1 minute read

Hwb Hysbys

Next Article
Teithio Cynaliadwy

Teithio Cynaliadwy

Helpu’r gymuned

Bob blwyddyn mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn dathlu Wythnos Cyfiawnder Adferol drwy gynnal gwahanol weithgareddau gyda’r gymuned leol. Mae’r tîm yn hoffi rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau maent yn gweithio hefo, ac mae Wythnos Cyfiawnder Adferol y neu ganiatáu i wneud hynny yn flynyddol.

Advertisement

Y tro yma fe wnaethant fynd ati i ddarparu parseli bwyd ar gyfer pobl sydd yn ffeindio hi’n anodd ymdopi Fe roedd aelodau staff yn hynod o garedig wrth gyfrannu cymaint o eitemau ag y gallant. Fe wnaeth archfarchnadoedd Lidl a Tesco hefyd gymryd rhan gan gyfrannu eitemau ar gyfer y parseli.

Cafodd y parseli bwyd eu rhoi i’r Prosiect Allgymorth

Digartref ym Mangor yn ogystal ag elusennau a theuluoedd lleol sydd yn mynd trwy amser caled Roedd y gymdeithas tai ADRA hefyd yn ffocws i’r tîm ar ôl clywed bod cymaint o bobl hŷn yn treulio amser ar eu pen eu hunain dros gyfnod y Nadolig ac yn dioddef o broblemau ariannol.

Newid enw Adran

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor i symud Adran YGC i fod yn rhan o’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, rydym yn falch o gyhoeddi fod y newid wedi ei gyflawni erbyn hyn. Bydd enw’r adran yn newid o’r 01/03/2023 i adlewyrchu’r newid yma. Enw yr adran newydd fydd Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC.

YsgolHafodLon

Mae Rachel Heal sy’n gweithio yn yr

Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn awyddus i godi arian ar gyfer beic wedi ei addasu i Ysgol Hafod Lon I ddarllen mwy am stori Rachel a pham ei bod yn awyddus i wneud hyn, cliciwch yma: Fundraiser by Rachel Heal : Beic i Ysgol Hafod Lon.

Bike for Ysgol Hafod Lon (gofundme.com)

This article is from: