1 minute read

Mwy na Geiriau

Ydach chi yn sylweddoli bod darparu ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gofal rydan ni’n ei roi i unigolion? Ei fod yn gallu gwneud iddynt deimlo’n gartrefol, yn ddiogel ac wedi’u parchu? Gall hefyd ei gwneud yn llawer haws i unigolion esbonio eu hemosiynau a ’ u dymuniadau a rhoi hyder i ni ein bod wir yn deall beth sy ’ n bwysig iddynt.

Mae cynllun 5 mlynedd diweddaraf y Llywodraeth ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg yn pwysleisio unwaith eto yr angen am y ‘cynnig rhagweithiol’ Wrth gwrs, byddwch yn gyfarwydd gyda’r term yma – mae o ar eich ffurflenni WCCIS, ar eich polisi goruchwyliaeth ac mewn sawl lle arall. Ond, be’n union mae o ’ n ei olygu?

Advertisement

Rhoi gwasanaeth yn Gymraeg heb i neb orfod gofyn na dewis.

Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni: ddechrau sgyrsiau’n Gymraeg bob amser er mwyn gwahodd unigolion i ddefnyddio eu Cymraeg efo ni adnabod os ydi unigolyn yn siarad

Cymraeg, a gwneud yn siŵr fod y gweithiwr sy ’ n mynd i’w gweld yn siarad

Cymraeg defnyddio’r Gymraeg sydd gennym. Hyd yn oed os nad ydych yn rhugl neu ’ n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg, gall defnyddio hyd yn oed geiriau bach yma ac acw wneud byd o wahaniaeth i ofal unigolyn.

Cofiwch nad yw gofyn i unigolion beth yw eu ‘dewis iaith’ neu ‘preferred language’ yn cyfrif fel cynnig rhagweithiol ac mae ’ n bwysig i gydnabod ein cyfrifoldeb i gwrdd ag angen iaith yr unigolyn; hynny ydi, siarad Cymraeg os ydi’r unigolyn yn siarad Cymraeg

Er mwyn i ni allu deall gallu ein gweithlu i ddarparu gwasanaethau’n Gymraeg, mae ’ n bwysig bod gennym ddata am allu iaith bob aelod o staff. Mae’n ddyletswydd ar bob aelod o staff i lenwi’r hunanasesiad iaith sydd i’w gael ar y system hunanwasanaeth. Os gwelwch yn dda, os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod, rhowch ddeng munud o ’ch amser i’w lenwi. Bydd y tîm cefnogi gweithlu yn cysylltu gyda rheolwyr llinell dros yr wythnosau nesaf hefyd i’w hannog i wirio bod staff wedi’i gwblhau.

Cofiwch bod help ar gael i ddatblygu’ch sgiliau Cymraeg lle bynnag ydych chi ar eich taith; boed hynny’n ddechrau dysgu am y tro cyntaf neu ’ n rhugl ond ddim mor hyderus wrth ysgrifennu. Dos i DYSGU CYMRAEG (sharepoint com) am fwy o wybodaeth, neu mae croeso i chi gysylltu gyda’r Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg, Bet Huws, os hoffech sgwrs – bethuws@gwynedd llyw cymru

This article is from: