
1 minute read
Ceri Rhiannon Roberts
Beth oedd eich cefndir / maes gwaith cyn dod i weithio i’r maes Gofal?
Dwi wastad wedi gweithio ym maes plant. Dwi wedi dysgu addysg gorfforol i blant ac wedi hyfforddi nofio a phêl rwyd.
Advertisement
Sut ydach chi wedi cyrraedd lle’r ydych chi heddiw?
Mi wnes i astudio Gradd BSc
Chwaraeon, Iechyd ac Addysg
Gorfforol yn y Brifysgol cyn mynd ati i gwblhau cwrs TAR
Uwchradd. Fe wnaeth hyn fy ngalluogi i fynd i ddysgu addysg gorfforol i blant ond penderfynais newid llwybr o’r maes Addysg i’r maes Gofal
Derbyniais swydd gyda'r Cyngor fel Swyddog Cefnogi Teulu ym Maesgeirchen cyn symud ymlaen i swydd Gweithiwr Allweddol gyda’r Tîm Trothwy.
Fe wnes i'r gradd Gwaith Cymdeithasol ochr yn ochr hefo fy swydd. Erbyn hyn dwi’n gweithio fel
Gweithiwr Cymdeithasol i Tîm Plant Arfon
Sut mae’r cynllun hyfforddeion wedi helpu chi gyrraedd lle ydych chi heddiw?
Fyswn ni ddim yn weithwraig cymdeithasol heb y cynllun yma, neu efallai y byswn ni wedi ei wneud o mewn blynyddoedd pan fysa’r plant yn hŷn Mi nes i drio bob ffordd i weld os fyswn i yn gallu gwneud y cwrs fy hun ond doedd dim posibilrwydd efo 2 o blant bach a morgais.
Beth mae’r cynllun yn olygu i chdi?
Mae o’n gyfle mor werthfawr a dwi’n cyfri fy hun yn berson lwcus iawn. Mae o wedi rhoi ystyr o berthyn a balchder i mi o’r Cyngor. Nhw sydd wedi buddsoddi gymaint o amser ac arian yna’i. Mae wedi rhoi’r cyfle i fi wireddu fy mreuddwyd ac wedi cadw fi mewn swydd a gallu astudio yn fy amser fy hun.
Sut fuasech chi’n disgrifio’ch profiad chi o ddilyn y cynllun?
Mi oedd o yn 3 blynedd anodd iawn wrth weithio llawn amser, magu dau o blant bach, gwneud gradd ac adeiladu tŷ ond mae’r teimlad o lwyddiant ar y diwedd yn gwneud yr holl grio, chwerthin, tantryms, dathliadau a blinder i gyd werth o!
Beth yw cryfderau’r cynllun?
Y gefnogaeth barhaol dwi wedi cael gan yr adran hyfforddiant! Mae’r cyngor, cefnogaeth, arweiniad a’r clust i wrando wedi bod yn nhu hwnt o werthfawr! Doedd ddim byd yn ormod o broblem, bob dim yn bosibl!
SOS #Galw Gofalwyr
Mae’r Cyngor yn galw am fwy o weithwyr gofal yng Ngwynedd.
Ymunwch â’r tîm!
SOS #Galw Gofalwyr (llyw.cymru)