
1 minute read
Parhad Manon
2016 Rhoddodd y swydd hon gyfle i mi fynd i gyfieithu ar y pryd i nifer o gyfarfodydd o bob math o fewn y Cyngor a thu hwnt, gan roi cefndir a chyd-destun hynod werthfawr i mi allu deall y gwahanol adrannau a meysydd o fewn y sefydliad
Yn dilyn pedair blynedd yn y tîm cyfieithu, cefais fy mhenodi’n Uwch Swyddog Gweithredol yn gweithio yn y Tîm Arweinyddiaeth.
Advertisement
Yn wreiddiol, roeddwn yn gweithio â’r Prif Weithredwr a ’ r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd (Dilwyn Williams a Morwena Edwards). Erbyn fy ail flwyddyn yn y swydd, cefais y cyfle i weithio â’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig, gan ddatblygu ac ehangu fy ngwybodaeth a ’ m dealltwriaeth o ’ r maes Yn ystod fy misoedd olaf yn y swydd, cefais y fraint o gydweithio â’n Cyfarwyddwr newydd, Dylan Owen
Hoff wlad iti deithio iddi?
Dw i wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle i fynd i bob cwr o ’ r byd Mi es i Batagonia efo’r Urdd pan oeddwn yn 17, ac mi oedd yn brofiad bythgofiadwy Dw i hefyd wedi bod yn teithio ar fy mhen fy hun i wledydd fel yr Unol
Daleithiau, Cambodia a Fietnam. Mae’n anodd iawn dewis yr hoff wlad i mi deithio iddi gan bod bob un mor wahanol, ac â’i rhinweddau ei hun Pe byddai’n rhaid dewis, mi fuaswn yn dueddol o ddewis yr Eidal, am y bwyd, y gwin a ’ r bobl glên!
Disgrifia dy hun mewn tri gair: Trefnus, brwdfrydig, optimistig
Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf yn dy swydd newydd?
Dw i’n edrych ymlaen dysgu mwy am y maes
Blynyddoedd Cynnar, ynghyd ag ymchwilio i yn Cambodia. ffyrdd newydd o weithio er mwyn rhoi trigolion

Gwynedd yn ganolog i’r gwasanaeth. Mae llawer o wahanol agweddau i’r prosiect, gyda’r prif nod o drawsffurfio’r gwasanaeth Os oes unrhyw un yn dymuno dysgu mwy am y gwaith neu gynnig barn, mae croeso i chi gysylltu â fi dros e-bost neu Teams