1 minute read

Annog pobl i fod yn agored am ddementia

Yn ddiweddar mae podlediad newydd wedi cael ei lansio sy’n rhannu profiadau bywyd y tu hwnt i ddiagnosis o ddementia. Mae’r podlediad sy’n rhan o’r gyfres Am iechyd gan Goleg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor yn cynnwys Emma Quaeck, rheolwr Dementia Actif Gwynedd. Y gobaith yw y bydd y podlediad yn annog rhagor o bobl i fod yn fwy agored am ddementia fel er mwyn helpu pobl dderbyn y gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth maen nhw angen ar y daith.

Wedi profi dementia ei mam, mae Emma bellach yn Gydlynydd Dementia Cyngor Gwynedd ac yn arwain rhaglen Dementia Actif Gwynedd sy’n cynnig gweithgareddau corfforol a chymdeithasol i bobl gyda dementia. Mae Tîm Dementia Actif Gwynedd yn angerddol am godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma a chwalu rhwystrau sydd ynghylch â Dementia Nod y tîm yw helpu i'w gwneud hi'n haws siarad am Ddementia a fydd yn ei dro yn cefnogi pobl fyw mor dda ag sy’n bosib gyda’r afiechyd.

Advertisement

Mae staff Dementia Actif Gwynedd yn Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia, sy'n fenter a arweinir gan y Gymdeithas Alzheimer’s. Maent yn cynnal sesiynau gwybodaeth Ffrindiau Dementia yn y gymuned ac i amrywiaeth o sefydliadau sydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o sut i gefnogi pobl sy'n byw gyda Dementia.

Yn y podlediad mae Emma’n ymhelaethu ar y ddarpariaeth sydd ar gael.

“Dros y saith, wyth mlynedd ‘da ni wedi bod yn rhedeg y cynllun yma, dwi wedi dysgu cymaint am ddementia trwy fod efo pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia - yr unigolion ond hefyd y bobl sy’n eu cefnogi Mae hynny wedi bod mor werthfawr, ac wedi arwain ni at gynnal y rhaglen Dementia Actif sy’n trio helpu pobl i fyw mor dda a fedra nhw efo dementia, yn eu cymunedau.”

Podlediad llawn: Am Iechyd | Twitter | Linktree

Gwybodaeth am Dementia Actif Gwynedd: Gwefan: Dementia Actif Gwynedd

Facebook: Dementia Actif Gwynedd

Mae llawlyfr am beth gall wneud bywyd ychydig yn haws ar ôl derbyn diagnosis o ddementia ar gael yma: <https://dsdc.bangor.ac.uk/products-created.php.cy>

This article is from: