
1 minute read
Emma Jones
Dweud ychydig amdanat ti dy hun:
Emma ydi fy enw i rwyf yn 29 mlwydd oed ac yn byw yn Gellilydan, rwyf yn berson sydd yn hyderus ac awyddus i helpu pwy bynnag sydd angen, yn fy amser sbâr rwyf yn hoff iawn o wario amser hefo teulu a ffrindiau, mynd i gerdded ac ymweld ag ardaloedd newydd
Advertisement
Beth yw dy swydd a’i phwrpas:
Fy swydd i ydi goruchwylio a chynllunio gwaith
Gofalwyr yn ardal Pwllheli rwyf wedi bod yn y swydd ers mis Tachwedd 2022 ac yn mwynhau'r gwaith yn fawr iawn
Beth yw dy gefndir proffesiynol:
Cyn dechrau'r swydd goruchwyliwr ym mis Tachwedd mi oeddwn yn ofalwr yn ardal
Ffestiniog am 8 mlynedd felly wedi cael profiad wrth weithio yn y gymuned.
Beth wyt ti’n edrych ymlaen at gyflawni neu wneud yn dy swydd:
Rwyf yn gobeithio gallu cadw gymaint o bobol a bosib adra yn eu cartref ei hunain i dderbyn gofal maent ei angen ac iddynt allu fod mor annibynnol â phosib, Rwyf hefyd yn gobeithio denu mwy o ofalwyr mewn i'r maes gofal.
Manon Elwyn Hughes
Yn ogystal â'r uchod, mae Manon newydd ymuno â’r Tîm Cefnogi Iechyd a Llesiant fel Rheolwr
Cefnogi Iechyd a Llesiant, a bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar drawsffurfio’r gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar.
Cawn glywed mwy am Manon yma:
Dweud ychydig amdanat ti dy hun:
Dw i’n dod o Fethel yn wreiddiol, ond wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ers chwe blynedd bellach. Yn fy amser rhydd, dw i wrth fy modd yn mynd â’r ci am dro, teithio, a mynd i ddosbarthiadau CrossFit. Dw i hefyd yn chwarae tri offeryn, sef piano, corn tenor a chorn Ffrengig. Dw i’n cyfeilio i gôr lleol yn wythnosol, ac yn aelod o Fand Pres hefyd.
Beth ydi dy gefndir proffesiynol?
Ar ôl ennill gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, ymunais â Chyngor Gwynedd fel Cyfieithydd yn