1 minute read

Adrian yn casglu arian at achos sy'n agos i'w galon

Next Article
Sgyrsiau Staff

Sgyrsiau Staff

Rydym wedi darllen yn barod yn yr erthygl ar dudalen 5 am y gwaith mae Tîm Dementia Actif yn ei wneud er mwyn codi ymwybyddiaeth o sut i gefnogi pobl sy'n byw efo dementia. Mae dementia yn gyflwr sydd neu wedi effeithio ar sawl un ohonom mewn rhiw ffordd neu'i gilydd. Ar hyn o bryd mae dros 850,000 o bobl yn dioddef gyda dementia yn y Deyrnas Unedig. Un o’r bobl hynny sydd yn gwybod yn rhy dda yr effaith mae dementia yn ei gael ydi Adrian Painter sydd yn gweithio fel Uwch Gymhorthydd Gweinyddol a Monitro yn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.

“Mae dementia wedi cael effaith enfawr arnaf Roedd Taid yn dioddef ohono pan oeddwn yn ifanc ac fe gafodd fy Mam ddiagnosis cyn cyfnod Covid. Yn 2019 roedd Mam yn hollol annibynnol ond erbyn hyn mae hi wedi dirywio gymaint nes dydi ddim yn ein hadnabod ni rhagor. Mae’n anodd rhoi mewn i eiriau'r ffordd mae hynny yn gwneud i mi deimlo, ond dwi bob tro yn meddwl am faint o anodd ydi o i Mam. Mae’n rhaid ei bod yn teimlo’n ddryslyd, blin ac yn ofnus”, meddai Adrian.

Advertisement

Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s yn ceisio dod a’r effaith mae dementia yn cael ar unigolion a theuluoedd i ben drwy ddarparu cefnogaeth a chynnal ymchwil i driniaethau newid bywyd. Er nad yw Adrian yn gallu gwella ei fam mae yn benderfynol o helpu’r achos a dyna pam y penderfynodd gymryd rhan yn ‘A Walk To Remember 2023’. Felly ar y 28ain o Fai fe wnaeth Adrian gyda grŵp o ffrindiau a chydweithwyr gerdded 15 milltir o Lyn Ogwen i ben draw pier Bangor efo’r nod o godi arian ar gyfer yr Alzheimer’s Society.

Dywedodd Adrian: Roedd hi’n bwysig fy mod yn gwneud rhywbeth i helpu. Dwi eisio arbed cymaint o deuluoedd a fedrai rhag gorfod mynd drwy be da ni fel teulu wedi bod drwyddi yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’n afiechyd sydd yn effeithio gymaint o bobol, ac mae triniaeth wedi dod ymlaen gymaint yn y blynyddoedd diwethaf. Mae casglu arian yn cael gymaint o effaith bositif. Rydym wedi casglu dros £1,800 a dwi wedi penderfynu ei wneud yn daith flynyddol gyda llwybr gwahanol bob blwyddyn ”

Mae modd cefnogi Adrian gyda’r ymgyrch drwy ddilyn y ddolen yma: Adrian Painter is fundraising for Alzheimers Society (justgiving com)

This article is from: