
1 minute read
Llwybrau Llesiant
Dros y misoedd diwethaf, mae Llwybrau
Lleisiant wedi bod yn brysur yn cyflwyno gwaith y gwasanaethau brys, wrth i gang o 45 gael y cyfle i ymweld â Chanolfan Bad Achub yr RNLI ym Mhwllheli yn ogystal â Chanolfan
Advertisement

Ambiwlans Awyr Cymru ym Maes Awyr
Caernarfon
Yn y ddau leoliad hyn, cafodd y rhai oedd yn bresennol gyflwyniad diddorol am waith y gwasanaethau brys yn ogystal â chael y cyfle i ddod yn agos iawn at y bad achub ym
Mhwllheli a ’ r hofrennydd yng Nghaernarfon. Dwy sesiwn hynod ddiddorol!
Cafodd ein criw o chwech ddiwrnod i’w gofio pan drefnodd Llwybrau Llesiant daith i Dwrnament
Snwcer Agored Cymru Cynhaliwyd y digwyddiad yn Venue Cymru yn Llandudno nôl ym mis Chwefror.
Yn ogystal â gwylio snwcer o ’ r radd flaenaf - a oedd yn cynnwys bod yn dyst i ddwy egwyl canrif,roedd Llwybrau Llesiant hefyd wedi trefnu i’r grŵp dderbyn rhywfaint o hyfforddiant snwcer gan hyfforddwr proffesiynol Ond hefyd, trefnwyd iddynt fynd ‘cefn llwyfan’, lle cawsant gyfle i gwrdd â sêr snwcer Shaun Murphy a Ken Doherty ymhlith eraill Profiad gwych i'n chwech a fwynhaodd ddiwrnod bendigedig yn y snwcer!

