1 minute read

bach Gair gan y golygydd

Next Article
Sgyrsiau Staff

Sgyrsiau Staff

Croeso i rifyn arall o Gair Bach o Gyngor.

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn prysur agosáu, mae trigolion Llŷn ac Eifionydd yn barod i groesawu miloedd o Eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt draw i Boduan. Yn y rhifyn yma o’r cylchgrawn byddwn yn edrych ymlaen at yr ŵyl, trowch i dudalennau 8 a 9 i ddarllen mwy.

Advertisement

Mae eleni yn ben-blwydd arbennig iawn ar y Tîm o Amgylch y Teulu. Mae’r gwasanaeth sy’n cefnogi teuluoedd mwyaf bregus y Sir yn dathlu degawd o waith gwych. Ar dudalennau 12 a 13 cawn ddarllen am ddigwyddiad arbennig wnaeth gymryd lle i ddathlu'r garreg filltir

Ar dudalen 5 cawn ddarllen am yr aelod staff wnaeth gymryd rhan mewn podlediad newydd sy’n rhannu profiadau bywyd tu hwnt i ddiagnosis o ddementia.

Un sydd yn gwybod am yr effaith mae dementia yn ei gael ar deulu ydi Adrian Painter o’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Ar dudalen 6 bydd Adrian yn esbonio pam ei fod yn benderfynol o helpu i godi ymwybyddiaeth

Yn dilyn dros 42 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor, mae un cyn Bennaeth Adran wedi ymddeol yn ddiweddar. I ddarganfod pwy, trowch i dudalennau 10 a 11.

Mae sawl stori ddifyr arall wedi eu cynnwys, gobeithio y gwnewch fwynhau eu darllen.

Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf mae modd i chi gysylltu drwy e-bostio cyfathrebumewnol@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679341.

Ffion

Oeddech chi'n gwybod fod 60% o boblogaeth Prydain ar Facebook? Dydan ni yma yng Ngwynedd ddim gwahanol a dyna pam, yn dilyn sgyrsiau efo staff mae grŵp Facebook wedi cael ei greu yn arbennig ar gyfer HOLL staff Cyngor Gwynedd.

Dyma gyfle i bawb gael gwybodaeth am y Cyngor yn syth bin - ar eich ffôn, ar eich iPad neu ar eich cyfrifiadur. Os hoffech ymuno gyda'r grŵp chwiliwch am "Staff Cyngor Gwynedd" ar Facebook .

This article is from: