3 minute read

Dafydd

Ar ddiwedd mis Mehefin fe wnaeth y Cyngor ffarwelio gyda Dafydd Edwards, cyn Bennaeth Adran Gyllid y Cyngor. Roedd Dafydd yn ymddeol ar ôl dros 42 mlynedd o wasanaeth i Gyngor Gwynedd. Cyn iddo gau drws ei swyddfa am y tro olaf, cefais y cyfle i eistedd lawr efo Dafydd i edrych nôl dros ei yrfa a chael clywed am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Yn Adran Trysorydd Cyngor Arfon dechreuais fy ngyrfa gyda’r Cyngor. Roeddwn wedi treulio blwyddyn yn hyfforddi fel cyfrifydd mewn cwmni preifat cyn derbyn y swydd Roedd Cyngor Arfon yn lle hwyliog iawn i weithio. Dwi’n cofio cael andros o groeso gan Huw ‘Genius’ oedd yn gwisgo ‘tour T-shirt’ Rolling Stones ar y bore cyntaf. Cawsom swp o hwyl yn Swyddfa’r Dref, dros y ffordd i’r Crown, ar y safle lle mae llofftydd Black Boy rŵan oedd y swyddfa bryd hynny.

Advertisement

Wedi cymhwyso fel cyfrifydd CIPFA gydag Arfon, ges i swydd fel Pennaeth Archwilio Mewnol yng Nghyngor Môn, a bûm yno am dair blynedd, cyn symud yn ôl i'r hen Gyngor Sir Gwynedd i weithio yn yr Adran Addysg. Yn dilyn ad-drefnu 1996, roeddwn yn ffodus iawn o gael aros yn y Gwynedd newydd

Mae gen i lawer iawn o atgofion o fy amser yma. Roedd addrefnu llywodraeth leol yn ’96 yn dipyn o chwalfa. Cyn hynny, roedd datganoli cyllid i ysgolion yn brosiect mawr a llwyddiannus. Roedd yn bleser gweithio gyda phenaethiaid ysgolion y sir. Ddaru ni sefydlu cwmni Cynnal yn 1996, a’i ddiddymu yn 2022. Hefyd, roeddwn ynghlwm â’r gwaith i sefydlu GwE a’r Bwrdd Uchelgais Economaidd.

Yn ystod cyfnod clo Covid roedd rôl y gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn allweddol, a mewnbwn y gwasanaeth Cyllid gyda’r grantiau yn anferthol hefyd Ugain mlynedd cyn hynny, dwi’n cofio dreifio lawr i Gaerdydd ac yn ôl mewn diwrnod, er mwyn sicrhau datrysiad i fusnesau lleol yn yr argyfwng “Traed a’r Genau”.

Mae llwyddiant y Gronfa Bensiwn wedi fy mhlesio’n arw - bod ein dychweliadau buddsoddi rhagorol wedi rhoi ni mewn sefyllfa llawer gwell heddiw na fu ugain mlynedd ôl.

Ges i’r fraint o weithio gyda sawl pennaeth adran wahanol, a dwi wedi trio dysgu rhai o arferion gorau John Dryhurst, Harry Thomas a Dilwyn Williams. John a ‘Bing’ yn Arfon ddaru annog fi i gymhwyso’n gyfrifydd CIPFA, a dwi ddim yn gwybod lle fyswn i bellach heb eu cefnogaeth nhw i gyflawni hynny Wrth gwrs, aeth Harry a Dilwyn ymlaen o’r Adran Cyllid i fod yn brif weithredwyr dylanwadol.

Cafodd y diweddar Trevor Edwards ddylanwad mawr arnaf. Roedd Trev yn Bennaeth Archwilio yng Nghyngor Arfon, cyn dychwelyd i’r Cyngor fel Cynghorydd a Chadeirydd Pwyllgor. Roedd gan Trev ffordd arbennig gyda phobol, doeddwn i ddim mor swil ar ôl gweithio gyda Trev. Un arall dawnus efo pobol oedd Audrey James - roeddwn yn hynod ffodus o gael cefnogaeth Aud fel ysgrifenyddes am ugain mlynedd

Credaf fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn hynod bwysig Roeddwn yn arfer chwarae rygbi i Gaernarfon a dwi’n dal i wylio nhw’n rheolaidd, ac yn edrych 'mlaen i gael mynd i Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd Dwi’n chwarae golff bob cyfle gai, a ’da ni newydd ddod yn ôl o’n trip golff blynyddol i Werddon.

Dwi’n hoffi teithio, ac wedi gweld dipyn o’r byd Roeddwn i yn Thailand adeg y swnami enfawr yn 2004, ond roeddem ni’n saff yn Hua Hin ar y Thai Gulf, yn hytrach na’r Andaman Sea, yr arfordir lle'r oedd y difrod. Hefyd, roeddem ni yn Koh Samui yn 2019 pan gafwyd y Tropical Storm Pabuk, y tywydd gwaethaf yno ers 57 mlynedd!

Ar daith dwi’n gwrando ar gerddoriaeth - amrywiaeth eang ac amgen fel Van Morrison, Cat Power, Nick Cave, Wet Leg, a Steve Eaves ...bydd rhai fel Eirian yn y Gwasanaethau Democratiaeth yn cofio Steve fel cyfieithydd i’r Cyngor ers talwm.Edrychaf ymlaen rŵan i fynychu Hyde Park yng Ngorffennaf ar gyfer cyngerdd Bruce Springsteen

Gydag ychydig mwy o amser ar fy nwylo ar ôl ymddeol, dwi’n edrych ymlaen am fwy o golff a chyngherddau roc a rôl, mwy o deithio a gweld llefydd newydd. Hefyd, byddaf yn cadw’n actif mewn rolau rhan amser gyda’r Awdurdod Tân, Adra, ac eraill.

Dwi’n hynod ddiolchgar i holl staff Cyllid am eu gwaith cydwybodol, ac yn falch iawn fod Dewi Morgan yn arwain yr Adran i’r dyfodol Rydym hefyd yn ffodus iawn o’n haelodau etholedig yng Ngwynedd, ac mae’r cydweithrediad rhwng swyddogion a Chynghorwyr wedi bod yn iach a chynhyrchiol.

Diolch i bawb yn y Cyngor am eich cyfeillgarwch a pob lwc i’r dyfodol ”

Mwynhewch eich ymddeoliad Dafydd a diolch am eich blynyddoedd o wasanaeth i Gyngor Gwynedd.

This article is from: