Gair Bach o Gyngor - Gorffennaf 2023

Page 7

Gair o Gyngor

2023 Rhifyn 9
Cyngor Gwynedd Croesawu'r Eisteddfod i Wynedd
Gorffennaf
Staff

bach

Gair gan y golygydd

Croeso i rifyn arall o Gair Bach o Gyngor.

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn prysur agosáu, mae trigolion Llŷn ac Eifionydd yn barod i groesawu miloedd o Eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt draw i Boduan. Yn y rhifyn yma o’r cylchgrawn byddwn yn edrych ymlaen at yr ŵyl, trowch i dudalennau 8 a 9 i ddarllen mwy.

Mae eleni yn ben-blwydd arbennig iawn ar y Tîm o Amgylch y Teulu. Mae’r gwasanaeth sy’n cefnogi teuluoedd mwyaf bregus y Sir yn dathlu degawd o waith gwych. Ar dudalennau 12 a 13 cawn ddarllen am ddigwyddiad arbennig wnaeth gymryd lle i ddathlu'r garreg filltir

Ar dudalen 5 cawn ddarllen am yr aelod staff wnaeth gymryd rhan mewn podlediad newydd sy’n rhannu profiadau bywyd tu hwnt i ddiagnosis o ddementia.

Un sydd yn gwybod am yr effaith mae dementia yn ei gael ar deulu ydi Adrian Painter o’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Ar dudalen 6 bydd Adrian yn esbonio pam ei fod yn benderfynol o helpu i godi ymwybyddiaeth

Yn dilyn dros 42 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor, mae un cyn Bennaeth Adran wedi ymddeol yn ddiweddar. I ddarganfod pwy, trowch i dudalennau 10 a 11.

Mae sawl stori ddifyr arall wedi eu cynnwys, gobeithio y gwnewch fwynhau eu darllen.

Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf mae modd i chi gysylltu drwy e-bostio cyfathrebumewnol@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679341.

Ffion

Oeddech chi'n gwybod fod 60% o boblogaeth Prydain ar Facebook? Dydan ni yma yng Ngwynedd ddim gwahanol a dyna pam, yn dilyn sgyrsiau efo staff mae grŵp Facebook wedi cael ei greu yn arbennig ar gyfer HOLL staff Cyngor Gwynedd.

Dyma gyfle i bawb gael gwybodaeth am y Cyngor yn syth bin - ar eich ffôn, ar eich iPad neu ar eich cyfrifiadur. Os hoffech ymuno gyda'r grŵp chwiliwch am "Staff Cyngor Gwynedd" ar Facebook .

Diolch am bob dim Haf

Ers 29 o flynyddoedd mae Haf Thomas wedi bod yn wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai ohonom sy’n gweithio yn y Pencadlys yn Nghaernarfon.

Cyn y cyfnod Covid bydd nifer ohonom yn cofio Haf yn ymweld a swyddfeydd yn danfon y post Byddai Haf yn cerdded mewn i’r ystafell yn wên o glust i glust, a’r wên honno yn cynyddu bob tro y byddai Westlife yn rhan o’r sgwrs.

Mae Haf wrth ei bodd efo cerddoriaeth ac roedd yn flaenllaw mewn trefniadau cyngherddau Nadolig yn yr hen gyntedd ar hyd y blynyddoedd.

Mae Haf bellach wedi darfod gweithio i Gyngor Gwynedd ac yn ddiweddar cafwyd noson i ddiolch iddi am ei blynyddoedd o wasanaeth i’r Cyngor. Haul oedd themâu’r noson am y rheswm syml fod yr haul yn dilyn Haf bob tro y mae hi’n cerdded mewn i’r ystafell. Bwyty’r Wâl yn Nghaernarfon oedd yn disgleirio wrth i Haf fwynhau noson gyda’i ffrindiau o’r Uned Gefnogol.

Er fod cyfnod Haf yn y Cyngor wedi dod i ben, ni fydd ganddi lawer o amser i roi ei thraed fyny. Yn 2014 cafodd Haf ei urddo i Orsedd yr Eisteddfod am ei gwaith diddiwedd yn casglu arian at achosion da ac mae hi’n edrych ymlaen i fynychu Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn mis Awst Mae Haf hefyd wrthi’n ysgrifennu ei hunangofiant, a dwi’n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen i’w ddarllen unwaith y bydd wedi ei gyhoeddi.

Ar ran y Cyngor, diolch o galon i chdi Haf am yr holl flynyddoedd o wasanaeth ac am ddod a gwen i’n wynebau bob tro Paid bod yn ddiarth!

Gwobr aur unwaith eto i

Gyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am y ffordd mae’n edrych ar ôl llesiant staff.

Mae hyn yn cadarnhau enw da’r Cyngor fel cyflogwr a hefyd helpu i sicrhau fod gwasanaethau allweddol ar gael i bobl sy’n dibynnu arnynt ym mhob rhan o’r sir.

Unwaith eto eleni, mae’r Cyngor wedi dal gafael ar Safon Aur rhaglen ‘Cymru Iach ar Waith’, sef strwythur genedlaethol gynhelir gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo a gwella iechyd a lles yn y gweithle.

Bwriad y rhaglen yw cydnabod arferion da o ran iechyd a lles staff a chanolbwyntio ar anhwylderau a chyflyrau y gellir eu hosgoi Gwelir hyn fel ffordd bositif o leihau absenoldebau staff a sicrhau nad oes tarfu na oedi i wasanaethau’r Cyngor.

Yn ei gyflwyniad i arolygwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, dangosodd Cyngor Gwynedd sut mae iechyd a llesiant staff wedi bod yn ar flaen meddyliau’r arweinyddiaeth wrth adfer gwasanaethau yn dilyn cyfnod y pandemig ac hefyd yn ystod cyfnod o ail-strwythuro gweithredol.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet dros Adran Cefnogaeth Gorfforaethol y Cyngor: “Mae hyn yn newyddion da iawn a hoffwn longyfarch pawb sydd tu ôl y llwyddiant yma. Rydw i’n hynod falch fod y Cyngor wedi dal y Safon Aur yn gyson ers 2011 sy’n dyst fod y Cyngor yn le da i weithio.

“Fel un o brif gyflogwyr y sir ac yn gyfrifol am gynnal gwasanaethau hanfodol gan gynnwys gofal ac addysg, mae’n hollbwysig fod y Cyngor yn edrych ar ôl ei adnodd pwysicaf, sef ei staff. Mae cydnabyddiaeth yr aseswyr fod y Cyngor ar y trywydd iawn ac yn cyflwyno ffyrdd newydd o hyd ac o hyd o ofalu am iechyd a llesiant staff yn destun balchder

“Roeddwn yn falch o glywed am y trefniadau a gweithdrefnau sydd mewn lle i sicrhau fod llesiant corfforol a meddyliol staff yn cael sylw teilwng a’r ffyrdd rhagweithiol mae’r Cyngor yn gweithredu yn y maes.

“Er enghraifft, mae’r Cyngor yn cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol a rhyngwladol, yn annog i staff gadw’n heini ac i fod yn fwy actif yn eu amser hamdden. Yn ogystal, mae’r Cyngor yn annog staff i fod yn agored am eu iechyd meddwl ac wedi darparu arweiniad i reolwyr ar sut i ddelio a materion yn y maes.”

Caiff y rhaglen ei ariannu fel rhan o raglen ‘Cymru Iach ar Waith’ Llywodraeth Cymru a’i weithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Catrin Love, Elin Rhys, Haf Ward Williams, Ian Jones

Annog pobl i fod yn agored am ddementia

Yn ddiweddar mae podlediad newydd wedi cael ei lansio sy’n rhannu profiadau bywyd y tu hwnt i ddiagnosis o ddementia. Mae’r podlediad sy’n rhan o’r gyfres Am iechyd gan Goleg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor yn cynnwys Emma Quaeck, rheolwr Dementia Actif Gwynedd. Y gobaith yw y bydd y podlediad yn annog rhagor o bobl i fod yn fwy agored am ddementia fel er mwyn helpu pobl dderbyn y gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth maen nhw angen ar y daith.

Wedi profi dementia ei mam, mae Emma bellach yn Gydlynydd Dementia Cyngor Gwynedd ac yn arwain rhaglen Dementia Actif Gwynedd sy’n cynnig gweithgareddau corfforol a chymdeithasol i bobl gyda dementia. Mae Tîm Dementia Actif Gwynedd yn angerddol am godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma a chwalu rhwystrau sydd ynghylch â Dementia Nod y tîm yw helpu i'w gwneud hi'n haws siarad am Ddementia a fydd yn ei dro yn cefnogi pobl fyw mor dda ag sy’n bosib gyda’r afiechyd.

Mae staff Dementia Actif Gwynedd yn Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia, sy'n fenter a arweinir gan y Gymdeithas Alzheimer’s. Maent yn cynnal sesiynau gwybodaeth Ffrindiau Dementia yn y gymuned ac i amrywiaeth o sefydliadau sydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o sut i gefnogi pobl sy'n byw gyda Dementia.

Yn y podlediad mae Emma’n ymhelaethu ar y ddarpariaeth sydd ar gael.

“Dros y saith, wyth mlynedd ‘da ni wedi bod yn rhedeg y cynllun yma, dwi wedi dysgu cymaint am ddementia trwy fod efo pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia - yr unigolion ond hefyd y bobl sy’n eu cefnogi Mae hynny wedi bod mor werthfawr, ac wedi arwain ni at gynnal y rhaglen Dementia Actif sy’n trio helpu pobl i fyw mor dda a fedra nhw efo dementia, yn eu cymunedau.”

Podlediad llawn: Am Iechyd | Twitter | Linktree

Gwybodaeth am Dementia Actif Gwynedd: Gwefan: Dementia Actif Gwynedd

Facebook: Dementia Actif Gwynedd

Mae llawlyfr am beth gall wneud bywyd ychydig yn haws ar ôl derbyn diagnosis o ddementia ar gael yma: <https://dsdc.bangor.ac.uk/products-created.php.cy>

Llun gan Ian Smith Tîm Dementia Actif Gwynedd

Adrian yn casglu arian at achos sy'n agos i'w galon

Rydym wedi darllen yn barod yn yr erthygl ar dudalen 5 am y gwaith mae Tîm Dementia Actif yn ei wneud er mwyn codi ymwybyddiaeth o sut i gefnogi pobl sy'n byw efo dementia. Mae dementia yn gyflwr sydd neu wedi effeithio ar sawl un ohonom mewn rhiw ffordd neu'i gilydd. Ar hyn o bryd mae dros 850,000 o bobl yn dioddef gyda dementia yn y Deyrnas Unedig. Un o’r bobl hynny sydd yn gwybod yn rhy dda yr effaith mae dementia yn ei gael ydi Adrian Painter sydd yn gweithio fel Uwch Gymhorthydd Gweinyddol a Monitro yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.

“Mae dementia wedi cael effaith enfawr arnaf Roedd Taid yn dioddef ohono pan oeddwn yn ifanc ac fe gafodd fy Mam ddiagnosis cyn cyfnod Covid. Yn 2019 roedd Mam yn hollol annibynnol ond erbyn hyn mae hi wedi dirywio gymaint nes dydi ddim yn ein hadnabod ni rhagor. Mae’n anodd rhoi mewn i eiriau'r ffordd mae hynny yn gwneud i mi deimlo, ond dwi bob tro yn meddwl am faint o anodd ydi o i Mam. Mae’n rhaid ei bod yn teimlo’n ddryslyd, blin ac yn ofnus”, meddai Adrian.

Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s yn ceisio dod a’r effaith mae dementia yn cael ar unigolion a theuluoedd i ben drwy ddarparu cefnogaeth a chynnal ymchwil i driniaethau newid bywyd. Er nad yw Adrian yn gallu gwella ei fam mae yn benderfynol o helpu’r achos a dyna pam y penderfynodd gymryd rhan yn ‘A Walk To Remember 2023’. Felly ar y 28ain o Fai fe wnaeth Adrian gyda grŵp o ffrindiau a chydweithwyr gerdded 15 milltir o Lyn Ogwen i ben draw pier Bangor efo’r nod o godi arian ar gyfer yr Alzheimer’s Society.

Dywedodd Adrian: Roedd hi’n bwysig fy mod yn gwneud rhywbeth i helpu. Dwi eisio arbed cymaint o deuluoedd a fedrai rhag gorfod mynd drwy be da ni fel teulu wedi bod drwyddi yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’n afiechyd sydd yn effeithio gymaint o bobol, ac mae triniaeth wedi dod ymlaen gymaint yn y blynyddoedd diwethaf. Mae casglu arian yn cael gymaint o effaith bositif. Rydym wedi casglu dros £1,800 a dwi wedi penderfynu ei wneud yn daith flynyddol gyda llwybr gwahanol bob blwyddyn ”

Mae modd cefnogi Adrian gyda’r ymgyrch drwy ddilyn y ddolen yma: Adrian Painter is fundraising for Alzheimers Society (justgiving com)

Teyrnged i Alison

Bu i ni dderbyn newyddion trist ofnadwy am ymadawiad brawychus o sydyn ein cydweithiwr Alison Evans cyn y Pasg. Roedd Alison yn Ymgynghorydd Caffael yn y Gwasanaeth Caffael Canolog.

Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gyda’i theulu, ei chydweithwyr agos a hefyd ei ffrindiau o fewn y Cyngor.

Roedd Alison wedi gweithio i’r Cyngor ers 2009, ac yn aelod cydwybodol, gweithgar a chymwynasgar o’r Tîm Caffael.

Dywedodd Arwel Evans, Rheolwr Caffael

“Roedd Alison yn hoff iawn o ddadansoddi data ac yn mwyhau tyrchu drwy ffigyrau a thaenlenni Excel

Er ei bod yn arbenigo ar systemau caffael y Cyngor mi roedd yn gallu troi ei llaw at holl faterion caffael.

Roedd Alison yn hoff iawn o gyfresi teledu yn enwedig boxsets drama cyffroes. Roedd hefyd yn gweu eitemau i’w theulu ac yn hoff o grefft a chreu trinkets

Roedd Alison yn hoffi datrys puzzles ac wedi mwynhau yn fawr iawn ymweliad i’r Escape Room ym Mangor gyda’i chydweithwyr flwyddyn ddiwethaf.

Mi oedd Alison wastad yn ennill Cwis Tîm Caffael pob Nadolig gan ei bod gwybodaeth am gerddoriaeth pop cymaint gwell na phawb arall!”

Mae Arwel a gweddill y Tîm Caffael wedi derbyn nifer o negeseuon yn nodi pa mor barod oedd Alison i helpu eraill, gwir adlewyrchiad o’i chymeriad.

Bydd ffrindiau a chydweithwyr Alison, yn trefnu taith gerdded dros yr Haf, i gasglu arian at achos da.

Bydd colled enfawr heb Alison a gobeithiwn y gallwn gynnig pob cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan y newyddion trist yma

Alison Alison yn mwynhau trip i'r Escape Room gyda'i chydweithwyr

Croesawu'r Eisteddfod i Wynedd

Byddwn yn croesawu’r Eisteddfod i Wynedd yn mis Awst a chyfle Llŷn ac Eifionydd fydd hi i gynnal yr ŵyl eleni. Bydd croeso cynnes yn disgwyl pawb ar Faes y Brifwyl yn Boduan rhwng 5 a 12 o Awst lle y bydd cyfle i wneud y mwyaf o’r holl brofiadau diwylliannol a chymdeithasol mae’r ŵyl yn ei gynnig. Dyma’r tro cyntaf i’r ’Steddfod ymweld â’r ardal ers 1987, felly mae’n achlysur arbennig.

CYNGOR GWYNEDD AR Y MAES

Bydd gan y Cyngor bresenoldeb amlwg ar faes yr Eisteddfod. Drwy gydol yr wythnos, bydd stondin CABAN

GWYNEDD yn cynnal amrywiaeth helaeth o weithgareddau gydag un prif thema yn cael ei hamlygu bob dydd.

Bydd aelodau staff y Cyngor yno i’ch croesawu, felly beth am fynd draw i ddweud helo? Bydd stondin CABAN

GWYNEDD wedi ei leoli ger y brif fynedfa i’r maes.

ADLONIANT GYDA'R NOS

Ni fysa hi’n Eisteddfod heb nosweithiau o adloniant a cherddoriaeth a bydd digon o hynny ar gael yn y Pafiliwn ac ar y Maes. I weld y rhaglen lawn, dilynwch y ddolen yma: Eisteddfod Genedlaethol Cymru | Eisteddfod Genedlaethol

MAES B

Ers blynyddoedd, mae Maes B yn rhan annatod o’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn cynnig darpariaeth o adloniant cyfoes i bobl ifanc gan rai o brif artistiaid a bandiau Cymru.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www maesb com, www.facebook.com/MaesBMaesB neu @MaesBMaesB ar Twitter

AR DRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

Yn ychwanegol i’r gwasanaethau bws lleol arferol, bydd bws gwennol rheolaidd yn teithio rhwng Pwllheli a Maes yr Eisteddfod, felly pam na ddewch chi draw a mwynhau heb orfod poeni am y car? Yr orsaf reilffordd agosaf yw Pwllheli (Rheilffordd y Cambrian) a Bangor (y brif reilffordd ar hyd arfordir y gogledd). Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan www.trc.cymru/cynllunio-taith neu www.traveline.cymru

SAFLE AR GYFER BYSIAU A THACSIS

Bydd lle penodol i fysiau a thacsis godi a gollwng teithwyr ar ochr ogleddol yr A497. Bydd arwyddion clir i’ch arwain yno.

MEWN CAR

Dilynwchyrarwyddion’Eisteddfod’melynMae’rarwyddionhynwedicaeleugosodihelpupawbi gyrraeddyrEisteddfodmorrhwyddadiogelâphosib

O’rde(Porthmadog):ByddtraffigyncaeleiddargyfeirioaryB4354argylchfanAfonWen,trwy Chwilog,acymlaeni’rFfôr.CroeswchygroesfforddarygoleuadaudrosdroyngnghanolyFfôr.Ewch ymlaenarhydyB4354atygyfforddâ’rA497.Trowchi’rchwitharni.

O’rdwyrain(Caernarfon):DilynwchyrA499i’rFfôrathrowchi’rddearygoleuadaudrosdroyng nghanolypentref.EwchymlaenarhydyB4354i’rgyfforddgyda’rA497.Trowchi’rchwitharyrA497a dilynwchyfforddnesycyrhaeddwchymaesparcio.Dilynwchyrarwyddioni’rmeysyddparcio. Peidiwchâpharcioarhydyffordd.Dilynwchgyfarwyddiadau’rstiwardiaidynyMaesParcio–maen nhwynoi’chhelpuchiigyrraeddagadaelymaesparciomorgyfleusâphosib.Mae’rparcioamddim ynyrEisteddfod.

Dylaiymwelwyranablsyddâbathodynglasddilynyrarwyddioni’rmaesparcioanabl.Caniatewch ddigonoamserideithio,ynenwedigosbyddangenichigyrraeddmewnprydargyferdigwyddiad penodolCofiwch,byddyrardalogwmpasyMaesynbrysur,fellycadwchlygadamgerddwyr

EICH HANESION CHI O'R MAES

Ydach chi'n gweithio yn yr Eisteddfod eleni? Efallai eich bod yn cystadlu neu yn cymryd rhan mewn rhyw ffordd neu'i gilydd?

Hoffem glywed eich hanesion yn y rhifyn nesaf o'r cylchgrawn Cysylltwch efo cyfathrebumewnol@gwynedd.llyw.cymru

Ymddeoliad Hapus

Dafydd

Ar ddiwedd mis Mehefin fe wnaeth y Cyngor ffarwelio gyda Dafydd Edwards, cyn Bennaeth Adran Gyllid y Cyngor. Roedd Dafydd yn ymddeol ar ôl dros 42 mlynedd o wasanaeth i Gyngor Gwynedd. Cyn iddo gau drws ei swyddfa am y tro olaf, cefais y cyfle i eistedd lawr efo Dafydd i edrych nôl dros ei yrfa a chael clywed am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Yn Adran Trysorydd Cyngor Arfon dechreuais fy ngyrfa gyda’r Cyngor. Roeddwn wedi treulio blwyddyn yn hyfforddi fel cyfrifydd mewn cwmni preifat cyn derbyn y swydd Roedd Cyngor Arfon yn lle hwyliog iawn i weithio. Dwi’n cofio cael andros o groeso gan Huw ‘Genius’ oedd yn gwisgo ‘tour T-shirt’ Rolling Stones ar y bore cyntaf. Cawsom swp o hwyl yn Swyddfa’r Dref, dros y ffordd i’r Crown, ar y safle lle mae llofftydd Black Boy rŵan oedd y swyddfa bryd hynny.

Wedi cymhwyso fel cyfrifydd CIPFA gydag Arfon, ges i swydd fel Pennaeth Archwilio Mewnol yng Nghyngor Môn, a bûm yno am dair blynedd, cyn symud yn ôl i'r hen Gyngor Sir Gwynedd i weithio yn yr Adran Addysg. Yn dilyn ad-drefnu 1996, roeddwn yn ffodus iawn o gael aros yn y Gwynedd newydd

Mae gen i lawer iawn o atgofion o fy amser yma. Roedd addrefnu llywodraeth leol yn ’96 yn dipyn o chwalfa. Cyn hynny, roedd datganoli cyllid i ysgolion yn brosiect mawr a llwyddiannus. Roedd yn bleser gweithio gyda phenaethiaid ysgolion y sir. Ddaru ni sefydlu cwmni Cynnal yn 1996, a’i ddiddymu yn 2022. Hefyd, roeddwn ynghlwm â’r gwaith i sefydlu GwE a’r Bwrdd Uchelgais Economaidd.

Yn ystod cyfnod clo Covid roedd rôl y gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn allweddol, a mewnbwn y gwasanaeth Cyllid gyda’r grantiau yn anferthol hefyd Ugain mlynedd cyn hynny, dwi’n cofio dreifio lawr i Gaerdydd ac yn ôl mewn diwrnod, er mwyn sicrhau datrysiad i fusnesau lleol yn yr argyfwng “Traed a’r Genau”.

Dafydd ar daith rygbi dramor yn yr 80au

Mae llwyddiant y Gronfa Bensiwn wedi fy mhlesio’n arw - bod ein dychweliadau buddsoddi rhagorol wedi rhoi ni mewn sefyllfa llawer gwell heddiw na fu ugain mlynedd ôl.

Ges i’r fraint o weithio gyda sawl pennaeth adran wahanol, a dwi wedi trio dysgu rhai o arferion gorau John Dryhurst, Harry Thomas a Dilwyn Williams. John a ‘Bing’ yn Arfon ddaru annog fi i gymhwyso’n gyfrifydd CIPFA, a dwi ddim yn gwybod lle fyswn i bellach heb eu cefnogaeth nhw i gyflawni hynny Wrth gwrs, aeth Harry a Dilwyn ymlaen o’r Adran Cyllid i fod yn brif weithredwyr dylanwadol.

Cafodd y diweddar Trevor Edwards ddylanwad mawr arnaf. Roedd Trev yn Bennaeth Archwilio yng Nghyngor Arfon, cyn dychwelyd i’r Cyngor fel Cynghorydd a Chadeirydd Pwyllgor. Roedd gan Trev ffordd arbennig gyda phobol, doeddwn i ddim mor swil ar ôl gweithio gyda Trev. Un arall dawnus efo pobol oedd Audrey James - roeddwn yn hynod ffodus o gael cefnogaeth Aud fel ysgrifenyddes am ugain mlynedd

Credaf fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn hynod bwysig Roeddwn yn arfer chwarae rygbi i Gaernarfon a dwi’n dal i wylio nhw’n rheolaidd, ac yn edrych 'mlaen i gael mynd i Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd Dwi’n chwarae golff bob cyfle gai, a ’da ni newydd ddod yn ôl o’n trip golff blynyddol i Werddon.

Dwi’n hoffi teithio, ac wedi gweld dipyn o’r byd Roeddwn i yn Thailand adeg y swnami enfawr yn 2004, ond roeddem ni’n saff yn Hua Hin ar y Thai Gulf, yn hytrach na’r Andaman Sea, yr arfordir lle'r oedd y difrod. Hefyd, roeddem ni yn Koh Samui yn 2019 pan gafwyd y Tropical Storm Pabuk, y tywydd gwaethaf yno ers 57 mlynedd!

Ar daith dwi’n gwrando ar gerddoriaeth - amrywiaeth eang ac amgen fel Van Morrison, Cat Power, Nick Cave, Wet Leg, a Steve Eaves ...bydd rhai fel Eirian yn y Gwasanaethau Democratiaeth yn cofio Steve fel cyfieithydd i’r Cyngor ers talwm.Edrychaf ymlaen rŵan i fynychu Hyde Park yng Ngorffennaf ar gyfer cyngerdd Bruce Springsteen

Gydag ychydig mwy o amser ar fy nwylo ar ôl ymddeol, dwi’n edrych ymlaen am fwy o golff a chyngherddau roc a rôl, mwy o deithio a gweld llefydd newydd. Hefyd, byddaf yn cadw’n actif mewn rolau rhan amser gyda’r Awdurdod Tân, Adra, ac eraill.

Dwi’n hynod ddiolchgar i holl staff Cyllid am eu gwaith cydwybodol, ac yn falch iawn fod Dewi Morgan yn arwain yr Adran i’r dyfodol Rydym hefyd yn ffodus iawn o’n haelodau etholedig yng Ngwynedd, ac mae’r cydweithrediad rhwng swyddogion a Chynghorwyr wedi bod yn iach a chynhyrchiol.

Diolch i bawb yn y Cyngor am eich cyfeillgarwch a pob lwc i’r dyfodol ”

Mwynhewch eich ymddeoliad Dafydd a diolch am eich blynyddoedd o wasanaeth i Gyngor Gwynedd.

Mwynhau trip golff i'r Iwerddon Siarad ar lwyfan y Celtic Manor

Tîm o Amgylch y Teulu yn dathlu

pen-blwydd arbennig

Maegwasanaethsy’ncefnogiteuluoeddmwyafbregusGwyneddyndathludegawdowaithgwycha diflino.

GallrhaiteuluoeddwynebutrafferthionaradegauaphrifamcanyTîmoAmgylchyTeuluCyngor Gwyneddywdodâ’rhollwasanaethausy’ngallucefnogipobldrwygyfnodauanoddateigilyddachreu cynlluni’wcaeldrwy’rcyfnoddyrys.

MaeTîmoAmgylchyTeuluGwyneddyngalluogimynediadatamrediadowasanaethaucefnogol,er enghraifftsgiliaurhiantu;cefnogaethiechydmeddwl;cymorthgydamateriontai;allawermwy.

Bui’rcynllundderbyn578ogyfeiriadauacymholiadauigynllunTeuluoeddynGyntafGwyneddynystod 2021/22,gyda398o’rcyfeiriadauhynyncaelcynnigcefnogaethbellachganyTîmoAmgylchyTeulua gwasanaethaueraillagomisiynirtrwy’rcynllun.

CynhaliwyddigwyddiadarbennigymMhorthmadogynddiweddariddathlu’rgarregfilltiroddeng mlynedd.Daethaelodau’rtimoeddsyddodanymbarélTeuluoeddynGyntafateigilyddirhannu gwybodaethadathlullwyddiannau

RoeddcynrychiolaethoamrywioldimauyncynnwysDerwen,TîmDatblygiadCynnaraChwarae, GwasanaethCyfiawnderIeuenctidGwyneddaMôn,TîmoAmgylchyTeulu,CefnogiTeuluArfona Dwyfor,TîmYBontaBarnado’s.

Unsyddwedibodynaelodo’rtîmersycychwynunydiCarenBrown,RheolwrTîmoAmgylchyTeulu: “Maewedibodynfraintcaelbodynrhano’rTîmoAmgylchyTeuluerseisefydluymaacynfrainthefydi gaelcefnogicymaintodeuluoeddynySir.Mae’rgwaithynparhauifodmorddiddorolacamrywiolagyr oedd10mlyneddnôla’rcydweithiodaefo’rsectorgyhoeddusa’rtrydyddsectorynsicrhaueinbodyn gallucynnigygefnogaethgorauideuluoeddymayngNgwynedd”,meddaiCaren.

Tîm o Amgylch y Teulu

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Plant a Chefnogi

Teuluoedd: “Pan mae gan deuluoedd nifer o bethau yn eu poeni – megis gwrthdaro teuluol neu fod plentyn yn cael trafferthion yn yr ysgol – mae bywyd yn gallu bod yn anodd ac yn anffodus yn amlach na dim y plant sy’n dioddef fwyaf.

“Mae ceisio gwybod pa asiantaethau neu wasanaethau sydd ar gael i helpu yn gallu llethu unrhyw un ar y gorau, felly mae Tîm o Amgylch y Teulu yn gwneud gwaith gwych drwy greu cynlluniau, tynnu asiantaethau at ei gilydd a chefnogi teuluoedd i ddatrys eu problemau.”

Ychwanegodd: “Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i holl wasanaethau cefnogol Gwynedd ddod at ei gilydd i wybod mwy am waith ei gilydd, i gefnogi ei gilydd ac i ddathlu eu llwyddiannau yn y maes pwysig hwn.

“Mae llawer o waith anweledig yn digwydd yn y maes hwn ac er yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth yma maent yn gwneud gwaith penigamp ac rwyf yn falch iawn o’r holl staff ac fe hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu hymroddiad i deuluoedd bregus Gwynedd.”

I fod yn gymwys ar gyfer cymorth gan Tîm o Amgylch y Teulu, rhaid i deulu fod a nifer o bethau yn eu poeni ac eisiau cymorth i’w ddatrys wrth greu cynllun a thynnu asiantaethau at ei gilydd i’w cefnogi

Mae gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i deuluoedd bregus, a sut mae gwneud cais am gymorth, ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Cefnogi Teuluoedd (llyw.cymru) / ffôn: 01758 704 455 / e-bost cyfeiriadauplant@gwynedd llyw cymru

Cynghorydd Elin Walker Jones, Sharon Williams Carter, Marian Parry Hughes, Caren Brown

Sgyrsiau Staff

Ers rhai misoedd bellach mae sgyrsiau wyneb yn wyneb gyda staff rheng flaen wedi ail gychwyn yn dilyn y cyfnod Covid. Mae’r sesiynau yn gyfle i staff gael sgwrs anffurfiol am fuddiannau staff, chymorth gyda chostau byw a gwybodaeth am y wahanol ddulliau cyfathrebu sydd ar gael.

Mae Meinir (Buddiannau), Victoria (Costau Byw) a Ffion (Cyfathrebu Mewnol) wedi ymweld â 12 lleoliad ar draws y sir gan sgwrsio gyda dros 120 aelodau staff. Mae’r tair wedi derbyn croeso cynnes yn yr holl leoliadau ac wedi derbyn ymateb positif iawn. Roedd staff yn gwerthfawrogi bod y sgyrsiau yn cymryd lle yn eu lleoliadau gwaith ar amser sydd yn gyfleus i’w patrwm gwaith nhw.

Yn ystod y sesiynau mae staff wedi cael dysgu mwy am y ffyrdd gwahanol o dderbyn gwybodaeth am y Cyngor yn syth i’w ffon heb orfod cael mynediad at systemau mewnol y Cyngor. Mae nifer fawr wedi ymuno gyda’r grŵp Facebook Staff ac roedd sawl un yn awyddus i gynnig syniadau ar gyfer Gair Bach o Gyngor

Roedd hefyd yn gyfle i Meinir atgoffa staff o’r amryw o fuddiannau gwahanol sydd ar gael ac i gyflwyno staff newydd i’r cynllun Budd i Bawb

Mae’r argyfwng costau byw yn creu straen i nifer fawr o bobl felly roedd staff yn ddiolchgar o dderbyn cyngor gan Victoria am y cymorth sydd ar gael iddynt

Eisiau gwybod mwy?

Dros y misoedd nesaf bydd rhagor o ymweliadau yn cymryd lle ar draws Gwynedd. Os hoffech i ni ymweld â’ch lleoliad gwaith chi, mae croeso i chi gysylltu gyda

CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Gair Bach o Gyngor - Gorffennaf 2023 by Cyfathrebu Mewnol - Issuu