1 minute read

bach Gair gan y golygydd

Croeso i rifyn arall o Gair Bach o Gyngor. Fel mae’r enw yn awgrymu dyma fersiwn bach o’r cylchgrawn arferol.

Yn y rhifyn yma cawn ddarllen am lwyddiant y Gwasanaeth Ieuenctid yng ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid. Trowch i dudalennau 6 a 7 i ddarllen mwy.

Advertisement

Rydym hefyd yn cael darllen am lwyddiant aelod o staff y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen. I ddarllen yr erthygl ewch i dudalen 3.

Wrth sôn am Eisteddfod, Gwynedd fydd yn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Llŷn ac Eifionydd yn 2023. Ar dudalennau 4 a 5 cawn ddarganfod mwy am y rôl allweddol y bydd Cyngor Gwynedd yn ei chwarae i sicrhau llwyddiant yr wŷl.

Mae aelod o staff yr Adran Addysg wedi bod yn hel atgofion o'i blentyndod yn ddiweddar ac wedi rhyddhau hunangofiant. Cawn yr hanes i gyd ar dudalennau 8 a 9.

Faint ohonoch sy'n defnyddio eich cerbyd eich hun er mwyn gwneud taith fusnes ar ran y Cyngor? Wyddoch chi fod sawl opsiwn ar gael i ni gyd ystyried cyn teithio yn ein ceir ein hunain? Mae'r manylion llawn ar dudalen 12.

Mae sawl stori ddifyr arall wedi eu cynnwys, gobeithio y gwnewch fwynhau eu darllen.

Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf mae modd i chi gysylltu drwy e-bostio cyfathrebumewnol@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679341.

Ffion

This article is from: