1 minute read

Cerbydau Fflyd

Next Article
Canu'r Gloch

Canu'r Gloch

Fel rhan o ymgyrch recriwtio barhaus gwasanaethau Gofal y Cyngor mae nifer o adnoddau newydd wedi’u creu i geisio denu mwy o bobl i weithio yn y maes Bellach mae hysbysebion yn cael eu harddangos ar gerbydau fflyd yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Ceir ar gyfer Gofalwyr yn benodol ydi’r ceir fflyd yma Y gobaith wrth i’r ceir deithio o amgylch y sir yw y bydd mwy o bobl yn cael eu gwneud yn ymwybodol o ’ r sector, a maes o law yn cysylltu i wybod mwy am gyfleon gwaith ar gael yn y sir.

Mae’r ceir fflyd yma hefyd yn geir trydan ac yn cyfrannu at amcanion yr adran a ’ r Cyngor i fod yn fwy gwyrdd. Y gobaith ydi bydd mwy o geir trydan o ’ r fath yn cael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf ac yn cyfrannu at leihau ein hôl troed carbon fel adran.

Advertisement

This article is from: