1 minute read

Gŵyl Gofalwyr Di-dâl

Next Article
Mwy na Geiriau

Mwy na Geiriau

Wythnos Gofalwyr 5ed - 10fed Mehefin 2023

-Lester Bath

Advertisement

Penderfynwyd cynnal Gŵyl Gofalwyr Di-dâl arall eleni, ond gyda digwyddiadau wyneb yn wyneb – roedd yr ŵyl gyntaf yn 2020 ar-lein a chytunwyd y byddai’n syniad da i’w chyfuno efo Wythnos Gofalwyr. Sefydlwyd is-grŵp Gŵyl Gofalwyr Di-dâl ar ôl cyfarfod Rhwydwaith Gofalwyr Gwynedd ddiwedd mis Ionawr.

Roeddwn yn awyddus i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled y sir i geisio cyrraedd cymaint o ofalwyr â phosib, a chawsom dipyn o adborth gan ofalwyr am beth yr hoffent ei wneud, sef sesiynau maldod (pamper sessions) a theithiau cerdded ymwybyddiaeth (mindfulness).

Gyda chefnogaeth Coleg Llandrillo Menai ym Mangor a Dolgellau, roedd modd i ni gynnig sesiynau maldod i ofalwyr yn y ddau goleg, a chynhigiodd Tomos Lloyd (Byw’n Iach/Partneriaeth Awyr Agored) ac Anna Williams (Byw’n Iach/Partneriaeth Awyr Agored) ac Anna Williams (Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru) arwain teithiau cerdded yn Arfon, Dwyfor a Meirionnydd

Trefnodd Llwybrau Llesiant nifer o ddigwyddiadau yng Nghaernarfon, a oedd ar agor i bob gofalydd, a wnaeth Celfyddydau Cymunedol gynnal sesiynau ffeltio wyneb yn wyneb yng Nghaernarfon ar y dydd Gwener. Cyfrannodd pob Cysylltydd Cymunedol at yr Ŵyl, gyda nifer o ddigwyddiadau yn Ne Meirionnydd wedi trefnu gan Bethan Wyn Roberts, TAC De Meirionnydd; Nia Jones, TAC Caernarfon, yn cydweithio efo Age Cymru Gwynedd a Môn ar ddigwyddiad ym Mhontnewydd; a Siôn Llywelyn, TAC Bangor, yn trefnu paned a sgwrs yn Hwb Ogwen, Bethesda Hefyd roedd cyfle crwydro a the prynhawn i ofalwyr pobl sydd yn byw gyda dementia, a diwrnod gwybodaeth i rieni ofalwyr oedolion a phlant gydag anabledd dysgu/anghenion ychwanegol

"Dwi’nwirwerthfawrogicyfarfodefopawbsyddar yrunsiwrnefelfifyhunoherwydd,uwchben popeth,mae’ngwneudichideimloynllaiunig,wrth fodyndystioni’ranawsterauymaerhaidieraill ymrwymoiddynnhwyneurôlgofalu.Mae’nwir ryfeddolgweldynygrŵpyngymharolfachynasut moranoddydibywydaupoblondeto,diolchichi, medrantgaeldiwrnodaupleserushefyd.

“Diolch am redeg y gweithdy ffeltio. Roedd yn braf cael y cyfle i gyfarfod efo pobl newydd mewn amgylchedd ymlacio, ac i ddysgu crefft newydd ar yr un pryd.”, gofalydd am y gweithdy yng Nghaernarfon.

Gan gydnabod bod rhai o ofalwyr yn methu cyrraedd digwyddiadau wyneb yn wyneb oherwydd natur eu rôl gofalu neu weithio, roedd cynnig o gwrs cyflwyno Dru Yoga ar-lein ac ar gael 5ed - 30ain Mehefin Hefyd rhoddodd Llyfrgelloedd Gwynedd nifer o becynnau ffeltio i ofalwyr eu gwneud yn eu cartrefi

I orffen yr Ŵyl, ac Wythnos Gofalwyr yng Ngwynedd, trefnodd Ffion Edwards, Swyddog Gofalwyr Ifanc, Diwrnod Hwyl ar gyfer gofalwyr o bob oed, ond yn anelu’n arbennig rhieni- gofalwyr a gofalwyr ifanc. Roedd yn ddiweddglo gwych i’r wythnos dda; a diolch mawr i bawb a oedd yn cyfrannu at yr Ŵyl/Wythnos.

“Fysa yn neis just cael pamper bach.”, gofalydd, wrth gofrestru am sesiwn maldod ym Mangor.

This article is from: