
1 minute read
Gair gan Aled.
Gobeithio eich bod i gyd wedi cael cyfle i fwynhau’r tywydd braf diweddar. Efallai y bydd y glaw wedi cyrraedd erbyn i’r newyddlen yma eich cyrraedd ond gobeithio wir y cawn haf go iawn eleni
Yn y newyddlen ddiwethaf roeddwn yn cyfeirio at newyddion da mewn perthynas â phenderfyniad y Cyngor i glustnodi dros £1.5 miliwn ar gyfer adolygu ac ail-arfarnu swyddi darparu gwasanaethau llinell flaen yn y maes gofal Erbyn hyn, mae ’ r addasiadau i gyflogau’r mwyafrif o swyddi sy ’ n cael eu heffeithio wedi eu gweithredu gyda chynnydd yn y cyflog ac ôl-daliad yn ôl i 1af Ebrill wedi ei gynnwys gyda chyflogau mis Mai. Mae llond dwrn o swyddi yn dal yn destun trafodaeth gyda staff oherwydd y newidiadau yn y disgrifiadau swyddi ond rwy ’ n obeithiol y gallwn ddod i gytundeb ar hyn yn fuan fel y gallwn gwblhau’r newidiadau i bawb. Rwy’n credu bod y Cyngor wedi cymryd cam pwysig ymlaen gyda’r cynnydd yma ac wedi gwneud beth oedd yn bosib o fewn eu gallu Ond hefyd dwi’n ymwybodol iawn bod angen parhau gyda’r ymdrechion ar lefel genedlaethol i geisio sicrhau bod cyflogau yn y maes gofal yn gystadleuol ac yn deg. Yn ychwanegol i’r ochr Darparu, mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i edrych ar swyddi proffesiynol o fewn y Cyngor yn cynnwys swyddi gweithwyr cymdeithasol, therapyddion a.y.y.b. Dyddiau cynnar ond gobeithiwn y gallwn ddatblygu opsiynau yn fuan. Unwaith y bydd y darlun yn fwy eglur, mi wnaf rannu gwybodaeth bellach gyda chi trwy’r newyddlen
Advertisement
O ran ein gwaith dydd i ddydd, mae ’ r pwysau o gyfeiriad y Bwrdd Iechyd i ryddhau gwlâu wedi lleihau rhywfaint ac mae ein rhestrau aros am ofal cartref yn lleihau Mae nifer o resymau dros hyn gan gynnwys y ffaith bod y drefn newydd ar gyfer gofal cartref yn sefydlogi Fodd bynnag, nid ydynt wedi diflannu ac mae gennym dipyn o waith i’w wneud i gyrraedd lle hoffem fod yn enwedig mewn rhai ardaloedd. Diolch i chi gyd am eich cyfraniad i gyflawni hyn. Mae angen i ni barhau gydag ac ehangu’r ymdrechion ataliol a defnyddio adnoddau a gwasanaethau cymunedol ynghyd a thechnoleg (teleofal) i gefnogi pobl fel ein bod yn lleihau’r nifer sydd mewn gwir angen ond yn parhau i aros am ofal cartref
Yn olaf, hoffwn gyfleu diolch penodol i staff TAC De Meirionnydd am eich gwaith diweddar yn dilyn cau ward ysbyty Tywyn. Cafwyd diolchiadau a gwerthfawrogiad o sawl cyfeiriad gydag aelodau lleol yn codi’r mater a rhannu eu cymeradwyaeth yn y Cyngor llawn. Ar fy rhan i, Dylan fel Cyfarwyddwr, y Cynghorydd Dilwyn Morgan fel aelod cabinet a’i holl gyd-aelodau a phawb arall yn ymwneud â’r mater hoffwn gyfleu ein diolch i Llinos a ’ r tîm i gyd am eu gwaith mewn amgylchiadau anodd iawn.