2 minute read

Holi Hwn a Llall

Rob yn gweithio fel Cydlynydd Addysg Plant Mewn Gofal ond yn ddiweddar mae o wedi cyhoeddi hunangofiant.

Beth yw eich cefndir?

Advertisement

Fydde rhai’n dadlau mai MOUTH walian ydw i. Wedi fy ngeni a’m magu yn ardal dre Llanelli, Sir Gaerfyrddin ym 1966! Ymfudes i i’r Gogledd ym 1998 i barhau â gyrfa dysgu yn Ysgol Tryfan Bangor, cyn ffeindio fy hun yn elwa mwy’n bersonol o helpu plant a phobl ifanc yn emosiynol, heb orfod poeni am yr holl farcio di-bendraw

Ar ôl dilyn sawl trywydd gwahanol o fewn y maes darparu cefnogaeth gofal i blant, erbyn hyn, dw i’n cydlynu’r ddarpariaeth addysgol sy’n cael ei gynnig i’n plant sydd mewn gofal yng Ngwynedd.

Pan y gwnaethoch benderfynu ysgrifennu llyfr?

Yn dilyn llawdriniaeth calon agored ar ddiwedd Rhagfyr 2016, i newid falf aortig bi-cuspid, a’r cymhlethdodau eraill a ddaeth yn sgil y llawdriniaeth honno i’m iau a’m hysgyfaint, ges i bach o banig!

O feddwl am gymaint o atgofion a phrofiadau a chymeriadau o’m mhlentyndod oedd yn fyw yn fy nghof, fyddai’n marw gyda fi petawn i’n diflannu oddi ar dir y byw Felly es i ati yn ystod fy nghyfnod o drio gwella i’w cofnodi ar gyfer fy mhlant a hwyrach eu plant fel hunangofiant hollol bersonol i fi

Oes modd i chi ddweud ychydig bach am y llyfr? Dydy’r llyfr ddim yn hir-wyntog - a bod yn hollol onest, un o’r sylwadau dw i wedi derbyn yw bod bobl ishe darllen mwy. Llyfr atgofion personol sydd yn cael ei gyflwyno yn All Show Off – term oedd fy mam wastad yn defnyddio amdana i!

Mae’r llyfr mewn tair rhan ac yn delio gyda’r dylanwadau wnaeth siapio’r person yr ydw i heddiw Dwi’n ymweld â dylanwadau Cymdeithas yr ardal yn ystod cyfnod y 60au a’r 70au, dylanwadau perthnasau o’m gorffennol a’r dylanwadau ddaeth yn ystod y blynyddoedd boncyrs wrth i mi fynd i’r Ysgol uwchradd a hitio’r glasoed.

Sut ymateb ydych wedi gael ers cyhoeddi ‘All Show Off’?

Mae’r ymateb i’r llyfr wedi bod yn arbennig o dda hyd yn hyn! Dw i wedi erfyn ar gymaint o bobl i adael sylwadau/ adolygiadau ar y gwefannau lle cawson nhw hyd i’r llyfr yn y lle cyntaf – Ond bo' nhw’n rhai positif wrth gwrs!

Sut deimlad oedd ysgrifennu a chyhoeddi eich llyfr cyntaf?

“Cathartic” yw’r unig air fedra i feddwl wrth ddisgrifio’r broses. Ddim jyst o hel yr atgofion at ei gilydd: wedi’r cyfan fuon nhw’n teithio o gwmpas fy mhen ers blynyddoedd, ond o’u gweld nhw ar bapur

Doedd y broses o ysgrifennu ddim yn anodd chwaith. Adrodd storïau oeddwn i, a’r storiau hynny naill ai ar gof achos bo nhw’n ddoniol neu achos bo nhw’n drist. Rhaid i chi gofio nad Saesneg yw fy mamiaith i chwaith, ond cymysgedd diddorol o Gymraeg Llanelli fy nhylwyth a Chymraeg safonol Addysg Gymraeg.

Mewn gwirionedd es ati i ysgrifennu’r llyfr yn nhafodiaith Cymraeg Llanelli’n gyntaf a mwynhau’r broses yn fawr.

Mae Addysg Gymraeg ffurfiol yn gallu gwaredu dyn o’i dafodiaith naturiol ar adegau Ofer bu fy ymdrechion i gael cyhoeddwyr yng Nghymru i dderbyn y llyfr . “Rhy lleol” y cynnwys oedd un beirniadaeth!

Yn y diwedd ges i gyfle i gyhoeddi gyda chyhoeddwyr byd eang trwy Austin Macauley ac mae’r broses wedi bod yn un difyr iawn.

Oes yna gynlluniau i ysgrifennu llyfr arall?

Does 'na ddim cynlluniau i ysgrifennu llyfr atgofion arall ond mae’r meddwl yn fyw am bach o ffuglen nesa!

Os hoffech ddarllen hunangofiant Rob, mae modd i chi archebu copi gan yr isod:

Austin Macauley Publishers:

All Show Off | Book | Austin Macauley Publishers

Amazon:

All Show Off: Memories of an Odd Ball’s Childhood in Llanelli: Amazon.co.uk: Rob Jewell: 9781398457874:

Books

All Show Off by Rob Jewell | Waterstones

This article is from: