1 minute read

Cynllun newydd arloesol a chyffrous Rhannu

Be ydi Rhannu Cartref?

Mae Rhannu Cartref yn helpu pobl i gefnogi ei gilydd dan yr un to. Y nòd yw canfod person hŷn all gynnig ystafell sbâr a pherson iau (fel arfer), sydd angen cartref o ansawdd da am bris rhesymol Bydd y person iau yn cynnig cwmnïaeth a chefnogaeth ymarferol o amgylch y cartref, wrth dderbyn cartref cysurus a chyfeillgarwch. Felly mae ’ n helpu i daclo amryw o ’ r heriau sy ’ n ein hwynebu ni:

Advertisement

Helpu pobl hŷn i fyw bywyd da, annibynnol yn eu cartrefi eu hunain

Helpu i daclo unigrwydd, a thrwy hynny afiechyd

Cartrefi fforddiadwy yn enwedig yn sgil costau byw

Lleihau’r galw am wasanaethau statudol

Tawelwch meddwl i’r unigolyn a ’ u teuluoedd

Gwynedd ac Abertawe yw ’ r unig ddwy sir yng Nghymru sy ’ n cynnig cyfleon Rhannu Cartref ar hyn o bryd. Drwy broses o baru gofalus a thrylwyr rydym yn gobeithio rhoi cyfle i gymaint o bobl leol ag sy ’ n bosib elwa o ’ r cynllun cyffrous yma mewn ffordd ddiogel. Mae cynlluniau o ’ r fath wedi hen ennill eu tir yn Lloegr ble mae Homeshare UK yn helpu trigolion a chymunedau mewn 21 ardal awdurdod lleol, gyda buddion amlwg.

Pwy ydi Cydlynydd Rhannu Cartref?

Richard Williams dwi, neu yn llai o lond ceg, jest Rich! Ers dechrau efo’r Cyngor yn 2015 dwi wedi bod yn gweithio yn yr Adran Oedolion gyda’r tîm Datblygu Gweithlu ac yn fwy diweddar yn sgil COVID yn cydlynu PPE i’r maes gofal Cyn hynny roeddwn yn gweithio i Agored Cymru am 14 mlynedd.

Dwi 'di bod yn gweithio i sefydlu’r cynllun ers canol mis Ionawr eleni ac yn joio yn fawr iawn. Fel pob cynllun newydd, mae ’ n lot o waith i’w sefydlu a pethau dwi heb feddwl amdanynt yn gallu codi Diolchgar iawn o gefnogaeth y tîm Llesiant ag yn bennaf Siân a Mirain sydd bob amser ar gael i fownsio syniadau oddi arnynt ac i helpu cael bob dim yn ei le Erbyn hyn dwi'n teimlo bod pethau wedi dod at ei gilydd yn dda a dwi'n barod i’r gwaith go iawn ddechrau, sef i baru pobl sydd angen ymgymryd â’r cynllun mewn ffordd drylwyr a diogel ac i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl er gwell. Unwaith fydd pobl yn cyd-fyw, byddaf yn parhau i gefnogi a chyfarfod yn rheolaidd

Eisiau gwybod mwy? Ewch i wefan y Cyngor: bit.ly/rhannucartref neu ar safle Homeshare UK ble mae nifer o fideos a straeon am lwyddiannau’r cynllun: homeshare.org. Neu os hoffwch sgwrs neu yn adnabod pobl a all elwa o Rhannu Cartref, plîs cysylltwch!

Ffôn: 07388 859015 e-bost: richardwynwilliams@gwynedd.llyw.cymru.

This article is from: