Newyddlen Gwasanaethau Cymdeithasol

Page 1


Newyddlen

G w a s a n a e t h a u

C y m d e i t h a s o l

CROESO

Croeso i rifyn y Gaeaf o newyddlen gwasanaethau cymdeithasol Gwynedd.

CYSYLLTU

Os oes gennych chi newyddion yr hoffech ei rannu gyda ni, cysylltwch â miaowen@gwynedd.llyw.cymru.

Dyma gyfle i rannu gwybodaeth, straeon, cyfleoedd a mwy.

Holi’r

Cyfarwyddwr

Cofiwch am eich cyfle i anfon cwestiynau, cynnig sylw neu roi adborth i Dylan drwy’r linc yma

EIN CYFARWYDDWR GAIR GAN

Henffych Well Gyfeillion!

Mewn swyddi heriol a chaled yn aml, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i chi am eich gwaith di-flino ac ymroddedig

Wrth i mi deithio ar hyd a lled Gwynedd yn ymweld â'ch timau a'r gwasanaethau, rydw i'n clywed am blant sy’n teimlo'n ddiogel i eistedd gyda chi tra'n crio a chwerthin; am deuluoedd sy’n eich gwerthfawrogi ac sydd ddim am i chi adael eu cartref; am wenau ac am bobl flin yn slamio drysau a diffodd galwadau ffôn yn glep; am henoed yn cael eu cyfle i ganfod cartref croesawus newydd; am bobl IT sy'n symleiddio cymhlethdod; am ofalwyr sy'n gwisgo gwên ar bob achlysur; am sicrhau bod pobl fregus yn talu'r ffioedd cywir; am alluogi pobl i fyw eu bywydau gorau; am wneud y pethau 'iawn' yn wyneb beirniadaeth; am wrando a rhoi'r cyfle i bobl siarad ac am rymuso pobl i ganfod atebion; am ganu mewn cartrefi ac am ofal heb ei debyg; am hir-ddioddef systemau biwrocrataidd a gwaith papur (er nad oes papur!); am bobl yn gallu byw gartref; am ddiogelu ac amddiffyn; am bobl ifanc fyddai mewn sefyllfaoedd anodd iawn oni bai amdanoch chi; am ymdrin â chwynion; am lwyddo i flaenoriaethu a chithau ar ddyletswydd; am eich hiwmor a'ch hwyl; am ddarparu gwybodaeth a chyngor doeth; am lwyddo i gadw pobl allan o'r ysbytai; am bobl yn gweithio'n ddiwyd a thawel mewn swyddfeydd yn galluogi gwaith pwysig; am eich proffesiynoldeb; ac am bobl yn symud drwy gyfnodau anodd yn eu bywydau gyda'ch cymorth chi

Diolch

Gwn y gall ail-ddweud pethau fod yn ddiflas, ond mae'n werth ei ddweud gan-gwaith yn fy marn i: nid oes gwaith pwysicach na mwy cymeradwy na'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud. Rwy'n ymfalchïo ynddo ac ynoch chi Diolch

Dylan

Wythnos Gwaith Cymdeithasol

Cynhelir Wythnos Gwaith

Cymdeithasol o ddydd Llun 17

Mawrth i ddydd Gwener 21

Mawrth i ddathlu gwaith cymdeithasol.

Yn ystod yr wythnos, bydd cyfres o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar gryfhau ein perthnasau, llesiant a chynnal ein hunaniaeth gwaith cymdeithasol.

Ar ddydd Mawrth 18 Mawrth, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal dau

ddigwyddiad gyda siaradwyr gwadd ysbrydoledig i ddathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd.

I bwy mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol?

- gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio a’r rhai sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn

- addysgwyr a myfyrwyr gwaith cymdeithasol

- pobl sydd â phrofiad o waith cymdeithasol

- cyflogwyr gweithwyr cymdeithasol -gweithlu gofal cymdeithasol ehangach

- swyddogion llywodraeth a pholisi

- gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau partner.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ebostiwch

Ymholiadaugg@GofalCym deithasol.Cymru

Gair gan Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant, a Marian

Parry Hughes, Pennaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd :

Wrth i ni ddathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025, hoffem gymryd y cyfle i gydnabod a diolch i bob un ohonoch am eich gwaith caled a’r effaith bositif rydych chi’n ei chael ar fywydau’r bobl rydym ni’n eu gwasanaethu. Mae eich gwaith i gefnogi unigolion bregus Gwynedd yn aml yn heriol ond mae eich ymroddiad i’w gyflawni ac i wneud beth sy’n iawn i’n trigolion hefyd yn amlwg.

Yng nghanol y prysurdeb arferol, pan fyddwch yn dod at eich gilydd yn ystod yr wythnos, boed hynny fel tîm cyfan neu mewn criwiau llai, neilltuwch ychydig o amser i adlewyrchu. Dathlwch eich cyfraniad chi fel unigolion a thimau i’r gwasanaethau gofal hanfodol a phwysig yr ydym yn ymdrechu i’w darparu i gefnogi plant a phobl i fyw eu bywydau gorau, i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu ac i gynnig cymorth i’w teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae gennych lawer iawn i fod yn falch ohono ac rydym ni yn falch iawn ohonoch.

Aled a Marian.

GymrydSaib

Fel rhan o’n gweithgareddau i ddathlu’r wythnos:

DyddIau20.03.202513:00-14:00Ar-lein

Gwahoddiad i ymuno mewn sesiwn blasu meddylgarwch ar-lein — cyfle i brofi gwahanol ymarferionacaelgwybodaethynglŷna’rbuddo arafu i lawr a chymryd sylw gyda Gwenan Roberts sydd brofiadol ym maes meddylgarwch.

Dimangencofrestruondymuno drwyddefnyddioylincisod:

https://bit.ly/43kyNPO MeetingID:82994076998 Passcode:140858

Cynhaliodd Cyngor Gwynedd Sioe Deithiol Niwroamrywiaeth, ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) .

Dyma ffair wybodaeth gyda 38 o wasanaethau lleol yn arddangos eu darpariaeth ac roedd gweithdai a chyflwyniadau ar gael yn trafod pynciau megis ADHD, PDA, tourettes a tics, a Sensori oedd prif ddigwyddiadau’r Sioe Deithiol.

Roedd yn gyfle gwych i rieni, gofalwyr a phobl proffesiynol ddysgu am y gefnogaeth sydd ar gael yn eu ardal lleol. Roedd y gweithdai yn boblogaidd iawn gydag unigolion yn falch iawn o’r cyfle i ddysgu a deall mwy am gyflyrau sydd yn dod o dan ymbarel niwroamrywiaeth .

“OMB!! Ardderchog! Fel person yn gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yng Ngwynedd, mae’r diwrnod yma fel ‘ogof Aladdin’. Fel Mam i fachgen gydag ADHD, dw i yn fy ngogoniant, do’ ni ddim yn gwybod bod gymaint o gefnogaeth ar gael”

Dyfyniad Rhiant

RHAGLEN MAGU PLANT

Bu i chwech o rieni Arfon gwblhau’r rhaglen magu plant, The Nurturing Programme, ym Mhlas Pawb yn ddiweddar dan arweiniad Lowri

Lloyd Williams a Naomi Jones

Yn ystod y 10 sesiwn; cafwyd trafodaethau difyr ac adeiladol, gyda’r rhieni i gyd yn adrodd

gwelliant personol yn eu bywyd teuluol ar ddiwedd y sesiynau.

Beth yw’r Rhaglen Magu Plant?

Helpu ymdrin â’r heriau sy’n dod o fagu plant.

Beth mae’n ei gynnwys?

Gwybodaeth Ymarferol

-Deg sesiwn 2 awr

-Gwahoddir 0-10 rhiant

-Maent yn darparu crèche

-Mae angen mynychu bob sesiwn

-Gallu dod ar eich pen eich hun

neu gyda phartner/ffrind

Dyma adborth a gafwyd ar ddiwedd y sesiynau:

“Mi wnes i fwynhau bob dim yn arw, ac roedd agweddau defnyddiol ymhob pwnc. Mi faswn i wir yn awgrymu hwn i bawb sy’n wynebu anawsterau, diolch yn fawr iawn”

Deall pam maent yn ymddwyn fel maen nhw

Cydnabod y teimladau y tu ôl i’w hymddygiad

Archwilio dulliau disgyblu

Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth ynddynt

Dysgu pwysigrwydd gofalu am eu hunain

“Mae’n hawdd anghofio ein bod angen edrych ar ôl ein hunain hefyd. Dwi wedi cael fy atgoffa fy mod i’n bwysig hefyd a bod angen i mi feithrin fy hun i fod y rhiant gorau i’r plant”

Byddwn yn parhau i gynnal grwpiau yn ystod 2025 – cysylltwch â’r

Tîm Cefnogi Teulu am fwy o wybodaeth... 01286 678824.

TEITHIO LLESOL

Cynllun Cerbydau Trydan

Mae cynllun uwchraddio cerbydau fflyd y Cyngor i drydan wedi symud ymlaen dros y misoedd diwethaf.

Mae’r cynllun yn cynnwys buddsoddiad o £1.27m, sydd wedi eu galluogi i dderbyn 48 o gerbydau trydan newydd.

Gofalwyr Cymunedol

Mae Gofalwyr Gwynedd wedi dechrau defnyddio’r ceir erbyn hyn, ac yn egluro eu bod yn hawdd ac yn hwyl i’w defnyddio.

Yn y fideo ar y chwith maent yn adrodd eu profiad.

Cliciwch ar y fideo uchod er mwyn gwylio fideo o ofalwyr cymunedol yn defnyddio’r ceir.

Cymharu Teithiau Bws

Mae yna ap newydd wedi’i ddatblygu er mwyn cymharu costau ac allyriadau carbon taith car preifat a thaith bws cyhoeddus.

Cliciwch ar y ffôn symudol er mwyn ei ddefnyddio.

Er Gwybodaeth: Mae Lansiad y Siarter Teithio Llesol ar 13/3/25 - Ymweliad Ken Skates (Aelod Cabinet Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru).

HUW CEIRIOG

Rheolwr Cofrestredig Gofal Cymunedol a Gwasanaethau

Dydd Pobl Hŷn 01/01/2010 hyd at 28/02/2025

Mae Huw wedi gwasanaethu’r Cyngor yn ddi-dor ers 01/05/1990.

Neges gan Davy Allan

Dw i wedi cael y fraint o gydweithio gyda Huw ers 30 mlynedd. Mi fydd yn golled fawr i mi ei weld yn gadael, nid yn unig fel cydweithiwr, ond fel ffrind oes

Mae Huw wedi rhoi pob ymroddiad i bob swydd a gwasanaeth y bu yn rhan ohono. Un sydd wastad wedi mynd y filltir ychwanegol, ac wedi bod yn rhan o nifer fawr o ddatblygiadau a newidiadau yn y gwasanaethau.

Neges gan Aled Davies, Rhion

Glyn ac Elliw Haf Thomas Dymuniadau gorau i Huw Ceiriog, Rheolwr Cofrestredig Gofal

Cymunedol a Gwasanaethau

Dydd Pobl Hyn, sydd wedi gadael ei rôl yn y Cyngor ddiwedd mis Chwefror

Mae Huw wedi bod yn gweithio i Gyngor Gwynedd ers 1990, ac wedi bod yn ei rôl bresennol fel Rheolwr Cofrestredig ers 2011.

Mae Huw wedi gweithio ac arwain nifer fawr o wasanaethau gofal dros ei yrfa, Gerddi Stiniog, Gerddi

Plas Y Coed, a Gwasanaeth Dydd Y Felin, Glynllifon.

Mae wedi rheoli Gwasanaethau Dydd Anabledd Dysgu, Gwasanaethau Dydd Pobl Hŷn, Tai a Chefnogaeth Anabledd Dysgu, a Gwasanaethau Gofal Cartref Mewnol.

Mi fydd colled fawr ar dy ôl Huw, a dw i’n gobeithio'r gorau a phob hapusrwydd i ti yn dy swydd newydd. Gyda diolch enfawr am bob dim. Alan.

Yn ŵr bonheddig sydd wastad yn barod ei gymwynas, a’i natur gyfeillgar, mae wedi bod yn rhan greiddiol o’r Gwasanaeth, ac wedi gosod seiliau cadarn i’r gwasanaeth adeiladu arno i’r dyfodol.

Mae Huw wedi gweithio yn ddi-flino i gefnogi ein gofalwyr, a sicrhau fod ein trigolion yn cael y gofal o’r safon uchaf yn ein cymunedau. Byddwn yn gweld colli ei brofiad a’i ymrwymiad i’r maes ar draws y sir, a hoffem ddiolch yn fawr i Huw am y cydweithio, ac am ei flynyddoedd o wasanaeth i Gyngor Gwynedd Pob hwyl i ti yn dy rôl newydd fel Swyddog Trawsnewid gyda sefydliad O Ddrws i Ddrws, a phob dymuniad da i ti i’r dyfodol.

Alcohol a Chyffuriau Polisi

Yn unol â’n hymrwymiad i greu amgylchedd gwaith diogel a chefnogol, hoffem roi gwybod i chi bod newidiadau wedi’u gwneud i’n Polisi Alcohol a Chyffuriau.

Yn ogystal â chynnal profion am reswm (for cause), bydd profion alcohol a chyffuriau ar hap yn cael eu cynnal yn y gweithle o hyn ymlaen a bydd swyddi risg uchel ac uchel iawn yn cael eu blaenoriaethu. Mae’r newid hwn yn rhan o’n hymdrechion parhaus i sicrhau diogelwch a lles pob un ohonom.

Hoffem bwysleisio nad creu pryder yw bwriad y diweddariad hwn, ond yn hytrach, sicrhau amgylchedd gwaith diogel. Blaenoriaeth y Cyngor fel cyflogwr yw cefnogi llesiant ein gweithlu, ac mae cefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd ei angen Rydym yn gwybod nad yw’n hawdd gofyn am gymorth, ond plîs siaradwch gyda ni os fyddech chi’n elwa o gefnogaeth gyda’r defnydd o alcohol a chyffuriau.

--Rheolwr Llinell

--Yr Uned Iechyd Galwedigaethol

--Meddyg teulu

--Asiantaethau neu Elusennau Annibynnol sydd wedi’u nodi isod

--Am fwy o wybodaeth: GwasanaethYmgynghorolAD@gwynedd.llyw.cymru

Mae cymorth ar gael os ydych chi’n teimlo eich bod angen help ynghylch alcohol neu gyffuriau. Gweler y dolenni a’r rhifau ffôn isod:

Cefnogaeth Dibyniaeth

Cefnogaeth Alcohol Support

HSE Managing Drug and Alcohol Misuse at Work

Mind

Talk to Frank

Polisi Alcohol a Chyffuriau

Cyngor - Cynllun Beicio i'r Gwaith

Mae beiciau trydan yn ffordd hwyliog o deithio i'r gwaith.

Mae yna gynllun i staff y Cyngor dreialu beiciau trydan am hanner awr yn ystod eu awr ginio am £3! Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i brofi beic trydan a magu hyder wrth feicio.

Am fwy o wybodaeth: gemma.yrorsaf@gmail.com 07502 525120

Karen Coutts - Gweithiwr cymorth i oedolion :

4 blynedd yn ôl, penderfynais mai defnyddio beic trydan fyddai'r dewis iawn i mi Prynais un drwy gynllun Beicio i'r Gwaith y Cyngor Maent yn costio dim mwy nac 5 i 10 ceiniog i wefru

Rwy'n gweld ei fod yn fy nghadw'n iach. Nid yw'r ffaith ei fod yn drydanol yn golygu nad oes rhaid i chi bedalu. Rwyf wrth fy modd bod allan yn yr awyr iach, rwy'n teimlo'n rhan o'r gymuned, ac mae pobl yn fy adnabod i â'r hyn rwy'n ei wneud. Weithiau gall ein swydd olygu ein bod o dan straen, felly mae teithio rhwng galwadau yn caniatáu amser i mi gael seibiant meddwl.

Ni allaf ddweud fy mod wedi wynebu unrhyw heriau gwirioneddol wrth ddefnyddio'r beic. Os nad ydych yn yrrwr, wrth gwrs mae angen i chi ymgyfarwyddo â rheolau'r ffordd

Dw i'n byw ac yn gweithio yn Nhywyn Mae reidio beic trydan yn golygu 5 diwrnod allan o 7 rwy'n actif Yn 64, rwy'n teimlo fy mod yn fwy ffit ac yn fwy egnïol nag yr oeddwn 10 mlynedd yn ôl. Byddwn yn bendant yn argymell defnyddio beic trydan yn lle defnyddio car. Mae'n well i'r amgylchedd ac yn dda i chi. Sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Rwy'n caru fy meic.

HELPU’N HUN

Mae aros yn annibynnol yn flaenoriaeth i nifer ohonom wrth i ni heneiddio, ac mae aros adref yn ein cartref yn rhan fawr o hynny. Gall Helpu’n Hun gynorthwyo nifer o bobl i wneud hynny!

Teclyn ar-lein sy'n creu adroddiad personol i chi yw Helpu’n Hun, a bydd yn cynnig awgrymiadau am bethau a all fod o ddefnydd i chi.

Trwy ateb ychydig o gwestiynau am eich anghenion, gall awgrymu offer neu syniadau a all helpu Mae asesiad Helpu’n Hun yn cynnig cyngor i’ch helpu gydag anawsterau yr ydych yn eu hwynebu yn:

Eich cartref

Gweithgareddau bob dydd

Eich iechyd

Er mwyn dysgu mwy neu i ddefnyddio Helpu’n Hun, cliciwch yma

DAN 24/7

Fel rhan o Strategaeth Llywodraeth Cymru, Camddefnyddio Sylweddau a'n Grŵp Cyflawni, rydym yn hyrwyddo'r defnydd o gyfeiriadur gwasanaethau DAN 24/7.

Llinell gymorth ffôn am ddim a dwyieithog ydy DAN 24/7, i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth neu help ynglŷn â chyffuriau / alcohol. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Am wybodaeth a chymorth lleol, triniaeth ac adferiad, cliciwch ar y wefan neu ffoniwch 0808 808 2234. Am wybodaeth fewnol, cysylltwch â Donna Catrin Jones, Swyddog Comisiynu a Datblygu Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol.

MAETHU CYMRU

Ar hyn o bryd, mae dros 71 o aelwydydd sy’n maethu yn y sir, ond mae angen o leiaf 12 ychwanegol.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan

Maethu Cymru wedi tynnu sylw at gamsyniadau am rôl gweithwyr cymdeithasol, a allai atal pobl addas rhag dod ymlaen.

Drwy faethu gydag awdurdod lleol, fel

Maethu Cymru Gwynedd, bydd gan deulu maeth fynediad at: Wybodaeth a dealltwriaeth o rôl y gweithwyr cymdeithasol

2.

1 Hyder a sicrwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy’n gweithio’n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.

3

Cymhelliant i ddechrau’r broses o ddod yn ofalwr maeth drwy Awdurdod Lleol.

Nia, Uwch Weithiwr

Cymdeithasol, Maethu Cymru Gwynedd

‘Mae angen pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a gyda phrofiadau bywyd amrywiol i faethu

Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i gynnig eu sgiliau a’u profiad a chysylltu â ni ”

Am fwy o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, cysylltwch â Maethu Cymru, neu eich tîm maethu lleol.

Pat, Gofalwr Maeth, Gwynedd

“Yn ystod ein pum mlynedd o faethu, mae’r gefnogaeth rydym ni wedi’i chael wedi bod yn hollol wych. Fel grŵp o arloeswyr, rydym yn darparu cymorth ymarferol i ofalwyr maeth eraill pryd bynnag y gallwn ni. Rydym hefyd yn cefnogi ein gilydd yn emosiynol yn ystod y cyfnodau mwy anodd o faethu

Dw i bob amser yn hapus i sgwrsio a rhannu fy mhrofiadau personol gyda phobl sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth.”

Maethu Cymru Gwynedd yn San Steffan

Yn ddiweddar, gwahoddwyd Pat Harding, gofalwr maeth Maethu Cymru Gwynedd ac arloeswr lles maethu, i ymuno â 200 o ofalwyr maeth, pobl ifanc â phrofiad gofal, a gwleidyddion yn Nhŷ'r Cyffredin i lansio arolwg Cyflwr Gofal Maeth 2024 y Rhwydwaith Maethu.

Ymhlith y siaradwyr ysbrydoledig roedd Josh MacAlister AS, Llinos Medi AS a Kiri Pritchard-McLean - a rannodd eu mewnwelediadau, profiadau a gweledigaeth bersonol ar gyfer dyfodol gofal maeth.

Mynychodd Mel Panther, Arweinydd Tîm Maethu Cymru Gwynedd a Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru, y digwyddiad gyda Pat, yn ogystal â chydweithwyr a gofalwyr maeth o Maethu Cymru Môn. Daeth Liz Saville Roberts AS hefyd i ddangos ei chefnogaeth.

Mae myfyrwyr y gyfraith ym

Mhrifysgol Bangor yn darparu gwasanaeth cyfrinachol a phroffesiynol am ddim. Mae eu clinig ar gael yn ystod y tymor ac yn darparu cyngor cyfreithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg i’r cyhoedd.

Mae’r myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan gyfreithwyr cymwys ac uwch ddarlithwyr arbenigol. Ni anfonir unrhyw lythyr cynghori oni bai ei fod wedi’i gymeradwyo gan oruchwyliwr. Bydd cleientiaid yn cael eu cyfweld gan ddau fyfyriwr a’u goruchwyliwr.

Er gwybodaeth, ni roddir unrhyw gyngor yn y cyfweliad cyntaf. Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn cynnig cyngor ar y rhan fwyaf o feysydd, gan gynnwys teulu, defnyddwyr, anafiadau personol, profiant a thai. Ni roddir unrhyw gyngor ar fudd-daliadau lles, materion troseddol na mewnfudo, er y gall fod yn bosibl cyfeirio cleientiaid at sefydliadau eraill a allai helpu.

Nodwch bydd y clinig ar agor yn ystod y tymor academaidd yn unig. Am fwy o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad: E-bostiwch: Bulac@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388411.

DAVY ALLAN EVANS, RHEOLWR

COFRESTREDIG GOFAL CARTREF:

Dros y Nadolig, nid yn unig bod staff yn darparu'r gofal gorau i gymunedau, ond roeddent hefyd

wedi bod yn brysur yn paratoi a dosbarthu prydau cinio Nadolig i unigolion oedd heb ginio. Bu iddynt hefyd gefnogi unigolion yn ardal Bangor i ddod allan o’u cartrefi i fynychu eu cinio

Nadolig

Mae’n bwysig adnabod yr ymdrechion ac ymroddiad sydd

gan y staff sydd wedi bod yn mynd allan i sicrhau fod y gofal angenrheidiol yn cael ei ddarparu, er gwaethaf y stormydd a'r tywydd garw diweddar. Diolch yn bersonol am eich gwaith caled. Rydym yn eich gwerthfawrogi yn fawr, ac mae eich holl waith o fynd y filltir ychwanegol yn cael ei gydnabod.

Llun digidol yn dangos Pentref y Pwyliaid Penrhos ar ôl cwblhau’r gwaith ail-ddatblygu.

AILDDATBLYGU SAFLE

Pentref Pwyliaid Penrhos

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth â ClwydAlyn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ail-ddatblygu safle Penrhos, Pwllheli.

Diweddariad ar y Safle -

Mae ClwydAlyn wedi derbyn caniatâd cynllunio i ail-ddatblygu’r 107 uned sydd ar y safle. Bydd y datblygiad yn darparu cartrefi yn bennaf ar gyfer pobl hŷn ac unigolion gydag anghenion gofal/gofal iechyd, ond bydd hefyd yn darparu rhywfaint o dai fforddiadwy i bobl leol a phobl fydd yn gweithio ar y safle.

Mae contractwr lleol wedi ei benodi eisoes, ac mae gwaith arolygon ecolegol ac archeolegol yn digwydd ar y safle ar hyn o bryd

Datblygu Cartref Preswyl a Nyrsio newydd ar y safle -

Mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthi’n gweithio’n barhaus ar ddatblygu achos busnes ar gyfer cartref gofal a nyrsio newydd ar safle Penrhos.

Bwriedir datblygu cartref gyda 56 o welyau, 24 yn nyrsio a 32 yn breswyl / EMI, gyda’r hyblygrwydd i newid gydag anghenion yn y gymuned.

Ym mis Gorffennaf, derbyniwyd cadarnhad o arian gan Lywodraeth Cymru i symud ymlaen ymhellach gyda’r achos busnes.

Cliciwch y ddolen isod er mwyn gwylio fideo o’r pentref:

Fideo Pentref Pwyliad Penrhos

CAMP ZOE

edd mis Gorffennaf, 2024, cyflawnodd Zoe Williams, Gweithiwr Cymdeithasol gyda’r Adran n, a’i ffrind Ceri, gamp anhygoel Y gamp oedd ilimanjaro, mynydd uchaf Affrica, yn Tanzania. y mynydd hefyd yn “The Roof Of Africa” d ei uchder trawiadol o 5,895 metr.

haodd y ddwy drwy’r daith, gan ddringo 8 awr y chysgu’n isel am bum niwrnod, cyn gwneud eu fyny'n araf a threchu’r her derfynol ar y diwrnod wir yn “Summit Night” Yn rhan olaf eu taith, fe n nhw gychwyn o’r gwersyll am hanner nos, gan wy dymereddau rhewllyd o -15°C wrth iddynt ’ her olaf

dd Zoe a’i ffrind y copa ar Uhuru Peak yn m 8y.b., gan brofi’r olygfa anhygoel o ben ee Standing’ uchaf y byd!

drech a’r risgiau yr oedd Zoe a Ceri yn dangos Kilimanjaro yn debyg i’r risgiau a’r heriau a n wirfoddolwyr ymroddedig yr RNLI

dd yr RNLI ran hollbwysig yn achub bywyd ddi gael ei dal mewn llanw terfol (‘Riptide’) ar o, a’i chludo bron i ddwy filltir allan i'r môr. hyn, mae’r RNLI yn achos o agos at galon Zoe.

ad i'w digwyddiad , ei tharged hi oedd ’r RNLI drwy â’r her hon d Ceri.

hiadau Zoe ar dy gam

Gwybodaeth Diogelu Data

Cylchlythyr gan y Tîm Diogelu Data

Os ydych chi’n derbyn ceisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth, bydd y ddau atodiad isod o gymorth i chi.

Rheoli Gwybodaeth a Deddfau Gwybodaeth

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Os ydych yn rhannu gwybodaeth bersonol yn allanol, bydd yr atodiad isod o gymorth i chi.

Canllaw Rheoli Gwybodaeth

Os oes gennych staff newydd, dyma ganllaw sydyn iddynt:

Pamffled Rheoli Gwybodaeth

O dro i dro, yn anffodus bydd digwyddiadau data’n digwydd, lle bydd diogelwch data personol wedi ei beryglu. Bydd angen cwblhau’r

ffurflen yma a’i rhannu gyda

SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru os oes digwyddiad data.

Ffurflen

ADOLYGIADAU Lladdiadau Domestig

Brîff i staff gan yr Uned

Diogelwch Cymunedol -

Beth? Adolygiad o’r amgylchiadau lle bu marwolaeth person 16+ sydd wedi, neu’n ymddangos i fod wedi, deillio o drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan berson yr oedd yn aelod o’r un tŷ, perthyn iddo, neu mewn perthynas agos

Pam? Er mwyn nodi'r gwersi i'w dysgu o'r farwolaeth ynglŷn â’r ffordd mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd i ddiogelu dioddefwyr. Bydd Adolygiadau Lladdiadau Domestig (DHRs) yn rhan o’r broses newydd ‘Adolygiad Diogelu Unedig Sengl’ gan Lywodraeth Cymru, mewn paralel i Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion.

Yng Ngwynedd: Mae 7 achos DHR wedi bod, mae 5 adolygiad wedi’i cwblhau a 2 dal ar waith.

Rhannu’r dysgu: Mae DHRs yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth i lywio polisi ac ymarfer lleol a chenedlaethol. Mae gan asiantaethau gyfrifoldeb i weithredu ar unrhyw wersi a nodwyd i wella ymarfer a diogelu dioddefwyr.

Gwersi pwysig gan DHRs Gwynedd:

Mae’n bwysig bod asiantaethau’n nodi ac yn ystyried y potensial ar gyfer cam-drin domestig a hwylusir gan dechnoleg, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â hynny.

Mae angen cydnabod ac ystyried hunanladdiad fel canlyniad posibl o gam-drin domestig.

Diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth am bobl hŷn fel dioddefwyr.

Y budd o ymateb gan asiantaethau sy’n ymwybodol o drawma (Traumainformed)

Gwybodaeth Ddefnyddiol: I gael cyngor a chymorth ynghylch camdriniaeth ddomestig, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn

BRITISH HEART FOUNDATION CYMRU

Bore Dydd Gwener , Chwefror 21, cynhaliwyd bore coffi ar gyfer y British Heart Foundation Cymru yn yr Hwb, Cegin Arfon gan fod mis Chwefror yn Fis y Galon.

Er gwaetha’r tywydd garw, gwnaethpwyd elw o £180. Bydd y raffl yn parhau i fod ar werth yng Nghegin Arfon tan ddydd Gwener, 7 Mawrth.

Hoffai Sian ddiolch i’r busnesau canlynol am y rhoddion tuag at y raffl:

Swyddfa Bost, Tudweiliog

Siop Ashley, Nefyn

Penlan Fawr, Pwllheli

Boots, Bangor

Marks & Spencer, Bangor

Claire’s Accsessories

Mae’r elusen yma yn bwysig iawn i Sian gan fod y cyflwr Dialated Cardiomyopathy yn rhedeg yn ei theulu. Bu i Diane hefyd gael stent

Hoffai Sian Thomas (Mentor Swydd) ddiolch yn fawr iawn i Diane Griffith a Vicky Williams am wneud y cacennau.

Hoffai ddiolch i Vincent Chau a Lauren Williams am werthu’r raffl Mae Vincent Chau wedi cael lleoliad gwaith yn y siop sydd gan y BHF ym Mangor bob dydd Iau gyda chefnogaeth gan Sian. Bu Lauren yn brysur yn mynd o amgylch busnesau gyda Sian yn casglu rhoddion at raffl.

DYSGU CYMRAEG

Rachel Richardson -

Wright

“Rachel ydw Therapydd galwedigaethol ydw i yn y tîm oedolion yn Ne Meirionnydd a siaradwr Cymraeg newydd ydw i!

Dw i wedi dysgu Cymraeg am ddwy flynedd ers cychwyn efo’r tîm. Mae hi’n bwysig i fi i ddysgu Cymraeg am nifer o resymau.

Yn gyntaf - mae llawer o bobl yn yr ardal yn siarad Cymraeg. Mae’n bwysig iawn siarad efo pobl Gymraeg yn eu iaith yn enwedig pobl sy’n ei gweld yn anodd clywed yn dda iawn neu bobl efo dementia.

Rheswm arall ydi oherwydd mae’n bwysig dangos parch am y diwylliant a’r gymuned lle dw i’n byw.

Mae’r iaith yn anodd iawn ond dw i wrth fy modd yn dysgu. Fy heriau mwyaf ydy treigladau a theimlo’n bryderus efallai y byddaf yn gwneud camgymeriad wrth siarad. Ond bydda i’n ceisio ta beth!

Mae llawer o fanteision i siarad Cymraeg – mae’n cadw iaith hynaf Prydain yn fyw, mae’n cryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith ac mae’n helpu fi gyda gwybodaeth hanesyddol Cymru.”

Amanda Morsely

“Fy enw i ydi Mandy Morsley a dw i’n gweithio i’r tîm Taliadau Uniongyrchol fel Swyddog Byw Annibynnol. Dysgais i siarad

Cymraeg pan oeddwn i’n blentyn yn byw yn Ne Cymru. Dw i wedi anghofio popeth ers hynny.

Yr her fwyaf ydi siarad ar ‘Teams’ yn Gymraeg – dydi hi ddim yn hawdd achos am ryw reswm mae fy nheg yn mynd i ‘mush’.

Mae Anwen Mair Jones, cynorthwyydd personol Dafydd Gibbard, yn trefnu cyfarfodydd mewn caffi yng Nghaernarfon bob wythnos ac mae’n braf cael sgwrs am bopeth drwy’r Gymraeg. Drwy siarad gydag Anwen, dw i’n teimlo’n fwy hyderus i siarad Cymraeg gyda phobl eraill.

Pan oeddwn i yn 10 oed symudodd y teulu i Affrica ac roedd rhaid i mi fynd i ysgol breswyl yn Ninbych. Ar ôl gwneud hyn siaradais i ddim yn Gymraeg achos roedd pawb yn siarad Saesneg.

Rŵan dw i wedi cael fy nhrosglwyddo i weithio gyda Chyngor Gwynedd ac mae’n bwysig i mi ddefnyddio’r iaith. Dw i’n gwrando/defnyddio ‘Say Something in Welsh’ ac yn trio darllen llyfr Cymraeg.

Es i Nant Gwrtheyrn am wythnos ym mis Ionawr blwyddyn diwethaf. Roedd o’n galed ond werth mynd a ges i amser braf gyda phobl eraill. Dw i’n trio defnyddio’r Gymraeg bob dydd ar e-bost, gyda chleientiaid / bob man bosib a dw i’n teimlo’n well wrth drio.

CATALYDD CYMUNEDOL

Manylion Cyswllt: franlowen@gwynedd.llyw.cymru 07824 125 642

Dechreuodd Cyngor Gwynedd gynorthwyo unigolion i sefydlu Menter ‘Gofal’ i wasanaethu trigolion eu cymuned leol yn 2022. Sefydlwyd y gwaith yn wreiddiol mewn partneriaeth â chwmni ‘Catalyddion Cymunedol’ (Community Catalysts)

Penodwyd Fran Lowden fel Catalydd Cymunedol lleol i weithio yng Ngwynedd er mwyn hyrwyddo’r gwaith ac i gefnogi unigolion oedd yn awyddus i sefydlu Menter. Roedd y Cyngor yn gallu manteisio ar arbenigedd a phrofiad cwmni Catalyddion Cymunedol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn gwneud cynnydd, er mwyn cynorthwyo i leihau baich ar wasanaethau gofal confensiynol y Sir.

Mae Catalydd Cymunedol Gwynedd yn cynorthwyo unigolion i sefydlu Menter ‘Gofal’ drwy redeg cwrs Hyfforddi ‘Ei Wneud yn Iawn’ (Doing it Right) sy’n adnabod yr holl gamau a safonau angenrheidiol ynghlwm â sefydlu Menter ‘Gofal’. Mae’r safonau wedi eu llunio er mwyn sicrhau bod perchennog menter yn gwbl ymwybodol o’r gweithdrefnau sydd angen bod mewn lle er mwyn sicrhau bod y fenter yn gweithredu yn y ffordd briodol

Mae pob unigolyn sy’n cwblhau’r Hyfforddiant ‘Ei wneud yn iawn’ (Doing It Right) hefyd yn derbyn grant o £250 tuag at gostau sefydlu Menter ac mae modd cael cyfarpar TG megis ffôn symudol neu liniadur drwy’r cynllun Gwynedd Ddigidol.

Rhaid cofio fod y gwaith hefyd yn cynorthwyo i leihau’r baich ar wasanaethau gofal confensiynol y sir.

Mae Fran yn gweithio’n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol y Cyngor i adnabod unigolion sydd â diddordeb sefydlu Menter a hefyd i adnabod unigolion sy’n chwilio am gymorth gan Fenter. Yn ogystal, mae

Fran yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Taliadau Uniongyrchol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r dull yma o dalu am ofal. Mae gwaith Fran fel Catalydd Cymunedol Cyngor Gwynedd yn parhau i wneud cynnydd ac mae nifer yr unigolion sy’n sefydlu Menter Gofal yn parhau i gynyddu.

CARECUBED Gwynedd yn Dangos y Ffordd

Ym mis Mehefin 2023, Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â'r fersiwn oedolion o CareCubed

Teclyn cost gofal diogel ar-lein sy'n cefnogi trafod cost lleoliadau gofal yn agored ac yn dryloyw yw CareCubed. Nodwyd CareCubed fel datrysiad unigryw a phrynodd y cyngor drwydded CareCubed ym mis Mehefin 2023.

"Mae CareCubed wedi galluogi Gwynedd i drafod ffioedd gyda darparwyr gan ddefnyddio sylfaen dystiolaeth gadarn, sydd wedi bod o fudd i ni fel Comisiynydd a darparwyr hefyd."

Alun Gwilym Williams, Pennaeth Cynorthwyol Busnes a Chomisiynu Gofal Gwynedd. Eglurodd Gemma Moss Owen, Arbenigwr Comisiynu a Chontractau yn y gwasanaeth Busnes a Chomisiynu Gofal yng Nghyngor Gwynedd: "Er ein bod wedi llwyddo i osgoi costau ac arbedion, ein prif nod yw deall costau gofal, meithrin perthynas waith cadarnhaol a thryloyw gyda darparwyr a nodi gwir gost gofal. Mae gennym gyllidebau cyfyngedig ac mae teclyn fel CareCubed yn sicrhau ein bod yn gwario'r arian yn ddoeth. Rydym wedi gallu cytuno ar gost Gofal Teg gyda darparwyr yn gyflymach gan ddefnyddio CareCubed sy'n fuddiol i bawb dan sylw. Mae cael teclyn tryloyw yn seiliedig ar lawer o dystiolaeth a data yn beth da i ni a'n darparwyr."

Mae Alun yn cytuno: "Yn hanesyddol, roedd yn rhaid i ni wneud darn llafurus o waith llaw gyda darparwyr a gymerodd sawl mis Roedd y broses mor llafurus ac yn ddwys o ran adnoddau, ni allem wneud y darn hwn o waith gyda phob darparwr ac nid oedd gennym sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr holl ffioedd yr oeddem yn eu talu. Mae CareCubed wedi ein galluogi i gael trafodaethau llawer mwy agored gyda darparwyr a dod i gytundeb yn seiliedig ar egwyddorion 'Let’s agree to agree' Llywodraeth Cymru."

Roedd rhywfaint o hyfforddiant gan dîm CareCubed hefyd yn ddefnyddiol "Fe wnaethon ni ddwy sesiwn, a rhoddodd hyn ddealltwriaeth dda iawn i mi o'r ffigyrau a'r sgiliau meddalach sydd eu hangen ar gyfer trafod", esboniodd, "Rŵan mae gen i'r hyder i ddweud pryd mae pris yn ymddangos yn rhy uchel, gofyn y cwestiynau cywir mewn ffordd adeiladol a gofyn am dystiolaeth lle bo angen Ein nod yw sicrhau bod darparwyr yn cael eu cefnogi'n briodol a chreu marchnad gynaliadwy, fywiog yng Ngwynedd Dros amser, bydd hyn yn sefydlogi'r farchnad ac yn rhoi cysondeb yn y prisiau yr ydym yn talu am leoliadau."

Dywed Gemma: "Mae gweithio gydag iESE a'r tîm CareCubed wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn," meddai Gemma Moss Owen. Mae Alun yn cytuno: "Fel defnyddwyr cyntaf CareCubed yng Nghymru, ni allaf ganmol digon ar y gefnogaeth a ddarparwyd gan iESE wrth i ni fynd i'r afael â'r ffordd newydd o weithio, a'r gefnogaeth barhaus yr ydym yn ei chael nawr. Mae'r tîm wedi bod yn fwy na pharod i weithio gyda ni i ddatblygu'r system ac i gyd-fynd â'n gofynion yng Nghymru." "Ein nod yw sicrhau bod darparwyr yn cael eu cefnogi'n briodol a chreu marchnad gynaliadwy, fywiog yng Ngwynedd. Mae CareCubed yn caniatáu i ni gyfeirio pob punt at y rhai sydd wirioneddol ei angen Dros amser, y gobaith yw y bydd hyn yn sefydlogi'r farchnad ac yn cael cysondeb yn y prisiau yr ydym yn eu talu am leoliadau "

ARWEINWYR IFANC

Parhau i weithio er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn cyrraedd eu potensial.

Beth yw Meddwl Ymlaen?

Rhaglen grant werth £10 miliwn a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Nod y rhaglen yw grymuso pobl ifanc (11-25) i greu a gweithredu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Arweinwyr ifanc

Mae yna 13 o arweinwyr brwdfrydig iawn, ond maent eisiau croesawu mwy i’r tîm Os hoffai unrhyw un ymuno a chefnogi’r prosiect fel Arweinwyr Ifanc, cwblhewch y ffurflen isod.

Galluogwyr Newid (Rachel Griffith, Luke Stevens a Llinos Evans)

Prif nod eu rôl yw ymateb i’r hyn y mae pobl ifanc wedi’i rannu i wella eu gwytnwch i sicrhau dyfodol cynaliadwy ac iach yn feddyliol wrth gydweithio â phartneriaid/rhan ddeiliaid allweddol i gefnogi'r tri cham newid a hefyd rhoi cymorth er mwyn hwyluso’r gwaith o reoli a/neu sbarduno newid.

Gwybodaeth ynglŷn â Meddwl Ymlaen, yn ogystal â gwybodaeth ac adnoddau llais a chynhwysiant. Bydd y Padlet yn cael ei ddiweddaru yn gyson. https://bit.ly/Meddwl

Dyma’r ddolen ar gyfer ffurflen gyfeirio https://bit.ly/referralform2

Mae croeso hefyd i chi gysylltu a’r tîm drwy e-bost meddwlymlaen@barnardos.org.uk neu dros y ffôn

Rachel – 07892755178

Luke - 07892755175

BORE COFFI ER COF AM MANDY PARRY

Dydd Gwener, Medi 27ain, cynhaliwyd bore coffi yn yr hwb yng nghegin Arfon er cof am Mandy Parry. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant enfawr, gan ddenu llawer o bobl a ddaeth i ddangos eu cefnogaeth.

Roedd hi’n braf gweld teulu

Mandy yn bresennol yn y digwyddiad. Mwynhaodd y mynychwyr ddewis o de neu goffi, ynghyd â chacennau blasus. Cafodd pawb gyfle i gymryd rhan mewn raffl.

Mae Sian Thomas, y Mentor Swyddi, yn diolch i Penlan Fawr Pwllheli, Siop Ashley Nefyn, Asda, Morrisons a Boots am eu cefnogaeth hael i'r digwyddiad. Mae diolch arbennig hefyd i Huw John a Lauren Williams am eu cymorth gwerthfawr ac i Diane am wneud cacennau blasus i bawb eu mwynhau.

Cododd y digwyddiad swm trawiadol o £315.03, a fydd yn cael ei rhannu er cof am

Mandy Parry ar gyfer Ward Alaw a Macmillan.

Diolch

am Ddarllen

Diolch am ddarllen y rhifyn diweddaraf o Newyddlen Gwasanaeth Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.

Os oes gennych chi newyddion yr hoffech ei rannu gyda ni, cofiwch gysylltu, gweler manylion cyswllt isod.

Yn yr un modd, carwn glywed gennych am unrhyw adborth, gŵyn neu awgrym am y Newyddlen. Mae’r Newyddlen wedi ei chreu gennych chi ar eich cyfer chi, felly rydym yn croesawu unrhyw sylwadau.

Manylion Cyswllt -

Rhif Ffôn: 01286 679 223

E-bost:

gcgc@gwynedd.llyw.cymru

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Newyddlen Gwasanaethau Cymdeithasol by Cyfathrebu Mewnol - Issuu