Gair Bach o Gyngor - Mawrth 2023

Page 2

Gair o Gyngor

2023 Rhifyn 8
Cyngor Gwynedd
Mawrth
Staff
Llwyddiant i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd

bach

Gair gan y golygydd

Croeso i rifyn arall o Gair Bach o Gyngor. Fel mae’r enw yn awgrymu dyma fersiwn bach o’r cylchgrawn arferol.

Yn y rhifyn yma cawn ddarllen am lwyddiant y Gwasanaeth Ieuenctid yng ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid. Trowch i dudalennau 6 a 7 i ddarllen mwy.

Rydym hefyd yn cael darllen am lwyddiant aelod o staff y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen. I ddarllen yr erthygl ewch i dudalen 3.

Wrth sôn am Eisteddfod, Gwynedd fydd yn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Llŷn ac Eifionydd yn 2023. Ar dudalennau 4 a 5 cawn ddarganfod mwy am y rôl allweddol y bydd Cyngor Gwynedd yn ei chwarae i sicrhau llwyddiant yr wŷl.

Mae aelod o staff yr Adran Addysg wedi bod yn hel atgofion o'i blentyndod yn ddiweddar ac wedi rhyddhau hunangofiant. Cawn yr hanes i gyd ar dudalennau 8 a 9.

Faint ohonoch sy'n defnyddio eich cerbyd eich hun er mwyn gwneud taith fusnes ar ran y Cyngor? Wyddoch chi fod sawl opsiwn ar gael i ni gyd ystyried cyn teithio yn ein ceir ein hunain? Mae'r manylion llawn ar dudalen 12.

Mae sawl stori ddifyr arall wedi eu cynnwys, gobeithio y gwnewch fwynhau eu darllen.

Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf mae modd i chi gysylltu drwy e-bostio cyfathrebumewnol@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679341.

Ffion

Siôn yn cipio'r Fedal Ryddiaith

LlongyfarchiadaumawriSiônWynRoberts,RheolwrAchosiongyda’rGwasanaethCyfiawnderIeuenctid amennillMedalRyddiaithEisteddfodGadeiriolDyffrynOgwen.FeddaethSiôni’rbriggydadarn emosiynol‘CadwPellter’aysgrifennwydameidadwedimarwolaethynyteulu.

Er bod ei nain yn un am ddarllen, a’i fam yn barddoni, dim ond yn weddol ddiweddar mae Siôn wedi troi at 'sgrifennu ei hun

Dywedodd: “Dw i’n meddwl y gwnes i ddechrau 'sgrifennu ychydig bach yn fy ugeiniau cynnar ond wnes i ddim byd wedyn tan tua tair mlynedd yn ôl. Yn lockdown, fe wnes i ddechrau 'sgrifennu darnau bach, jyst ryw ffordd o gael gwared ar stress. Roeddwn i jyst yn frustrated efo’r sefyllfa felly’n rhoi teimladau i lawr ar bapur

Doeddwn i heb drio unrhyw fath o gystadleuaeth o’r blaen ond fe wnes i benderfynu trio yn fwy na dim i weld os oedd pobol yn licio sgrifennu fi. Doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd ohono fo i fod yn onest”.

Beth wnaeth ddenu Sion at ysgrifennu’n llafar felly a phwy yw’r prif ddylanwadau hynny wnaeth ei ysbrydoli?

“O ran dylanwad fel awdur, yn Gymraeg pan oeddwn i’n ifanc mae gen ti T Llew Jones efo llyfrau plant. Dw i’n trio sgrifennu fel mae pobol yn siarad, trio sgrifennu fel mae pobol yn mynd i ddallt. Dydw i ddim yn trio 'sgrifennu yn ffurfiol efo Cymraeg posh o gwbl fel yna

Y prif ddylanwad yn fan yna ydi Dewi Prysor. Efo 'sgrifennu llafar dw i’n meddwl ei fod o’n fwy inclusive –mi oedd o i fi beth bynnag

Roedd y llyfrau yn yr ysgol yn boring ac yn hen ffasiwn, yn fy marn i. Doeddwn i methu dioddef nhw i fod yn onest, fel dwi wedi mynd yn hŷn dwi wedi dysgu i’w gwerthfawrogi nhw ond ar y pryd doedd gen i ddim diddordeb mewn darllen yn Gymraeg Pan wnes i ddarllen llyfrau Manon Steffan Ros a Dewi Prysor fe wnes i ddechrau meddwl efallai fyswn i yn gallu cael go arni”, eglurodd Siôn.

“Roeddwn i’n siarad efo ffrindiau sydd yr un oed a fi ac maen nhw’n cael hi’n anodd siarad am deimladau hefo teulu agos, fel rhieni . Maen nhw’n dweud bod pobol sy’n ifengach, bod pobol sy’n eu ugeiniau cynnar, maen nhw’n gweld fod o lot gwell siarad am y peth o gymharu efo oedran ni Mae pethau yn newid yn slo ond dydi o ddim am ddigwydd dros nos.

Yn amlwg, mae o’n ddarn sydd yn bersonol ac yn emosiynol i fi a Dad ond dw i’n meddwl y bydd lot o bobol yn gallu uniaethu efo fo ac efallai y bydd yn helpu rhywun i siarad am eu teimladau nhw dipyn bach ”

I ddarllen 'Cadw Pellter@, dilynwch y ddolen yma: Cadw Pellter (staffcyngorgwynedd org) Mae'r darn a ysgrifennwyd gan Siôn yn cynnwys iaith gref.

Siôn

Croesawu'r Eisteddfod i Wynedd

Boduan a’r Brifwyl – rôl staff Cyngor Gwynedd

Mae Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd rownd y gornel ac mae’r cyffro yn raddol dyfu ar draws y sir wrth inni edrych ymlaen i groesawu miloedd o bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt yma i Wynedd.

Mae’r ŵyl yn ddathliad o ddiwylliant a’r iaith yma yng Nghymru. Bydd yn cael ei chynnal rhwng 5 a 12 Awst ym Moduan ar gyrion Pwllheli ble bydd pobl yn heidio i fwynhau cerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, perfformiadau gwreiddiol a llawer mwy.

Ond mae’n debyg na fydd rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli’r rôl allweddol bydd Cyngor Gwynedd, a staff ar draws nifer o adrannau, yn ei chwarae i sicrhau llwyddiant yr ŵyl eleni.

Y Cyngor yn cefnogi’r Eisteddfod

Mae yna grŵp llywio o swyddogion o wahanol adrannau’r Cyngor yn cefnogi staff yr Eisteddfod er mwyn sicrhau bydd y trefniadau wythnos yr ŵyl yn mynd mor rhwydd â phosib. Mae cyfarfodydd a sgyrsiau rheolaidd yn digwydd rhwng y ddau sefydliad er mwyn trafod nifer o faterion, gan gynnwys:

trefniadau rheolaeth traffig – mae’r Cyngor yn cefnogi’r Eisteddfod i sicrhau fod pobl yn cyrraedd y maes yn ddiogel a nad yw’r Eisteddfod yn amharu yn ormodol ar fywydau pobl yr ardal ac ar fusnesau lleol;

trafnidiaeth gyhoeddus – mae staff Gwynedd yn cefnogi trefnwyr yr Eisteddfod i leihau pwysau ar y ffyrdd gymaint a phosib;

cefnogaeth busnes – mae defnydd yn cael ei wneud o’r cysylltiadau sydd gan y Cyngor efo’r gymuned fusnes leol i wneud yn siŵr fod busnesau lleol yn gallu manteisio ar y cyfleon economaidd ddaw yn sgil yr ŵyl;

cefnogaeth tiroedd – mae’r Cyngor yn helpu trefnwyr yr Eisteddfod i sicrhau fod tiroedd addas ar gyfer y Maes ei hun, meysydd parcio, meysydd gwersylla ac ati; a llawer, llawer mwy!

StondinyCyngor

Bydd gan y Cyngor stondin ar faes yr Eistedd hefyd. Mae trafodaethau eisoes wedi dechra am beth fydd cynnwys a themâu’r gofod gyd gwahanol wasanaethau wedi cyfrannu eu syniadau. Y gobaith yw bydd arlwy’r stondin adlewyrchu Gwynedd gyfan ac yn gyfle i ble blaenoriaethau Cynllun y Cyngor gyda gweithgareddau ac arddangosfeydd.

Fe gofiwch efallai fod cyfle wedi bod i staff y Cyngor gynnig enwau ar gyfer y stondin. Ma cyfle dal i fod i gymryd rhan – os oes gennyc syniad ar gyfer enw bachog, cysylltwch os gwelwch yn dda ar:

CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru

Cyfleon i blant lleol

Mae ysgolion y sir yn ddiwyd iawn yn cyfrannu at fwrlwm yr Eisteddfod. Ymysg y gweithgareddau, bydd cyfle i ddisgyblion hŷn weld bandiau Cymraeg yn ystod taith MaesB, bydd cyfle i blant iau gymryd rhan mewn sioe gyda Tudur Phillips ac Annie Llŷn, mae plant hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect Gair Mewn Gwlân i gofnodi enwau llefydd cynhenid bro’r eisteddfod.

Rhannwch eich stori!

A fyddech yn hoffi rhannu eich stori am eich cysylltiadau â’r Eisteddfod yn y cylchgrawn staff rhwng rŵan ac wythnos yr ŵyl?

Ydych wedi ymuno â chôr yr Eisteddfod?

Oeddech yn aelod o Ddawns y Flodau pan yn blentyn? Ydych yn weithgar ar yr ymgyrch codi arian lleol? Beth bynnag yw eich cysylltiad, a pa bynnag reswm rydych yn edrych ymlaen at yr ŵyl, cysylltwch os gwelwch yn dda ar:

CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru

Ffeil o ffeithiau - yr Eisteddfod mewn ffigyrau

Tua 150,000 – nifer yr ymwelwyr sy’n cael eu denu i’r Eisteddfod

Mwy na 250 – faint o stondinau fydd ar Faes yr Eisteddfod

Y flwyddyn 1861 – mae hanes modern yr Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio’n ôl i’r flwyddyn hon

Mwy na 6,000 – faint o gystadleuwyr sy’n cael eu denu i’r Eisteddfod bob blwyddyn

i Wasanaeth

Ieuenctid Gwynedd

Efallai i chi gofio yn y rhifyn diwethaf o’r cylchgrawn staff i ni sôn am lwyddiant y Gwasanaeth Ieuenctid yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod y Gwasanaeth wedi mynd ymlaen i ennill y ddwy wobr mewn seremoni a gynhaliwyd yn Abertawe ym mis Rhagfyr.

Fe enillodd Andrew Owen sy’n Weithiwr Ieuenctid y wobr ‘Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol’ ac fe enillodd y digwyddiad Gŵyl Llesiant: Ieuenctid Gwynedd y wobr ‘Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol.’

Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Cafodd Andrew ei enwebu am y Wobr ‘Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol’ gan y bobl ifanc mae’n gweithio hefo. Fe wnaethant nodi ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau gan gynnwys eu helpu gyda’u hyder yn ogystal â gwneud iddynt deimlo’n ddiogel, hapus ac yn werthfawr.

Mae Andrew yn hynod o weithgar yn ardal Dwyfor sydd yn cynnwys gweithio mewn dwy ysgol uwchradd a gwahanol gymunedau’r ardal - gydag effaith positif iawn yn lleol

Fe dynnodd y beirniaid sylw at frwdfrydedd Andrew dros addysgu a dysgu yn ogystal â’i ymrwymiad a'i agwedd gadarnhaol.

Llwyddiant
Andrew

Dywedodd Andrew: “Roedd hi’n fraint fawr cael fy enwebu gan y bobl ifanc, roeddwn yn teimlo fy mod wedi curo’n barod dim ond wrth gael fy enwebu, ond roedd ennill y wobr yn Abertawe yn deimlad bythgofiadwy. Rwyf erioed wedi teimlo mor falch yn fy ngwaith ac mae’r wobr yma i’r bobl ifanc hefyd oherwydd heb eu brwdfrydedd a'u parodrwydd i gymryd rhan yn y sesiynau dwi’n darparu, ni fysa dim o hyn yn bosib.

“Mae’n fraint enfawr i gael bod yn rhan o’i bywydau ac i obeithio datblygu ei sgiliau at y dyfodol Dwi hefyd yn falch bod y bobl ifanc yma yn amlygu gwaith rydym ni fel Gweithiwr Ieuenctid yn ei wneud ar draws y sir.”

Meddai Annette Ryan, Arweinydd Gwaith Cymorth Ieuenctid: “Gwobr haeddiannol iawn i Weithiwr Ieuenctid ardderchog yma yng Ngwynedd Gyda’i brofiad helaeth o waith ieuenctid, ac wrth gwrs ei gymwysterau, mae Andrew yn gweithio’n dawel ac yn ddiflino gyda brwdfrydedd er lles pobl ifanc.

“Mae ganddo ddawn arbennig iawn o helpu pobl ifanc adeiladu hyder, teimlo’n ddiogel a bod yn rhan bwysig o’u cymuned. Fel mae pobl ifanc wedi adrodd yn barod, mae Andrew yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar eu bywydau ac mae pawb yn hapus yn ei gwmni Rwyf mor falch ohono ac rydym yn lwcus iawn fel gwasanaeth i gael Andrew gyda ni.’’

Cafodd yr Ŵyl Llesiant 2022 ei gynnal dros gyfnod o wythnos ledled Gwynedd gyda’r nod i ddod â sefydliadau gyda’i gilydd er mwyn hybu iechyd a lles meddyliol a chorfforol ymhlith pobl ifanc y sir Fe ddaru bobl ifanc chwarae rôl flaenllaw iawn wrth arwain y prosiect, gydag ymarferwyr gwaith ieuenctid yn eu cefnogi drwy gydol y cyfnod.

Nododd y beirniaid fod yr ŵyl wedi helpu i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau ar gyfer y dyfodol, ac wedi profi y gellir asiantaethau a gwasanaethau cyd-weithio gyda’i gilydd er mwyn gwella profiadau pobl ifanc

Llongyfarchiadau mawr iawn i Andrew ac i'r Gwasanaeth Ieuenctid ar eu llwyddiant. Seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid

Holi Hwn a Llall

Rob yn gweithio fel Cydlynydd Addysg Plant Mewn Gofal ond yn ddiweddar mae o wedi cyhoeddi hunangofiant.

Beth yw eich cefndir?

Fydde rhai’n dadlau mai MOUTH walian ydw i. Wedi fy ngeni a’m magu yn ardal dre Llanelli, Sir Gaerfyrddin ym 1966! Ymfudes i i’r Gogledd ym 1998 i barhau â gyrfa dysgu yn Ysgol Tryfan Bangor, cyn ffeindio fy hun yn elwa mwy’n bersonol o helpu plant a phobl ifanc yn emosiynol, heb orfod poeni am yr holl farcio di-bendraw

Ar ôl dilyn sawl trywydd gwahanol o fewn y maes darparu cefnogaeth gofal i blant, erbyn hyn, dw i’n cydlynu’r ddarpariaeth addysgol sy’n cael ei gynnig i’n plant sydd mewn gofal yng Ngwynedd.

Pan y gwnaethoch benderfynu ysgrifennu llyfr?

Yn dilyn llawdriniaeth calon agored ar ddiwedd Rhagfyr 2016, i newid falf aortig bi-cuspid, a’r cymhlethdodau eraill a ddaeth yn sgil y llawdriniaeth honno i’m iau a’m hysgyfaint, ges i bach o banig!

O feddwl am gymaint o atgofion a phrofiadau a chymeriadau o’m mhlentyndod oedd yn fyw yn fy nghof, fyddai’n marw gyda fi petawn i’n diflannu oddi ar dir y byw Felly es i ati yn ystod fy nghyfnod o drio gwella

i’w cofnodi ar gyfer fy mhlant a hwyrach eu plant fel hunangofiant hollol bersonol i fi

Rob Jewell o’r Adran Addysg sydd o dan y chwydd wydr yn y rhifyn yma o Gair Bach. O ddydd i ddydd mae Rob

Oes modd i chi ddweud ychydig bach am y llyfr? Dydy’r llyfr ddim yn hir-wyntog - a bod yn hollol onest, un o’r sylwadau dw i wedi derbyn yw bod bobl ishe darllen mwy. Llyfr atgofion personol sydd yn cael ei gyflwyno yn All Show Off – term oedd fy mam wastad yn defnyddio amdana i!

Mae’r llyfr mewn tair rhan ac yn delio gyda’r dylanwadau wnaeth siapio’r person yr ydw i heddiw Dwi’n ymweld â dylanwadau Cymdeithas yr ardal yn ystod cyfnod y 60au a’r 70au, dylanwadau perthnasau o’m gorffennol a’r dylanwadau ddaeth yn ystod y blynyddoedd boncyrs wrth i mi fynd i’r Ysgol uwchradd a hitio’r glasoed.

Sut ymateb ydych wedi gael ers cyhoeddi ‘All Show Off’?

Mae’r ymateb i’r llyfr wedi bod yn arbennig o dda hyd yn hyn! Dw i wedi erfyn ar gymaint o bobl i adael sylwadau/ adolygiadau ar y gwefannau lle cawson nhw hyd i’r llyfr yn y lle cyntaf – Ond bo' nhw’n rhai positif wrth gwrs!

Sut deimlad oedd ysgrifennu a chyhoeddi eich llyfr cyntaf?

“Cathartic” yw’r unig air fedra i feddwl wrth ddisgrifio’r broses. Ddim jyst o hel yr atgofion at ei gilydd: wedi’r cyfan fuon nhw’n teithio o gwmpas fy mhen ers blynyddoedd, ond o’u gweld nhw ar bapur

Doedd y broses o ysgrifennu ddim yn anodd chwaith. Adrodd storïau oeddwn i, a’r storiau hynny naill ai ar gof achos bo nhw’n ddoniol neu achos bo nhw’n drist. Rhaid i chi gofio nad Saesneg yw fy mamiaith i chwaith, ond cymysgedd diddorol o Gymraeg Llanelli fy nhylwyth a Chymraeg safonol Addysg Gymraeg.

Mewn gwirionedd es ati i ysgrifennu’r llyfr yn nhafodiaith Cymraeg Llanelli’n gyntaf a mwynhau’r broses yn fawr.

Mae Addysg Gymraeg ffurfiol yn gallu gwaredu dyn o’i dafodiaith naturiol ar adegau Ofer bu fy ymdrechion i gael cyhoeddwyr yng Nghymru i dderbyn y llyfr . “Rhy lleol” y cynnwys oedd un beirniadaeth!

Yn y diwedd ges i gyfle i gyhoeddi gyda chyhoeddwyr byd eang trwy Austin Macauley ac mae’r broses wedi bod yn un difyr iawn.

Oes yna gynlluniau i ysgrifennu llyfr arall?

Does 'na ddim cynlluniau i ysgrifennu llyfr atgofion arall ond mae’r meddwl yn fyw am bach o ffuglen nesa!

Os hoffech ddarllen hunangofiant Rob, mae modd i chi archebu copi gan yr isod:

Austin Macauley Publishers:

All Show Off | Book | Austin Macauley Publishers

Amazon:

All Show Off: Memories of an Odd Ball’s Childhood in Llanelli: Amazon.co.uk: Rob Jewell: 9781398457874:

Books

All Show Off by Rob Jewell | Waterstones

Llwyddiant i gynllun hyfforddeion gofal

Fel rhan o gynllun recriwtio Cyngor Gwynedd mae’r Cyngor, ers nifer o flynyddoedd bellach, wedi bod yn darparu cyfleoedd i unigolyn sydd eisoes yn gweithio i Gyngor Gwynedd i ddilyn cymhwyster gradd B.A. Gwaith Cymdeithasol drwy’r Brifysgol Agored. Mae natur cwrs y Brifysgol Agored yn galluogi astudio gan barhau i weithio, felly mae’r unigolion yn parhau yn eu swyddi presennol am hyd y cwrs, cyn wedyn wrth gwrs ymgeisio am swyddi fel gweithwyr cymdeithasol.

Mae llwyddiant y cynllun a’r angen parhaus i recriwtio yn golygu fod nifer y swyddi hyfforddeion gwaith cymdeithasol wedi cynyddu i dri ar gyfer 2023 a 2024. Cawsom gyfle i holi dau aelod o staff sydd wedi cymhwyso fel gweithwyr cymdeithasol yn ddiweddar ar eu profiad nhw o astudio drwy’r Brifysgol Agored.

Beth oedd eich cefndir / maes gwaith cyn dod i weithio i’r maes Gofal?

Roeddwn yn gweithio yn y maes Twristiaeth. Dwi wedi gweithio i Reilffordd yr Wyddfa ac i STA Travel.

Sut ydach chi wedi cyrraedd lle’r ydych chi heddiw?

O ni’n weithiwr cefnogol llawn amser am bron i dair blynedd, yn gweithio yn y gymuned efo oedolion gydag anableddau dysgu yn bennaf. Dwi hefyd wedi cael profiad o weithio mewn gwasanaethau dydd a hefyd gyda phlant a theuluoedd.

Es ymlaen wedyn i weithio fel gweithiwr llesiant i’r tîm anabledd dysgu lle cefais fy nerbyn fel hyfforddai gwaith cymdeithasol. Mi wnes i hynny ochr yn ochr gyda’r gwaith llesiant. Ar ôl cymhwyso mi wnes i dderbyn swydd fel gweithiwr cymdeithasol i’r tîm anabledd dysgu Sut mae’r cynllun hyfforddeion wedi eich helpu?

Yn ariannol mae o wedi safio llawer o amser gan fysa fo wedi cymryd sawl blwyddyn i fi safio'r pres i allu gwneud y cwrs. Roedd sicrhau cyflog yn ystod lleoliadau gwaith hefyd yn help mawr i fi allu symud ymlaen yn fy ngyrfa heb orfod safio pres yn gyntaf.

Dw i’n credu fod cael gwneud y gradd ochr yn ochr â gweithio mewn rôl sydd yn rhoi profiad ymarferol hefyd wedi helpu fi i ddatblygu sgiliau i fod yn barod ar gyfer y maes. Dw i ddim yn meddwl y byswn i wedi llwyddo i ennill gradd heb y gefnogaeth sydd yn dod gyda’r cynllun gan y Cyngor.

Sut fuasech chi’n disgrifio’ch profiad chi o ddilyn y cynllun?

Roedd yn brofiad positif, roeddwn o hyd yn teimlo fel fy mod i’n cael fy nghefnogi gan y Brifysgol Agored a’r Cyngor, a bod yna gydweithio effeithiol rhwng y ddau sefydliad Roedd o’n brofiad da o ddysgu sut i reoli amser ac roedd yna strwythur clir i ddilyn

Unrhyw beth arall ‘da chi eisiau ychwanegu?

Fy mod yn ddiolchgar ac yn ymwybodol faint o lwcus oeddwn i, i dderbyn y cyfle i fod yn hyfforddai Dw i wedi ennill cymhwyster sydd wedi gwella fy nghyrfau ond hefyd wedi ennill llawer o brofiadau melys wrth ddysgu. Roedd o hefyd yn bleser cael gwneud ffrindiau newydd ar y cwrs ac ar leoliadau gwaith.

Marc Bantham Marc

Ceri Rhiannon Roberts

Beth oedd eich cefndir / maes gwaith cyn dod i weithio i’r maes Gofal?

Dwi wastad wedi gweithio ym maes plant. Dwi wedi dysgu addysg gorfforol i blant ac wedi hyfforddi nofio a phêl rwyd.

Sut ydach chi wedi cyrraedd lle’r ydych chi heddiw?

Mi wnes i astudio Gradd BSc

Chwaraeon, Iechyd ac Addysg

Gorfforol yn y Brifysgol cyn mynd ati i gwblhau cwrs TAR

Uwchradd. Fe wnaeth hyn fy

ngalluogi i fynd i ddysgu addysg

gorfforol i blant ond penderfynais newid llwybr o’r maes Addysg i’r maes Gofal

Derbyniais swydd gyda'r Cyngor fel Swyddog Cefnogi Teulu ym Maesgeirchen cyn symud ymlaen i swydd Gweithiwr Allweddol gyda’r Tîm Trothwy.

Fe wnes i'r gradd Gwaith Cymdeithasol ochr yn ochr hefo fy swydd. Erbyn hyn dwi’n gweithio fel

Gweithiwr Cymdeithasol i Tîm Plant Arfon

Sut mae’r cynllun hyfforddeion wedi helpu chi gyrraedd lle ydych chi heddiw?

Fyswn ni ddim yn weithwraig cymdeithasol heb y cynllun yma, neu efallai y byswn ni wedi ei wneud o mewn blynyddoedd pan fysa’r plant yn hŷn Mi nes i drio bob ffordd i weld os fyswn i yn gallu gwneud y cwrs fy hun ond doedd dim posibilrwydd efo 2 o blant bach a morgais.

Beth mae’r cynllun yn olygu i chdi?

Mae o’n gyfle mor werthfawr a dwi’n cyfri fy hun yn berson lwcus iawn. Mae o wedi rhoi ystyr o berthyn a balchder i mi o’r Cyngor. Nhw sydd wedi buddsoddi gymaint o amser ac arian yna’i. Mae wedi rhoi’r cyfle i fi wireddu fy mreuddwyd ac wedi cadw fi mewn swydd a gallu astudio yn fy amser fy hun.

Sut fuasech chi’n disgrifio’ch profiad chi o ddilyn y cynllun?

Mi oedd o yn 3 blynedd anodd iawn wrth weithio llawn amser, magu dau o blant bach, gwneud gradd ac adeiladu tŷ ond mae’r teimlad o lwyddiant ar y diwedd yn gwneud yr holl grio, chwerthin, tantryms, dathliadau a blinder i gyd werth o!

Beth yw cryfderau’r cynllun?

Y gefnogaeth barhaol dwi wedi cael gan yr adran hyfforddiant! Mae’r cyngor, cefnogaeth, arweiniad a’r clust i wrando wedi bod yn nhu hwnt o werthfawr! Doedd ddim byd yn ormod o broblem, bob dim yn bosibl!

SOS #Galw Gofalwyr

Mae’r Cyngor yn galw am fwy o weithwyr gofal yng Ngwynedd.

Ymunwch â’r tîm!

SOS #Galw Gofalwyr (llyw.cymru)

Ceri gyda'i theulu

Teithio Cynaliadwy

Faint ohonoch sy'n defnyddio eich cerbyd eich hun er mwyn gwneud taith fusnes ar ran y Cyngor? Ydach chi'n gwneud y defnydd gorau o'r opsiynau gwahanol sydd ar gael? Er bod carfannau o'r gweithlu angen defnyddio eu ceir i deithio'n rheolaidd fel rhan o'i swyddi, mae yna sawl opsiwn y gall nifer ohonom ystyried cyn teithio yn ein ceir ein hunain.

Drwy ystyried yr opsiynau isod byddwn yn helpu amddiffyn yr amgylchedd ac yn arbed arian ac amser.

Cyfarfodydd ar-lein

Os oes yna un peth cadarnhaol mae'r blynyddoedd diwethaf wedi ei ddangos i ni, does dim rhaid teithio i fynychu cyfarfod Mae opsiynau llawer mwy rheolaidd y dyddiau yma i allu mynychu cyfarfodydd ar eich cyfrifiadur - mae'n arbed amser i chi, i osgoi gorfod teithio yn y car ac yn golygu fod dim rhaid gwneud teithiau hir ar gyfer cyfarfodydd gweddol fyr.

Mae hefyd yn well i'r amgylchedd o ran lleihau ôl-troed carbon ac yn arwain at leihau costau i'r Cyngor - a hynny mewn cyfnod lle mae yna bwysau amlwg ar gyllidebau'r sector gyhoeddus.

Rhannu car

Mae yna adegau lle mae'n rhaid teithio ar gyfer cyfarfodydd neu hyfforddiant. Ond cyn neidio i'r car, ystyriwch os oes modd rhannu'r daith efo cydweithiwr sydd hefyd yn mynychu'r un cyfarfod.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'n bosib hefyd fod modd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynychu rhai cyfarfodydd Mae hynny'n debygol o fod yn llawer gwell i'r amgylchedd ac yn debyg o olygu llai o gostau i'r trethdalwr.

Llogi cerbyd

Yn yr hinsawdd ariannol hynod heriol sy'n wynebu'r sector gyhoeddus gyfan, mae'n bwysig fod pob un ohonom yn ystyried yn ofalus os oes yna ffyrdd mwy cost-effeithiol o fod yn cyflawni ein gwaith.

Wyddoch chi fod modd defnyddio cerbyd wedi ei logi os ydych chi'n teithio yn weddol bell, mae hynny yn rhatach i'r trethdalwr Cysylltwch gyda Desg Archebion Cefnogol <MA1289@gwynedd.llyw.cymru> am ragor o wybodaeth.

Beicio i'r gwaith

Beth am arbed ar gostau teithio, helpu i amddiffyn yr amgylchedd a chadw'n heini'r un ffordd drwy ymuno gyda'r Cynllun Beicio i'r Gwaith?

Drwy'r cynllun gallwch logi beic gan gynnwys beic trydan ac offer diogelwch o'ch dewis. Mae bron i 1,000 o aelodau staff wedi manteisio ar y cynllun Beicio i'r Gwaith ers iddo gael ei gyflwyno nôl yn 2012. Am fwy o fanylion cliciwch yma.

Mi fyddwn yn rhannu rhagor o negeseuon hefo chi yn y dyfodol i'ch diweddaru am y gwaith sydd yn digwydd yn y maes teithio cynaliadwy felly cadwch lygaid allan amdanynt.

Hwb Hysbys

Helpu’r gymuned

Bob blwyddyn mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn dathlu Wythnos Cyfiawnder Adferol drwy gynnal gwahanol weithgareddau gyda’r gymuned leol. Mae’r tîm yn hoffi rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau maent yn gweithio hefo, ac mae Wythnos Cyfiawnder Adferol y neu ganiatáu i wneud hynny yn flynyddol.

Y tro yma fe wnaethant fynd ati i ddarparu parseli bwyd ar gyfer pobl sydd yn ffeindio hi’n anodd ymdopi Fe roedd aelodau staff yn hynod o garedig wrth gyfrannu cymaint o eitemau ag y gallant. Fe wnaeth archfarchnadoedd Lidl a Tesco hefyd gymryd rhan gan gyfrannu eitemau ar gyfer y parseli.

Cafodd y parseli bwyd eu rhoi i’r Prosiect Allgymorth

Digartref ym Mangor yn ogystal ag elusennau a theuluoedd lleol sydd yn mynd trwy amser caled Roedd y gymdeithas tai ADRA hefyd yn ffocws i’r tîm ar ôl clywed bod cymaint o bobl hŷn yn treulio amser ar eu pen eu hunain dros gyfnod y Nadolig ac yn dioddef o broblemau ariannol.

Newid enw Adran

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor i symud Adran YGC i fod yn rhan o’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, rydym yn falch o gyhoeddi fod y newid wedi ei gyflawni erbyn hyn. Mae enw'r adran wedi newid ers 01/03/2023 i adlewyrchu’r newid yma. Enw yr adran newydd ydi Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC.

YsgolHafodLon

Mae Rachel Heal sy’n gweithio yn yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn

awyddus i godi arian ar gyfer beic wedi ei addasu i Ysgol Hafod Lon. I ddarllen mwy am stori Rachel a pham ei bod yn awyddus i wneud hyn, cliciwch yma: Fundraiser by Rachel Heal : Beic i Ysgol Hafod Lon. Bike for Ysgol Hafod Lon (gofundme.com)

Rachel gyda'i mhab Toby

Golff Gwynedd yn Nefyn: Tlws y Cadeirydd

Cynhelir y gystadleuaeth golff blynyddol eleni ar ddydd Gwener y 19eg o Fai 2023 yng Nghlwb Golff Nefyn. Bydd y gost tua £30 (£10 i aelodau Clwb Golff Nefyn), i gynnwys y golff, gwobrau, a phryd o fwyd 2 gwrs.

Mae'r ti wedi ei gadw i ni rhwng 12:30 a 13:50 am 18 twll ar y cwrs newydd, a bydd yr 28 cyntaf i ymateb yn cael gem ar y 'Trwyn' yn y bore am 10:00 – 10:50.

Os oes gennych ddiddordeb mewn chwarae, yna e-bostiwch GolffGwynedd@gwynedd.llyw.cymru cyn gynted â phosibl gyda manylion, yn cynnwys eich enw, rhif tâl, a "handicap" golff (a chadarnhad os yw hwnnw yn swyddogol) Hefyd, plîs nodwch yr amseroedd ar y ti fyddech chi'n ffafrio

Os rydych yn ymwybodol o unrhyw un nad oes â mynediad at e-bost neu'r fewnrwyd ond a fuasai â diddordeb mewn chwarae, yna fuasech gystal â rhoi gwybod iddynt a gofyn iddynt gysylltu cyn gynted â phosibl. Y cyntaf i'r felin geith geibio!

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook

Articles inside

Gair Bach o Gyngor - Mawrth 2023

3min
pages 6-7

Golff Gwynedd yn Nefyn: Tlws y Cadeirydd

1min
page 14

Hwb Hysbys

1min
page 13

Teithio Cynaliadwy

1min
page 12

Ceri Rhiannon Roberts

1min
page 11

Llwyddiant i gynllun hyfforddeion gofal

2min
page 10

Holi Hwn a Llall

2min
pages 8-9

i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd

2min
pages 6-7

Croesawu'r Eisteddfod i Wynedd

2min
pages 4-5

Siôn yn cipio'r Fedal Ryddiaith

1min
page 3

bach Gair gan y golygydd

1min
page 2

Golff Gwynedd yn Nefyn: Tlws y Cadeirydd

1min
page 14

Hwb Hysbys

1min
page 13

Teithio Cynaliadwy

1min
page 12

Ceri Rhiannon Roberts

1min
page 11

Llwyddiant i gynllun hyfforddeion gofal

2min
page 10

Holi Hwn a Llall

2min
pages 8-9

i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd

2min
pages 6-7

Croesawu'r Eisteddfod i Wynedd

2min
pages 4-5

Siôn yn cipio'r Fedal Ryddiaith

1min
page 3

bach Gair gan y golygydd

1min
page 2

Golff Gwynedd yn Nefyn: Tlws y Cadeirydd

1min
page 14

Hwb Hysbys

1min
page 13

Teithio Cynaliadwy

1min
page 12

Ceri Rhiannon Roberts

1min
page 11

Llwyddiant i gynllun hyfforddeion gofal

2min
page 10

Holi Hwn a Llall

2min
pages 8-9

i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd

2min
pages 6-7

Croesawu'r Eisteddfod i Wynedd

2min
pages 4-5

Siôn yn cipio'r Fedal Ryddiaith

1min
page 3

bach Gair gan y golygydd

1min
page 2

Golff Gwynedd yn Nefyn: Tlws y Cadeirydd

1min
page 14

Hwb Hysbys

1min
page 13

Ceri Rhiannon Roberts

1min
page 12

Llwyddiant i gynllun hyfforddeion gofal

2min
page 11

Teithio Cynaliadwy

1min
page 10

Holi Hwn a Llall

2min
pages 8-9

i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd

2min
pages 6-7

Croesawu'r Eisteddfod i Wynedd

2min
pages 4-5

Siôn yn cipio'r Fedal Ryddiaith

1min
page 3

bach Gair gan y golygydd

1min
page 2
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Gair Bach o Gyngor - Mawrth 2023 by Cyfathrebu Mewnol - Issuu