
1 minute read
Teithio Cynaliadwy
Faint ohonoch sy'n defnyddio eich cerbyd eich hun er mwyn gwneud taith fusnes ar ran y Cyngor? Ydach chi'n gwneud y defnydd gorau o'r opsiynau gwahanol sydd ar gael? Er bod carfannau o'r gweithlu angen defnyddio eu ceir i deithio'n rheolaidd fel rhan o'i swyddi, mae yna sawl opsiwn y gall nifer ohonom ystyried cyn teithio yn ein ceir ein hunain.
Drwy ystyried yr opsiynau isod byddwn yn helpu amddiffyn yr amgylchedd ac yn arbed arian ac amser.
Advertisement
Cyfarfodydd ar-lein
Os oes yna un peth cadarnhaol mae'r blynyddoedd diwethaf wedi ei ddangos i ni, does dim rhaid teithio i fynychu cyfarfod Mae opsiynau llawer mwy rheolaidd y dyddiau yma i allu mynychu cyfarfodydd ar eich cyfrifiadur - mae'n arbed amser i chi, i osgoi gorfod teithio yn y car ac yn golygu fod dim rhaid gwneud teithiau hir ar gyfer cyfarfodydd gweddol fyr.
Mae hefyd yn well i'r amgylchedd o ran lleihau ôl-troed carbon ac yn arwain at leihau costau i'r Cyngor - a hynny mewn cyfnod lle mae yna bwysau amlwg ar gyllidebau'r sector gyhoeddus.
Rhannu car
Mae yna adegau lle mae'n rhaid teithio ar gyfer cyfarfodydd neu hyfforddiant. Ond cyn neidio i'r car, ystyriwch os oes modd rhannu'r daith efo cydweithiwr sydd hefyd yn mynychu'r un cyfarfod.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae'n bosib hefyd fod modd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynychu rhai cyfarfodydd Mae hynny'n debygol o fod yn llawer gwell i'r amgylchedd ac yn debyg o olygu llai o gostau i'r trethdalwr.
Llogi cerbyd
Yn yr hinsawdd ariannol hynod heriol sy'n wynebu'r sector gyhoeddus gyfan, mae'n bwysig fod pob un ohonom yn ystyried yn ofalus os oes yna ffyrdd mwy cost-effeithiol o fod yn cyflawni ein gwaith.
Wyddoch chi fod modd defnyddio cerbyd wedi ei logi os ydych chi'n teithio yn weddol bell, mae hynny yn rhatach i'r trethdalwr Cysylltwch gyda Desg Archebion Cefnogol <MA1289@gwynedd.llyw.cymru> am ragor o wybodaeth.
Beicio i'r gwaith
Beth am arbed ar gostau teithio, helpu i amddiffyn yr amgylchedd a chadw'n heini'r un ffordd drwy ymuno gyda'r Cynllun Beicio i'r Gwaith?
Drwy'r cynllun gallwch logi beic gan gynnwys beic trydan ac offer diogelwch o'ch dewis. Mae bron i 1,000 o aelodau staff wedi manteisio ar y cynllun Beicio i'r Gwaith ers iddo gael ei gyflwyno nôl yn 2012. Am fwy o fanylion cliciwch yma.
Mi fyddwn yn rhannu rhagor o negeseuon hefo chi yn y dyfodol i'ch diweddaru am y gwaith sydd yn digwydd yn y maes teithio cynaliadwy felly cadwch lygaid allan amdanynt.