2 minute read

Llwyddiant i gynllun hyfforddeion gofal

Fel rhan o gynllun recriwtio Cyngor Gwynedd mae’r Cyngor, ers nifer o flynyddoedd bellach, wedi bod yn darparu cyfleoedd i unigolyn sydd eisoes yn gweithio i Gyngor Gwynedd i ddilyn cymhwyster gradd B.A. Gwaith Cymdeithasol drwy’r Brifysgol Agored. Mae natur cwrs y Brifysgol Agored yn galluogi astudio gan barhau i weithio, felly mae’r unigolion yn parhau yn eu swyddi presennol am hyd y cwrs, cyn wedyn wrth gwrs ymgeisio am swyddi fel gweithwyr cymdeithasol.

Mae llwyddiant y cynllun a’r angen parhaus i recriwtio yn golygu fod nifer y swyddi hyfforddeion gwaith cymdeithasol wedi cynyddu i dri ar gyfer 2023 a 2024. Cawsom gyfle i holi dau aelod o staff sydd wedi cymhwyso fel gweithwyr cymdeithasol yn ddiweddar ar eu profiad nhw o astudio drwy’r Brifysgol Agored.

Advertisement

Beth oedd eich cefndir / maes gwaith cyn dod i weithio i’r maes Gofal?

Roeddwn yn gweithio yn y maes Twristiaeth. Dwi wedi gweithio i Reilffordd yr Wyddfa ac i STA Travel.

Sut ydach chi wedi cyrraedd lle’r ydych chi heddiw?

O ni’n weithiwr cefnogol llawn amser am bron i dair blynedd, yn gweithio yn y gymuned efo oedolion gydag anableddau dysgu yn bennaf. Dwi hefyd wedi cael profiad o weithio mewn gwasanaethau dydd a hefyd gyda phlant a theuluoedd.

Es ymlaen wedyn i weithio fel gweithiwr llesiant i’r tîm anabledd dysgu lle cefais fy nerbyn fel hyfforddai gwaith cymdeithasol. Mi wnes i hynny ochr yn ochr gyda’r gwaith llesiant. Ar ôl cymhwyso mi wnes i dderbyn swydd fel gweithiwr cymdeithasol i’r tîm anabledd dysgu Sut mae’r cynllun hyfforddeion wedi eich helpu?

Yn ariannol mae o wedi safio llawer o amser gan fysa fo wedi cymryd sawl blwyddyn i fi safio'r pres i allu gwneud y cwrs. Roedd sicrhau cyflog yn ystod lleoliadau gwaith hefyd yn help mawr i fi allu symud ymlaen yn fy ngyrfa heb orfod safio pres yn gyntaf.

Dw i’n credu fod cael gwneud y gradd ochr yn ochr â gweithio mewn rôl sydd yn rhoi profiad ymarferol hefyd wedi helpu fi i ddatblygu sgiliau i fod yn barod ar gyfer y maes. Dw i ddim yn meddwl y byswn i wedi llwyddo i ennill gradd heb y gefnogaeth sydd yn dod gyda’r cynllun gan y Cyngor.

Sut fuasech chi’n disgrifio’ch profiad chi o ddilyn y cynllun?

Roedd yn brofiad positif, roeddwn o hyd yn teimlo fel fy mod i’n cael fy nghefnogi gan y Brifysgol Agored a’r Cyngor, a bod yna gydweithio effeithiol rhwng y ddau sefydliad Roedd o’n brofiad da o ddysgu sut i reoli amser ac roedd yna strwythur clir i ddilyn

Unrhyw beth arall ‘da chi eisiau ychwanegu?

Fy mod yn ddiolchgar ac yn ymwybodol faint o lwcus oeddwn i, i dderbyn y cyfle i fod yn hyfforddai Dw i wedi ennill cymhwyster sydd wedi gwella fy nghyrfau ond hefyd wedi ennill llawer o brofiadau melys wrth ddysgu. Roedd o hefyd yn bleser cael gwneud ffrindiau newydd ar y cwrs ac ar leoliadau gwaith.

This article is from: