1 minute read

Siôn yn cipio'r Fedal Ryddiaith

LlongyfarchiadaumawriSiônWynRoberts,RheolwrAchosiongyda’rGwasanaethCyfiawnderIeuenctid amennillMedalRyddiaithEisteddfodGadeiriolDyffrynOgwen.FeddaethSiôni’rbriggydadarn emosiynol‘CadwPellter’aysgrifennwydameidadwedimarwolaethynyteulu.

Er bod ei nain yn un am ddarllen, a’i fam yn barddoni, dim ond yn weddol ddiweddar mae Siôn wedi troi at 'sgrifennu ei hun

Advertisement

Dywedodd: “Dw i’n meddwl y gwnes i ddechrau 'sgrifennu ychydig bach yn fy ugeiniau cynnar ond wnes i ddim byd wedyn tan tua tair mlynedd yn ôl. Yn lockdown, fe wnes i ddechrau 'sgrifennu darnau bach, jyst ryw ffordd o gael gwared ar stress. Roeddwn i jyst yn frustrated efo’r sefyllfa felly’n rhoi teimladau i lawr ar bapur

Doeddwn i heb drio unrhyw fath o gystadleuaeth o’r blaen ond fe wnes i benderfynu trio yn fwy na dim i weld os oedd pobol yn licio sgrifennu fi. Doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd ohono fo i fod yn onest”.

Beth wnaeth ddenu Sion at ysgrifennu’n llafar felly a phwy yw’r prif ddylanwadau hynny wnaeth ei ysbrydoli?

“O ran dylanwad fel awdur, yn Gymraeg pan oeddwn i’n ifanc mae gen ti T Llew Jones efo llyfrau plant. Dw i’n trio sgrifennu fel mae pobol yn siarad, trio sgrifennu fel mae pobol yn mynd i ddallt. Dydw i ddim yn trio 'sgrifennu yn ffurfiol efo Cymraeg posh o gwbl fel yna

Y prif ddylanwad yn fan yna ydi Dewi Prysor. Efo 'sgrifennu llafar dw i’n meddwl ei fod o’n fwy inclusive –mi oedd o i fi beth bynnag

Roedd y llyfrau yn yr ysgol yn boring ac yn hen ffasiwn, yn fy marn i. Doeddwn i methu dioddef nhw i fod yn onest, fel dwi wedi mynd yn hŷn dwi wedi dysgu i’w gwerthfawrogi nhw ond ar y pryd doedd gen i ddim diddordeb mewn darllen yn Gymraeg Pan wnes i ddarllen llyfrau Manon Steffan Ros a Dewi Prysor fe wnes i ddechrau meddwl efallai fyswn i yn gallu cael go arni”, eglurodd Siôn.

“Roeddwn i’n siarad efo ffrindiau sydd yr un oed a fi ac maen nhw’n cael hi’n anodd siarad am deimladau hefo teulu agos, fel rhieni . Maen nhw’n dweud bod pobol sy’n ifengach, bod pobol sy’n eu ugeiniau cynnar, maen nhw’n gweld fod o lot gwell siarad am y peth o gymharu efo oedran ni Mae pethau yn newid yn slo ond dydi o ddim am ddigwydd dros nos.

Yn amlwg, mae o’n ddarn sydd yn bersonol ac yn emosiynol i fi a Dad ond dw i’n meddwl y bydd lot o bobol yn gallu uniaethu efo fo ac efallai y bydd yn helpu rhywun i siarad am eu teimladau nhw dipyn bach ”

I ddarllen 'Cadw Pellter@, dilynwch y ddolen yma: Cadw Pellter (staffcyngorgwynedd org) Mae'r darn a ysgrifennwyd gan Siôn yn cynnwys iaith gref.

This article is from: