2 minute read

Croesawu'r Eisteddfod i Wynedd

Boduan a’r Brifwyl – rôl staff Cyngor Gwynedd

Mae Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd rownd y gornel ac mae’r cyffro yn raddol dyfu ar draws y sir wrth inni edrych ymlaen i groesawu miloedd o bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt yma i Wynedd.

Advertisement

Mae’r ŵyl yn ddathliad o ddiwylliant a’r iaith yma yng Nghymru. Bydd yn cael ei chynnal rhwng 5 a 12 Awst ym Moduan ar gyrion Pwllheli ble bydd pobl yn heidio i fwynhau cerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, perfformiadau gwreiddiol a llawer mwy.

Ond mae’n debyg na fydd rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli’r rôl allweddol bydd Cyngor Gwynedd, a staff ar draws nifer o adrannau, yn ei chwarae i sicrhau llwyddiant yr ŵyl eleni.

Y Cyngor yn cefnogi’r Eisteddfod

Mae yna grŵp llywio o swyddogion o wahanol adrannau’r Cyngor yn cefnogi staff yr Eisteddfod er mwyn sicrhau bydd y trefniadau wythnos yr ŵyl yn mynd mor rhwydd â phosib. Mae cyfarfodydd a sgyrsiau rheolaidd yn digwydd rhwng y ddau sefydliad er mwyn trafod nifer o faterion, gan gynnwys: trefniadau rheolaeth traffig – mae’r Cyngor yn cefnogi’r Eisteddfod i sicrhau fod pobl yn cyrraedd y maes yn ddiogel a nad yw’r Eisteddfod yn amharu yn ormodol ar fywydau pobl yr ardal ac ar fusnesau lleol; trafnidiaeth gyhoeddus – mae staff Gwynedd yn cefnogi trefnwyr yr Eisteddfod i leihau pwysau ar y ffyrdd gymaint a phosib; cefnogaeth busnes – mae defnydd yn cael ei wneud o’r cysylltiadau sydd gan y Cyngor efo’r gymuned fusnes leol i wneud yn siŵr fod busnesau lleol yn gallu manteisio ar y cyfleon economaidd ddaw yn sgil yr ŵyl; cefnogaeth tiroedd – mae’r Cyngor yn helpu trefnwyr yr Eisteddfod i sicrhau fod tiroedd addas ar gyfer y Maes ei hun, meysydd parcio, meysydd gwersylla ac ati; a llawer, llawer mwy!

StondinyCyngor

Bydd gan y Cyngor stondin ar faes yr Eistedd hefyd. Mae trafodaethau eisoes wedi dechra am beth fydd cynnwys a themâu’r gofod gyd gwahanol wasanaethau wedi cyfrannu eu syniadau. Y gobaith yw bydd arlwy’r stondin adlewyrchu Gwynedd gyfan ac yn gyfle i ble blaenoriaethau Cynllun y Cyngor gyda gweithgareddau ac arddangosfeydd.

Fe gofiwch efallai fod cyfle wedi bod i staff y Cyngor gynnig enwau ar gyfer y stondin. Ma cyfle dal i fod i gymryd rhan – os oes gennyc syniad ar gyfer enw bachog, cysylltwch os gwelwch yn dda ar:

CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru

Cyfleon i blant lleol

Mae ysgolion y sir yn ddiwyd iawn yn cyfrannu at fwrlwm yr Eisteddfod. Ymysg y gweithgareddau, bydd cyfle i ddisgyblion hŷn weld bandiau Cymraeg yn ystod taith MaesB, bydd cyfle i blant iau gymryd rhan mewn sioe gyda Tudur Phillips ac Annie Llŷn, mae plant hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect Gair Mewn Gwlân i gofnodi enwau llefydd cynhenid bro’r eisteddfod.

Rhannwch eich stori!

A fyddech yn hoffi rhannu eich stori am eich cysylltiadau â’r Eisteddfod yn y cylchgrawn staff rhwng rŵan ac wythnos yr ŵyl?

Ydych wedi ymuno â chôr yr Eisteddfod?

Oeddech yn aelod o Ddawns y Flodau pan yn blentyn? Ydych yn weithgar ar yr ymgyrch codi arian lleol? Beth bynnag yw eich cysylltiad, a pa bynnag reswm rydych yn edrych ymlaen at yr ŵyl, cysylltwch os gwelwch yn dda ar:

CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru

Ffeil o ffeithiau - yr Eisteddfod mewn ffigyrau

Tua 150,000 – nifer yr ymwelwyr sy’n cael eu denu i’r Eisteddfod

Mwy na 250 – faint o stondinau fydd ar Faes yr Eisteddfod

Y flwyddyn 1861 – mae hanes modern yr Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio’n ôl i’r flwyddyn hon

Mwy na 6,000 – faint o gystadleuwyr sy’n cael eu denu i’r Eisteddfod bob blwyddyn

This article is from: