
3 minute read
Tîm Cefnogi'r Gweithlu
gan Sophie Tyne Hughes
Helo bawb! Rydw i bellach yn fy rôl fel Arweinydd Tîm
Advertisement
Cefnogi’r Gweithlu ers mis Medi 2022 ac mae nifer o ddatblygiadau wedi bod yn ein tîm bychan yn y misoedd diwethaf felly’n teimlo yn amserol i’ch diweddaru!
Rolau’r tîm
Mae swyddi a dyletswyddau’r tîm wedi eu diweddaru erbyn hyn, ac mae Sian Iolen Pritchard bellach yn arwain ar faterion cyfathrebu ar draws yr adran. Ei theitl swyddogol yw Rheolwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus a hi yw ’ch pwynt cyswllt chi ar unrhyw fater cyfathrebu ac ymgysylltu; boed hynny’n ymwneud â’r cyhoedd, staff neu aelodau etholedig. Mae Sian wedi gweithio ym maes cyfathrebu ers rhai blynyddoedd ac mae ' n fwy na pharod i gynghori ar unrhyw faterion cyfathrebu neu i'ch cefnogi i lunio deunydd hyrwyddo neu ddogfennau gwybodaeth - pob croeso i chi gysylltu â hi!
Mae Rhian Wyn Powell hefyd wedi newid rôl Mae Rhian bellach yn gwneud sawl rôl mewn un, gan weithredu fel Swyddog Gwybodaeth y tîm a hefyd fel Swyddog Gweinyddol i wasanaethau pobl hŷn ac anableddau corff Fel rhan o ’ r rôl Swyddog
Gwybodaeth, mae Rhian yn delio â holl geisiadau gwybodaeth yr adran gan gynnwys FOIs a SARs Mae wedi dod i’n sylw rhai misoedd yn ôl bod ' na rai ceisiadau am wybodaeth am unigolion yn cyrraedd gweithwyr cymdeithasol neu eraill yn uniongyrchol gan yr heddlu yn hytrach na dod drwy’r sianeli cywir


Plîs a gawn ni eich atgoffa bod unrhyw geisiadau gwybodaeth i’w hanfon at gcgc@gwynedd llyw cymru
- mae cyfreithiau penodol iawn ynghylch rhyddhau gwybodaeth sensitif am unigolion felly mae ’ n bwysig nad ydych yn ymateb i’r ceisiadau hyn eich hunain ogydda. Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, plîs cysylltwch efo Rhian ac fe fydd hi’n hapus iawn i’ch rhoi chi ar ben ffordd.
Roedd un aelod arall ar ein tîm bychan ni y tro diwethaf i ni rannu newyddlen! Mae Lyndsey Marie
Owen ar hyn o bryd yn cymryd brêc ar ôl 19 o flynyddoedd gyda’r gwasanaeth gweinyddol ac ar gyfnod o secondiad gyda TAC Bangor fel Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol ers ychydig fisoedd. Dymunwn fel tîm ei llongyfarch ar ei llwyddiant wrth baratoi ac ymgeisio am y rôl a dymuno’n dda iddi ar ei chyfnod efo tîm Bangor. Gobeithiwn rannu stori Lyndsey efo chi yn y newyddlen nesaf!
Dyma gyfle hefyd i ddiolch i’r sawl un wedi bod yn barod i gamu i’r adwy i gynorthwyo â thasgau yr oedd Lynd ’ d â h t
Ar y gweill
Gwefan yr adran - Mae Sian wrthi yn rhoi sylw i’n tudalennau gwefan ac felly plîs cysylltwch â hi os oes gennych unrhyw syniadau ar wella cywirdeb yr wybodaeth a pha mor hawdd ydi hi o safbwynt aelod o ’ r cyhoedd i ddod o hyd iddo.
Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu - Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 erbyn hyn ac un o ’ r blaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod o dan y pennawd Gwynedd Ofalgar yw ’ r angen i ddatblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer y maes er mwyn gwella’r modd rydan ni’n sicrhau mewnbwn trigolion Gwynedd i ddatblygiad ein gwasanaethau ni. Bydd Sian yn arwain ar y darn yma o waith ac felly plîs cysylltwch â hi os oes gennych unrhyw syniadau a ddylai dderbyn sylw fel rhan o ’ r gwaith yma

Rhestrau Cyfnodau Cadw Gwybodaeth – rydym wedi diweddaru'r rhestrau sy ' n rhoi arweiniad i ni o ba mor hir y dylem fod yn cadw ffeiliau, gyda diolch i bawb a fu'n rhan o ' r gweithdai Byddwn yn gweithio ar ganllaw i chi dros y cyfnod nesaf ond yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu am gyngor ar gyfnodau cadw.
Mae cymhorthydd gweinyddol newydd wedi ymuno â ni bellach a byddwn yn croesawu prentis hefyd mis Gorffennaf Dw i’n gobeithio y bydd eu cyfnod efo’r tîm yn rhoi cyfleon iddyn nhw ddod i adnabod yr adran a ’ r gwasanaethau, i ddarganfod lle mae eu diddordebau i’r dyfodol ac i ennill profiadau o wneud bob mathau o waith gwahanol Cawn glywed mwy am Iwan a Cadi yn ein newyddlen nesaf.
Iechyd a Diogelwch - mae nifer o faterion yn dod i'n sylw ar hyn o bryd e.e. pryderon am weithio'n unig, trefniadau tân, asesiadau risg, swyddogion yn gweithio heb offer addas ayb. Plis rhowch sylw i'r materion hyn mewn cyfarfodydd tîm neu debyg i sicrhau'ch bod yn cyflawni'ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch. Fel eich cydlynydd iechyd a diogelwch adrannol, cysylltwch â mi os alla i fod o gymorthsophieannhughes@gwynedd llyw cymru
Swyddfeydd - Diolch i bawb a gyfrannodd at yr holiaduron diweddaraf ar drefniadau gwaith, a gobeithiwn dderbyn arweiniad corfforaethol yn fuan iawn ar beth fydd y model gweithio i’r dyfodol.