud i Gaernarfon Dros y pedair blynedd diwethaf rwyf wedi bod yn mynd i’r swyddfa i ennill profiad o ddefnyddio'r systemau, cynllunio rotas ac ati. Yn dilyn hyn daeth cyfle i mi geisio am swydd Goruchwyliwr dros dro, ar gyfnod secondiad Gwelais fod y plant wedi tyfu ac wedi gadael y nyth, felly roedd yr amseru ’ n berffaith i mi ehangu fy ngorwelion

Advertisement
Rwyf wedi gweithio i batrymau shifft drwy gydol fy mywyd gwaith, felly dyma’r tro cyntaf erioed i mi brofi penwythnosau a gŵyl y banc i ffw
Mae’r rhyddid yma wedi galluogi mi i ail afael ar fy niddordebau megis garddio, cerdded gyda’r teulu a Mali’r ci. Yr wythnos diwethaf fe wnaethom gwblhau Moel Cynghorion, a ninnau’n byw ar droed yr Wyddfa mae digon o lefydd i ni fynd.
Heb os mae ’ r swydd fel Goruchwyliwr yn sialens newydd i mi, ond gan fy mod wedi gweithio fel gofalwraig am yr holl flynyddoedd teimlaf fod hyn yn bwynt positif gan fod gennyf berthynas wych gyda’r gofalwyr ac yn barod i weithio fel tîm
Edrychaf ymlaen at y dyfodol a gobeithiaf gyflawni llawer mwy.