1 minute read

Canu'r Gloch

Daeth i sylw’r adran yn ddiweddar fod nifer o aelodau staff yn teimlo pryder am leisio eu barn neu adrodd ar gŵyn yn eu lleoliad gwaith. Hoffwn feddwl bod ein staff yn hapus ac eiddgar yn eu swyddi ac mae clywed i’r gwrthwyneb yn siom Gwyddom fod un aelod o staff wedi gadael ei gwaith oherwydd yr ymdeimlad yma, ac mewn amser o gymhlethdodau recriwtio, mae ’ n sefyllfa anodd ei dderbyn

Mae dyletswydd arnom ni fel arweinwyr, uwch reolwyr a rheolwyr i warchod a chynnal ein staff, felly gofynnaf yn garedig am eich cymorth ar y mater Credaf fod hwn yn gyfle euraidd i godi ymwybyddiaeth unwaith yn rhagor ar ein Polisi Canu’r Gloch Cewch hyd i’r linc yn y Ganolfan Bolisi ar ein mewnrwyd neu drwy glicio yma.

Advertisement

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl staff a chontractwyr Cyngor Gwynedd ac mae ’ n

● annog gweithwyr pryderus i deimlo’n hyderus i gamu ymlaen a rhannu eu pryderon

● dysgu ni am ein cyfrifoldeb o ran adrodd ar gamymarfer

● hyrwyddo ffyrdd dibynadwy i staff adrodd ar bryderon

Mae’n bwysig ein bod ni’n hyrwyddo’r polisi ond hefyd yn hyrwyddo’r egwyddorion y polisi yn y gweithle, gan

● sicrhau fod cwyn yn cael ei thrin yn ddifrifol a sensitif

● sicrhau fod ymchwiliad yn digwydd i mewn i’r gŵyn

● sicrhau fod camau mewn lle i amddiffyn yr unigolyn sy ’ n pryderu.

Gofynnaf yn garedig i chi rhannu’r polisi hwn gyda’ch staff cyn gynted ag sydd phosib. Gan gofio nodi hefyd, fod modd i unigolion gysylltu’n uniongyrchol gyda’r adran adnoddau dynol os yn anghyffyrddus codi un rhywbeth yn y gweithle ei hun Eu cyfeiriad e-bost yw desgadnoddaudynol@gwynedd.llyw.cymru. Yn yr un modd, gellir cysylltu â ni’n ganolog ar gcgc@gwynedd.llyw.cymru.

Gobeithiwn, gyda’n gilydd, y gallwn addasu’r meddylfryd hwn

Diolch, Aled

Dyma enw a rhif y polisi ar ein hunanwasanaeth.

This article is from: