
1 minute read
Taith Gerdded Pier Bangor
Ar Ddydd Sul, 21ain o Fai eleni, trefnodd Dementia Actif Gwynedd, Eryri Cyd-weithredol a chysylltwr cymunedol ardal Bangor daith cerdded ar hyd Pier Bangor.

Advertisement


Bu’n llwyddiant mawr gyda dros ddeugain o bobl yn cymryd rhan ar y daith; gan gynnwys pobl sy ’ n byw gyda dementia. Bwriad y daith oedd casglu arian tuag at Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd, a gwych yw cyhoeddi - hyd yma, mae dros £600 wedi ei gasglu.
Hoffai Dementia Actif Gwynedd gymryd y cyfle yma i ddiolch i bawb am gefnogi’r diwrnod a llongyfarch pawb a gymerodd rhan am gwblhau’r daith. Braf oedd cael cwmni pobl sy ’ n byw â Dementia, eu gofalwyr, eu ffrindiau a theuluoedd, ein cyd-weithwyr o dîm Cefnogi
Iechyd a Llesiant a rhai o drigolion Bangor
Edrychwn ymlaen at drefnu taith cerdded arall mewn rhan wahanol o Wynedd yn fuan
Cewch weld mwy o luniau’r dydd ar dudalen Facebook Dementia Actif Gwynedd.