
2 minute read
i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd
Efallai i chi gofio yn y rhifyn diwethaf o’r cylchgrawn staff i ni sôn am lwyddiant y Gwasanaeth Ieuenctid yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod y Gwasanaeth wedi mynd ymlaen i ennill y ddwy wobr mewn seremoni a gynhaliwyd yn Abertawe ym mis Rhagfyr.

Advertisement
Fe enillodd Andrew Owen sy’n Weithiwr Ieuenctid y wobr ‘Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol’ ac fe enillodd y digwyddiad Gŵyl Llesiant: Ieuenctid Gwynedd y wobr ‘Dangos rhagoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi mewn partneriaeth ar lefel leol.’
Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.
Cafodd Andrew ei enwebu am y Wobr ‘Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol’ gan y bobl ifanc mae’n gweithio hefo. Fe wnaethant nodi ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau gan gynnwys eu helpu gyda’u hyder yn ogystal â gwneud iddynt deimlo’n ddiogel, hapus ac yn werthfawr.
Mae Andrew yn hynod o weithgar yn ardal Dwyfor sydd yn cynnwys gweithio mewn dwy ysgol uwchradd a gwahanol gymunedau’r ardal - gydag effaith positif iawn yn lleol
Fe dynnodd y beirniaid sylw at frwdfrydedd Andrew dros addysgu a dysgu yn ogystal â’i ymrwymiad a'i agwedd gadarnhaol.
Dywedodd Andrew: “Roedd hi’n fraint fawr cael fy enwebu gan y bobl ifanc, roeddwn yn teimlo fy mod wedi curo’n barod dim ond wrth gael fy enwebu, ond roedd ennill y wobr yn Abertawe yn deimlad bythgofiadwy. Rwyf erioed wedi teimlo mor falch yn fy ngwaith ac mae’r wobr yma i’r bobl ifanc hefyd oherwydd heb eu brwdfrydedd a'u parodrwydd i gymryd rhan yn y sesiynau dwi’n darparu, ni fysa dim o hyn yn bosib.
“Mae’n fraint enfawr i gael bod yn rhan o’i bywydau ac i obeithio datblygu ei sgiliau at y dyfodol Dwi hefyd yn falch bod y bobl ifanc yma yn amlygu gwaith rydym ni fel Gweithiwr Ieuenctid yn ei wneud ar draws y sir.”
Meddai Annette Ryan, Arweinydd Gwaith Cymorth Ieuenctid: “Gwobr haeddiannol iawn i Weithiwr Ieuenctid ardderchog yma yng Ngwynedd Gyda’i brofiad helaeth o waith ieuenctid, ac wrth gwrs ei gymwysterau, mae Andrew yn gweithio’n dawel ac yn ddiflino gyda brwdfrydedd er lles pobl ifanc.
“Mae ganddo ddawn arbennig iawn o helpu pobl ifanc adeiladu hyder, teimlo’n ddiogel a bod yn rhan bwysig o’u cymuned. Fel mae pobl ifanc wedi adrodd yn barod, mae Andrew yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar eu bywydau ac mae pawb yn hapus yn ei gwmni Rwyf mor falch ohono ac rydym yn lwcus iawn fel gwasanaeth i gael Andrew gyda ni.’’
Cafodd yr Ŵyl Llesiant 2022 ei gynnal dros gyfnod o wythnos ledled Gwynedd gyda’r nod i ddod â sefydliadau gyda’i gilydd er mwyn hybu iechyd a lles meddyliol a chorfforol ymhlith pobl ifanc y sir Fe ddaru bobl ifanc chwarae rôl flaenllaw iawn wrth arwain y prosiect, gydag ymarferwyr gwaith ieuenctid yn eu cefnogi drwy gydol y cyfnod.
Nododd y beirniaid fod yr ŵyl wedi helpu i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau ar gyfer y dyfodol, ac wedi profi y gellir asiantaethau a gwasanaethau cyd-weithio gyda’i gilydd er mwyn gwella profiadau pobl ifanc