
1 minute read
Sgyrsiau Staff
Ers rhai misoedd bellach mae sgyrsiau wyneb yn wyneb gyda staff rheng flaen wedi ail gychwyn yn dilyn y cyfnod Covid. Mae’r sesiynau yn gyfle i staff gael sgwrs anffurfiol am fuddiannau staff, chymorth gyda chostau byw a gwybodaeth am y wahanol ddulliau cyfathrebu sydd ar gael.

Advertisement
Mae Meinir (Buddiannau), Victoria (Costau Byw) a Ffion (Cyfathrebu Mewnol) wedi ymweld â 12 lleoliad ar draws y sir gan sgwrsio gyda dros 120 aelodau staff. Mae’r tair wedi derbyn croeso cynnes yn yr holl leoliadau ac wedi derbyn ymateb positif iawn. Roedd staff yn gwerthfawrogi bod y sgyrsiau yn cymryd lle yn eu lleoliadau gwaith ar amser sydd yn gyfleus i’w patrwm gwaith nhw.
Yn ystod y sesiynau mae staff wedi cael dysgu mwy am y ffyrdd gwahanol o dderbyn gwybodaeth am y Cyngor yn syth i’w ffon heb orfod cael mynediad at systemau mewnol y Cyngor. Mae nifer fawr wedi ymuno gyda’r grŵp Facebook Staff ac roedd sawl un yn awyddus i gynnig syniadau ar gyfer Gair Bach o Gyngor


Roedd hefyd yn gyfle i Meinir atgoffa staff o’r amryw o fuddiannau gwahanol sydd ar gael ac i gyflwyno staff newydd i’r cynllun Budd i Bawb
Mae’r argyfwng costau byw yn creu straen i nifer fawr o bobl felly roedd staff yn ddiolchgar o dderbyn cyngor gan Victoria am y cymorth sydd ar gael iddynt
Eisiau gwybod mwy?
Dros y misoedd nesaf bydd rhagor o ymweliadau yn cymryd lle ar draws Gwynedd. Os hoffech i ni ymweld â’ch lleoliad gwaith chi, mae croeso i chi gysylltu gyda
CyfathrebuMewnol@gwynedd.llyw.cymru