

Cronfa Ffyniant Gyffredin
Gwynedd
Gweithredu'n Wyrdd
Newyddion am y prosiectau sy’n creu dyfodol cynaliadwy
Yn y rhifyn hwn rydym yn dod â’r diweddaraf i chi am rai o’r cynlluniau sydd wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Gwynedd, gan ganolbwyntio ar y rhai sy’n rhoi pwyslais ar ddiogelu’r amgylchedd a thaclo newid hinsawdd.

Cyng. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned


“Mae’n bleser cael rhannu gwybodaeth am rai o gynlluniau cyffrous ac amrywiol o bob cwr o Wynedd sydd wedi cael budd o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gwerth £24.4 miliwn.
Wrth iddynt flaguro ac yn ffynnu, rwyf yn hyderus y byddant yn cyfrannu tuag at ein nod o feithrin balchder yn ein hardaloedd a rhoi hwb i gyfleoedd bywyd yma yng Ngwynedd
Mae’n destun balchder yn benodol gweld fod cymaint o’r prosiectau gyda phwyslais ar warchod ein hamgylchedd werthfawr“
wedi ei roi o’r gronfa i gefnogi prosiectau sy’n helpu’r amgylchedd a’r economi werdd leol.

48
cynllun datgarboneiddio wedi eu datblygu

24 eiddo

408
wedi cael systemau ac offer ynni carbon isel neu sero wedi’u gosod o gartrefi wedi cynyddu defnydd o fesurau effeithlonrwydd ynni


Amcan gostyngiad cyfatebol mewn CO
Partneriaeth arloesol Prifysgol
helpu busnesau gyrraedd sero net
Yn gynllun Busnes@LlandrilloMenai, mae’r Academi Ddigidol Werdd wedi bod yn cynorthwyo busnesau i ddatblygu strategaethau ar gyfer lleihau’u ôl troed carbon a gwella effeithlonrwydd, trwy gynnig cyngor ymgynghorwyr arbenigol.
Mae 49 o gwmnïau o bob rhan o Wynedd wedi cymryd rhan – llawer ohonynt bellach ar y daith i gyrraedd sero net
Un o’r cwmnïau sydd wedi derbyn cyngor yw’r cyfreithwyr Martin and Associates, o Bwllheli. Diolch i’r cynllun, mae ganddyn nhw strategaeth pum mlynedd yn ei le bellach i wella effeithlonrwydd ynni
Sefydliad arall sydd wedi cael cefnogaeth yw Canolfan Abbey Road ym Mangor. Maen nhw’n cynnig cefnogaeth iechyd meddwl i oedolion yr ardal.
Gyda chymorth yr Academi Ddigidol Werdd maen nhw wedi derbyn grant ac wedi rhoi cynllun yn ei le i leihau allyriadau dros bum mlynedd.
Partneriaeth arloesol Prifysgol
Bangor a chymdeithas dai Adra
Mae cyfleuster ymchwil newydd yn cael ei ddatblygu yn Tŷ Gwyrddfai, Penygroes fel rhan o ymdrechion i ddatgarboneiddio’r sector adeiladu
Dan arweiniad Prifysgol Bangor, gall y cyfleuster efelychu amodau dan do mewn cartref, yn ogystal â’r awyr agored – o dywydd oer a gwlyb i dywydd poeth eithafol. Y pwrpas yw galluogi cwmnïau ac ymchwilwyr i brofi deunyddiau adeiladu mewn amgylchiadau amrywiol, gan gynnwys senarios hinsawdd posib
"Mae’r cyfleuster newydd yma yn caniatáu i ni brofi sut mae adeiladau a deunyddiau newydd, yn ymateb i’r amgylchedd a hinsawdd newidiol – gan helpu ni i greu tai sy’n fwy gwydn ac ynni-effeithlon."
Yr Athro Graham Ormondroyd, Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor.
Mae mwy am y stori yma

Wardeniaid Ynni – Prosiect Sero Net Gwynedd
Diolch i gefnogaeth y gronfa, mae’r prosiect hwn dan arweiniad cymdeithas dai Adra hefyd wedi dod â nifer o sefydliadau ynghyd
Mae’r pwyslais ar ddad-garboneiddio cartrefi, creu swyddi yn yr economi werdd leol, a helpu teuluoedd i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon.
Yn rhan o hyn mae nifer o swyddogion ynni cymunedol wedi cael eu cyflogi mewn chwe ardal o Wynedd Mae’r swyddogion yn ymweld â chartrefi i gynnig cyngor, a sicrhau bod trigolion ar y tariff cywir er mwyn gwario llai ar ynni ac arbed arian.


“Roedd y ffaith fod y cyrsiau yn lleol yn golygu nad oeddwn i yn gorfod teithio yn bell i gael yr hyfforddiant. Gyda’r cymwysterau newydd rydym wedi gallu ymestyn gwasanaethau rydym yn eu cynnig fel busnes.”
gweithlu
Dyma gynllun arall sy’n cael ei ddarparu yn Tŷ Gwyrddfai, ond mewn partneriaeth â Busnes@LlandrilloMenai y tro hwn Y nod yw uwchsgilio’r gweithlu yn y maes adeiladu i ymateb i’r galw am ddatgarboneiddio cartrefi
Un sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun ydi Kate Robinson, o Robinson Electrical, cwmni teuluol o Tanygrisiau. Roedd yn falch iawn o’r cyfle i allu cymryd rhan yn y cynllun sydd hwn wedi caniatáu iddi ddysgu sut i osod y dechnoleg diweddaraf yng nghartrefi ei chwsmeriaid, gan gynnwys pwyntiau gwefru ceir trydan a phaneli solar
Yn ôl Kate roedd yn awyddus i ddatblygu’r busnes felly pan ddaeth y cyfle hwn, roedd yn barod iawn i gymryd rhan.
Yn ogystal â chefnogi prosiectau mawr yn uniongyrchol, sefydlwyd nifer o gronfeydd llai gan Cyngor Gwynedd i gefnogi mentrau a chymunedau gan gynnwys y Gronfa Adfywio Cymunedau, y Gronfa Sector Wirfoddol a’r Gronfa Datblygu Busnes.
CRONFA ADFYWIO CYMUNEDAU
Mae’r gronfa hon, yn parhau i wneud gwahaniaeth sylweddol i sefydliadau cymunedol. Un enghraifft llwyddiannus yw Canolfan Noddfa yng Nghaernarfon, sydd wedi derbyn arian i uwchraddio gyda’r pwyslais ar wella cynaladwyedd Drwy osod paneli solar, mae’r ganolfan yn lleihau ei hallyriadau carbon ac yn cynhyrchu ynni gwyrdd ei hun
Yn yr un modd, mae Canolfan Gymdeithasol Llandderfel wedi manteisio ac wedi buddsoddi mewn pwyntiau gwefru ceir trydan ar y safle, gan roi cyfle i’r gymuned fabwysiadu ffyrdd teithio mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.



Cynllun arall sydd wedi elwa yw Prosiect Diogelu Llwybr Penrallt, Morfa Nefyn. Mae’r gronfa wedi ariannu gwaith sefydlogi’r llwybr ar ôl tirlithriadau, gan sicrhau dyfodol i’r darn pwysig hwn o Lwybr Arfordir Cymru, a galluogi i’r gymuned leol ac ymwelwyr i barhau i’w fwynhau
Mantell Gwynedd sydd wedi gweinyddu’r gronfa hon gwerth £1.5 miliwn ar gyfer mudiadau trydydd sector. Llwyddodd 36 o fudiadau i sicrhau cyllid, gyda nifer ohonynt yn canolbwyntio ar wella cynaladwyedd a lleihau ôl troed carbon.
Un enghraifft yw Friends of Wern Mynach yn Y Bermo Derbyniodd y grŵp yma gymorth i osod system casglu dŵr glaw yn yr ardd gymunedol. Un arall yw Canolfan Gymdeithasol Bro Ffestiniog, sydd wedi gosod ffenestri, drysau a system wresogi newydd i wella effeithlonrwydd ynni’r safle.
Mae’r gronfa hefyd wedi helpu nifer o ganolfannau cymunedol a chlybiau chwaraeon i osod paneli solar ar eu toeau, goleuo ynni effeithlon, ynghyd â batris storio trydan Maen nhw’n cynnwys Capel Bedyddwyr Tywyn, Neuadd Goffa Llanllyfni, Canolfan Gymdeithasol Talysarn, Neuadd Rhiwlas, Neuadd Carmel, Clwb Pêl-droed Caernarfon a chlybiau rygbi Dolgellau a Pwllheli.

Darllenwch fwy am y gronfa hon dan ofal Mantell Gwynedd yma.

CRONFA DATBLYGU BUSNES

Mae Cronfa Datblygu Busnes, sy’n cael ei reoli gan dîm Busnes@ y Cyngor, yn darparu cymorth i fusnesau, er mwyn annog arloesedd a thwf. Trwy’r gronfa, mae nifer o gwmnïau wedi gallu ehangu gwasanaethau a chreu a diogelu swyddi yn y sir.
Un busnes sydd wedi elwa yw cwmni adeiladu a gwaith tir Tom James Construction o Blaenau Ffestiniog Yn fusnes teuluol, maen nhw’n falch o fod yn cyflogi pobl leol ac yn chwarae rhan bwysig yn economi’r ardal.
Mae arian o’r gronfa wedi galluogi’r busnes i brynu offer sy’n lleihau eu defnydd o ynni ac i drin gwastraff yn fwy effeithlon, gan helpu nhw hefyd i leihau costau
“Mae’r cyllid yma wedi galluogi ni i dyfu, a chreu a diogelu swyddi yn lleol. Efo’r offer newydd rydyn ni’n gallu gwneud mwy i leihau ein effaith ar yr amgylchedd – rhywbeth sy’n bwysig i ni fel cwmni” Tes James, Cyfarwyddwr Tom James Construction.